Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
f,;I L.; ! ———— SPELLOW LANE,…
f, L. ———— SPELLOW LANE, LERPWL. I MARWOLAETH.-Ar ol wythnosau o bryder ac ansicrwydd yh.ei gylch,daeth y newydd trist fod y Preifat John F. Davies, aelod yn yr eglwys uchod, wedi marw, yn garcharor rhyfel, yn yr Almaen. Mab ydoedd i Mr a Mis Davies, 10, Melrose Road, ac nid oedd ocd tair ar hugain oed. Magwyd ef yn PREIFAT JOHN F. DAVIES. I yr eglwys yn Boundary Street, ac wedi hynny yn Spellow Lane, a phan dorrodd y Rhyfel allan yr oedd yn dechreu dqd yn weithiwr defnyddiol. Llanwai'r swydd o Ysgrifennydd y Gymdeithas Ddiwylliadol, yr oedd yn Ysgrifennydd yr Ysgol Sul, ac yn aelod pwysigo Guild y Bobl Ieuainc. Edrychid arno'n gyffredinol fel un o'n pobl ieuainc mwyaf addawol. Ymunodd a'r "Pals" yn Nhachwedd, 1914, a bu'n ymbarotoi yn Knowsley, Grantham, a Salisbury Plain. Aeth drosodd i FfraiDe yn Nhachwedd, 1915. Bu mewn llawer brwydr, ond daeth yn ddihangol drwy'r cwbl hyd Gorffehnaf 21ain, pan ei clw) fwyd yn angeuol, ac y eymerv, yd ef yn garcharor. Bu farw ymhen ychydig oriau, a chladdwyd ef mewn lie o'r enw Lieura- mont yn yr Almaen. Yr oedd yn fach,gen nodedig o siriol a hawddgai, ac yn ffafrddyn gan bawb a'i adwaenai. Dygai fawr sel dros yr Achos yn Spellow Lane, a'r peth olaf a ddywedodd yno, y nos Sul olaf cyn gadael am Ffrainc, ydoedd y cofiai am Spellow ymha Ie bynnag y byddai. Yn ei lythyrau edrychai mlaen yn fynych at gael dod yn ol ac ail-ymaflyd yn ei waith gyda'r Gymdeithas a'r Ysgol Sul, But wisest Fate said, No," chwedl Milton, eithr nid oes amheuaeth | ym meddwl neb o honom nad aeth i rvw gylch uwch o wasanaetih, a dyna yw ein cysur ya ein galar ar ei ol. Mawr gydymdeimlir a'i rieni a'i frodyr yn eu phrofedigaeth. Traddodwyd%>regeth goffa yn Spellow Lane, nos Sul, Hydref 8fed. GOH.
I 'NODION CYFUNDEBOL.
