Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

BRUNSWICK, RHYL.I

News
Cite
Share

BRUNSWICK, RHYL. I Ordeiniad y Parch Abi Williams, B.A. -Mae gwasanaetk ordeiniad yn ddieithr i lawer, efallai i'r mwyafrif o'n pobl. Nid ydym ya gwybod i'r wasanaeth ddyddorol hon gael ei gweinyddu yn ein tref ni, ond ar un achlysur o'r blaen, yn ol trefn ein henwad ni, er's dros hanner can- rif, a hynny pan ordeiniwtyd Mr Walker, athraw Epworth College, cyn iddo fyned i'r gwaith cenhadol tramor. Hawdd credu felly fod cryn ddyddordeb yn cael ei gym- eryd yn yr amgylchiad hon. Rhoddodd yr holl Enwadau Ymneilltu- ol Cymreig yn y dref eu cyfarfod gweddi nos Lun o'r neilltu, er mwyn rhoddi cyf- leustra i'r neb a fynnai fod yn bresennol, a daeth cynhulleidfa o 350 i 400 ynghyd. Y mae y Parch Abi Williams wedi bod yn gwasanaethu fel Caplan Wesleaidd yng Ngwersyll Kinmel, gyda mesur o lwyddiant, er's cryn amser, ac yn symud i rywle yn Ffrainc, i wneud yr un gwaith ar faes y rhyfel. Y mae y Parch Abi Wil- liams wedi ei gyfaddasu mewn modd neilltuol i'r gwaith hwn. Llwyddodd i fyned i mewn yn ddwfn, ac i feddu lie mawr yn serchiadau y bechgyn tra bu yn Kinmel, gan wneud llawer iawn o ies iddynt. Ynghofal y Parch John Felix, Llywydd y Gymanfa, yr oedd y cyfarfod yn hollol. Yr oedd y Parch Thomas Hughes, Cadeir- ydd Talaith No. 2, Gogledd Cymru, yn bresennol, ynghyd a'r Parch R. Lloyd Jones, Cadeirydd Talaith No. 1 (hyd yn hyn), a'r Parch Hugh Evans, Rhyl, Ysgrifennydd Etholedig Talaeth No. 1, a'r Parch Robert Hughes, Rhyl-oll yn y set fawr. Cymerodd y Parch John Felix yr holl wasanaeth yn gwbl yn ei law ei hun, oddieithr y rhan gymerodd y Parch Rhys Jones, Llangollen, i weddio i ddechreu y gwasanaetlf gydag eneiniad neilltuol. Y mae trefn y wasanaeth wedi ei argraffu yn llyfryn bychan, yn cynnwys tua phymtheg tudalen. Y mae y ffurf wasanaeth yn cymerad- wyo ei hun i bob dyn diragfarn. Clywsom wr parchedig o enwad arall yn y dref yn dweyd ei bod yn tra rhagori ar unrhyw un y gwyddai ef am dani. Deall- wn fod rhai Ymneilltuwyr yn methu gweled dim yn yr arddodiad dwylaw. Rhydd i bawb ei farn, ac i bob barn ei llafar. Ein hunain ni allwn ganfod dim i beri tramgwydd yn y ddefod hon, na dim llawer ynddi a barai golled pe diddymid hi chwaith. Yn ddiddadl, mae y wasanaeth drwyddi oil yn dwyn cyfrifoldeb aruthr gweinidog yr Efengyl i orffwys yn drwm iawn ar bob meddwl heblaw yr ordeiniedig. Yr oedd y Siars yn ganmoladwy ar bob cyfrif. Y Parch John Felix oedd yn ei chyflwyno. Yr oedd yn seiliedig ar Esaiah 6ed bennod, a'r wythfed adnod,Clywais hefyd lef yr Arglwydd yn dywedyd, Pwy a arifonaf ? a phwy a a drosom ni ? Yna y dywedais, wele fi, anfon fi." Esaiah ieu- anc yn gweled ac yn sylweddoli Duw yn y weledigaeth. 0 weled a sylweddoli Duw, yn gweled ac yn sylweddoli ei lyg- redd ei hun. 0 weled Duw, a gweled moddion ei lanhad i'w gymhwyso i'w j waith fel proffwyd y Duw Goruchaf. Yr oedd y siars neu y bregeth yn hynod gyf- addas i'r amgylchiad. Hir gofir yr ychydig eiliad a dreuliwyd mewn gweddi ddistaw, yr oedd dwyster yn nodweddu y gynulleidfa. Bydded amddiffyn Duw dros ein han- nwyl frawd sydd yn gwynebu ar brofiad nad yw yn dyfod i ran ond nifer fechan. Deallwn ei fod yn cychwyn am Ffrainc ddydd Mawrth. Bydded gweddi yr eglwys drosto, ac unrhyw air o'i hanes yn cael ei werthfawrogi gan ei luaws cyfeillion. J. J.

GWERSYLL KINMEL. I

LLANFYLLIN. --I

LLANGOLLEN. -I

BRIWSION O'R BRIFDDINAS. I

ABERDAR. I

' .DINBYCa. II

CROESOSWALLT.

CYLCHDAITH LLANRWST.

WEASTE.

GWYDDELWERN.-1.

NODION 0 DDOLGELLAU.