Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
2 articles on this Page
BYD CREFYDDOL. I
BYD CREFYDDOL. I Y mae Cymdeithas Hanes Cyf- undeb y Bedyddwyr ar fin cyhoeddi cyfrol o'i Thrafodion. Y mae ym mryd y Gymdeithas hefyd ail gyhoeddi nifer o lyfrau prinion yn ymdrin a'r Bedyddwyr. Y mae Coleg M.C., y Bala i gael ei agor eleni, a bydd yno chwech o athrawon, Principal Prys, Proffs. Young Evans, David Williams, David Phillips, Richard Morris, a Dr. Porter. Mae y Parch J. T. Job, Bethesda, wedi derbyn yr alwad i fugeilio eglwys Abergwaun. Y dydd o'r blaen agorodd sym- udiad ymosodol yr M.C., neuadd newydd yn ardal Clydach, Aber- tawe, a dywedir fod yno fawr angen gan fod yma gannoedd o Saeson, a phobl lawer yn dylifo i'r gweithfeydd. Y mae llawer o drin wedi bod, a ddylai merched bregethu. Ysgrif- enna y Canon Langridge i'r "Daily News fod merched yn well na dynion. Yr holl bethau da a wyddom, dysgwyd hwynt i ni gan ein mamau, ein chwiorydd, a'n gwragedd. Yr unig beth sy'n cadw rhai ohonom i ymddwyn yn wedd- aidd, ydyw ofn rhoi archoll calon iddynt hwy. Y mae eu gwisgoedd, eu symudiadau newidiol, eu llais esmwyth, a'u swyn areithiol: eu ffydd, yr angen, y galon nefol, sydd yn gwneud crefydd—yn gwneud pregethwr-y mae y pethau hyn oil ganddynt. Yn ddiau nid oes dim i'w lluddias i bregethu. Ond dynion A ddylent hwy bregethu? Na ddylent-hyd nes y gallant wneud." Y mae y ddadl yn dal yn ei grym ynglyn a chynnwys diwinyddiaeth ymysg pynciau y Brifysgol, a dewis athrawon i ddysgu'r pynciau hyn. Rhanedig yw'r Methodistiaid ar y mater, eithr y mae'r Annibynwyr yn gryf yn erbyn. Ysgrifenodd Dr. Witton Davies i'r Manchester Guardian o blaid y cynllun new- ydd, ac atebwyd ef gan Mrl. Arthur Price, eglwyswr a bleidiai Ddadwaddoliad. Anfonwyd dyn ieuanc oedd wedi dechreu pregethu gyda'r M C., i garchar am flwyddyn fel gwrth- wynebwr cydwybodol.. Y mae y Ddeddf Orfodol yn glir a diamwys yn rhyddhau y rhai hyn. Paham y carcherir hwy ? a phaham y mae y wlad a honna ymladd dros gyfiawnder yn goddef y treisiad ? A yw'n bwysicach gofalu am chwareuteg i'r Belgiaid nag i'n pobl ein hunain ? lJ_![ Dymuna y pwyllgor sydd yn gofalu am y Neuadd Ymneilltuol ym Mharc Kinmel wneud apel garedig at bawb sydd yn caru lies ein milwyr. Mae'n wybyddus fod y Neuadd bellach yn agored nid yn unig i wasanaethau crefyddol -prif amcan y sefydliad-ond, hefyd, fel' canteen lie y darperir ymborth blasus am bris isel, fel darllenfa, &c. Ceir ynddi ystafell i ddarllen ac