Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
11 articles on this Page
.ABERDYFI. I
ABERDYFI. I Y madawiaà y Parch J. E. Thomas a'r teulu.—Chwith iawn gennym feddwl y cynhelir heno (nos Fercher, Awst 30), Seiat ymadawol i'r teulu parehus- a chariadus yma, a chredaf nad ymadaw- odd teulu erioed a theimlad mor gariad- tr i acl. us tuag atynt oddiyma ac yn ddymun- ol iawn mae Mr Thomas yn cael y fraint o dderbyn nifer o fechgyn a merched ieu- ainc yn gyliawn aelodau o'r eglwys heno. I GOH. I
PENISAR-WAEN, LLANRUG. I
PENISAR-WAEN, LLANRUG. I Ymadawiad y Parch W. J. Roberts. Y maetymor Mr Roberts ar ben. Bu yn hynod wasanaethgar ymhob eylch ar hyd y tymhor. Cynrychiolodd Hermon yn effeithiol ar Bwyllgor a gwaitlr Eglwysi Rhyddion y lie- Nid wyf yn gwybod 'am yr un gweinidog a fu yn fwy gofalus fel bugail na Mr ,ethNvr bu yn w-ir Roberts, ac fel pregethwr bu yn wir dderbyniol. Qlywais lu yn datgan ar hyd y gylchdaith iddynt gael bendith lawer o dan ei weinidogaeth felus. Teimlir chwithdod ar ei ol yn yr ardal- oedd hyn, gan ei fod yn un o'r cymer- iadau mwyaf hoffus a chymeradwy fu yn gweinidogaethu yn ein mysg. Nod- weddir ef gan unplygrwydd a chywir- deb, ac yn barod i wneud yr hyn sydd yn ei allu i gynorthwyo pawb yn yr hyn sydd dda. Hyderwn nad yw y gwa- hanu ond am dro. EDMYGWR. I
.BEAUMARIS. 'I
BEAUMARIS. I Nos Sul, Awst 28, cynhaliwyd Seiat Undebol ar ymadawiad y Parch David Thomas o'r Gylchdaith. Siaradwyd gan gvnryet-liolwyr y gwahanol enwadau. Yr oedd Mr Thomas wedi bod yn gad- eirydd yr Eglwysi Rhyddion am y flwyddyn ddiweddaf, a chanmolid ei sel a'i ymroddiad. Yr ydym ninnau, y Wesleaid, yn gwerthfawrogi gwasanaeth Mr Thomas am y tair blynedd. Y mae yma gannoodd o filwyr wedi bod mewn Training yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf, a llawer o'r bechgyn yn Wesleaid Seisnig, ac felly yr oedd yn angenrbeidiol cael gwasanaeth Seis nig, a bu ein gweinidogion yn cyflawni y wasanaeth werthfawr, a'r bechgyn sydd wedi myned allan i Ffrainc yn danfon, ac yn cydnabod y lies oeddynt wedi ei fwynhau yn ystod ei harosiad yn ein plitbu Y mae yr eglwys hon yn teimlo yn chwith wrth feddwl colli Mr Thomas a'r teulu o'n plitb, ac yn dym uno Duw yn rhwydd iddynt yn ei gylchdaith newydd, os yn newydd hefyd, gan ei fod wedi teithio y cylchdaith am dair blynedd ychydig amser yn 01. J. D. I
LLANGEFNI. J
LLANGEFNI. J Nos Sul yr oeddym fel eglwys yn ffarwelio a'r Parch J. Maelcr Hughes a'i briod hoff-Mrs Hughes. Aeth y tair blynedd heibio fel gwynt, nid yw ond megis doe er pan ddaethant yma, ond yn ystod y tymor, aethant yn ddwfn i serchiadau yr eglwys a'r dref. Bu'n fawr ei ymroddiad gyda phop achos da, a gwerthfawrogid ei wasan aeth-yn fawr gyda phob dim bob amser. Nid oes raid i Mr Hughes wrth gsnmol- iaeth fel pregethwr cryf a sylweddol. Y mae hynny yn hysbys, ond gallwn dystio am dano hefyd fel dyn a chyfaill caredig yn meddu llawn cydymdeimlad. Mae Mrs Hughes, hithau wedi bod o wasanaeth neilltuol o werthfawr yn yr Ysgol Sul fel athrawes y plant, ac anodd fydd llenwi'r bwlch ar ei hoi. < GOH.
