Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
Advertising
At sin Gohêbwyr. CyfeIrier POB Gohebiaeth— Y Qolygydd, H OwylJedydcJ. Newydd," Y Gelli, Coed-y-Fllnt, i. Flint, Qogledd Cymru.
NODIADAU WYTHNOSQL.
NODIADAU WYTHNOSQL. Tir Prydain a'r Almaen. Y mae y Llywodraeth newydd gyhoeddi adroddiad gwerthfawr newydd ar Ddatblygiad diwedd- ar Amaethyddiaeth Germani," ac y mae Mr Joseph Hyder, Ysgrifen- nydd Cymdeithas Cenedlaetholi y Tir, wedi bod yn pwysleisio rhai o wersi yr adroddiad. Dywed y dengys gymaint y mae Germani wedi llwyddo ynglyn a chynyrchu bwyd. Pe bae Prydain wedi ei hamgylchu gan lynges fel ag y mae Germani buasem 'wedi cael ein gorfodi ymhen ychydig wythnosau i roddi i mewn drwy ein llwgu, a'r rheswm am hynny ydyw nad ydym yn cynnyrchu yn y wlad hon ond oddeutu 20 y cant o'r gwenith y mae arnom angen am dano. Cyn- yrcha Germani 70 y cant o'r hyn yr oedd mewn angen am dano mewn gwenith, ac agos yr oil gig, llaeth, ymenyn, caws, wyau, ffrwythau a siwgr oedd ei eisieu. Er nad yw y tir na'r hinsawdd cystal ag yn y wlad hon, eto y mae ei hamaethyddiaeth yn darparu gwaith i dros ddeunaw miliwn o bobl, ac yr oedd 83 y cant ohonynt yn gweithio ar fan-ddaliadau o banner can acer a llai. Mae 48 y cant o gyfanswm y tir a drinir yn Germani yn cynnwys man-ddaliad- ad o hanner can' acer a llai, ond ym Mhrydain lie y mae ystadiau cyfoethog a ffermydd mawrion 16 y cant yn unig a roddir i fan-ddal- iadau o'r maint a nodid. Ar gyfer pob 100 acer o dir wedi ei drin. Nifer y personau sy'n cael eu bwydo a chynyrch cartrefol:— Prydain 45 i 50 Germani, 75 i 80. Nifer o durelli o yd a vgodir; Prydain 15 Germani, 33. Tunelli o bytatws: Prydain 11; Germani 55. Tunelli o gig: Prydain 4; Ger- mani 4l Llaeth: Prydain 17!; Germani 28. Tunelii o siwgr: Prydain, dim; Germani 2!. Aceri o laswellt a clofer Pryd- ain, 69; Germani 32. Aceri o yd Prydain 19.2 Ger- mani 46. Aceri o bytatws Prydain 1.6; Germani 10.4. Er fod gan Brydain y llywydd- iaeth ar y mor, mae'r ffaith eu bod yn dibynu gymaint ar gyflenwadau bwyd a ddygir tros y mor, a phrin- der llongau cludo, ynghyda'r rheol aeth ar y farchnad gan anturiaeth- wyr diegwyddor wedi arwain i'r prisiau godi'n aruthrol. Er mwyn osgoi hyn yn y dyfodol credai nas gellir gohirio ystyriaeth ddifrifol i holl gwestiwn y tir' a threfniant amaethyddol. II Y mae y rhyfel wedi datguddio yn oleu iawn mae gwendid mawr bywyd trafnidiol Prydain ydyw fod tir y wlad chwedl y diweddar Gamphell Bannerman yn foeth a phleser bonedddigion ac nid yn ystordy y bobl.
