Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
3 articles on this Page
Advertising
At ein Gohebwyr. CYFEIRIER POB GOHEBIAETH- Y Golygydd, Ii Owyliedydd Newydd," Y (leiii, Co ed-y-Flint, Flint, Gogledd Cymru. BWRDD Y GOL. AWYDPUS AM HELPu.-Diolch i chwi: bydd post card neu ddau gydag unrhyw newydd cyffredinol felly yn gymorth mawr. Pe bae ryw ddeugain yn dilyn eich esiampl gallem gael colofnau didd- orol.ynglyn a Llafur, Dirwest, Llenydd- iaeth, Crefydd, &c. Y mae eich delfryd o bapur newydd yn gampus, ond anodd yw i un llaw wneud y cwbl. AT EIN GOHEBWYR.—Gofynnwn yn garedig i'n cyfeillion grynhoi eu sylwadau gym- aint fyth ag a ellir, gan od ein gofod, oherwydd drudaniaeth y papur, mor fychan byrraf oil a mwyaf crisp yw yr adroddiad, tebycaf oil yw o gael ei ddar- llen. Hefyd, anfoned pob gohebiaeth yma i Fflint, ac nid i Blaenau Ffestiniog: nid yw danfon i blaenau Ffestiniog ond yn peri anhwylusdod. LEF."—Ie, ond taw pia hi boys. Nid oedd Shon Ifan, Tyn'ycoed," chwedl Mynyddog, yn alluog, ua dysgedig, na diwylliedig, ond yr oedd yn gall gyn- ddeiriog." RHY HWYR Y TRO YMA.—Llanddona, Llan- rwst, Tregele. Rhaid cael y newyddion i law erbyn bore lau bob wythnos. ALLAN O DDIFFYG GOFOD Y Parch John Jones, Steuben, America Gwersyll Kin- mel Brunswick, Rhyl Briwsion o'r Brifddinas; Croesoswallt Dinbych Llangollen Aberdar Nodion o Ddol- gellau Llanfyllin Porth Senghen- j ydd Abercynon.
. Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd.I
Y Rhyfel o Ddydd i Ddydd. I Dydd Llun, Awst 21. Daw newyddion o nifer o gyfeir- iadau yn hysbysu am brysurdeb mawr yn Mor y Gogledd Dywed- ir fod Llynges y Germaniaid wedi dod allan, ond wedi deall drwy eu eu Scouts fod Llynges Prydain mewn grym yn agos, llithrasant yn ol gan osgoi brwydr Dywed rhai o'r lIongau oeddynt yn pysgota yn y mor hwnnw fod yno ddwy Zep- pellin ac o bedwar a'r ddeg i un ar bymtheg o ryfel-longau. Yn y gair gyhoeddwyd o'r Morlys ganol ddydd Llun. Dywedir fod ein llongau ni y Sadwrn wedi deall am ymgyrch y Germaniaid, wedi troi allan i chwilio am danynt, a thra yn gwneud hynny ymosodwyd arnynt gan longau tanforawl. Suddwyd dwy o'n llongau-Light Cruisers-sef y Nottingham (Capt. C. B. Miller), a'r Falmouth (Capt. John O. Edwards), a chollwvd 38 Q ddwylo y gyntaf enwyd. Dyw- edir fod un o longau tanforawl y Germaniaid wedi ei suddo, ac un arall wedi ei phwyo, ac o -bosibi wedi ei sudclo. Honna y German- iaid iqdynt fedru suddo Hong fwy— dectroyer, a niweidio rhyfel-long fawr, battleship, ond gwedir hyn o'r Morlys. Daeth y gair yn ystod y Sadwrn fod y Prydeiniaid yn Ffrainc wedi gwneud ymosodiad mawr arall yn rhanbarth y Somme, ar linell o un milltir ar ddeg. Bu yn llwyddiant foddhaol. Prydnawn