LLAWRYGLYN, LLANIDLOES. I:
LLAWRYGLYN, LLANIDLOES. I: Ymadawiad y Parch H. P. Atkins.— Traddododd em parchus weinidog ei bregeth ymadawol i gynulleidfa dda iawn, Awst 27ain. Y mae ein heglwys yn gwerthfawrogi gwasanaeth Mr Atkins ar derfyn y pedair blynedd y bu yn ein plith. Bu ei arhosiad yma yn dymor dedwydd ar lawer cyfrif. Llafuriodd yn egnipl a llwyddianmis. V mae ya ddnvg gennym ei golli. Prr.-< bob amser yn feddylgar a new yn ffyddion i lioil g c' ni bu Ileb yn ff:ddlonach. Siaraùwyd geiriau pwrpasol gan nifer o'r brodyr ar ddiwedd yr odfa, a'r oil yn datgan eu gofid o'i ymadawiad. Y mae eglwys Llawryglyn yn fwy llewyrchus heddyw na bu ers llawer dydd. Derbyniodd Mr Atkins nifer o aelodau newydd yn ystod ei weininog aeth yma. Y mae chwithdod eyffredin ol ar ei 01.. Nid aeth neb oddiwrthym a oiwy o galonau yn euro yn gynnes tuag ato na Mr Atkins. D.H.
TREFEGLWYS.I
TREFEGLWYS. I Dydd Sul, Awst 27ain, pregethodd y Parch H. P. Atkins ef bregeth ymad- awol i gynhulliad lliosog ar ol pedair blynedd o wasanaeth ymroddol. Ar y terfyn siaradodd amryw o'r brodyr, ac yr oeddynt yn rhoddi teimlad cyffredinol yr eglwys wrth ddweyd fod Mr Atkins wedi fcwasanaethu yr eglwys a'r cylch yn hynod o ffyddlon, yn y cyfarfodydd wythnosol ar hyd y tymor; hefyd mae yn bregethwr cymeradwy a sylweddol yn y ddwy iaith. Mae Mrs Atkins, ei briod, yn wraig ddoeth, yn ffyddlon ymhob gwasanaeth, ac yn gymeradwy iawn yn yr eglwys. Dymunwn iddo ef a'r teulu bob llwydd- iant a hapusrwydd yn eu cylchdaith newydd. UN O'R BLAENORIAID. I
TREORCI. I
TREORCI. I Nos Lun, Awst 28, cynhaliwyd cyf- arfod ymadawol y Parch Evan Isaac. Anrhegwyd ef a Solid Oak Writing Desk hardd gan yr eglwys, er dangos ein gwarthfawrogiad o'i lafur yn ystod y tair blynedd y bu yn llafurio yn ein plith. Teimlo yn chwith yr ym wrth feddwl ei fod yn ymadael. Yr oedd Mr Isaac wedi gwneud llawer iawn o gyf- eillion y tu allan i gylch ein henwad ni, a phan y mae dyn yn medru codi uwch law cylch enwadol, bydded hwnnw mor llydan ac y bo, mae yn brawf o ddynol- iaeth gref. Llywydd y cyfarfod oedd Mr John R. Jones. Yr oedd tri o flaenoriaid yr oglwys wedi eu penodi i siarad, sef David Morgan, John Morgan, a Moses Jones, a thystiolaeth unfryd y brodyr hyn oedd, fod Mr Isaac yn gymeriad disglair fel dyn, Cristion, a boneddwr, ac yn sefyll yn rheng flaenaf yr enwad fel pregethwr coeth. Yn ystod y tair blynedd bu yn hynod ffyddlawn i gyfarfodydd yr wyth nos, ac i'r rhai oedd yn mynychu