ILLOFFION DIRWESTOL.I
LLOFFION DIRWESTOL. I Cyfarfodydd Blynyddol Cymanfa Ddir- westol Deheudir Cymru a Mynwy, yn Mertittyr. At Olygydd y G.N." I syi,- Caniatewch i mi i wahodd yr holl gyfundebau crefyddol-yr undebau, a chyrddau chwarter, a misol, i benodi cynrychiolwyr, a'u henwau a'u cyfeir- iadau. i ni mor fuan ag y byddo modd. Y mae nifer o enwogion yn addaw cymerwyd rhan, a bydd esgob Llandaf yn llywyddu Mereber a Iau, Hydref 4 a'r 5ed. Yr eiddoch, &c., MORRIS MORGAN, Abertawe. THOMAS MORGAN, Ysgiwen. Ysgrifenyddion. Swyddfa Irvonia, Swansea, Awst 3 lain, 1916. Yr oedd Mr Henderson, A.S., yn siarad, y dydd o'r blaen, yn Undeb Dirwestol Swyddogion Llafur, a dyw- edai fod pob dosbarth o bobl wedi aberthu o ewyllys calon yn nydd cyf- yngder, ond ni welwyd yr un parod- rwydd ynglyn a'r fasnach feddwol. Dywedai fod Mr Lloyd George yn gryf ymhlaid cenedlaetholi, ac er ei fod ef (Mr Henderson) wedi siaratd Ilawer yn erbyn hynny, eto, yr oedd yn barod i'w bleidio pe gellid felly leihau trwyddedau a lliniaru y drwg. Dywedai Swyddog Meddygol Wool- wich fod 32 y cant o r rhai a fuont feirw o Cancer yn y dref yn ddiotwyr trymion. Y mae Cwmni y Quartz Philadepbia wedi cynnyg 10 y cant o godiad yng nghyflogau pawb a addawsant ymatal oddiwrth ddiodydd meddwl ac ymgadw o'r lleoedd y gwerthir hwy Y mae 99 y cant o'r dynion wedi derbyn y cyn- nyg- Y mae y Bwrdd Llywodraethol Can- olog wedi prynu berwydd-dy a naw tafarn eraill yn Carlile, ynghyda dau far. Yn Mehefin yr oedd y rhai a gos- bwyd am feddwdod yn Carlyle yn 139, Gorffennaf, 99 Awst, 46. Pasiodd Cymdeithas M.C. y Gogledd, ym Mangor, yr wythnos o'r blaen, y penderfyniad eu bod yn llawenhau fod y Wladwriaeth yn awr wedi dyfod i gyd- nabod Dirwest yn elfen o'r pwysigrwydd mwyaf yn llwyddiant y deyrnas, ac yng ngwyneb hyn datgana yr argyhoedd- iad y dylai ein heglwysi yn arbennig gydnabod yr un peth, a dangos hynny yn eglur trwy gymell pob aelod i ar- 'wyddö'r ardystiad yn ol esiampl y Brenin, a gwneud pob ymdrech i ledaenu egwyddorion dirwest yn y wlad. Hefyd, rhoddodd y llywydd bwyslais ar y ffaith y byddai raid i'r wlad, ac felly y gym- deithasfa, yn y dyfodol, wynebu y cwestiwn mawr a phwysig o genedlaeth- oli'r fasnach feddwol, ac er mwyn cymer- yd hwn, ac agweddau eraill ynglyn a'r fasnach, i ystyriaeth, awgrymai cyfeis teddfod y gymdeithasfa fod i nifer gael eu penodi i gydweithredu a'r Pwyllgor Dirwestol yn y mater. Pasiwyd hynny yn unfrydoL
[No title]
Gadawodd y diweddar Mr George Henry Ellis, Penymount, Ffestiniog, eiddo gwerth 21,907p. Y mae cronfa goffa Arglwydd Kitch- ener yn awr yn cyrraedd y swm o 230, 000p.
: YSGREPAN Y LLENOR.
