Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
k: S' MAES LLAFUR DOS. IV.
k: S' MAES LLAFUR DOS. IV. Mr Go].Carwn wneud awgrym ynglyn a'r uchod, sef fod ysgrifau y Parch, T. Isfryn Hughes yn cael eu diogelu fel y gellir eu hargraffu tua diwedd y flwyddyn gyda'u gilydd. Byddai yn llyfr gwerth ei gael, ac yn fantais fawr ar gyfer yr Arhol iad. Os na wneir hyn, ofnaf mai anodd fydd cael ihai i gystadlu. Diau mai ychydig o dderbynwyr y G.N. fydd wedi gallu cadw'r ysgrif- au o'r dechreu, a gall y rhai benodir yn arholwyr fod heb wneud hynny ac felly fod o dan anfantais i farnu y papurau wrthyr un safon. Hyd- eraf y gellir gweld y ffordd yn glir i gynieryd i fyny yr awgrym, un ai gan Mr Hughes ei hun, neu y Llyfrfa, neu gennych chwi a'ch argraffydd mewn cyd-ddeall a'r Parch. T. Isfryn Hughes. Yr Eiddoch, Cll7'1 ?, ?7,?: R. H. P. I S t 7"t':
a-( (1-1 i ' I AT YR YMGEISWYR…
a-( (1-1 AT YR YMGEISWYR LLWYDD-I IANNUS YN Y MAES LLAFUR. Talaith Gyntaf y Gogledd. I A wnaiff y rhai fu'n 11 wyddiannus i sicrhau y gwobrau cyntaf a'r ail yn y gwahanol ddosbarthiadau, anion ataf i ddweyd pa lyfrau a hoffent gael yn wobrwyon. Fel y canlyn y mae'r gwobrwyon :— Dos. II. Gwobr gyntaf. 6/- Ail wobr 4/- Dos. III. Gwobr gyntaf. 10/- Ail wobr 5/- Dos IV. Gwobr gyntaf. 15/- Ail wobr 7/6 Arholiad Diwinyddol 10/- Llangollen. RHYS JONES.
MAES LLAFUR TALAITH YDE, 1916-17.I
MAES LLAFUR TALAITH YDE, 1916-17. Mr Gol.Diolchaf os cania- tewch ychydig ofod i roddi enwau priodol y goreuon ymhob Dosbarth yn yr Arholiad uchod. Dcsbarth II. Miss Annie Llywella Humphreys, Machynlleth. Dosbarth III. Miss Annie C. R. James. Borth, a Miss Olwen Williams, Aber cynon, yn gydradd. Dosbarth IV. Mrs J. Pugh Jones, Shiloh, Corris (Mrs Jones hefyd yw'r goreu yng Nghymru gyfan). Ydwyf, yr Eiddoch, Tredegar. H. P. ATKINS. I
Y Rhyfel -o Ddydd -i Ddydd.
Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd. Dydd Llun, Mai 21. Y mae ein byddinoedd wedi meddian- nu rhan chwanegol o linell Hindenburg ar ffrynt o fwy na milltir rhwng Font- aine les-Croisilles a Bullecourt. Y mae yr Unol Dalaethau yn anfon byddin gref i Ffrainc. Y mae byn yn chwanegol at naw catrawd o beirian wyr anfonwyd yn ddiweddar i Ftrainc. Adroddir am lwyddiant pellach i'r Italiaid i'r gogledd a'r dwyrain o Gorizia, lie y cymerwyd 633 o garcharorion, ac y meddiannwyd lliaws o yrJi ,u. Dydd Mawrtii. Y mae y byddinoedd Prydeinig yn parbau gyda'u llwyddiant ar linell Hind- enburg rhwng Bullecourt a Fontaine les Croisilles. Gyda'r eithriad o un airan o tua dwy fil o latheni, y mae yr oil o'r naw mill tir o linell Hindenburg o'r dwyrain o Bullecourt at yr afon Scarpe yn awji yn meddiant ein byddinoedd. Cafodd y Germaniaid golIedion trym- ion) n y ddau ddiwrnod diveddaf, trwy i rai o'u byddinoedd gael eu dal ar y maes agored gan ein gynnau. Ba y Ffrancod yn dra llwyddiannus yn Champagne, a chymerwyd wyth gant o garcharorion ganddynt. Y mae brwydro ffyrnig yn myned yn I mlaen eer Gorizia ac i'r dwyrain o Plava Y mae yr Italiaid wedi meddiannu safle fynyddig arall o gryn bwysigr ydd. Oymerwyd rbai cannoedd o garcharor- ion, a meddianwyd cyflenwnd helaetb o gad ddarpariaethau. Dydd