Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

TIPYN 0 BOPETH.1'1j I

News
Cite
Share

TIPYN 0 BOPETH. 1'1j I ¡I,! "1 [:ill. Ysgrifenna D. D. J. atom fel y canlyn "Ychydig ddyddiau yn ol yn Gwespyr danghosodd Mr David Jones (un o'n pobl y Wesleaid yno) ei hun i mi, wedi ei daraw gan fellten. Safai ef a'i wraig yn y drws yn edrych ar y mellt yn chwareu tua Point of Ayre. Tar awyd y ddau yn strim, strarn, strallach. Daeth hi ati ei hun yn fuan nemor gwaeth, heblaw dych- ryn bu Mr Jones yn hollol hurt am tuag awr. Fe'i tarawyd yn ei fynwes, lie mae patch coch, gwelir J iddi redeg dan ei ddillad a gadael ¡ llinell goch banner modfedd o led, I trodd o gwmpas ar ei farddwyd, ymaith a hi eto, gadael yr un ol i lawr ei glun, ar hyd ei goes, dros cefn ei droed a'i fawd a'i ewin, ac allan trwy nen y to gan adael twll yn y to tua dwy droedfedd o gylch. Od iawn. Ai y fellten wnaeth ? Os felly, sut mae y dyn yn fyw ? Os nad y fellten, beth ?'' Naw o frodyr yn y fyddin ac wyth wedi eu lladd neu ar goll" ydyw hanes teulu o'r enw Restor- ick, o Firmingham. Y mae'r unig un sy'n fyw-yr ieuengaf-Private Thomas Restorick, perthynol i'r Cameroons, wedi bod yn ymladd ym Mons, a Neuve Chapelle, a ni- weidiwyd ef mor dost gyda shrap- nel, Gorffennaf 15, fel y bu raid, iddo ddod adref. Gwr o Surrey a fyn iddo weled gwenyn meddw. Fel y canlyn yr ysgrifenna :-Tra'n casglu mwyar duon mewn lie distadl ac unig yn Surrey, daethum i fangre lie, i bod golwg, na wyddis ddim am reolau y Bwrdd Rheoleiddiol Canolog. Digwyddodd hyn yn ystod oriau gwaharddedig, ac yr oedd llawer o yfed a meddwi'n myned ymlaen-- ymhlith gwenyn. Mewn pentwr isel b fangoed a mieri lle'r oedd y mwyar yn or-addfed y gwelais hyn, Yr oedd yr awyr yn llawn o arogl sudd aeddfed y mwyar duon, ac yr I oedd y gwenyn mor brysur ac mor feddw fel nad oeddynt yn cymeryd sylw o neb. 0 dan effaith y sudd yr oeddynt mewn ystad o syrthni, a phan symudid hwy o'r naill le i'r Hall rholient ar draws eu gilydd. Ar y fainc ynadol ym Mhwllheli y dydd o'r blaen protestiai y lienor clodus Dr. Gwenogfryn Evans yn erbyn ustusiaid na fedrant Gym- raeg. Y mae y ffaith fod Saeson uniaith yn eistedd ar feinciau yn- adol Cymru, a bod yn rhaid dwyn y gweithrediadau ymlaen yn Saes- neg er mwyn eu hanwybodaeth hwy, yn beth diraddiol a dirmygus iawn. Buom yn wasaidd iawnyng Nghymru, yswain Seisnig, bloneg- og, yn unig a wna y tro i fod yn ustus. Y mae y rhod wedi troi dipyn, ond y mae digon o le i wella eto. Llew Tegid, yr Athraw Edward Edwards, M.A., Aberstwyth, a Mr Lewis Jones (Ynyswr), West Kirby, yn arweinwyr eisteddfod Birken- head y flwyddyn nesaf. Yr wythnos o'r blaen, rhoed men= yg gwynion i ynadon Llys Hedd- geidwad Bristol oherwydd nad oedd yno'r un achos i'w wrando. Ni ddigwyddodd hyn o'r blaen ers dros ugain mlynedd. Y mae trigolion Castellnedd wedi penderfynu anfon gwahoddiad gwresog i'r Eisteddfod Genedlaeth- ol yn 1918. A Yng Nghanada y mae degy cant o dir uwchlaw y cyfartaledd dan wenith; yn yr Unol Dalaethau, 8 y cant; yn yr India, 3 y cant Ond er fod mwy o dir o dan wenith, dy- wedir fod y cynnyrch yn llai.

Y Rhyfel o -Ddydd i Ddydd.

TRYSORFA'R " GWYLIEDYDDI NEWYDD."

Y MILWYR YN YR AIFFT. I

[No title]

CYDWELI.

ITREHARRIS.

CAERSWS.

ASHTON-IN-MAKERFIELD.

TOWYN.

Advertising