Sadwrn hysbysodd Sir Douglas Haig fod y tir enillwyd o'r High Wood i'r lie y cyrhaedda ein milwyr ni linell y Ffrancod wedi cael ei ddal yng ngwyneb gwrthymosod- iadau y gelynion, fel nad oedd ond ychydig iawn wedi ei golli gennym. Ymestynai ein cynnydd yn y rhan hon ar ffrynt o dros ddwy filltir, ac i bellder yn amrywio o 200 i 600 o latheni. O'r High Wood i'r Albert Ba- panne Road ennillasom gannoedd o lathenni o warchgloddiau, yn agos i Monquet Farm ennillasom dri chant gwthiasom ymlaen ar ffrynt o hanner milltir. Yr oedd y carcharorion a gymerwyd erbyn nawn Sadwrn yn 16 o swyddogion 780 o raddau eraill. Yn ol yr ad- roddiadau y Sul, nid oedd y gelyn- ion hyd yn hyn wedi gwneud un ymdrech egniol i adfeddiannu y tir a gollodd ddydd Gwener. Cafodd y Ffrancod adeg lwydd- iannus iawn hefyd ddiwedd yr wythnos. Collasant ran fechan o wrthglawdd yn agos 1 Maurepas, drwy wrthymosodiad o eiddo y gelyn, ondad-feddianasant drach- efn. Yn Verdun cymerwyd oddi ar y Germaniaid y gweddill o Fleury oedd yn aros yn eu dwylo, a daliwyd i'w gadw er nifer o ym- drechion i'w ennill yn ol. Deil y Rwsiaid i wthio ymlaen i gyfeiriad Kovel. Disgrifir yr ymladd am bentref Toboly fel un caled iawn. Newidiodd ddwylo nifer o weithiau, ond yn y diwedd arhosodd yn nwylaw y Rwsiald. Gwnaeth y meirch fi1 wyr-y Cossacks ymosodiad ar y Ilea lladd- wyd 200 o'r Awstriaid. Yn y gym- dogaeth hon cymerwyd chwech o swyddogion a 600 o filwyr eraill yn garcharorion. Cafwyd yspail hefyd 0 15 o machine guns, dau beiriant i daflu pel,au ffrwydrol, a nifer arfau pwysig: Dydd Mawrth. Yn eu hymdrech ar yr afon Stok- hod, y mae y Rwsiaid yn parhau i weithio eu ffordd Yr oedd y carcharorion gymerasant yng nghymdogaeth Toboly a Rudka- Chervische ddydd Iau a dydd Gwener diweddaf yn rhifo dros 1,350, gydag 16 o swyddogion. Brawychwyd y wlad heddyw gan y newydd fod gwaith i wneud cad, gyflenwadau yn Yorkshire wedi ffrwydro. Nid oes manylion wedi eu cyhoeddi eto, ond dywedir fod y goll ar fywydau yn ddifrifol, a bod cynorthwy wedi ei anfon yno o'r trefi cylchynol. Dywedir yn awr nad yw colli y ddwy long-y Cruisers Nottingham a'r Falmouth yn golygu gwanhau y nesaf peth i ddim ar ein nerth ar y mor=. Yr oedd gennym pan ddechreuodd y rhyfel 85 o Cruisers, a'r Germaniaid 49. Yn awr mae y Germaniaid wedi colli 16 a ninnau 7, ?,, fel y mae yn aros gennym o'r math hwn 78, a ji chan y GermaniaiJ 33. Dydd Mercher Neithiwr cwblhawyd yr adrodd- iad am y frwydr rhwng y llongau rhyfel ym Mpr y Gogledd y Sadwrn diweddaf. Y ffaith mwyaf dydd- orol yn yr hanes ydyw fod llong ryfel fawr i'r Germaniaid wedi cael ei tharo gan torpedo,' Credai llywydd y'sudd-long E23 ei bod wedi suddo gwedir hyn gan y