Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

COFFA Y DIWYD A'R CYFIAWN.

News
Cite
Share

COFFA Y DIWYD A'R CYFIAWN. Y PARCH JOHN JONES, STEUBEN, AMERICA. Hwyrach mai nid anniddorol gau ryw rai fydd yr ychydig grybwyllion amherffaith canlynol am un o enedigion plwyf Llangadfan yn yr amser a fu,— gwr duwiolfrydig ei ysbryd, a daeth yn un, o ser ei eawad yr ochr draw i'r Werydd, yn hanner cyntaf y ganrif ddiweddaf. Ganwyd ef mewn amaeth- dy gwledig o'r enw Hen Dy, alias Gwern Ithel, ym mhlwyf Llangadfan, Sir Drefaldwyn, Tachwedd 5ed, 1796. Enwau ei rieni oedd Israel, ac Ann Jones. Ymunodd a'r Wesleaid yn llane ieuanc deunaw oed, pan nad oedd yr eglwys Wesleaidd Pontcadfan ond yn ei babanod, a ba'n gynhalydd gonest, ac yn help mawr iddi i dyfu i fyny drwy lawer ystorm a helbul. Ymaelododd yn 1814, pan gynhelid yr achos yn y Ty Gwyn, a Chaethle o dan nawdd yr hen bar Evan Jones, ac Ann ei briod. Nis gwn faint o fanteision addysg a gafodd, nis gallent fod ond prin iawn o angen- rheidrwydd y pryd hwnnw yn yr ardal hon. Y mae'n debyg iddo wneud y defnydd goreu o'r ychydig oedd yn ei gyrraedd. Yr oedd o gymeriad pur a dichlynaidd o'i febyd ni gredwn, ac yn fuan wedi iddo ymuno dangosodd fod ganddo ddawn a galluoedd disgleiriach na'r rhelyw o'i gyfoedion, a daeth yn gyflym i lenwi cylch pwysig a defnyddiol ynglyn a'r achos Wesleaidd yn y lie. Yn un peth yr oedd yn gerddor go lew mantais fawr i'r gynulleidfa oedd hyn, pan nad oedd yr ychydig aelodau yn gryf na choeth iawn yn y cyfeiriad hwnnw, ac ni fu'n hir cyn dyfod allan ar y plan fel Pregethwr Cynorthwyol, a daeth yn fuan yn un pur gymeradwy. Trwy ei lafur a'i gynhorthwy ef yn bennaf y symudwyd ymlaen i gael Capel Wesle- aidd cyntaf Pontcadfan yn y flwyddyn 1823. Yr oedd yr ycbydig nifer a wnaent i fyny'r eglwys, ar ol ymadael o'r hen frawd Evan Jones, a'i deulu i Felin y Ddol, gerllaw Llanfair Caereinion, wedi llwyddo i gael un o dai pentref bychan Pen=y-bont i gynnal y moddion ynddo ac i ymgyfarfod yn rheolaidd,mor reolaidd ag y caniatai pethau yn y dyddiau hynny. Dywedai y diweddar Evan Breese (Ieuan Cadfan), mewn hen ysgrif-lyfr a welais o'i eiddo, mai efe a fu y prif offeryn i symud yr achos i lawr i Benybont a chael gwasanaeth, a phregethu rheolaidd yno. Parhawyd i gynnal yr achos yn y ty annejdd dan sylw hyd nes y codwyd y Capel—" Yr hen Gapel erbyn hyn, gan fod yr un newydd wedi ei godi am y ffordd ag ef yn 1876. Yr oedd Cylch- daith Llanfyllin a Llanrhaiadr yn un a Chylchdaith Llanfair yr adeg honno,— un Gylchdaith oedd y tri lie, a chan fod un Pen-ybont eisioes ar y plan, sef Penybontfawr, yn hytrach na galw hwn wrth yr un enw,—galwyd ef yn Bontcadfan. Trwy egni -a sel y ddiadell fechan, a chynnorthwy ariannol John Jones y llwyddwyd i godi'r capel hwn y tro cyntaf. Ymddengys ei fod yn weddol gysurus ei amgylchiadau, a bu'n wasan- aethgar iawn i'r achos yn y lie hwn am lawer o flynyddau, ac yn flaenor ar y rhestr gyfarfyddai yn y lie Am ryw resymau, anhysbys i'r ysgrifennydd ar hyn o bryd, penderfynodd ymfudo i'r Amerig er colled a gofid nid bychan i'r ychydig ffyddloniaid oedd a phwysau'r Arch arnynt. Ar