Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
COED-Y FFLINT.
COED-Y FFLINT. Yr oedd yn dda gennym weled rhai o'n cyfeillion ieuainc adref ar ymweliad o'r fyddin tros y Sul diweddaf, Mri Samuel Jones, a Robert William Jones, Park View, a Mr William Price, Car- trefle,-tri o'n gwyr ieuainc ffyddlonaf. Y mae Mr W. Price a Samuel Jones yn Litherland, ond y mae Mr Robert Wil- liam Jones adref o'r ysbyty, wedi ei glwyfo yn Ffniinc, da gennym ei weled yn gwella cystal. GOH.
MANCHESTER.
MANCHESTER. Drwg gennym hysbysu fod L/Cpl. H. Glynne Jones, mab ieuengaf y diweddar Barch D. O. Jones, wedi cael ei glwyfo yn Ffrainc, ac yn awr yn yr ysbyty, eto yr ydym yn llawenhau deall ei fod yn mynd ymlaen yn dda. Mae Glynne yn boblogaidd iawn yn Gore Street, ac mae pawb yn dymuno iddo lwyr adferiad, ond nid yn rhy fuan, gobeithiwn y caiff dipyn o orffwys cyn mynd yn ol. PRYNES.
PENMACHNO.I
PENMACHNO. Mynd a Dod —Does fawr gennyf feddwl er y dydd. y daeth y Parch Daniel Williams a'i deulu atom, er fod tair o flynyddoedd yn eu gwahanu er yr adeg honno-mor gyflym yr ebeda amser heibio. Bu Mr Williams a'i briod yn hynod o gymeradwy yn Pen- machno a'r Gylchdaith, ac er i Mr Wil- liams ledu cortynau ei wasanaeth i amryw gyfeiriadau, ni lesteiriodd hynny ddim ar y swyn a'r newydd-deb nod wedda ei weinidogaeth, Fel y dywedodd Mr J. R. Jones, Moss Hill-un o oruch- wylwyr y Gylchdaith,—fod Mr Wil liams yn gwella bob tro yr elai i'r pwl- pud. Nid bob amser y daw cyfleustra i weinidog Wesley i lanw swyddi ar wahanol fyrddau—mae cyfundrefn y tair blynedd, rhywfodd fel yn dyfnhau yr argraff ar y meddwl mae pererin, ac nid dinesydd ydyw yn y ty-ond yn ystod yr adeg y bu y Parch Daniel Williams, daeth y cyfle yma, a manteisiodd yntau arno, a bu yn ddefnyddiol iawn yn y gwaith o daflu cymwynasau min y ffordd fel y dywedodd un am y ffurf yma ar ei wasanaeth i'w ardal a'i enwad. Gwnaeth Mrs Williams hefyd ei rhan yn deilwng gyda gwaith casglu rhoddion i'r milwyr, casglu at Drysorfa y Nurse, a Ilu ereill o gymwynasau distaw megis disgyniad gwhth a'r fore teg o Fai. Wel, yr oil ddywedaf ydyw, nid Gylchdaith Llan- rwst anfonodd y teulu hoff yma i ffwrdd, ond deddfau caeth y cyfundeb. Pob llwyddiant a dedwyddwch iddynt o Ceinwen bach a Elwyn i'r tad a'r fam. Bydd colli y teulu yn absenoli tad Mrs Williams o Benmachno, sef T. W. Griffiths, Ysw., U.H., a chwith fydd gennym beidio cael ei groesawu i'n plith. Wedi colli Mr Williams, dyma un arall wedi dod atom, sef y Parch a Mrs J. Parry Brookes, a rhywfodd mae pawb ohonom yn rhyw ddechreu dod i gynefino a'r symudiad, ac yn falch iawn mae nid i Abergele ond i Benmachno y gwelodd y Gynhadledd yn ddoeth drefnu maes ei weinidogaeth. Cawsom weddi hynod a phregeth gysurlawn yn barod-yn llawn o gysur, a cheisiwyd mynegu degwm y teimlad croesaw iddynt ar eu dyfodiad atom. Mae Mr Brookes fel y deallaf yn fedrus hefo canu, ac edrychir ymlaen at y Gobeithlu.
