Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
[No title]
Mae'r "Welsh Outlook" wedi gorfod codi'r pris i chwe'cheiniog, ac yn awr dywed fod yn rhaid lleihau wyth tudalen yn y maint oherwydd newyn- papur. Methwyd cael y Llywodraeth i ail ystyried y gwaharddiad ar bapur, ac y mae amryw o'r newyddiadur- on mewn anhawster difrifol. Y mae'n amlwg fod dyddiau blin o flaen y papurau. Cawsom air oddi wrth ein hargraffydd fod pris y papur wedi codi eto. Y mae'r anhawsterau yn fawr.
Ar ol Brwydr, aco Flaen Un…
Ar ol Brwydr, aco Flaen Un Arall. (Gan y Caplan A W. DAVIES). Fy Annwyl Gwynfryn, Gair bach yw hwn cyn y frwydr eto. A 11u o bethau drwy feddwl dyn, gan nas gwyr beth sy'n mlaen dyrry yr ansicrwydd brawf ar ffydd dyn yn Nuw pair iddo ymwroli megis un yn gweled yr anweledig." Llechu yr ym droS dro yng nghysg- od man fryniau, neu ysgwyddau o dywod a luniwyd gan y mor a'r y stormy dd ac er mwyn diogel weh yr ym wedi cloddio i lawr i grom- bil y ddaear. Daethom yma o dan leni y nos, gan gloddio i mewn yn y nos, ac nid oes gweithio y dydd rhag i awyrfodurion y gelyn ein canfod. Cysgwn y nos o dan amddiffyn y gwylwyr, rhag ofn i'r gelyn dorri ar ein gwarthaf, a chymaint yw ein ffydd yn y gwylwyr fel y cysgwn heb bryder. Nid yw y gelyn na ninnau neppsll oddiwrth ein gil- ydd; yng nghororau Gaza-hen ddinas y Philistiaid, gwlad hen elynion Israel, a'u prif ddinas, ie, a man y gwyr y plant yn yr Ysgol Sul yn dda amdano, oherwydd cys ylltiadau anffodus Samson ac un o'r merched.. Cawn gipdrem ar fryniau gleision Gaza, ac ambell adeilad, sy'n edrych ar brydiau mor dawel, ond sydd ar brydiau eraill yn bytheirio ei ergydion. A dyma'r fan fydd yn dan i gyd cyn daw y nodyn hwn i law. Y mae troion doniol hefyd ynghanol y cyfan; fel y riodais, daethom yma dan lenni y nos, a rhaid oedd cloddio i mewn a thorri y ffosydd a mddiffyn nol ac yirosadol cyn y bore. Yr oedd gennyf i, a'r meddyg-gwr clen o'r Iwerddon—i dorri ein daeardy, a'n lloches, canys rhanwn ein Ilety gyda'n gilydd. Dechreu- asom ar y gwaith gyda'n dau was, aeth popeth ymlaen yn iawn am tua troedfedd" a hanner, pan y daethom at ddaear galed enbyd. Rhaid symud y Ilecyn cawsom hen dwmpath, cloddiasom i fewn ryw bum' troedfedd i hwnnw, ond druain o honom, daeth yr ochrau i lawr, gan ein atgoffa, nid yn unig mai ffol yw sylfaenu ty ar y tywod, ond mai ffol 4efyd yw cloddio am dy yn y tywod. Modd bynnag, gyda dygnwch a help cydau o dywod, cafwyd talcen ac ochrau diddos, a da oedd cael rhoi pen i law ram dipyno gwsg, sy'n beth mor felus yma ar ol gwres enbyd y dydd Yn y ty tywod hwn yr wyf yn ysgrifennu hyn o lith, a thra yr vsgrifennaf y mae ambell i awyr- fodur oddiwrth y gelyn a'i lygaid eryraidd yn chwilio am danom, a'n hawyrfoduron ni, neu'n gynnau yn eu hymlid ymaith. Nid teg i mi geisio dweyd dim o'r manyiion, y mae bywydau a llwyddiant yn dibynu ar gyfrinach. Er fod yn gas gennym rhyfel, ac yr hiraethaf am y dydd y bydd digon o bwyll, rheswm, a gras ym mhlith dynion i derfynnu anghyd fodau, eto, gan mai angenrhaidyw, edmygaf ysbryd y bechgyn, ac yn enwedig fechgyn Cvmru, er yr a pawb yn ddiwahaniaeth trwy y cystudd mawr" ynghanol llawer o bethau sy'n blino fy ysbryd gwel- af hefyd lawer, o wir ddynoldeb ynddynt,—caredigrwydd a llonder calon. Edmygaf hwy, nid