ysgrifennu, un arall i billiards' a 'games' diniwed eraill, megis draughts, &c. Trefnir, hefyd gyng- herddau yn achlysurol. Ac er galluogi y pwyllgor' i wneud y Neuadd mor ddeniadol a chyfforddus ag :sydd bosibl, apelir am roddion gwirfoddol. Byddai unrhyw offeryn cerdd, megis 'har monium,' 'piano,' neu 'gramo- phone dda, gyda records' o ansawdd dda, yn dderbyniol. Hefyd, games,' o unrhyw fath, megis 'chess, draughts.' &c. Ap- elir yn arbennig, hefyd, am lyfrau, yn neilltuol rhai Cymraeg. Mae eisoes nifer o lyfrau Saesneg wedi eu rhoddi i'r Neuadd, ond nid oes yno odid yr un llyfr Cymraeg, a gwyddis fod ymhlith y bechgyn ami un nas gall fwynhau ond llyfr Cymraeg Teimlir yn ddiolchgar am unrhyw newyddiadur neu gylchgrawn Cymraeg neu Saesneg. Neu, os carai unrhyw un anfon ei rodd mewn arian at unrhyw bwrpas, byddai y cyfryw yr un mor dderbyniol. Anfoner pob rhodd i'r Parch J. i H. Davies, Free Church Hall, Kinmel Park, Rhyl—Ysgrifennydd y Neuadd. jy Neuadd. Y mae Mr R. J. Jones, B.A., o Goleg Bala-Bangor, wedi derbyn galwad gan eglwys Annibynol Porth, Morganwg, a Mr T. H. Wil- liams, o'r un coleg, wedi derbyn galwad gan eglwys yr Annibynwyr yn Llanbedr, Glan Conwy. Y mae esgobion Bangor a Llan= elwy yn awr yn galw am fil o bun- nau i godi neuadd i'r milwyr yng ngwersyll Kinmel. ¡- Y mae y Parch M. H. Jones, gweinidog galluog yr M.C., yn Ton Pentre, wedi rhoi llawer o'i amser i astudio problem yr Ysgol Sul ac mewn ysgrif yn y Goleuad" ynghylch safle Ysgolion Sul ei enwad dywed air fel hyn:—Ond dyna, y mae perigl i'r pwyllgor hwnnw fel pwyllgorau'r Cyrddau Misol, deimlo ei waith drosodd pan wedi nodi meusydd llafur, trefnu arholiad ac apwyntio ysgrifenwyr esboniadau. Nid esboniadau a llyfrau safonau yw unig angen nag hwyrach brif angen ein Hysgolion Sul, ond athrawon cymhwysach ac eglwysi yn credu mwy yng ngwerth hanfodol yr ysgol i barhad eu bod- olaeth hwy. Nid er mwyn arhol- iadau chwaith y bodola'r Ysgolion Sul, ond er mwyn dysgu crefydd Feiblaidd a magu dinasyddion da i Deyrnas Crist yn y byd. Rhaid i ni fel Cyfundeb gael yr hyn y mae Undebau Ysgolion Sul gwledydd ereill wedi ei fentro er ys tro, sef Travelling Secretary neu Arolygwr yn y Gogledd, ac yn y De i roi ei holl amser i ymweled a'r Ysgolion i gael gwel'd rhagoriaethau a diffyg- ion pob un, cadw nodiadau o'r cyfryw, dwyn adroddiad i'r pwyll- gor canolog fel y gallo hwnnw ddarparu at yr Ysgol fel y mae, ac nid fel y tybir ei bod. Ni ddaw unoliaeth fyth yn ein gwaith heb hyn.