RHEWL, MOSTYN. I
RHEWL, MOSTYN. I Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgolion Un- debol yn y lie iichod Awst 20fed. Ad- roddwyd y Salm 77 gan restr Joseph Hughes. Holwyd y 12fed bennod o'r Arweinydd gan y brawd John Ellis. Can gan Dilys Williams. Adroddiad o'r emyn 203 gan Sephora Jones. Holi y plant yn y 6 a'r 7 bennod o'r Hyffor- ddydd gan Robert Elder. Cyfarfod yr Hwyr.—Caed anerchiad gan Robert Ernest Roberts, y llywydd, yn llawn o gynghorion da. Adroddwyd y Salm gyntaf gan Mrs Williams, Birth Villa, gwrandawyd gan Robert Ernest Roberts. Adrodd pennod o'r Egwydd- orydd gan rhestr R. E. Williams, holwyd gan Arthur Williams. Can gan Dilys Jones. Adroddiad o'r Diar- hebion gan Percy Hughes, gwrandawyd gan John Ellis. Holi y plant yn yr Allwedd gan Robert Elder. Holi pennod o lyfr Diwinyddol Pritchard gan y brawd John Jones. Cawsom anerchiadau bywiog gan y brodyr Arthur Williams, Penyffordd, a John Ellis, Ffynnongroew, Canwyd amryw donau yn ystod y ddau gyfarfod gan y plant o dan arweiniad Mr Joseph Luke. Dyma un o'r cyfarfodydd goreu fu erioed yn Mostyn-yr oedd pawb yn eu hwyliau goreu, yn enwedig y plant. Gwan oedd y gynrychiolaeth yn y prydnawn, ond chwyddodd erbyn yr hwyr. Drwg iawn gennym i Gwes- pyr fethu anfon cynrychiolaeth. I J. E. I
i CNWCH COCH.
i CNWCH COCH. I Yr oedd Private Davy J, Evans, un o'n haelodau ffyddlon, ar ymweliad a ni yr wythnos hon. Gofid ydyw colli bechgyn defuyddiol o'n mysg. Gwag yw'r aelwyd, gwag yw'r eglwys, gwag yw'r pentref hebddo. Ond dymunwn Duw yn dda iddo a disgwyliwn ei weled adref eto cyn hir. GOH. I
I 0 BEN Y FOEL. I
0 BEN Y FOEL. I Erbyn hyn mae y Parch J. R. Roberts wedi cartrefu yn ein plith, ac wedi pregethu yn holl eglwysi y Gylchdaith, un ai ar y Sul neu noson waith. Gob- eithiwn y ca dymor dedwydd gyda ni. Mr Richard Roberts oedd y gwr dieithr fu yn gwasanaethu yn Soar y Sul diweddaf; a'r Sul dilynol i hynny bu Mr Jones, Postfeistr, Portmadoc, yno Nid oes ond Brontecwyn eto, na bydd Mr Jones wedi pregethu yn holl eglwysi y Gylchdaith. Gobeithiwn weled ei enw i lawr yno y Plan nesaf. Yn Ystalyfera, De Cymru, yr oedd ein parchus weinidog (Mr W. O. Evans) yn treulio y Sul diweddaf. Diau iddynt gael treat.' Bu nifer o'n cyfeillion ieuainc sydd gyda'r fyddin yn edrych am danom tros y Sul, sef Corpl. E. Morgan, Privates H. Chambers Hughes, Edward Parry, a Samuel P. Roberts, hefyd D. Dennis Roberts; mae ef wedi dod i aros am ychydig i wasanaethu yn y cynhaeaf gyda Mr Griffith Jones, un o'n swyddog ion. Gyda'r Banker's Battalion y mae Mr Roberts, sydd hyd yma yn y wlad hon. Mae dwy o chwiorydd ieuainc ein heglwys ar ein gadael, sef Miss Jennie Evans, Madoc Street (merch i Captain Robert Evans, sydd yn garcharor rhyfel yn Germany er y dechreu) a Miss Gwladys Evans, merch ein parchus weinidog. Mae y naill yn mynd i wasanaethu mewn masnachdy yn Nhre- ffynnon, a'r llall yn mynd i Ysgol yn Southport. Bydd yn chwith gennym eu colli. Yr oedd Miss Gwladys Evans yn un o organwyr yr eglwys, a bydd colled ar ei hoi.
