Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
Y " QENINEN" A WESLEAETHI…
Y QENINEN" A WESLEAETH I GYMREIG. Beth amser yn ol cyhoeddwyd yn y Geninen erthygl yn cynnwys sylwadau anheilwng a bustlaidd am Wesleaeth Gymreig. Nid oedd yr awdur yn ddigon o ddyn i roddi ei enw pnodol wrth ei ysgrif," a'r canlyniad yw fod nifer o bersonau yn cael eu hameu gan ein pobl. Yr wyf wedi cael ar ddeall fwy nac unwaith, a hynny mewn gwahanol ran- barthau o'r wlad, fod yr awduraeth yn cael ei phriodoli i mi. Carwn wneud yn hysbys nad oes a wnelof ddim a'r mater. Ni ysgrifennais air i'r "Geninen" nac i unrhyw gyhoeddiad Cymreig arall er's o leiaf wyth mlynedd, ac eithrio un ysgrif fechan i'r Winllan." Un gair arall ar fater personol. Clywais ddoe ddiweddaf gan frawd cyfrifol fod rhyw rai yn sibrwd fy mod yn bwriadu newid fy Enwad. Wel, yn fyr, celwydd bob gair" yw'r stori yna hefyd. Gwir fy mod wedi cael mwy nag un cynnyg teg yn ddiweddar, ond nid fy mall yw hynny. Llanelwy. M. E. JONES, I
[No title]
Yr Athro Cymraeg newydd yn Llan- bedr yw'r Parch R. H. Richards, M.A., a fu unwaith yn Athro yn y Bala. Gad awodd enwad loarchus y Methodistiaid am yr Eglwys, ac wedi troi dewiswyd ef yn amddiff yunydd yr Eglwys yn Neheu- dir Cymru. Y mae Ustusiaid Sir Forgannwg wedi penderfynu nas gellir tynnu ychwaneg o drwyddedau i ffwrdd yn bresennol am nad oes arian. yn y Gronfa. Y gwir reswm yw eu gwrthwynebiad hwy eu hunain i leihau'r trwyddedau gan fod y gallu yn eu dwylo i godi'r gronfa, ond eu bod yn ei esgeulnso. I Y mae'r Pwyll,,or Y mae'r Pwyllgor Amaethyddol Cym- reig wedi penderfynu gofyn i Fwrdd Amaetbyddiaeth roddi grants ychwaneg- 01 i hyffderddi gweithwyr ar waith fferm yn y rhagolwg am brinder gweithwyr.
CYLCHDAITH DINBYCH.1-1 I
CYLCHDAITH DINBYCH. 1-1 I Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylchdaith yn Salem, dydd Iau, Ionawr y 6ed, y Parch T. O. Jones yn llywyddu. Yr oedd y Parch Abi Williams, B.A., a'r ddau Oruchwylwyr (Meistri John Roberts, Rail- way Stores; a Robert Davies, Bodheulog), hefyd yn bresennol. Yr oedd cynhulliad cryf iawn wedi dod ynghyd. Cafwyd y cyfrifon a'r cofnodion. Wele restr o'r penodiadau :— Fod y brawd E. R. Jones i fod yn Ysg rifennydd Cylchdeithiol y Genhadaeth Dramor yn lie y brawd T. B. Evans. Fod y brodyr R. Davies a Wm. Davies i weithio fel Auditors y Genhadaeth Dramor. Y brawd W. Charles Jones i barhau fel Ysgrifennydd Dirwest. Gan fod tymor y brawd John Roberts, Railway, Stores, fel y Goruchwyliwr Cylchdeithiol hynaf wedi dirwyn i ben, diolchwyd iddo yn wresog gan y frawdol- iaeth, ac enwodd yr Arolygwr frawd oedd yn wir deilwng i'w ddilyn yn ei swydd- y brawd Robert Jones, Holland Villas. Pasiwyd i ofyn i'r Parch E. Tegla Dav- ies ddod i wasanaethu y Gylchdaith yn 1920, ar gynygiad y brawd Robert Davies. Hefyd ein bod yn anfon at y Parch J. H. Bateson ynglyn ag ethol y Parch Abi Williams fel Full Time Chaplain yn Kin- < met. 'Roedd teimlad cryf ynffynnuyng hylch y mater hwn. Holwyd y brawd ieuanc Edward Ro- berts gan yr Arolygwr. Yr oedd wedi bod yn Bregethwr Cynorthwvol am yr amser arferol, a phasiwyd yn unfrydol iddo fod yn Bregethwr Cynorthwyol cyflawn. Ar ddiwedd y cyfarfod, trwy garedig- rwydd i\r a Mrs Roberts, Railway Stores, cyfranogodd y brodyr o wledd ddarpar- wyd yn y Schoolroom, a diolchwyd yn wresog iddynt am hyn. GOH. I
CYLCHDAITH TREORCI. I