y cyf- arfodydd hyn, yr oedd yn wledd o'r mwyaf iddynt, yn enwedig yn y gyfeill- ach yr oedd ei anerchiad bob amser yn adeiladol. Siaradwyd gan dri o frodyr o enwad arall oedd wedi dyfod i'r cyfar- fod i ddangos eu hedmygedd o Mr Isaac, sef Milwyn" (un o feirdd enwocaf y Cwm), Mr J. Samuel, M.E., a'r Cyng- horwr W. P. Thomas, U.H., a barn unfryd y brodyr hyn oedd, mae colled o'r mwyaf i'r gymdogaeth oedd colli Mr Isaac. Cafwyd solo gan Mrs /Lewis Edwards a D. W. Beynon. I ddiweddu canwyd Hen Wlad fy Nhadau." EDMYGYDD. i
PWLLHELI.
PWLLHELI. Y ng:ngbapel Seion, nos Lun, cynhal- iwyd cyfarfod ymadawol, yr hwn oedd o dan nawdd Cyngor Eglwysi Rhyddion y dref, i'r Parch E. Mostyn Jones, ar ei waith yn symud o'r dref i'w faes new- ydd i Gaergybi. Llywyddwyd y cyfar- fod gan y Cyngborydd Richard Albsrt Jones, Liverpool House, is-lywydd y Cyngor. D9chreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr W. Eifl Jones, a chym- erwyd rhan ymhellach gan y Parchn J. Puleston Jones, M.A., David Thomas, Cardiff Road, a'r Mri Richard Roberts, New Row, J. G. Jones, Salem Terrace, R. M. Williams, Cricieth, ynghyd a Maer y dref. Darllenwyd llythyr oddi- wrth y Parch John Rnydderch yn gofid- II io n L, s gallai fod yn bresennol. Yr oedd pawb o'r siaradwyr yn dwyn tystiolaeth I uehel i weithgarwcli a defnyddioldeb Mr Jones tra y bu yn aroS yn,ein tref. Cyf- arfod ffarwel ydoedd, olld ffarwel ag un oedd wedi m'ynefl. yn dchvlnihwn i. beirli a theimlad y dref, a gwe!1.d od-$iwvrti y cymtHiad uirithfcol dc t »' va,,iyd. | ysghyd. Jones am' y gsh:v;: • 1 'iXifvfiau du, 3. dr I 1 11 .TO, a iiiawr G'1: y cai flwyddi lawer eto i weithio allan rinweddau mwy ei fywyd yn ngwaith ei Feistr a garai mor fawr. Pe bawn, meddai, yn myned yn million are" yfory, ni pheidi wn a phregethu Groes Crist i ddynion-dyma unig nod fy my wyd ar y ddaear. Deallwn fod Cymdeithas y Groes Goch yn cynnal cyfarfod ffarwel (nos Fawrtii) i Mrs Jones am ei gweithg&r- weh eithnadol ynglyn a'r Gymdeithas fenditliiol hon, ynghyd a'i hunanaberth mawr ynglyn a phob cangen o waith perthynol i'r merched. Diweddwyd y cyfarfod trwy weddi gan Mr John Jones, Cardiff Road. GWALIA. I
.■ ' TIPYN 0 BOPETH. i
