Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
BETHESDA, BWLCHGWYN. I
BETHESDA, BWLCHGWYN. I Ymadawiad y Parch J. R. Roberts.—Nos Lun, Awst 28ain, cyfarfyddodd Rhestr y Bobl Ieuainc i fwynhau swper ymadawol i Mr Roberts a'i deulu, wedi ei barotoi gan y chwiorydd ieuainc. Yr oedd y wledd yn rhagorol, a threuliwyd tair awr o amser difyr trwy ganu a chwareu. Diolchodd Mr Roberts i'r bobl ieuainc am eu caredig- rwydd ato ef a Mrs Roberts yn darparu gwledd mor rhagorol. Cafwyd gair gan rai o'r Rhestr i ddiolch i Mr a Mrs Roberts am y dyddordeb yr ceddynt wedi gymeryd yn y bobl ieuainc yn ystod eu tymor yn Bwlchgwyn, ae i ddymuno Duw yn rhwydd iddynt yn ei cylch newydd. Tymor digon helbulus fu ar y cyfan i Mrs Roberts, tra yma yr aeth trwy un o brofedigaethau mwyaf ei hoes, sef celli ei hannwyl dad. a hynny yn nyddiau geni Ceridwen, pan yr oedd yn amhosibl iddi allu gweinyddu'r gymwynas olaf iddo. ODd er yr hulbul i gyd bu yn ffyddlawa iawn hyd y gallai i foddion gras y cysegr. Nid wyf am ddweyd gair am Mr Roberts ar ol darllen y gan moliaeth ragorol sydd iddo yn y G.N. yr wythnos hon, ond dweyd ei fod yn gwir deilyngu'r oil. Bydded bendith Duw arnynt yn eu cylch newydd yw ein dymun- iad. GOH. I
-PWLLHELI.I
PWLLHELI. I Dyma air o'r Cymro ynghylch ym adawiad ein gweinidog, a'i briod:- Yr wythnos hon bydd y Parch E. Mos- tyn Jones yn ymadael i Gaergybi, a dis- gwylir y Parch Conway Pritchard, Dol gellau, i gymryd ei Ie, Mr Jones oedd cadeirydd Cyngor yr Eglwysi Rhyddion a Chymanfa Ddirwestol Lleyn ac Eifionydd, tra yr oedd Mrs Jones yn aelod o Fwrdd y Gwarcheidwaid, ac yn weithgar gyda llu o achosion. Dengys hyn y goiled fydd eu symudiad o'r dref." Adre'n ol.— Y mae amryw o frodyr eg- lwys Seion wedi dychwelyd yn ol i'w hen gynhefin i weithio i chwarel Craig yr Imbiil. Caffaeliad mawr i gerddoriaeth y cysegr yw dychweliad Mr T. J. Robeits,— disgwyliwn yn hyderus weled l'awer ychwaneg yn dod yn ol. Llongyfarchiad.—Dymunwn hir oes a dedwyddwch i Mr a Mrs George Edward Roberts, ar eu huniad mewn glan briodas yn Manceinion y dydd o'r blaen. Un o blant Seion oedd Miss Maggie Davies, Angorfa, South Beach (yn awr Mrs Rob erts), a mawr hyderwn na fydd raid iddi adael eglwys Seion. "Cweh yr Achos."—Bwriadwn anfon ychydig o hanes y Cwch hynod hwn yn ein nesaf.