Germaniaid, er y cydnabyddant ei bod wedi ei niweidio yn ysgafn. Yr oedd y gwrhydri gyflawnodd yr E23 yn un o'r pethau mwyaf beidd- gar yn hanes y rhyfel ar y mor. Ymosododd ar y rhyfel-long fawr, a niweidiodd hi. Daeth pedair o r Destroyers i'w chynhorthwyo, ond er y gosgordd cryf aeth yr E23 i mewn yr ail dro, a llwyddodd i'w tharo gyda torpedo arall. Mae y rhyfel yn y Balkans yn cymeryd gwedd newydd. Adroddid ddoe fod milwyr o Rwsia ac hefyd o Itali wedi glanio yn Salonica er cynorthwyo y Prydeiniaid a'r Ffrancod. Daeth y cwmni cyntaf o Rwsiaid yno Gorff 30, a'r cyntaf o'r Italiaid Awst 11, ac er hynny mae chwaneg wedi glanio. Mae dan arweiniad y pencadfridog Ffrengig, Sarrail, felly filwyr o Brydain, Ffrainc, Rwsia, Itali, Serbia, a Montenegro. Gall y bydd yr oil yn ymladd yn fuan. Mae y Bwlgariaid yn gwthio ymosodiad ymlaen, ac adroddir yn ami am fan frwydrau rhwng blaen- filwyr y ddwy ochr. Dywedir fod y Cyng- rheiriaid yn ennill yn rhwydd yn yr ymosodiadau hyn, Yn Ffrainc mae y Prydeiniaid eto wedi llwyddo i wasgu ymlaen yng nghymydogaeth Pozieres. Yn y lie adnabydair fel y Leipzig Sal- ient (He y mae llinell y German iaid yn gwneud penelin pell i linell y Prydeiniaid) mae ein henillion wedi cael ychwanegu atynt eto- cant ol garcharorion wedi eu cym- eryd, a-n sefyllfaoedd ninnau wedi/ eu gwthio o fewn 1,000 o lathenni i Theipval. Ar y tu deheuol i'r pwynt yma, yn agos i Mouquet Farm, cymerwyd 164 yn garcharor- I ion. I Adroddir yn awr nad oedd y golled ar fywydau yn y ffrwydrad, fawr yn y gwaith cyflenwadau rhyfel yn Yorkshire mor fa wr ag yr ofnid ar un adeg. Ymddengys i'r ffrwydrad ddechreu gyda than y tu allan i un o'r arfdai, yn fuan ffrwy drodd yr arfdy, dilynwyd hyn gan nifer o rai pellach, nes yn y diwedd y flrwydrodd y fwyaf yn y lie, yr hon a wnaeth mwed o cholled aruthrol. Mae archebion am gad-ddarpar- iadau yn dal i gael eu hanfon i'r America. Mae cytundeb am werth [19,000,000 o danbelenni a defn- yddiau yn cael eu cario allan yn awr. Amcangyfrifir y bydd y Cyngrheiriaid wedi gwario [75, 000,000 yno erbyn Mehefin, 1917. Mae mwy o brysurdeb yno yn' y pethau hyn nag a fu ,er's amser. Mae Rwsia newydd roi archeb am werth [200,000 o barbed wire Dydd Iau Yn y newyddion ddoe o Ffrainc, dywedir ein bod wedi ennill 200 o latheni eto o warchffosvdd y Ger maniaid, ac felly, wedi sythu tipyn ar ein llinell, a gwella ein sefyllfa. Pan wellhaodd y tywydd bryd- nawn ddoe, dangosodd llongau awyrol y gelyn fwy o fywyd, a bu ein awyrennau ninnau mewn ym drechion a nifer o honynt, gyda'r canlyniadau mwyaf boddhaol. Brwydrwyd yn ddibaid hyd nes iddi dywyllu, a bu i bedair o leiaf o beiriannau y gelynion gael eu dinystrio, a gyrwyd nifer yn rhagor