YSGREPAN Y LLENOR. Yn y Cymru'' ceir cyfieithiad o Macbeth, gan Mr Gwynn Jones. Anodd iawn yw cyfieithu'r farddoniaeth ardderchog honno, ond y mae rhydd iaith Mr Gwynn Jones yn cyfleu llawer or swyn a'r braw a'r tywyllwch sydd yn y ddrama fawr honno. Y mae Mr Evans Richards, Ynys y Barri, wedi cyfiethu emynau a llythyrau Ann Griffiths. Bydd y llyfr yn barod un o'r dyddiau nesaf. Dywed y Welsh Outlook fod Mr Shankland a Mr J. H- Davies yn cyd- weithio i baratoi Bywyd Goronwy Owen a chasgliad newydd o'i lythyrau. Y mae hwn yn llyfr i edrych ymlaen amdano- Y mae Mr Shankland wedi gwneud ymchwilial manwl i hanes Goronwy, ac y mae Mr J. H. Davies wedi enwogi ei hun gyda llythyrau'r Morusiaid a'i ragymadrodd i weithiau Morgan Llwyd. Yn Eisteddfod Aberystwyth yr oedd Mrs Herbert Lewis yn siarad mewn Cymraeg rhagorol. Y mae hi'n chwaer i Lady Herbert Roberts, a sieryd y ddwy Gymraeg da er mai Saeson ydynt, merched i'r diweddar W. S. Caine. Cymerant ddyddordeb neilltuol ym mywyd Cymru, ac y mae Mrs Herbert .'i '> J "I,t, -}. 1.} dyddorol o ganeuon gwerin. Y mae y bonheddigesau hyn yn ein hatgofio am y Fonhesig Charlotte Gwest, a ddys godd ) Gymraeg, ac a droes-w Mabinog- ion i'r Seisnig. Cenedl a'u Llyfrau" ydyw teitl llyfr Seisneg—" A Nation and its Books. Llyfr yw y buasai yn lies i ieuenetyd Cymru ei ddarllen. Rhydd symbyliad iddynt i edrych gartref am lyfrau Cymraeg da, ac i greu chwaeth ynddynt am wybodaeth. Wrth chwilio i hanes eu cenedl deuant yn well gwlad- garwr. Yn y llyfr hwn ceir casgliad o bethau buddiol, yn enwedig i'r rhai sydd yn dechreu cymeryd dyddordeb mewn lien Gymreig, bydd yn arwein- ydd diogel iddynt. Ceir ynddo hanes y llyfrau cyntaf a ddaeth allan, er mai nid llyfrau oeddynt ond llawysgrifau oedd mewn hen Fynachlogydd a phal- asdai y bonheddigion; megis Brut, y Tywysogion, y Mabinog;on, gwaith Dafydd ap Gwilym, ac eraill o'r hen feirdd. Yn 1546 y daeth y llyfr ar- graphedig cyntaf allan. Argraffwyd rhai o'r llyfrau cyntaf yn Milan, Llun- dain, Bristol, Amwythig, a Chaer. Dywedai Sais enwog, fod golwg addawol iawn ar Gymru. Ymhob pentref y bu ef yr oedd yno fardd. Un a wnaeth ei ran dros ei wlad a'i genedl oedd y di- weddar Mr Thomas Ellis, A.S., a cheir ganddo ysgrif ddyddorol yn y llyfr. Daw hefyd hanes hen felinau papur Oymru, oedd yn enwog yn eu dydd, ac y maent yn dal eu henw da i fyny, heddyw, yn enwedig Afonwen. Y mae llyfrgell genedlaethol Cymru yn cael ,sylw arbennig. Rhwng Caerdydd, Aberystwyth a Bangor, bydd Cymru yn gyfoethog o lyfrau a llawysgrifau. Gresyn na buasem wedi symud yn gynt, y mae yn sicr fod ami i hen lyfr wedi myned allan o fodolaeth. Ceir tri o II ddarluniau del yn y llyfr, sef Coleg a Llyfrgell Aberystwyth, a Cholegau Bangor a Chaerdydd. Ceir rhestr dda o lyfrau Seisnig yn traethu ar bopeth ynglyn a/r Genedl Gymreig.
NODION 0 FANGOR.