am eu bod yn ddibris o fywyd, na chwaeth yn dynghedwyr, ond am y modd dewr yr ymgodant i wynebu yr anocheladwy. Cefais rai odfeuon rhyfedd gyda hwy, a thyrfa yn dweyd Amen o galon deimlai y bwlch cyfyng yr oeddym ynddo. Ces odfa Gymreig ro3 Sul a bechgyn y 4th a'r 5th Welsh. Yr oedd yno ddwyster ystyriol, a chofier nid o ofn ffugiol na llwfraidd, canys glewion ynt o lawer brwydr enbyd bu llawer o honynt yn erchylldra ofnadwy Suvla Bay. Ie, meddylier cynull- eidfa o lanciau Cymru, ac ambell wr yn eu mysg, ac yn cael ei chyn- nal yng nghysgod llwyni bach I mewn pant o dan lenni y nos yn ceisio cwrdd a'u Duw. Diau fod I yn yr odfa ambell afradlon hefyd. Beth bynnag, cawsom y wir fen- dith, daeth eneiniad oddiwrth y Sanctaidd hwnnw arnom oil. Nid oes ond ychydig ddyddiau er pan oeddynt hwy a thair catrawd arill ochr yn ochr yn y frwydr i arw nas anghofiaf byth. Edrychaf, ifel petae, ar draws y gwastatir bach, a gwelaf fel y symudant ymlaen-gwelaf hwynt ar ael y bryn, yn esgyn yn araf a phwyllog o dan dan difaol machine guns y gelyn, dim gwylltineb, ond pwyll a threfn a phybyrwch diymollwng, hyd nes ennill saiile y gelyn. Ac yng nghanol rhyferthwy y rhyfel, yn sefyll i roi dyferyn o ddwfr i'w cymrodyr clwyfedig, neu i rwymo eu doluriau-gwelaf y glew-wyr a'u stretchers yn wynebuy mannau ,poethaf i gludo y clwyfedig i ddio- gelwch ac i gyrraedd ymgeledd y meddyg. Diwrnod byth-gofiad- wy oedd hwn. Bechgyn fu o dan lach" oherwydd methiant ym- gyrch Suvla a'r Dardanelles, er eu bod yn arwyr yno hefyd. Y dydd hwn eto yr oeddynt cyn wroled a neb a fu ar y maes yn ymladd dros ei wlad. Teithiasant heb gwyno tuag un filltir ar bymtheg, buont heb orffwys am dros bedair awr ar hugain, ac am oriau heb damaid na llymaid, a'r rhai oedd ag ychyd- ig ddwfr yn eu costrellau yn ei roi i'r clwyfedig, ac er y eyfan, llwydd- asant i wneud mwy nag y trefn- wyd iddynt gorchfygasant y gelyn. Yn sicr, ni fu dewrach dynion ar faes y gad. Ant drwy lawer o galedi heb rwgnach. Ni wn beth ddywedai llawer gartref pe caffent na chaent i'w te ar ySul ddim llond mug o de, darn o fara, a thipyn o marmalade, neu ynte fiscuits caled ag y mae eisiau holl nerth yr en i'w malu. Dyna fare yr hogiau ar ol iddynt fynd trwy'r fath gledi a dioddef. Eto wyneb ant yr oil yn Hawen, a hynny serch fod eu calon i gyd yng Nghymru. Peth tlws iawn yn eu hanes oedd eu gwaith yn ildio eu rations o cigarettes am eu bod wedi eu rhoddi i'r clwyfedigion: er mor fawr y carent "fygyn," teimlent mae y clwyfedig feddai yr hawl gyntaf. Teimlaf nad oes dim yn ormod i'w wneud i'r bechgyn sydd ym mynd trwy erchylldra y frwydr yn y fath ysbryd a hyn. 0 teimlaf pe yr enillem yr oil i Grist, y fath gyfalaf ysbrydol a ddygem i mewn i'r deyrnas! Eu hennill, dyna'r broblem ond diolch credaf ei fod yn bosibl ei dadrys. I ennill y rhai hyn bydd eisiau llai nag erioed o ddegymu y murtis a'r ormes, bydd eisiau llai nac erioed o wisgo y phylacterau, a swnio y shibboleth. rw hennill rhaid cael diwinydd iaeth letach, iEchach, a dofnach- un fel Crist ei hun. Ymaith rag- farnau ymaith sectyddiaeth Arweinied Duw ni. Cofion serchog bendith arnoch. Mwy manylion yn y man. Yr Eiddoch mewn hedd, A. W. DaviEs, Caplan, Att. 1/5 Welsh Regt. 159 Infantry Brigade, 53 Division, E.E.F. Ebrill 13eg, 1917.