■ TIPYN 0 BOPETH. i Mae Dr. T. Wittbn Davies, Bangor, wecli ei benodi gan Brifysgol Rhydych- en yn un o'i arholwyr mewn Arabaeg. Yng nghyfarfodydd Undeb Bedydd- wyr Oymru, ym Mhont y Cymmer, cafwyd trafodaeth ar, yr ymgynghoriad a fu rhwng cynrychiolwyr yr Eglwysi Rhyddion Cymreig yn yr Amwythig ar undeb yr enwadau. Dywedodd y Parch D. Powell, Lerpwl, mai'r Methodistiaid oedd yr enwad mwyaf enwadol yng Nghymru, ac nid oedd yn credu y byddai iddynt byth ymuno yn y cyn- llun. Credai y byddai i'r Bedyddwyr lynnu wrth eu hegwyddorion. Etyb gohebydd y "Cyfundeb a'i bethau," yn y Goleuad," fel hynl" Aeth y brawd, y Parch D. Powell, Lerpwl, allan o'i ffordd i gyhuddo ein Cyfundeb ni o sectyddiaeth, wrth geisio cyfiawnhau y' Bedyddwyr yn wyneb y cyhuddiad sydd yn llafar gwlad yn y Deheudir, mai y Bedydd- wyr yw yr enwad mwyaf sectyddol yng Nghymru. Dywedodd mai ymladd dros egwyddorion yr oedd y Bedydd- wyr, tra mai y Corff oedd fwyaf Sect- yddol. Trueni nas gaUai ddweyd hyny yn rbywle heblaw y Deheudir, oher- wydd y mae ymddygiad eglwysi Bed- yddiedig y Deheudir yn dweyd mai hwynthwy bia'r goron am sectyddiaeth, a 'does neb am warafun iddynt ei chadw." Gall y blawd fod yn 60s neu 70s y sach, neu yn uwch o 10 i 25 y cant na'r prisiau uchel presennol, meddai pen- naeth ffirm fawr o fasnachwyr yd a melinwyr, yr hwn sydd wedi cael blyn- yddoedd lawer o brofiad yn y cyfeiriad ac wedi gwylio'r datblygiadau'n fanwl yn ddiweddar. Ar hyn o bryd yr ydym yn dibynu ar Ogledd America am y rhan fwyaf o'n cyflenwad gwenith, ac os y rheolir y prisiau yno nid allwn wneud dim i atal hynny.4 Pe buasai Rwsia yn gadael i ni gael ei gwenith o'r porthladdoedd sydd >yn y Mor Du, buasem yn cael gostyng- iad yn y prisiau. Y mae gan Rwsia grop newydd i'w ychwanegu at y cyflen- wad sydd ganddi eisoes yn y porthladd- oedd hyn. Gobeithir y gellir dod a'r cyflenwadau hyn oddiyno'n fuan. Yn ol barn Dr. Witton Davies, mewn llythyr o'i eiddo a gyhoeddwyd yn Y Cambrian News yr achos fod yr adran Semitaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn-fethiantydoedd mai athro German- aidd oedd ei phennaeth, a bod y Ger- manaeg yn myned a'i amser a'i sylw. Paham na buasai y Dr. yn traethu hyn o'r blaen. Y mae yn hawdd cablu popeth Germanaidd yn awr. Cyhoeddir yn y Berliner Tageblatt'' nifer o adroddiadau ynghylch y crop mewn gwahanol rannau o Germani. Dywedir fed y rhagolygon yn rhagorol, yn arbennig yr yd, y gwair, a'r mwyaf rif o'r defnyddion bwyd arferol tra y disgwylir i'r bwyd fod yn well na'r llynedd.' Nid yw y pytatws ages mor f.afriol. 1 ¡ Sihrydrr fod y pyllau cyn llawned o i I alood(i n y Do, 1 'I jiion mown rhai ardaloedd yn y De, fel y gorfyddir i weithwyr gerdd- > lyvll i bvvll yn ofer i chwilio am
CONGL YR AWEN.