Merchsr Y mae peth tawelwch yn bodoli ar y ffrynt Prydeinig, a thybir fod hyn yn barotoad i ymosodiad mawr arall. Tynnodd y Lly wodraeth yn ol y cy. huddiadau yn erbyn wyth o steward- iaid gweithdai, a gymerwyd i'r ddalfa ynglyn a streic y peirianwyr. Cy- huddwyd hwy o geisio ymdrechu hyr wyddo a pbarhau y streiciau, a cheisio oedi neu gyfyngu ar y cynyrch, yr ad I gyweirio, a throsgludo cyflenwadau rbyfel, neu unrhyw waith angenrheidiol arall tuag at hyrwyddo'r rhyfel ymlaen yn llwyddiannus. Dydd Iau Symudodd y Ffrancod ymlaen mewn tri lie ar wastadedd Vanclere a Californ- ia. Y mae'r gorsafau sylwi olaf oedd yn wynebu Dyffryn Aillette wedi cael eu gorchfygu. Costiodd ymosodiad o eiddo'r Germaniaid lawer o fywydau iddynt, a chymerwyd 400 o garcharor- ion. Wrth siarad ym Mhefcrograd, dywed odd y Cadfridog Alexeieff, fod y fyddin wedi cael ei tharo'n drwm, ac anogodd y cynrycbiolwyr i wneud pob ymdrech i adfer disgyblaeth. Y mae M Keren sky, y Gweinidog Rhyfel, wedi arwyddo Datganiad o hawliau'r milwr," yr hwn fe ddywedir sydd yn rhoddi breintiau i'r milwyr Rwsiaidd ca fwynheir gan un- rhyw fyddinoedd ereill drwy'r holl fyd. Y mae'r adroddiad am y colledion gyda'r llongau (am yr wythno* yn di- weddu ddydd Su I, Mai 20, 3 p m.), ac a gyhoeddwyd nos Fercher, yn ffafriol iawn, ond nid yw lawn mor ffafriol a'r wythnoa ddiweddaf. Ar y cyfan deil i fyny y gwelliant ar yr wythnosau cynt gan na suddwyd ond 27 yn erbyn 26 yr wythnos cynt, a 62 bythefnos yn of, 59 dair wythnos yn of, a 64 fis yn ol. Dydd Gwener. Y mae yr Italiaid wedi torri trwy linell yr Awstriaid rhwng Carso a'r mor, ac wedi cymeryd 9,000 o garcharorion. Tawel ydyw pethau yn Flrainc. Ceir nèwyddionfod y glud-long Brydeinig Transylvania wedi ei hanafu gan y gelyn ym Mor y Canoldir. Coll- wyd dros 400 o fywydau. Bu pedair o Zeppelins ddoe yn ehedeg tros Eaat Anglia. Ni wnaethant lawer o niwed. Erlynwyd ar eu hoi, oad llwy ddaaant i danio. Dywedai Arglwydd Robert Cecil yn y Ty fod polisi y Cyng- rheiriaid yr un ar eiddo Rwsia newydd. Da iawn, ond teimlir fod yn rhaid chwilio a phrofi dywediad ei Arglwydd- iaeth cyn pwyse llawer arno. Dydd Sadwrn Parha'r Italiaid i ennill eafleoedd cadarn ar y Carso, ao wedi ychwanegu mil o garcharorion,—yn gwneud y cyf anrif yn awr yn 10,245.
NODION 0 DDOLGELLAU.I
NODION 0 DDOLGELLAU. I Yr ydym eto fel eglwys wedi gorfod ffarwolio a dau ddyn ieuanc, sef Mr Robert John Ellis, wyr i'r diweddar Mr Thomas Ellis a 1r Fred Morris, mab i Mr a Mrs Meredith Morris, Tudno Villa. Difrifol ydyw gweled dynion ieuanc deunaw oed yn cael eu galw i I fyny. Yr Arglwydd a'u cadwo. Darllenais adroddiad Cyfarfod Tal eithiol Ffestiniog yn. y G.N. gyda bias, ond yr hyn a'm synodd wrth weled enwau cynrvchiolwyr i'r Gymanfa i Aberdyfi, nad oes yr un lleygwr na gweinidog o gylchdaith Dolgellau ac Abarmaw. Son am gynilo, a bod y Railway Fares yn uchel, dyma gyrchu dwr dros afon" mewn. ^wirionedd. Dyma y gylchdaith agosaf i Towyn heb yr un cynrychiolwr. Ai diS'yg meddwl ynte rhywbeth arall sydd yn gorwedd o dan beth fel hyn? Credaf fod ymaj ddynion ar y gylchdaith hon fuasai yn anrhydedd i'w cael yn gynrychiolwyr i'r Gymania. CYMRO.