NODION CYFUNDEBOL. (0. H.) I- Yn ystod yr wythnosau diweddaf cyhoeddwyd cofnodion y Gynhad-, ledd Wesleaidd am 1916. Ceir yn y gyfrol hon swm helaeth o wyb- odaeth fuddiol am weithrediadau a symudiadau diweddaraf y Cyf- undeb, yn ogystal a chyfeiriadau at y sefydliadau pwysig arhosol a berthynant i'r enwad. Cynnwysa grybwylliadau am farwolaeth 99 o weinidogion, a byrgofion am dan ynt oil. Llafuriai 27 yn y Meysydd Cenhadol, 7 yn yr Iwerddon, a'r gweddill yn Lloegr, Scotland, a Chymru. Ymysg y rhai olaf ceir enwau Owen Watkins, John Hugh Morgan, a Wm. Lloyd Davies. Rhoddir enwau a chyfeiriadau yr holl weinidogion sydd yn awr yn gweinidogaethu yn y gwahanol gylchdeithiau, ac enwau a chyf- eiriadau y lleygwyr penodedig ar wahanol bwyllgorau Cyfundebol. Ceir yn y Cofnodion, hefyd, restr o'r llyfrau ag yr argymhellir y gweinidogion ieuainc i'w darllen, ynghyda hysbysrwydd am lawer o bethau eraill gwerth rhoddi sylw iddynt. Mae y tri Cyfarfod Cyllidol blynyddol erbyn hyn wedi eu cynnal, a sylw neilituol wedi ei roddi ymhob un ohonynt i bender- fyniadau pwyllgor arbennig y Gynhadledd ynghylch llwyddiant ysbrydol." Trefnir mewn rhai cylchdeithiau i alw ynghyd aelod- au y cyfarfodydd chwarterol i gymeryd i ystyriaeth y ffordd oreu i weithredu ymhob eglwys. Dis- gwylir am, a pharatoir ar gyfer ymdrechion neilituol o du gweini- dogion, blaenoriaid, ac aelodau eglwysig1 ymhob lie. =- Rhoddir cychwyniad i'r symud- iad mawr hwn yn Nhalaith Gyntaf Gogledd Cymru trwy i holl weini dogion y Dalaith gydgyfarfod yn Wrexham prydnawn dydd Gwener, y 27ain o'r mis hwn (Hydref). Gwneir trefniadau arbennig yn y taleithiau eraill i'r un amcan. Mae Galwad i Weddi y dydd- iau hyn yn disgyn ar glustiau gweinidogion ac aelodau yr egl wysi Cristionogol ymhob lie trwy ein gwlad. Onid oes achos? Hyderwn yr arweinia hyn i ddeff- road crefyddol cyffredinol, ac mewn canlyniad y gwelir yr eglwysi Cristionogol eto ymhobman "yn gwisgo gwisgoedd eu gogoniant."
TREGEIRIOG. I
TREGEIRIOG. I Y mae Arthur Cecil Roberts wedi ennill Distinction in Welsh yn arholiad y Junior Central Welsh Board, County School, Llangollen. I GOH. I
RHOSLLANERCHRUGOG.I
RHOSLLANERCHRUGOG. I Yn eglwysZSalem, Rhos, y Sabboth a'r Llan, Hydref laf a'r 2il, cynhaliwyd ein gwyl flynyddol. Breintiwyd rsi a gwasanaeth y Parchn T. Isfryn Hughes a J. Roger Jones, B.A. Traethwyd gwirioneddau amserol yn rymus ryfeddol a mwynhawyd hwynt gan gynulleidfa- oedd da iawn. JEP. I
[No title]
Yr oedd casgliad Methodistiaid Calfinaidd Lleyn ac Eifionydd at y Genhadaeth Dramor y llynedd yn £ 575 17s 6c.
Advertising