NODION 0 FANGOR.I
NODION 0 FANGOR. I Dydd Mercher diweddaf cynhaliodd y Wesleaid Seisnig eu Garden Fete flyn- yddol mewn llecyn cysylltiol a'u hysgol- dy, ganiatawyd iddynt gan berchenog y lie. Agorwyd y gweithrediadau gan J. R. Davies, Ysw., Ceris. Trodd yr anturiaeth allan eleni eto mewn cynyrch ariannol tuag at leihau y ddyled sydd ar yr adeiladau newyddion. ? Y Sabbath a'r Llun, y lOfed a'r lleg cyfisol, cynhaliwyd cyfarfod pregethu blynyddol St. Paul's. Gwasanaethwyd gan y Parch T. Gwilym Roberts, Towyn, a'r Parch E. Berwyn Roberts. Cafwyd eyfres o bregetbau nerthol ac amserol, dylanwad pa rai dan fendith y Meistr a bery yn hir. Dechreuwyd moddion nos Sabboth gan yr hybarch Dr. Hugh Jones. Yr oedd y casgliadau yn myned i gynorthwyo Trysorfa yr Ymddiedolwyr a deallwn eu bod yn foddhaol.
.NODION 0 DDOLGELLAU.I
NODION 0 DDOLGELLAU. I Gyda phrudd- der y clywsom fel tref, ac yn enwedig yn eglwys Ebenezer, fod Pte Griffith Evans, ail fab Mr a Mrs Griffith Evans, Liverpool, ac wyr i'r diweddar Mr William Griffith, Glan- 'rafon, Dolgellau, wedi ei ladd yn y Rhyfel. Byddai yn treulio llawer o'i wyliau yn Nolgellau gyda Mr a Mrs Morgan, Victoria Buildings, a phob amser yn troi i fewn i edrych am dan- om yn Ebenezer. Yr oedd yn wr ieuanc dymunol iawn, ac enilliai serch pawb. Mae cin cydymdeimlad yn fawr a dwfn a'i rieni a'r teulu oil. Mae Mrs Evans yn un o blant a fagwyd ar fronau yr Eglwys Wesleaidd yn Dolgellau, a bu Mr Evans yma am amser maith. Parch G. Rowland Owen.-Llawen oedd gennym weled Mr Owen yma am ychydig ddyddiau, a da iawn gennym ddeall ei fod wedi ei alw allan o'r Coleg i ofalu am yr achos Cymreig Wesleaidd yn Leeds, ac yr ydym fel eglwys yn dymuno ei lwyddiant ymhob ystyr. CYMRO.