Advertising
Yn Awr yn Barod. "Y TRI IESU." LLYFR I BAWB. Dynoethir ynddo Gyfeiliornadau Diwinyddol Pwysig: "Important Theological Errors Exposed. GAN WILLIAM RICHARDS (PREGETHWR), BIRMINGHAM. -1,1.1 Y CYNHWYSIAD 1. Iesu'r Dynolwyr. II. Iesu'r Cyfyngwyr Meidrol. III. Yr Iesu, Duw mewn Cnawd. IV. Undeb y Dwyfol a Chorff Dynol. V. Perthynas yr Iesu a'r Ddynol- iaeth, a'r Modd y Cymcrodd Efe ein Natur ni. VI. Y Modd Naturiol a Chynyddol a gymerodd y Dwyfol i Eg- luro ei Hun trwy y Dynol. Pris 3c. Gyda'r Post, 4c. Telerau i Lyfrwerthwyr, 2/6 y dwsin, wedi taju y cludiad blaen-dal gyda'r archeb. I'w gael gan y Cyhoeddwr- W. Biehards, Digbeth Institute, Bir- mingham. E. O. Evans, A.T.S.C., Associate Member of the T.S.C.C., London, Teacher of Music, Conductor, Composer, and Adjudicator, 19, Church Street, Caerau. Terms on Application. i • rnLIÃ LATEST PUBLICATIONS Tenor or Soprano Solo, Plentyn Amddifad." Quartette, S.A.T.B., Cynghor Olaf Mam." Anthem, S.A.T.B., Huna Plentyn Iesu." Hymn Tunes: "Pennal," "Goli- ath," Liberty," met with great success. LLYFRAU GWERTHFAWR AR WERTH Am Brisiau Gostyngol. -—- .UaiLIiB s. c. 1. Traethodau Llenyddol, Dr. Lewis Edwards (Cyhoedd- wyd am 8s. 6c.) 3 0 2. Hanes yr Egl wys Gristion- ogol, drwy y Byd, gan y Parch David Griffith, Dol- gellau (Cyh. 7) 3 0 3. Life and Letters of the Rev. F. W. Robertson, of Brigh- ton, by Dr. Stafford Brooke (best Ed) 3 0 4. Lectures, addresses and Literary Remains, by F. W. Robertson 2 0 5. Notes on Genesis, by F. W. Robertson 1 q 6. Gair y Bywyd, Pregethau gan y Parch B. Davies, Treorchy 2 a 7. Einioes ac Angeu, Pregeth- au gan y Parch T. Morris, Dowlais -2 3 8. Traethodau, Pregethau ac Egluriadau Ysgrythyrol, gan Dr. John Thomas Lerpwl 2 0 9. Unoliaeth y Beibl fel prawf o'i Ddwyfoldeb gan Dr. J. Hughes, Lerpwl 1 8 -—- _I i!J J 1m.. Traul cludiad i'w ychwanegu at y prisiau uchod. — I 1 ■ I I L.J) Anfoner at- Rev. OWEN HUGHES, 101, Bruce Street, New Wortley, Leeds, Yorks.