I i mmmMMmMmmmwmmmMsmms im I ?& y'TB?s'?T?se? 'F?M? ? ix ??  Y LLY' ? Y Maes Llafur. r YN AWR YN BAKOD. '¡ Esboniad y Parch. T. Isfryn Hughes ar Epistolau Paul at y PHILIPIAID, a PHILEMON. Pris: DAU SWLLT. Pan yr ymuna Dosbarth neu yr Ysgol yn gyffredinol i archebu dwsin, ac anfon blaendal, rhoddir hwy yn ol 1/6 yr un. Gwyrthiau yr Arglwydd lesu Grist, Gan y Parch. J Maelor Hughes. Pris: PEDAIR CEINIOG. Os archebir dwsin o'r uchod, gyda blaendal, rhoddir hwy am 3/4. Gofyniadau y Maes Llafur Yn cynnwys y Safonau a threfn yr Arholiadau. Pris CEINIOG. Rhoddir 100 am 5/ a 50 am 3/- ond anfon tal gyda'r archeb. Anfoner yr Archebion a'r Taliadau i'r Parch. P. JONES-ROBERTS. BOOKROOM, BANGOR. Cases at Rwymo. Ceir Cases llian hardd at rwymo Hanes Wesleyaeth Gymreig am swllt, post free. Cases llian destlus at rwymo Yr Eurgrawn am 10 ceiniog Y Winllan" am 8 ceiniog. IiOLIAD '"1 0 EMYNAU. I YN AWR YN BAROD. Cynwysa dros 200 0 Emynau Detholedig, ac adranau ar gyfer y Cynhauaf, yr Ysgol Sul, Bedydd Plant, Dirwest, ac ychydig Emynau Saesneg. CASGLIAD DIGURO. Pris, Pedair Ceiniog, mewn llian ys- twyth. Trwy y Post, 5 ceiniog. Dwsin am 4/ post free. Haner cant am 15/ carriage paid. Cant am 30/ carriage paid. Testamentau i'r Milwyr. Testament mewn Ilian Khaki, Ceiniog yr un, post free am ddwy geiniog. Dwsin am 1/6. Testament bach hardd, gilt edges, mewn llian Khaki prydferth. Aiff i boced y wasgod. Prisiau, 9c. yr un 10c. post free. Dwsin am 9/6. Gwna y rhai hyn anrheg ddymunol i'r Milwyr Cymreig. Rheolau y Trefn= yddion Wesleyaidd Argraffiad Newydd, yn llyfryn destlus, o'r Rheolau ddylai fod yn llaw pob aelod Wesleyaidd. Mae'r Rheolau hyd Gynhadledd 1913 oil yn yr argraffiad hwn. Pris, Ceiniog a dimai y copi; 100 am 6/6; 50 am 3/3 post free. Hanes Wesleyaeth Gymreig" Hanes -W- esleyaeth Gymreig" ? GAN Y Parch. Hugh Jones, D.D. Pedair Cyfrol Hardd, 6s. 6c. yr un Rhoddwch eich enw i'r dosbarthwr ar unwaith. ):1) .j) M Ceir y cyfan drwy ein D?sbarth?yr Lleol. B YR OLL VN POST FREE. If 1 Anfonwch am ein CATALOGUE NEWYDD. |g (1m;  S Pob Archebion a Thaliadau i'w hanfon i8 i P. JONES ROBERTS, I S Bookroom, Bangor* §j I{.f1 Q. "Ç(-& Argraffwyd dros y Cyhoeddwyr gan Lewis Davies, Swyddfar, Gwyliedydd New. ydd." Blaenau Ffestiniog. •'
Cyfarfod Taleithiol11 Y Dalaith…
(Parhad o tudalm 5). Etholwyd y Parch J. Meirion Jones ar Bwyllgor Addysg Ymgeis- wyr, ac hefyd yn Ysgrifennycld y Pwyllgor. Sylwodd y cadeirydd fod penodi Mr Meiricn Jones yn sicrhau y cawsai'r gwaith ei wneud yn drylwyr. Pasiwyd hefyd ar gynhygiad y Parchn W. Morris Jones, B.A., a Gwynfryn Jones yn cefnogi ein bod yn protestio yn erbyn y prisiau afresymol ofynir am fwydydd, a theimlid pe tau pob Cymdeithas Gristionogol yn cymeryd yr un cwis y gallesid cael sylw y Llyw- odraeth. Ar gynhygiad Mr Joseph Benn a Mr Davies Jones, Caer, yn cefnogi, pasiwyd i'r Circuit Stewards ddod a'r mater o godi cyflogau'r Gwein idogion gerbron y cyfarfodydd chwarterol. Pasiwyd fod y Cyfarfod Taleith. iol i'w gynnal yn Wrexham Yna derbyniwyd Deputation yr Urban District Council a'r Free Church Council yn croesawu'r cyfarfod i'r dref. Sylwodd y Cad eirydd mai dymunol oedd gweled y byd a'r eglwys yn eu croesawu. Atebodd Mr Felix i'r ddirprwyaeth yn ddoeth a deheuig.