CYLCHDAITH TREORCI. I Cynhaliwyd y cyfarfod chwarterol yn Tonypandy, nos Sadwrn, Ionawr I af, 1916. Llywydd, y Parch Evan Isaac yr oedd y Parchn A. C. Pearce a E. G. Turner, a'r Goruchwyiwyr, yn bresennol. Darllenwyd cofnodion y cyfarfod o'r blaen, a chadarnhawyd hwy. Diolchwyd i'r Goruchwylwyr am eu gwasanaeth y flwyddya a aeth heibio, ac ail-etholwyd hwy. Diolchwyd i Ysgrifennydd y cwrdd chwarter am ei waith, ac ail-etholwyd ef. Diolchwyd i'r brawd Evan R. Jones, Penygraig, am ei waith fel Ysgrifennydd y Capeli, ac ail-etholwyd ef. Etholwyd Mri Henry Rowlands a John T. Owens, Ystrad Rhondda, i weithredvi fel Archwilwyr Cyfrifon y Genhadaeth Dramor. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r brawd David Jones, Ton Pentre, a'i chwi- orydd yn eu trallod o golli eu hannwyl frawd yn y rhyfel; ac a'r brawd Evan Thomas, Treorci, o golli ei annwyl frawd, a Mrs Jones, Penygraig, o golli ei hannwyl briod, ac at y Parch D. Gwynfryn Jones, ei mab, o golli ei annwyl dad. Dymun- wyd ar Mr Pearce i anfon at Gwynfryn ac hefyd a Mr Thomas Thomas, Peny- ygraig, yr hwn a gollodd ei annwyl chwaer. Pasiwyd pleidlais o gydymdeim- lad a Mr J. Evans, Farm, Treorci, yn ei gystudd, gan ddymuno adferiad buan iddo ac hefyd a Mr Evan Morgans, Ton Pentre, oherwydd afiechyd ei annwyl briod, gan ddymuno llwyr adferiad iddi. Pasiwyd fod pob eglwys i gynnal ei chyfarfod ymddiriedolwyr i archwilio ei chyfrifon am y flwyddyn ddiweddaf yn ystod mis Ionawr. Cawsom annerchiad gynnes ar wedd ysbrydol yr achos gan Mr T. Lewis, Ton. YSTWYTII. J
CYLCHDAITH LLANFYLLIN. I
CYLCHDAITH LLANFYLLIN. I Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylchdaith yn Llanfyllin, dydd Gwener, lonawr 7fed, y Parch David Morris yn liywyddu. 'Roedd hefyd yn bresennol y Parch Gwilym R. Roberts, Llanfechain, Mr J. W. Morris, Lay Agent, Mri Aaron Carrington, a Griffith, Goruchwyl- wyr, ynghyd a chynrychiolaeth dda o eglwysi'r Gylchdaith. Darllenwyd cofnodion y cyfarfod blaen- orol a chadarnhawyd hwynt. Llawenydd y cyfarfod oedd gweld yr Henadwr John Rees yn ein plith, a phob arwytidion ei fod yn gwella o'i gystudd blin. Diolchwyd ac ail-etholwyd y swyddog- ion a ganlyn — Goruchwyiwyr y Gylchdaith: Mri Aaron Carrington, a John Griffiths. Ysgrifennydd y cyfarfod chwarterol a'r Ysgol Sul: y Parch Gwilym R. Roberts. Ysgrifennydd y Capeli: Mr Hubert Watkins. Ysgrifennydd Dirwest: Mr Aaron Car- rington. Hysbysodd Mr Hubert Watkins, ysgrif- ennydd yr Emergency Fund i eglwysi y Gylchdaith gasglu dros £7 tuag at y Gronfa honno. Gofynwyd i'r Parchn David Morris, a Gwilym R. Roberts, beidio ad Jo myned i Gylchdaith arall hyd gyfarfod, Mawrth, a chydsyniodd y ddau. Hysbysodd yr Arolygwr y cyfarfod y cynhelir y Cyfarfod Taleithiol yn Llanfyll- in, Mai 14eg—19eg. Gwasgodd ar i'r cyfeillion wneud eu goreu tuag at lwydd- iant y cyfarfod. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a theuluoedd y diweddar Mr Stephen Davies, Brithdir, Mrs Evan Jones, a Mr John Row- lands, Llansantffraid, Mr Thomas Griff- iths, Bryn Coch, a Mr Maurice Morris, Penyddalfa, Bwlchyddar, yn eu trallod. Penodwyd Mr Roberts, Rhosfawr, yn arholwr ynglyn ag Undeb Ysgolion rhan ucha'r Gylchdaith yn lie y diweddar Mr Stephen Davies, a Mr Edmund Davies, Rhosfawr, yn ysgrifennydd. Darparwyd lluniaeth rhwng y ddau gyfarfod ar gyfer y cynrychiolwyr gan Mrs T. N. Roberts, a Mrs Ellis, Glanrafon. Cynrychiolid Mrs Ellis gan ei merch, Mrs Jones. Tal wyd diolch iddynt gan yr Henadur John Rees, Llansantffraid, a'i eilio gan Mr Roberts, Rhosfawr.