PORTH.I1
PORTH. I 1 Mae gennyf i gofnodi dwy bribdas yn y lie uchod o fewn wythnos i'w gilydd. Y gyntaf Mr Samuel Whilding, Tyldrs- town, a Miss Mary Jones, Shiloh, Caersws, merch i Mr a Mrs Wm. Jones. Y mae teuluoedd y mab a'r ferch yn selog, gweithgar, a ffyddlon gyda'r Wesleaid yn y lleoedd uchod. Y mae dymuniadau goraf eu lluaws cyfeillion gyda hwy am fywyd hir a dedwydd. Yn ail, Mr David Thomas a Miss Matti Mumford, o'r Porth. Y mat Mrs Thomas wedi ei magu gyda'r Wealoaid, heb fod oddiwrthym erioed. Datth 117naws o gyf. eillion i'r capel, i fod yn dysticn o'r ym- rwymiad, ac i ewyllysio ya dda iddyat ar hyd eu gyrfa. Gweinyddwyd yn y ddwy briodas gan y Parch R. Entrys Jones, y gweinidog.
LLANDUDNO.
LLANDUDNO. Y Parch J. Ll. Hughes.-Mae'a. llawen gen- nym fod ein parchus weinidog wedi cael Jlwyr adferiad ar 01 ei waeledd a'i lesgedd, ac y mae yn awr wedi dechreu ar y gwaith sydd mor hoff ganddo, sef pregethu, bug- eilio ac ymweled a'r praidd. Y Parch D. Gwynfrvn Jones.—Yr oedd Mr Jones yn pregethu yn Seisneg y Sul diweddaf yng Nghapel y Presbyteriaid, a'r Parch S. F. Collier yng Nghapel y Wesle aid Seisnig. Gorlanwyd y naill addoldy a'r llall, ac yr oedd yr Efengyl yn cael ei thraddodi gyda grym ac arddeliad. Llwyddiannus.-Mae'n bleser gennym longyfarch un o fechgyn ieuainc Caersal- I em, sef John Wesley, mab Mr Thomas Williams, Jubillee Street, ac un o flaenor- iaid ffyddlon yr eglwys honno, ar ei lwydd- iant yn ennill ysgoloriaeth yn yr Ysgol Sir. I fyny bo'r nod." j Dieithriaid.—Mae y dref yn llawn iawn o ymwelwyr ar hyn o bryd, a barna llawer- oedd fod mis Awst eleni wedi bod yn un eithriadol lwyddiannus yn y cyfeiriad hwn. GOH.
0 BEN Y FOEL. I
0 BEN Y FOEL. I Nos Sul, Awst 27ain, cawsom yn Eben- i ezer ein breintio a gwasanaeth y Parch G. j O. Roberts (Morfin). Pigwyddai fod yn y dref ar ei wyliau, ac yn garedig addawodd i'n parchus weinidog gymeryd y pwlpud. Pregethai yn y boreu yng nghapel y Garth (M.C.), ac yno fel i ninnau rhoddodd bregeth rymus ac effeithiol. Yr un nos Sul, pregethau y Parch W. O. Evans, ynghapel y Garth, a chlywsom ganmoliaeth uchel i'r odfa. Mae Mr Evans yn ffafryn gydd phob enwad yn y dref, ali glodydd yn wybyddus i bawb. Nid dymar; tro cyntaf i'r cyfeillion yn y Garth ei i glywed yn eu pulpud trwy eu hunain. Cyn yr ymddengys y nodion hyn bydd y Parch E. Whittington Jones wedi gadael ein Cylchdaith, a'r Parch J. R. Roberts wedi dod atom. Bydd yn chwith gennym ar ol Mr Jones,—yr oedd yn un hawdd iawn i'w hoffi, ac yn gymeriad- prydferth. Gweithiodd dan gryn anfantais tra ar y Gylchdaith hon. Bu ei iechyd yn hynod fregus bron ar hyd y cyfnod. II t Tra yn ffarwelio ag ef, estynwn groeso I calon i Mr Roberts, gan obeithio pob j llwyddiant iddo. Mae yn y Gylchdaith eglwysi dymunol a phobl hydrin. j Estynwn ein llongyfarchiadau i Miss Phoebe C. Jones, B.A. (gynt o'r Penrhyn), ar ei phenodiad yn athrawes mewn ysgol bwysig yn Abeidare, De Cymru. Aed i ymlaen eto yw dymuniad pawb ohonom.