CONGL YR AWEN.  _I BWRW DY FRATCR AR YR AR- GLWYDD, AC FE A'TH GYNNAL DI. (Testun Pregeth y Parch T. Oliver, Lampeter. 0 bwrw dy fraich ar yr Arglwydd, Ac yna Fe a th gynnal di Nid bwrw pall ddel yr ystormydd, Na chwaith pan yng ngrym y ui'. 0 bwrw dy fraich ar yr Arglwydd Cyn delo cysgodau yr hwyr, Llawenydd i ti fydd yn ebrwydd, Nth bechod a ymaith yn llwyr. 0 bwrw dy fraich ar yr Arglwydd, Gwna frysio mae'r dydd yn hwyrø hau, Can's rhaid i ti fyw yn dragywydd Mewn bywyd o wynfyd neu wae. o bwrw dy faich ar yr Arglwydd Mae'n foddlon dy dderbyn yn awr, A derbyn mewn mor o lawenydd 0 blith pechaduriaid y llawr. o bwrw dy faich ar yr Arglwydd, I'r engyl gael cydlawenhau, Wrth weled pechadur yn ebrwydd O'i rwymau yn cael ei ryddhau. 0 bwrw dy faich ar yr Arglwydd Os am fynd i'r nefoedd i fyw, Ac aros i fyw yn dragywydd, 'Mhlith seintiau, angylion, a Duw. Bethel, Llandyssul. GWYNANT. PENILLION COFFA I T. Idwal Evans, Glynceiriog, a gwmpodd wrth frwydro dros ei wlad. Fe glywodd floedd gyntaf yr alwad Yn adsain ynghreigiau y Glyn, Ymunodd ym myddin ei fam-wlad A'i galon yn ddewr a di-gryn Bu fisoedd dan galed ddisgybliaeth, A thyfodd yn fedrus a chryf, A'i awydd yn f.yw am wasanaeth, Aeth allan yn 11awen a hyf. Fe laniodd ar draeth Gallipoli, Yn anterth y taro mawr, Tra'r llwybr a'r llong wedi'i cochi, Gan waed ei gymrodyr 'nawr Ni welwyd erchyllach cyflafan, Nag angeu fwy prysur ychwalth, Ond Idwal oddiyma a ddaeth allan Heb anaf nac arlliw craith Symudodd i Mesopotamia, Cymerodd ei ran yn y driu. Os distaw yw'r hanes fan yma Dioddefodd galedi blin. Bu'n arwr diofn, dewr galon, Nid llwfr yw ei galon lan, Nid ofnus ar Iwybrau peryglon, 0 flaen y magnelau tan. Fe gadwodd ei fidog yn loew, Ag fe gadwodd ei galon yn lan, A dysgodd i sefyll hyd farw Ynghanol cawodydd o dan, Ca'dd feddrod ar lanerch y brwydro, A heddwch ymhoethder y gad, Bu farw yn filwr di-ildio, Yn aberth dros iawnder ei wlad. 0 huned gwronfab Glyn Ceiriog Yn esmwyth er garwed ei fedd, A thwrf y magnelau trystiog Bellach ni tharfant mo'i hedd; Fe gofir ei rodiad glan, prydferth, Ar Iwybr cymeriad mor wyn, Ac aros yn hir wnaiff ei aberth Ym mro mwyn.ei febyd 'rol hyn. Pandy. TOM ROBERTS.
[No title]
Y mae priod Mr Towyn Jones, A.S., wedi gorfod myn'd i sanatorium yn St. Leonards. Nid yw yn dda ei hiechyd er ys tro. Y mae Oyngor Mwnwyr Swydd Leic- ester wedi pasio penderfyniad i wrth- wynebu gv/neud unrbyw gyfnewidiad yn y deddfau trwyddedol yn ystod y rhyfel. Y mae yr awdardodau yn Itali wedi diieu 1,800 o drwyddedau yn gychwyn- iad cadyriigyrch' yn erbyn' alcohol. Aed t y tan sauctaidd rhagddo yn y wlad- honno.