i lawr wedi eu niweidio. Ni dder= byniodd ein awyrennau ni unrhyw mwed. « Daeth adroddiad prydnawn ddoe yn dweyd fod y gelynion wedi gwneud dwy ymdrech benderfynol i adenill y gwarchffosydd a gollas- ant, ond llwyddasom i gadw medd- iant o honynt. Dioddefodd y gelyn golledion mawrion. Dydd Gwener. Wythnos dda yw hon hyd yn hyn wedi bod. Ddoe ar du deheuol Thiepval llwyddasom i ymwthio ymlaen eto am 300 o lathenni, a chymeryd 400 o lathenni o warch- ffosydd. Mae Iluaws o garcharor- ion wedi eu cymeryd yn yr adran hon. Ddoe pasiodd 62 o honynt tua'r olfyddin, yn ychwanegol at 164 yr adroddwyd am danynt o'r blaen, a heddyw eto mae nifer yn rhagor wedi eu cymeryd. Yn ad- roddiad gohebydd neilltuol o'r frwydr gerir ymlaen yn yr adran hon, disgrifir y modd erchyil y tan- belennydd safleoedd y Germaniaid gan nifer afrifed o ynnau Prydein- o bob math, ac yna y modd y rhuthrwyd y safle gan y milwyr. Wrth ddangos effeith ein cyflegrati. dywed nad oedd ein holl goiledion ni mewn dynion yn yr ymosodiad yn gant o ddynion, tra yr oedd colled y Germaniaid ddeng waith gymaint. Mae y Rwsiaid wedi llwyddo i gymeryd din as Mush oddiar y Tyrciaid. Yn yr wythnosau diw- eddaf llwyddodd y Tyrciaid i yru y Rwsiaid o Mush, ac o lawer o'r wlad o'r Caucasus i Persia. Yn awr y mae y Rwsiaid wedi dat- blygu ymosodiad cadarn iawn, ac yn ennill popeth o'u blaen gallem feddwl. Yn fwy i'r dde na Mush mae byddin Dyrcaidd wedi ei gorthrechu ganddi, pan y cymer- wyd dwy gatrawd yn garcharorion, un yn ymostwng yn gyfan gyda'i swyddogion. Disgwyhr i'r symud- iadau mawrion hyn effeithio yn Armenia, ac ar y sefyllfa ym Meso- potamia. Dydd Sadwrn Llwyddiant arall eto yn Theip val adroddir. Cymerwyd 700 o warchffosydd yma, a 167 o garch- arorion. I'r gogledd o Delville Wood, aethom ymlaen rai cannoedd o latheni, a chymerwyd 179 o garch- arorion. Nos lau, echnos,ymwelodd pump neu chwech o Zeppelins a Llun- dain. Ni ddaethant ond i rannau allanol y ddinas, a dyma y ped- werydd tro iddynt lwyddo i ddod i'r fath agosrwydd er dechreu y rhyfel. Lladdwyd wyth o berson- au, a niweiaiwyd 36 Gwragedd a phlant oeddynt y dioddefwyr mwyaf.
[No title]
Cred yr A thro Arnold, o Goleg y Brifysgol, Bangor, y gall y rhyfel barhau am ugain mlynedd. Nid hwn yw y peth disynnwyr cyntaf a ddaeth oddiar wefusau y dyn gor- ddysgedig hwn ynglyn a'r rhyfel.. Dywed gohebydd yn "Seren Cymru Ni chai un o'r beirdd rwvddineb: i. fyned i mewn i'r cae gan rvw geidwad y porih, un bore, am nad oedd badge ganddo ac ebe'r a wenydd Ai y badge' yw nod y beirdd ? Ai pryfed yw y prifeirdd ?' 'Juwch, Juwch'! ebe'r porthor, 'pwyn ych chi'? a gwneuthur ftordd iddo ar unwaith. Dyma engraifft o'r awen, am un tro, yn. talu'r ffordd."