YMUNO A'R -FYDDIN.-
YMUNO A'R FYDDIN. Swyddogaeth yr eglwys ydyw arwain ac adfer y byd drwy foddion moesol. Ac y mae hynny yn waith anhawdd, a dichon ei fod yn anhawddach yn awr nag y bu er's amser maith, neu yn fwy anhawdd nag y bu erioed. Ond pa mor anhawdd bynnag ydyw nis gall yr eglwys ymwrthod a'r gorchwyl. Ymddiriedwyd i'r eglwys i oleuo a dysgu, ac arwain, a gwella y byd. Ymhob math o amgylchiadclu maeibarhau i'w egwyddori. Tra y rhoddir cymaiht sylw i'r materol, ac i'r rhyfel, fe ddylai yr eglwys roddi mwy o sylw o hyd i'r ysprydol a'r dwyfol. A da gennym feddwl fod yr eglwys yn cael cystal safle ar faes y gwaed. Gwneir gwaith ardderchog gan Gaplen- iaid ein byddin. Cyfeiriant feddwl, a chryfhant galon ein bechgyn dewr-y bechgyn sydd wedi rhoi eu bywyd dros eu gwlad, ac yn fodlon marw dros eu cenedl. Peth canmoladwy yw marw fel merthyr dros y gwir, a'r cyfiawn, a'r da, ond rbag- orach na hynny yw marw fel milwr dros egwyddor. Hysbysir ni o lawer o gyfeir- iadau fod ein Capleniaid yn nerth i'n milwyr. Ystyr hynmy ydyw fod y rhyfel presennol i ni yn gyfiawn am ein bod yn rhyfela am gydraddoldeb cenedlaethol; yn anocheladwy am fod Germani wedi ymosod ar Belgium. Credwn fod gan y genedl fach yr un hawliau a'r genedl fawr, —fod gan Belgium fechan yr un hawliau a Germani fawr, fel ag y mae gan y dyn gwan yr un hawliau a'r dyn eryf. Ac felly yr oedd yn ddyledswydd ar Brydain Fawr amddiffyn Belgium fechan, fel ag y mae rhwymau moesol ar bob dyn i amddiffyn y bachgen bach pan yn cael ei guro gan y bachgen mawr. Tro gwael oedd i'r offeir- iad fyned o'r tu arall heibio a'r Samaritan ar lawr. Ac at hynny yr oedd Prydain wedi addaw amddiffyn Belgium rhag ei gelyn- ion. Gwir fod Germani hefyd wedi addaw amddiffyn Belgium, yr hyn a wna ei gwaradwydd yn fwy. Y dyhiryn gwaelaf yw yr hwn sydd yn eich taro ar ol addaw eich. amddiffyn. Heb son yn awr am un- rhyw gyfryw arall, rhaid ydyw inni ryfela hyd nes inni glirio y Germaniaid o Bel- gium. Wedi i'r yspeiliwr dori i'ch ty, rhaid i chwi ymladd hyd nes ei fwrw allan. Ac nid yw hynny yn ddigon, rhaid hefyd ddirymu y gelyn fel nas gallo daro eilwaith Rhaid darostwng Germani i'r llwch. Nid yw dal y llofrudd yn ddigon, rhaid ei ddi- enyddio neu ei alltudio. Pan gofir fod y llofrudd hwn wedi hir gynllunio a pharotoi pa fodd i ymosod ar, ac i ysbeilio a lladd ei gymydogion oedd- ynt yn trigo yn ddiofal a diniwed yn ei ymy], nid oes unrhyw gosp yn rhy drom arno, nac yri ddigon, ond yr hon a'i gwna yn analluog i wneud fel hyn eto. Mae arweinwyr Germani yn foesol byd- redig, ac yn dda i ddim, fel yr halen a ddiflaso, ond eu bwrw allan o bob awdur- dod. Cyfiawnder a ddywed, bydded ana- thema wasanaethu. Dynion drwg ac anghymeradwy ydynt. Mae yr Eglwysyn diaelodi am feddwi, ac ymhob teyrnas Gristionogol mae carchar a chrogbren. Ac nid yw Cristionogaeth yn gwahardd hynny, yn wir nis gellir byw heb gospi dynion drwg. Dichon fod rhai o fechgyn ein gwlad yn meddwl eu bod yn well am nad ynt wedi ymuno a'r fyddin. Dim o'r fath