GWERSYLLT KINMEL. I
GWERSYLLT KINMEL. Gofidus gennyf y tro hwn gofnodi hanes ymadawiad eia Caplan, Parch Abi Williams, B.A., C.F., o'n plith i fyned i lafurio ym mysg ein brodyr yn Ffrainc. Bydd ymadawiad Mr Williams o'n plith yn golled fawr i ni. Anodd rhyfeddol ddygymod a'r syniad o ffarwelio a'n Cap- lan oedd mor hoff gennym, a diau y teimlir chwithdod a hiraeth ar ei ol. Oarem yn fawr pe buasai wedi gallu gweled ei ffordd yn glir i aros gyda ni, ond ei ddymuniad pennaf er pan yr eth- olwyd ef i'r swydd ydoedd myned allan i faes y frwydr-am ei fod yn credu y gallai fod o fwy o wasanaeth yno yn mysg ein brodyr-y bechgyn sydd yn gorfod wynebu mwy o anhawsterau, dioddefaint a pheryglon na ni yma. Yn ystod y tymor y bu Mr Williams yma ni fu yn hir yn ennill safle anrhyd- eddus iddo ei hun fel Caplan, ac y mae hynny i'w briodoli i'w ysbryd hynaws, caredig a siriol. Yr oedd Mr Williams yn ddigon eang- frydig ei ysbryd-nid oedd dim culni enwadol yn perthyn iddo. Yr oedd bob amser yn barod i helpu pob bachgen heb ofyn iddo pa enwad y perthynai iddi, ac oherwydd hynny enillodd serch llawer tuallan i'w enwad ei hun, yn Eglwyswyr a Phabyddion. Ond gyda ni fel Wesleaid y gwnaeth ei oreu, nid oedd ball ar ei ymdrechion yn gofalu am ein hangenion ysbrydol a thymhorol. Gwyddai yn dda am ein hanawsterau, a natur ein temtasiynau. Gweithiodd yn ddiwyd i barotoi concerts inni ar nosweithiau yr wythnos, ac nid hawdd oedd hyn oherwydd nid yn unig fe gostiodd amser iddo, ond hefyd arian. Gwnaeth ei oreu bob amser i'n gwneud yn gartrefol. Byddai ei Hut yn agored bob amser i ni droi i mewn i gael ymgom, i ddarllen, neu i ysgrifennu, a hir y cofir gan lawer o honom y nos- weithiau difyr dreuliasom yn ystod y gaeaf diweddaf yn trafod cwestiynnau crefyddol a chymdeithasol. Yr oedd Hut ein Caplan i ni yn gartref ae yn goleg. Fel Bugail yr oedd yn ofalus os byddai rhai o'r bechgyn yn absennol o'r gwasanaeth y Sul ai i edrych am danynt, ac os byddai rhai o'r bechgyn yn wael, ac yn yr Ysbyty, yr oedd ein Caplan yn gofalu eu bod yn cael chwar- eu teg yno. Gofalai hefyd am fod pob bachgen yn cael chwareu teg oddiar law yr awdurdodau. Ymladdai frwydrau ei frawd gwan bob amser. Pregethai yr efengyl yn syml, a gof- alai am y gwironeddau mwyaf amserol, ac ymarferol, ac nid anghofiwn y preg- ethau grymus cawsom oedfaon gwlith og fu'n help i ni i fyw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dda ynghanol temtasiyn- au y gwersyll. Bydded Duw yn nodded iddo. Erbyn hyn yr ydym wedi cael y fraint o groesawu ein Caplan newydd, y Parch P. Jones Roberts. Da gennym ei weled yn edrych mor siriol ar ol y tywydd garw y bu ynddo. Edrychwn ymlaen at amser dedwydd. Wrth gwrs, y mae wedi dyfod yma mewn amser anfanteisiol oherwydd cyfnewid- iadau sydd wedi cymeryd lie yma. Eto, er yr anhawsterau, y mae wedi ymdaflu i'r gwaith'a'i holl egni. Yr eiddoch, dros fy mrodyr, Pte. R. ARTHUR ROBERTS, 63rd Training Reserve Battalion, 20 Camp, Kinmel Palk.
I COLWYN.
COLWYN. Y mae gennym eto i longyfarch dau o'n pobl ieuainc—Miss Nellie Morris, Glyndwr, wedi pasio y Junior Central Welsh Board with" distinction; a Master W. Llewelyn Rowlands wedi pasio yr Oxford Local:Preliminary." BERA.
I DREFNEWYDD.
DREFNEWYDD. Llongyfarchwn yn galonog Master Gwilym James Roberts, mab y Parch W. R. Roberts, Drefnewydd, ar ei lwyddiant mewn cysylltiad a'r En- trance Scholarship Examination," Ysgol Sirol, Drefnewydd. Bu yr arhol- iad ym mis Gorffennaf diweddaf, ac enillodd ysgoloriaeth am dair blynedd. Saif ar ben y rhestr yn boll sir Drefal- dwyn mewn English Composition a Drawing," a namyn un mark mewn Geography." Coleddwn ddisgwyliad- au uchel am ddyfodol Gwilym. CYFAILL.