Cyfarfod Taleithiol Yr Ail…
(Parhad o tudalen 2). rai yn chwerthin, ond y mae bon yn adnod ardderchog. Mae eisiau adnodau newydd, dywed hon, pe oni bai am Dduw ni fuasai dim yn y byd. Heb Dduw, heb ddim, ond am ei fod Ef mae popeth gennym. Dyma rydd sierwydd i bob un ohonom. Myfi yw ycyntaf a'r diweddaf." Pwy ydyw hwn ? Yr Hollalluog ydyw, ganddo Ef y mae pob gallu. Gwyddoch chwi sydd yn y chwareli y gellwch gael pethau gan y Steward bach, ond fod yna Steward mwy, ae on mwy na hwnnw, ac fod perygl i chwi golli y pethau gewch gan y cyntaf pan y deuwch at y nesaf neu'r diweddaf. Ond nid oes perygl colli dim a geweh gan hwn, Myfi yw y cyntaf a'r diweddaf." Gobaith buddugoliaeth ar ol y rhyfel heb golli dim, ond ennill Ilawer. Bywydiachus hebddira 'germs' afiechyd ynom. Gobaith glanio i'r Ganaan Nefol, a Duw a'n harweinio i lanach byd a gloewach nen." Yna galwyd ar Mr Griffith Jones, Capel Garmon, I i siarad ar Orfoledd. Lie mae'r mamauyma? Mae'r Efengyl yn dat- guddio yn Iesu Grist heddyw, pan y mae eicb calonnau dan eu clwyfau, yr agwedd uchaf o fwynhad ysbrydol. Y mae y saint yn awyrgylch y bennod yn Hawn gorfoledd, yn gorfoleddu dan obaith gogoniant Duw. Gorfoleddu y maent mewn gorthrymderau. Ni chewch hwn ond ar y ddaear, nid yw i'w gael yn y net oblegid nid oes yno orthrymder. Gorfoledd ydyw na wyr y byd ddim am dano. Gadewch i mi aros gyda Gorfoledd y Gaeaf, y Nos, yr Ystorm, hwn yw'r gorfoledd goreu. Gwnaeth y Lleidr ar y Groes ei ffortiwn yn y Storm. Dyw- edai fy nghyfaill Griffith Jones, mae YL y storm y gwnaeth ei ffortiwn. Yn Hyfr yr Ysgol Sul mae yna rhyw adnodau y stormydd, sydd yn annwyl iawn i mi. Blodau gaeaf ydynt—maent yn 'beautiful,' maent yn harddach eleni nac erioed oblegid y gaeaf caled a gawsom. Cofiwn am eiriau Iago. Chwi a glywsoch am amynedd Job, nid am ei gyfoeth y sonia yr Apostol, ond ei amynedd, rhywbeth dyfodd yn rasusau ei enaid yn y tywydd mawr. Welsoch chwi y Snowdrop bach yna, yn gwtbio ei ben gwyn uwchben caenen o eira, fe sibryda fod yr haf yn dod, fod Duw yr haf 3 n fyw. Dyma yw y gorthrymder- au. Blodau gaeaf, rhywbeth i dyf a yn rasusau yn dy enaid. Mae hwnyo gwneud peth nas gallai dim arall ar y ddaear ei wneud. Mae rhywbeth yn fendigedig yng Dgorfoedl Crist yn tynu tua'r ardd. Wedi canu emyn, y mae cysgodion Gethsemane a Chalfaria i'w gweld ynddynt, ond canu yr oedd Crist ar y ffordd yno. Mae'r nefoedd yn garedig wedi rboi telyn i bob un ohonom, ac y mae yr Ystormydd yn Haw yr Yspryd Glan, a pban y daw y storm heibio th, mae yn tynu miwsig o'th delyn. Nis gall neb orfoleddu yn y byd ond teulu y level' uchaf, nis gall pobl y 'low level' orfoleddu. Gormod o fyw ar y low level' sydd yn ein hanes. Codwn i'r level' uchaf. Nis gwyr y byd am hwn, nid yw ganddo. Synnaf weld cymaint o ol traed pobl yn troi at y byd i chwilio am dano. Oblegid gwelwn rai yn dod yn ol Ïn cyfarfod yc dweyel, Nid yw Efe yma." Ni feddant Ef. Peidiwch a troi atynt i chwilio am dano. Mae tai pleser yn llawn a ty yr Arglwydd yn wag. Mae y bobl yn disgwyl am ddif- yrwch ond nid oes dim tu ol i'r difyrwch hwn. Gwelwn Paul a'i gefn yn gwaedu, olion y cernodio, y creithiau yn amlwg, ond y mae yn gorfoleddu o'u plegid. Y diweddar Griffith John ddywedai, pan yr oedd y gwaed yn rhedeg i lawr ei gefn oblegid erlid y Chinaman, mae yr adeg honno y gallai orfoleddu. Gorfol- eddu yn y gorthrymderau i gyd. Diolch am Efengyl nas gall y cyflegrau ddim .stopio y passage. William Williams, Capel Curig, yn niwl y glyn ddywedai, mae'n ddiwrnod braf heddyw, ychydig o wynt teg a cbyrhaeddaf y 'landing stage' yn alright.' Garech chwi gael crefydd Crist er gallu gorfoleddu yn y gorth- rymderau? Draw acw mae gwlad, a'r ifasiwn yno ydyw gorfoleddu. Beth wnawn ni ? Wel, mynd yno i fyw.