SALEM, LLANLLECHID. I
SALEM, LLANLLECHID. Drwg gennym feddwl am y brawd ieu- anc, Pte Owen Morgan, Mountain Road,, wedi colli ei fraich dde trwy gael ei glwyfo yn Ffrainc. Y mae yn yr Hospital yn Llundain ar hyn o bryd. Y mae cyfeillion lawer yn cydymdeimlo ag ef, ac yn hyderu I ei fod yn gwella'n foddhaol. UN 0 HOGIA'R PENTRE.
BETHEL, GLYNCEIRIOG. I
BETHEL, GLYNCEIRIOG. I Cynhaliwyd ein gwyl bregethu flynydd- 01 y Sul diweddaf. Cafwyd pregethau grymus ac amserol gan y Parchn T. Gab- riel Hughes, B.A., Caplan i'r Milwyr, Park Hall Camp, ac R. Vaughan Owen, Tre- geiriog.
I.LLANDDONA,f
LLANDDONA, f Y mae \g wedd siriolach ar bethau yma I nag a fu. Eglwys yw hon a adawyd yn rhy fynych i gymeryd ei siawns, gan y I tybid nad oedd aim o'i blaen ond difod-, iad, ond y mae tro wedi dod ar fyd. Yr I ym o dan ddyled fawr i'n parchus weinid- og, y Parch David Thomas, y mae efe a'r ¡ gweinidogion eraill sydd ar y gylchdaith wedi bod yn ffyddlon iawn yn cyrchu atom trwy bob hin ac ystorm, ac yn fynych yn pregethu eu goreu i ddim ond pedwar neu bump ac nid gorchwyl hawdd oead hynny; ac yn awr pan y maent ar fin ymadael wele wawr yn torri ar yr achos bach yn Llanddona. Y mae Mr David Jones a Mr Henry Roberts, Llangoed, wedi ymroi o'n plaid, ac yn ami yn lie dau neu dri o wrandawyr cawn o ddeugain i han- ner cant. Taled Duw i'r brodyr hyn. Hyderwn y caiff ein gweinidogion new- ydd hwyl a llawenydd wrth draethu'r gair yn Llanddona. Dilynned mwy o lwydd- iant fel y caffo yr Iesu bendigedig ei ogon- eddu fwy fwy yn yr eglwys hon. Dis- gwylir pethau mawr o'r eglwys yn y dyf- odol agos. Arhosed yspryd yr Arglwydd ar y lie yn wastadol. YMWEL YDD. I
FFYNNONGROEW.I
FFYNNONGROEW. I Nos Fercher, Awst 23ain, buom yn per- fformio y ddrama Helynt a heuLwen yn y Drill Hall, Mostyn. Yr elw i gynorth- wyo y milwyr yn Kinmel. Cawsom dywydd anffafriol, ac effeithiodd hynny ar y cynhulliad. Treuliasom noson ddifyr a phawb wedi eu boddhau. Cadeiriwyd gan y Parch Armon Ellis, Vicar, Ffynnon- groew, a llywyddwyd gan Mr David Wil- iams, Mostyn. I A. E. J. J
Advertising
Yr Epistol at y Pkilipiaid. ESBONIAD DIGURO. ESBONIAD diguro ar yr Epistol j at y Philipiaid gan y Parch. B. Humphreys, Felinfoel. Pris gostyngol, 1/ drwy'r post, 1/3. Y mae wedi ei rwymo mewn illian, ac y mae ynddo 146 o du- dalennau. Rhoddir saith am bris chwech. Anfoner yr achebion i'r Parch. EDWIN JONES, Barmouth. INDIVIDUAL COMMUNION CUPS. FOR LISTS OF Patent "Ideal" Outfits, AND Samples on Approval, Carriage Paid, write to the M&kers— Townshends, Ltd., Birmingham. Popular Central London Hotels Opposite the BRITISH MUSEUM. THACKERAY HOTEL Great