I .LLANIDLOES.
LLANIDLOES. Y mae tri o bobl ieuainc ein heglwys wedi bod yn llwyddiannus yn arholiad- au y Central Welsh Board." Enill- odd Miss Dorothy Morforwyn Beaton y Senior Certificate gyda distinction in Scripture." Y mae hi yn ferch i Mr Endell Beaton, ac yn wyres i Mr William Morris, White House. Y mae caredigrwydd a ffyddlondeb teula White House i'r achos yn bur adnabyddus. Mae Miss Beaton er's tro yn organyddes cynorthwyol yn y capel, ac yn ymrodd- edig iawn gyda'r Gobeithlu. Enillodd Master Edward Stanley Wood y Senior Certificate gyda distinction in Scrip- ture and Arithmetic." Y mae Stanley yn fab i Mr Edward Wood, teulu ffydd- lon arall gyda'r achos. Y brawd ieuanc talentog hwn yw Ysgrifennydd ein Hys- gol Sul, a chredwn fod gyrfa ddisglair yn ei aros. Enillodd Master Frederick Llewelyn Worthington y Junior Certi- ficate gyda distinction in Scripture. Mab ydyw i Mr Thomas Worthington, Picton Street, brawd ffyddlon arall i'r achos. CYFAILL.
CARMEL, ABERCYNON.
CARMEL, ABERCYNON. Buom y dyddiau diweddaf yn ffarwel- io ag un gweinidog, ac yn croesawu un arall. Yr oedd tymor y Parch E. D. Thomas wedi dod i ben a rhaid oedd gollwng gafael ohonynt fel teulu. Bu y tair blynedd yn hapus a llwyddiannus mewn mwy nag un ystyr. Daeth nifer liosog iawn i'r cyfarfod ymadawol. Siaradwyd gan yr oil o'r blaenoriaid, hefyd gan Mr Davies, Ysgrifennydd Cynghor yr Eg- lwysi Rhyddion, a'r Parch D. Howells, Gweinidog yr Annibynnwyr, yr hwn oedd yn cynrychioli gweinidogion y gym- dogaeth. Siaradwyd yn uchel iawn am Mr Thomas fel dyn, pregethwr, a gwein- idog, ac nid oeddym yn teimlo fod neb yn mynd dros y terfynau. Fel pregeth- wr y mae Mr Thomas yn boblogaidd iawn. Yr oedd y brodyr yn tystiolaethu mai gwledd oedd eistedd o dan ei wein. idogaeth am dair blynedd. Bu Mrs Thomas hefyd yn ffyddlon ac yn weith- gar a doeth, ac fe ellir dyweyd un peth arall am y teulu hwn, nas gellir ei ddyweyd am nifer liosog iawn o weinid ogion ein henwad, sef eu bod yn hynod off yddlon i'r iaith Gymraeg. Cafwyd cyfarfod da. Diolchodd Mr Thomas am y geiriau caredig, a dymunodd yn dda i'r eglwys ac i'w olynydd. Y mae y Parch R. H. Pritchard a'r teulu wedi dod i'n plith, croesaw yd hwy fel teulu yn y gyfeillach nos Iau diwedd- af. CawSant dderbyniad siriol, ac mae yr eglwys yn edrych ymlaen am d ymor dedwydd a llwyddiannus. Bu'r eglwys yn ffarwelio wythnos i nos Sul diweddaf ag un o'i phobl ieuanc sef y chwaer Florie Williams. Mae Florie wedi gadael am yr Ameiica; un o blant yr eglwys hon yw Miss Wil- liams, ac yn awr yr oedd wedi dod yn ddefnyddiol iawn, nid oes neb ffydd- lynach na hi i ordinhadau y eysegr. Gofidus gennym ei cholli. Anrhegwyd hi a Beibl hardd gan yr Eglwys. Cyf- lwynodd y Parch R. H. Pritchard y Beibl yn yr eglwys y nos Sul cyntaf iddo bregethu. GOR.