Advertising
S? ? ?  11 Y_F RFA. | | LLYFRFA. I "YR EURGRAWN" AM 1917. f Pris 4 Ceiniog y mis. t Dan olygiaeth y Parch Thos. I i. Hughes. "Y WINLLAN" AM 1917. Pris Ceiniog y mis. Dan olygiaeth y Parch D. Gwyn- fryn Jones. "V DYDDIADUR" AM 1917. Pocket Book 1/7 yr un. Dyddiadur Llian 7c yr un. Dan olyglaeth y Parch W. R. Roberts. Archeber ar unwaith. Y Maes Llafur. YN AWR YN BAROD. Esboniad y Parch. T. Isfryn Hughes ar Bpistotau Paul at y PBNJPIAID, a PHILEMOR Pris: DAU SV(LL T. Pan yr ymuna Dosbarth neu yr Ysgol yn gyffredinol i archebu .dwsin, ac anfon blaendal, rhoddir hwy yn ol 1/6 yr un. Gwyrthlau yr Arglwydd lesu Grist, Gan y Parch. J Maelor Hughes. Pris: PEDAIR CEINIOG. Os archebir dwsin o'r uchod, gyda blaendal, rhoddir hwy am 3/4. Gofyniadau y Maes Llafur Yn cynnwys y Safonau a threfn yr Arholiadau. Pris CEINIOG. Rhoddir 100 am 5/ a 50 am 3/- ond anfon tal gyda'r archeb. Anfoner yr Archebion a'r Taliadau i'r Parch. P. JONES-ROBERTS. I BOOKROOM, BANGOR. DETHOLIAD 0 EMYNAU. I YN AWR YN BAROD. Cynwysa dros 200 0 Emynau i Detholedigr, ac adranau ar gyfor y Cynhauaf, yr Ysgol Sul, Bedydd Plant, Dirwest, ac ychydig Emynau Saesneg. CASGLIAD DIGURO. Pris, Pedair Ceiniog, mewn llian ya. twyth. Trwy y Post, 5 ceiniog. Dwsin am 4/ post free. Haner cant am 15/ carriage paid. Cant am 30/ carriage paid. Testamentau rr Miiwyr. Testament mewn Ilian Khaki, Ceiniog yr un, post free am ddwy geiniog. Dwsin am 1/6. Testament bach hardd, gilt edges, mewn Ilian Khaki prydferth. Aiff i boced y wasgod. Prisiau, 9c. yr un 10c. post free. Dwsin am 9/6. Gwna y rhai hyn anrheg ddymunol i'r Milwyr Cymreig. Rheolau y Trfn- yddion Wesleyaidd Argraffiad Newydd, yn llyfryn destlus, o'r Rheolau ddylai fod yn llaw pob aelod Wesleyaidd. Mae'r Rheolau hyd Gynhadledd 1913 oil yn yr argraffiad hwn. Pris, Ceiniog a dimai y copi; 100 am 6/6; 50 am 3/3 post free. Cases at Rwymo. Ceir Cases llian hardd at rwymo Hanes Wesleyaeth Gymreig am swllt, post free. Cases llian destlus at rwymo "Yr Eurgrawn am 10 ceiniog Y Winllan" am 8 ceiniog. g OeSr y cyfan drwy ein Dosbarthwyr Lleol. g S YR OLL YN POST FREE. I I Anfonwch am ein CATALOGUE NEWYDD. B m ? Pob Archebion a Thaliadau i'w hanfon i lH I P. JONES ROBERTS, I I Bookroom, Bangor. § M W );I)Aj)J\1)j¡))Ä)\)/))1\)AJ\))Alf) .)J\ Agraffwyd dros y Cyhoeddwyr gan L. Davies, Swyddfa'r "Gwyliedydd New ydd," Blaenau Ffestiniog.