NODION 0 FANGOR. Yng nghapel y Wesleaid Seisnig, y nos o'r blaen, cynhaliwyd cyfarfod ym adawol y Parch Christopher R. North,. B.A., ar ol gwasanaethu y Gylchdaith Seisnig am bedair blynedd, yn hynod gymeradwy. Cyflwynwyd hefyd iddo Silvermounted Tray fel arwydd o barch a dymuniadau da iddo ar ei uniad priod- asol. Llywyddwyd gan Mr H. J. Evans, a gwnaed y cyfiwyniad gan Mrs John Smith, un o aelodau hynaf yr eglwys. Siaradwyd yn gynnes gan amryw o'r frawdoliaeth. # Cafwyd Sassiwn lewyrchus ym Man- gor eleni, oherwydd yr anghyfleusterau gyda'r rheilffyrdd nad oedd y cynhull- iadau mor liosog ag arfer. Swn canmol glywir ar y cyfarfodydd. Agwedd annymunol ac anfoddhaol iawn ar foes ein dinas ddaeth i'r amlwg yn yr achos a ddygwyd gerbron yr Ynadon ddydd Mawrth, pan y cyhudd- id pump o fechgyn ieuainc o gamblo. drwy chwareu cardiau, &c., yn Garden Square. Dywedai Arolygydd yr hedd- geidwaid fod yr agwedd hon ar hap- chwareu ar gynnydd, ac fod rhai yn euog o'r camwedd hyd yn oed ar y Sab- bath. Ofnwn nad yw ein parch i'r Sabbath mewn cylchoedd heblaw ymysg, plant, hyn ddylai fod—A ydyw y cau y ta.ia.fua.u yn oi chadw fel y dylai ? Dirwywyd dau o'r bechgyn i 9/ a rhwymwyd y tri eraill a'u rhieni i ymddwyn yn dda am un iiwyddyn. Gwneir ymdrech gan y Pwyllgor Lleol drwy yr Eglwysi yn y dref i sef- ydlu Cronfa Gynilo i helpu y Llywodr,- aeth gyfarfod treulion y rhyfel. Deall= wn fod rhai capelau ac eglwysi eisoes wedi dechreu rhoddi prawf ar y cynllun, yn eu plith mae capel St. Paul's (W.). Bydd y cyfranwyr at y Gronfa yn sicrhau 5/- y cant ar eu harian, a gall- ent eu codi pan fynnont, os bydd angen. 8 Bu amryw on milwyr drosodd yn ddiweddar yn eu mysg y Parch Caplan P. Jones Roberts, y Llyfrfa, o Ffrainc, a deallwn ei fod wedi ymsefydlu yn awr yng NghinmeL Hefyd Lieut. Peter Williams (Hirael), yr hwn erbyn hyn sydd wedi myned i'r ffrynt yn Ffrainc Corpl. W. Hughes, a Private W. Rob- erts (Horeb) Privates Robt. Roberts, H. E Roberts a Richie Lloyd, St. Paul's. Yrolaf yn perthyn i'r Llynges,, v ag wedi bod mewn tair ymladdfa ar y mor sef Ynys Faulkland, Zambesi a Jutland. Deallwn fod y mwyafrif 0> honynt drosodd cyn myned i faes y gyflafan ofnadwy. Nawdd y Nef fo, drostynt. Llawenydd digymysg i'r hell eglwysi ac i gannoedd edmygwyr a chyfeillion y pregethwr galluog a phoblogaidd, Mr Richard Morris, Aber, fydd clywed ei. fod yn dangos arwyddion o wellhad o'i. afiechyd maith a thrwm. Y mae iddo le cynnes ac annwyl gan lu o gyfeillion, a gweddiau fyrdd am ei adferiad buan a llwyr at ei hoff waith o efengylu tang- nefedd.
[No title]
Dywedir fod cwyn ymysg personiaid esgobaeth Bangor fod personiaid o es- gobaethau eraill yn cael eu penodi i fywiolaethau da yn yr esgobaeth. Pobl ddieithr," meddir, sydd yn cael y brasder."