Russell Street, London. Near the BRITISH MUSEUM K I N G S L E Y HOTEL Hart St., Bloomsbury Sq., London THESE Large and Well-appointed TEMPER- ANCE HOTELS have Passenger Lifts. Bath- rooms on every Floor, Lounges and spac- ious Dining, Drawing, Writing, Reading, Billiard and Smoking Rooms. Fireproof Floors. Perfect Sanitation, Telephones, Night Porters. Bedroom, Breakfast, Bath, and Attendance 6/6 per night per person. Full Tariff and Testimonials on application. TELEGRAl- HIG ADDRESSES Kingsiey Hotel: 11 Bookcraft, London." Thackeray Hotel: "Thackeray, London." Tel., K. Museum 1232. T. Museum 1230 ■ ■iiiniii IIBII— wiMfiiya—————can———— | COFIANT A PREGETHAU Y PARCH. EDWARD HUMPHREYS Gan y Parch. EDWARD DAVIES. Mewn Llian hardd, yn cynnwys dartuniau rhagorol o Mr. a Mrs. Humphreys. Pris 3/ Post Free. "The work is well done. In my opinion the best Chapter is No. XII.—" Y Dyn a'r Cristion," and that is a triumph for an estimate of a personality is always more difficult than a narrative of events."—Rev. H. MALDWYN HUGHES, D.D. "Amhosibl ei ddarllen yn ystyriol heb deimlo ysbrydiaeth i ddaioni, acawyrgylch ysbrydol a nefol yn cau amdanom.PEDROG. Mae c-irddull y llyfr yn ddengar a gorffenedig. Adlewyrcha glod ar y Gwrth- ddrych a'r Cofiannydd.Rev. T. Ysgrifenna r Awdur mewn modd rhugl ac effeithiol, ac y mae rhai rhannau o'i waith yn gain a bywiol odiaeth."—Rev. TECWYN EVANS, B.A. Telerau Arferol i'r Dosbarthwyr. Archebion i'w hanfon i'r Awdur— 53, BERKLEY STREET, LIVERPOOL. Arweinydd Cymanfaoedd, Belrniad ac Arholydd. Organydd "Rehoboth," Coedpoeth. Mr. TOM CARRINGTON ) (PEWCERDD GWYNFRYN), I (Cymrodor o Goleg y T.S.C., llundain). > COEDPOETH, I WREXHAM. t Cyhoeddwr "Seren Bethlehem" (Cynogfab "Concwest Calfari," S.F.,Ic. H.N. 3c. Anthemau'r Dydd Gymanfaoedd. Hugh Davies's COUGH MIXTURE. Y Feddyginiaeth Fawr Gymreig. PESC.. AT BESWCH-Cymerwch Davies's Cough Mixture.' < AT ANWYD-Cymerwch Davies's Cough Mixture."   ANADL-Cymerwch Davies's Cough Mixture AT GR YGNI-Cymerwch "Davies's Cough Mixture. Rhyddha y Phlegm, llacia'r Frest, clirio y llais. Anmhrisiadwy at y Pas ar Blant, Bronchitis, &c. Mewn potelau 1/11 2 2/9 4/6—gan bob Druggist. Perchenog-HUGH DAVIES, Chemist, Machynlleth. SYLWCH.-l. Y mae ei flas yn ddymunoi. 2. Y mae plant yn hoff ohonno 3 Y mae yn cynhesu y frest. 4. Gellir ei gael ymhob ardal. S. Y mae y prif bregeth- wyr a chantorion yn ei ddefnyddio. 6. Gall fynd allan fel arfer tra yn ei gymeryd "SARZINE" BLOOD MIXTURE. GROEN IACH A GW AED PUR.