Advertising
Coleg y Gogledd, BANGOR. (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru). Prifathraw: Syr R. R. REICHEL, M. A., LI D. T)ECHREUA'R tymor nesaf Hydref 3, 1916. Paratoir ar gyfer' arhol- iadau Prifysgol Cymru, rhai o eiddo Prifysgol Llundain, y Cwrs Meddygol ym Mhrifysgolion Llundain, Edinburgh a Glasgow, ac arholiadau eraill. Rhoir addysg arbennig mewn Amaethyddiaeth (yn cynnwys triniaeth coed), ae Electri- cal Engineering. Mae yn y Coleg adran normalaidd i "athrawon elfennol a chan- olraddol. Cynygir nifer o ysgoloriaethau, yn amrywio mewn gwerth o P,10 i 910 y flwyddyn. Mae Ysgoloriaethau John Hughes yn gyfyngedig i fechgyn aned yn Sir Fon neu Sir Gaernarfon; Ysgolor- iaethau Richard Hughes i drigolion Mon, ac Ysgoloriaeth Piercy i drigolion Sir Ddinbych a Sir Fflint. Dechreua'r arholiad am danynt Ebrill 17. Ceir pob manylion gan J. E. LLOYD, M.A., Ysgrifennydd a Chofrestrydd. '4'M IW4 I V LLYFRFA. IK Y LLY' RFA. Y Maes Llafur. YN AWR YN BAROD. Esboniad y Parch. T. Isfryn Hughes ar Epistolau Paul at y PHILIPIAID, a PHILEMON. Pris DAU SWLLT. Pan yr ymuna Dosbarth neu yr Ysgol yn gyffredinol i archebu dwsin, ac anfon blaendal, rhoddir hwy yn ol 1/6 yr un. Gwyrthiau yr Arglwydd lesu Grist, Gan y Parch. J Maelor Hughes. Pris: PEDAIR CEINIOG. Os archebir dwsin o'r uchod, gyda blaendal, rhoddir hwy am 3/4. Gofyniadau y Maes Llafur Yn cynnwys y Safonau a threfn yr Arholiadau. Prig: CEINIOG. Rhoddir 100 am 5/ a 50 am 3/- ond anfon tdl gyda'r archeb. Anfoner yr Archebion a'r Taliadau i'r Parch. P. JONES-ROBERTS. BOOKROOM, BANGOR. Cases at Rwymo. Ceir Cases llian hardd at rwymo Hanes Wesleyaeth Gymreig" am swllt, post free. Cases llian destlus at rwymo Yr Eurgrawn am 10 ceiniog; "Y Winllan am 8 ceiniog. DETHOLIAD 0 EMYNAU. YN AWR YN BAROD. Cynwysa dros 200 0 Emynau Detholedig, ac adranau ar gyfor y Cynhauaf, yr Ysgol Sul, Bedydd Plant, Dirwest, ac ychydig Emynau Saesneg. CASGLIAD DIGURO. Pris, Pedair Ceiniog, mewn Ilian ya. twyth. Trwy y Post, 5 ceiniog. Dwsin am 4/ post free. Haner cant am 15/ carriage paid. Cant am 30/ carriage paid. Testamentau i'r Milwyr. Testament mewn llian Khaki, Ceiniog yr un, post free am ddwy geiniog. Dwsin am 1/6. Testament bach hardd, gilt edges, mewn Ilian Khaki prydferth. Aiff i boced y wasgod. Prisiau, 9c. yr un IOe. post free. Dwsin am 9/6. Gwna y rhai hyn anrheg ddymunol i'r Milwyr Cymreig. Rheolau y Trefn- yddion Wesleyaidd Argraffiad Newydd, yn llyfryn destlus, o'r Rheolau ddylai fod yn llaw pob aelod Wesleyaidd. Mae'r Rheolau hyd Gynhadledd 1913 oil yn yr argraffiad hwn. Pris, Ceiniog a dimaiy copi; 100 am 6/6; 50 am 3/3 post free. Hanes Wesleyaeth Gymreig" GAN Y Parch. Hugh Jones, D.D. Pedair Cyfrol Hardd, 6s. 6c. yr un lihoddweh eich enw i'r dosbarthwr ar unwaith. T?hoddwch eich enw i'r dosbarthwr ar unwaith. s HHMSHHHBHHMHMHHHMHHHHBHHP ? Ceir y cyfan drwy ein Dosbarth?yr Lleol. |j| ? VR OLL VN POST FREE. |g ? Anfonwch am ein CATALOGUE NEWYDD. |g fi Pob Archebion a Thaliadau i'w hanfon ij|| I P. JONES ROBERTS, I P Bookroom, Bangor. U Argraffwyd dros y Cyhoeddwyr gan Lewis Davies, Swyddfa'r Gwyliedydd New- ydd." Blaenau Ffestiniog. p, ,óor:-£1..