y trydydd o Ebrill yn y flwyddyn 1829, cefnodd ar Langadfan a bro ei faboed am Wlad y Gorllewin, byth i ddychwelyd mwy. Gwelir cadwen o Englynion (oddeutu pymtheg ohonynt) yn Eurgrawn" Mai, 1830, ar ei ymadawiad gan ei gyfoed-Ieuan Cadfan, yr hwn oedd ar y pryd, feddyl- iwn, yn cadw Ysgol ym Machynlleth. Dyfynnwn rai o honynt "Ow! loan darian gwladwriaeth,-seren Siriol mewn cym'dogaeth, Gwr mwyn am gu eiriau maeth, O'th herwydd mae maith hiraeth! Hiraebb, erchyllaeth a ebolled-dra- II dwys, A dirbwys di-arbed: < Cyll Llangadfan gyfan ged,— Di-fwyn fydd 'rol dy fyned. Dy fyned ar led bair loes,-i'm calon, Mwy cul rhedfa'm beroes Chwithdod i'm hynod einioes Fydd am loan fwynlan foes. Moes cain gynheddfau mwysion—a gefaist, I Dy gofio wna Seion Prudd gweled y praidd gwaelion, A'u He heb eu bugail lion Lion fuost,—llawen fywyd,—un addas, Am flynyddau'n ddiwyd; Ond 0 i'm bron dyma bryd Daw ing! os wyt bron d'engyd. D'engyd yw'th fryd 0 iaith bair fraw- dirfawr I dorf am fwyn athraw Trwm frad yw it' ein gadaw O'th fodd i fynd drosodd draw. Mawrwych, goleuwych mewn gwlad,— tywynaist Er taenu ffrwyth cariad Boed iti Iwydd rhwydd, a rhad, I forio'n ol dy fwriad. Dy fwriad gaffo dwf iraidd,-belaetb, A hwylwynt taith hafaidd; Tuedd drem tywydd a draidd Americ yn dymhoraidd." Wedi iddo ef a'i wraig a'i blentyn groesi'r Werydd, ymsefydlodd yn Steu- ben-pentref ryw 20 milltir i'r gogledd o Utica. Ymhen rhyw ddeg mlynedd yr oedd ganddo oddeutu cant o aelodau o dan ei ofal, ac yntau yn weinidog arnynt. (Gweler yr American, gan A. B. Chidlaw, a gyhoeddwyd gan yr Argraff- ydd Mr John Jones, Llanrwst, yn 1840. Ceir cyfeiriad ato hefyd yn "Eurgrawn" I Tachwedd, 1833, mewn llythyr o'r Amerig oddiwrth y Parch D. Cadwaladr, brawd Mr Oliver Cadwaladr, Ty Newydd, I Bwlchcibau). Wedi mynd o honno drosodd, gwen odd heulwen llwyddiant arno mewn mwy nag un ystyr fel y gallaf gasglu, a chredaf ei fod yn perchennogi rhai I lleoedd yno yn ddilynol, a chaffai alwad ) yn fynych i bregethu yng nghyfarfodydd prifwyliau yr enwad. Gelwid ef, meddai ] cyfaill i mi (Sam Ellis, Utica), yn y I wlad honno yn Wesley Mawr gan yr hen bobl, pa un a'i maint ei gorff, a'i ynte grym ei sel enillodd iddo'r teitl bwnnw nis gallaf ddyweyd. Cawn engraifft o'i eiddo fel bardd yn Eurgrawn Tachwedd, 1826, yn y ffurf o bedwar pennill ar y testun Sweet Home, ac y maent yn rhai pur ddi- dramgwydd ar y cyfan, a thrachefn yn Eurgrawn Ionawr, yr un flwyddyn, gwelir ysgrif fer ganddo ar Ryddid." Drwg gennyf orfod gadael yr hen weinidog llafurus a theilwng hwn mor bell yn ol a'r flwyddyn 1840, heb ddim hanes pellach am dano. Os gwyrrhyw rai o ddarllenwyr Y Gwyliedydd New ydd ryw gymaint yn ychwaneg yn ei gylcb, gwerthfawr fyddai cael yr hyn a ellir i'r colofnau hyn i fod ar gof a chadw, cyn yr a'r cofion am dano, os oes rhai ar gael, i ebargofiant. Gresyn i enw a hanes un fu mor ymdrechgar yng Ngwinllan ei Arglwydd fynd yn anghof gan y byd. Pa bryd, ym mha le, a than ba am- gylchiadau y daeth ei oes i ben, ac ym mha le y gorffwys ei weddillion ? Pwy a etyb. Yr Eiddocb, &c., HUGH DAVIES. Lluest, Llangadfan.

[No title]

Advertising