-Dyna yr hyn y mae Sarzine Blood Mixture yn ei sicrhau, a dim arall. Nid yw yn honi gwella pob peth, fel yr Yankee Patent Medicines; ond os blinir chwi gan groen afiach, ysfa, pimples, toriad allan, scurfy doluriau, penddynod, &c., yn tarddu o waed drwg ac amhur, mynwch botelaid.,o Sarzme Blood Mixture," gan y Druggist nesaf atoch, 1/lf a 2/6 y botel, neu gyda at y cludiad yn ychwanegol, oddiwrth y Perchenog, HUGH DAVIES, Chemist, Machynlleth. M MOLRAT" AT LADD TYRCHOD. Ysgrifenna John Pryse, Maesymeirch Blinid ni acw gan Dyrchod; cynyddent bob blwyddyn, fel yr oedd y tr a golwg difnfol arno, ac yr oedd arnaf gywilyt?o hono, ond clywais fod Mr Hugh Davies, Chemist, Machynlleth, wedi dyfeisio petS?w lladd yn ddidrafferth iawn.~Ei enw ydyw Molrat," mewn packets 1/6 yr un. P?oSa backet, a rhoddais ef yn ol y cyfarwyddyd am ben pryfaid genwair, a rhoddais vr?ai hynny ya Ilwybr y Twrch. Ni chododd y twrch mwy."
NODION 0 DDOLGELLAU.
(Parhad f) tudalm 6). I ehwaer yn hapusyn ein plith fel eglwys, gan eu bod yn dod drosodd oddiwrth en- wadau eraill Am y brodyr mae pawb yn gwybod am danynt fel gweithwyr a ffydd- loniaid Ebenezer. Swn Symud.—Dyma glywir y dyddiau hyn ymysg llawer o'n gweinidogion, ac yr ydym ninnau fel eglwys a chylchdaith yn gorfod ffarwelio a'n parchus weinidog-y Parch R. Conwy Pritchard, ar ol dwy fiyn. edd o wasanaeth ymroddgar a gwerth- fawr. Y mae syuiad uchel yma, gan bob enwad, am dano fel pregethwr galluog iawn, a chawsom ninnau ddwy flynedd o weinidogaeth ardderchog iawn, a dymun- wn fel eglwys iddo ef a'r teulu bob llwydd- iant a hapusrvydd yn Pwllheli. A thra yn ffarwelio gyda Mr Pritchard, yr ydym fel eglwys gyda breichiau agored yn rhoddi croesaw cynnes i'n hen weinidog a'r teulu yn ol i'r gylchdaith hon, sef y Parch David Thomas. Mae iddo le cynnes yn yr eglwys a'r gylchdaith; bu yn hynod o lwyddiannus a gweithgar pan fu yma o'r blaen am dair blynedd. Gwel Mr Thomas gyfnewidiad mawr yn yr eglwys ar ol deu ddeg mlynedd, llawer un oedd yn ffyddlon a gweithgar yr adeg honno wedi cilio i'r til draw i'r lien, a llawer iawn o'n dynion ieuainc wedi gorfod ymuno a'r fyddin er y cwbl mae gan y rhai sydd yn arcs atgof- ion melus am Mr Thomas a'r teulu, a'i weithgarwch a'i weinidogaeth gref. CYMRO, Da gan liaws cyfeillioia Mr R. J. Mered ith, o ffirm Mri David Meredith a'i Feibion, Dolgellau, fydd deall ei fod wedi ei benodi gan y War Office yn Authorized Wool Merchant and Valuer dros rannau helaeth Sir Feirionydd. Deallwn mai Mr R. J. Meredith sydd yn plynu gwlan ynglyn a'r ffirm uchod ers rhai blynyddoedd bellach, trosglwyddodd Mr David Meredith y gwaith i fyny iddo ef, a thrwy hynny cym- hwyswyd ef ar gyfer ei waith newydd. Da y gwyr pawb sydd yn ei adnabod y gwna I ei waith i fodlonrwydd hollol.