Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

- ABERDYFI.I

News
Cite
Share

ABERDYFI. I Pregethu Seisneg.—I gyfarfod ag angen yr ymwelwyr at y Sul y mae'r Wesleaid wedi cynnal gwasanaeth Seis- neg y bore y ddau Sul cyntaf o'r mis, ac ar y 6ed o Awst cafwyd gwasanaeth y Parch J. Felix (Llywydd y Gymanfa Wesleaidd); a'r 13eg, ei fab, sef y Parch J. Wesley Felix (Llundain yn awr). Nid oes angen dweyd fod i'r ddeuddyn hyn groesaw calon yn Aberdyfi. Y mae y cysylltiad agos sydd cydrhyngddynt a'r lie yn un o'r rhesymau dros hynny; ond yn ychwanegol at hynny, mae eu safle yn y cylch pregethwrol yn peru eu bod bob amser yn dderbyniol iawn yma Cafwyd dau Sul hapus a dymunoliawn. Canmol mawr sydd arnynt. Y Parch Mark Guy Pear,e.-Buom yn ffodus eleni eto i sicrhau y gwr en- wog hwn, a llawen yw gweld y tyrfaoedd sydd yn cyrchu i wrandaw arno, a'r dystiolaeth gyffredinol yw ei fod mor swynol ag erioed. Cafwyd yn ystod y ddau Sul a basiodd bedair pregeth odidog ganddo, ac mae'yn garedig iawn wedi addaw ein gwasanaethu y Sul olaf ym Medi. Dariith.—Nos Lun, Awst 28ain, caf- wyd darlith gan y Parch Mark Guy Pearse ar What's the matter with most of' us." Cafodd amser rhagotol wrth draethu, ac aeth pawb allan wedi eu boddhau. Y mae ei wasanaeth yn gyn- orthwy mawr i'r achos yn y lie, yn dymhorol ac ysbrydol. Personol.—Dymunwn longyfarch y brawd parchus, Mr Hugh Lewis, ar- weinydd y gan, ar ei waith yn llwyddo gyda'i gor plant i ennill y wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Aberyst- wyth eleni. Cafodd y cor dderbyniad croesawus yn ol y noson honno, ac wedi ffurfio yn orymdaith o'r orsaf nes dod i'r Chapel Square, rhoisant ddatganiad o rai o'r tonau i lu o wrandawyr brwd- frydig a phan ddychwelodd eu har- weinydd gyda threndi eddarach cafodd yntau dderbyniad yr un mor groesawgar a Brwdfrydig, a theimlai'r dre'f fel un corff vn falch iawn o honynt. GOH. I

.GYFFIN, CONWY. Î

NODION 0 FANGOR. I

LLANDUDNO--I

LLOFFION DIRWESTOL. I

Advertising