beth, gwaelach ydynt. Pe chwilient ac y prof- ent eu hunain hwy a gaent mai dynion annewr a llwfr ydynt; ac y mae llwfrdra yn un eithafol waradwyddus. Bob boreu darllenant y papur gan ddisgwyl buddug- oliaeth, tra nad ydynt hwy, y pethau gwael, yn gwneud dim i gynorthwyo eu brodyr sydd yn y linell danliyd, yn aros ac yn ymladd yn erbyn y gallu cryfaf a chreu- lonaf fu yn y byd erioed. Ail ystyriwch v mater. Paham y rhaid i'ch brodyr aberthu eu bywyd er eich mwyn chwi; tybed eich bod chwi yn werth i neb farw trosoch tra y gallech amddiffyn eich hunain. Rhyfedd hefyd fel mae llawer yn ein gwlad yn defnyddio cyfyngder y rhyfel i drio gwneud ceimog. Mae y rhai hyn fel "viae y rhai hyn fel gwaedgwn yn dal ar eu cyfle. Tra mae y mwyafrif o dair miliwn o fechgyn dewr ac hunanab?rthol ein gwlad yn fodlon rhoi eu gwasanaeth a'u bywyd am swllt a dwy geiniog y dydd. Cofiwch fe ddaw y dydd i'r bechgyn ardderchog hyn ddyfod adref, a bydd rhaid i chwi eu eyfarfod wyneb yn wyneb. Beth pe dywedant na chewch gydweithio a hwy am na ddarfu i chwi gyd-ryfela. Gofeddir i Undebwyr wneud hynny, paham na byddai yn iawn i'r milwyr wneud hyny. Canlyniad hynyy fyddai eich gyru a'ch bwrw o'ch gwlad mewn gwaradwydd. Yn bendant. y milwyr sydd ar y maes bia y wlad. A bydd raid gwrando arnynt, a gofalu am danynt, oblegid ar wahan iddynt hwy ni buasai y wlad yn eiddo inni. A'r bobl achubodd y wlad sydd i gael yr ystyriaeth gyntaf. Ar hyn o bryd mae y gweithwyr sydd wedi ymuno a'r fyddin ar eu colled yn ariannol, ac y mae y gweithwyr sydd heb ymuno ar eu mantais ariannol, ac am y meistri a'r masnachwyr brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy. Ond wedi y rhyfel daw tro ar yr olwyn, a chaiff y dewrion sydd yn ymladd i ennill eu gwlad eu cydnabod yn ddyladwy. I ni rhyfel o amddiffyniad ydyw hwn, ac y mae yn gyfiawn ac anocheladwy. Yn wyneb hyn dywedwn yn bendant y dylai pawb iach o fewn yr oedran gynnyg ei hun, a rhoddi ei hunan ar allor gwasanaeth ei wlad. Diffyg meddwl yw y rheswm fod llawer yn cadw'n ol. Cymhellwn holl fechgyn ein gwlad i wrando ar y Prif Weinidog ac ar Mr Lloyd George, y dyn mwyaf a'r annwylaf yn y wlad. Abertawe. RICHARD MORGAN (B).
At Arolygwyr Ysgolion Sabbotkol…
At Arolygwyr Ysgolion Sab- botkol Talaith taf y Gogledd. Annwyl Frodyr,— Nid oes nemor amser eto na fydd Arholiad y Maes Llafur yn cymeryd lie. Yn wyneb y ffaith fod cynifer o'n dynion ieuainc wedi ymrestru, a thrwy hynny adael eu cartrefi, ai tybed nas gellir perswadio mwy o'n chwiorydd ieuainc ac o'r brodyr canol oed i sefyll yr arhol- iad eleni ? 'Rwy'n pryderu rhag i'r arholiad droi yn fethiant eleni. ac yn hyderu y gell- wch chwi ennyn brwdfrydedd yn yr Ysgolion, fel y sicrheir nifer dda o ym- geiswyr. Yr Eiddoch, &c., RHYS JONES, Ysg. Addysg y Dalaith.
Advertising
m COFIANT A PHREGETHAU Y PARCH. Edw. Humphreys GAN Y Parch Edward Davies Un o'r llyfrau mwyaf swynttl a ddygwyd allan drwy'r wasg." Dr. HUGH JONES. "lae y gyfrol yn drysor llyfir- gell. Yn waith o safon uchel o ran ieithwedd, arddull a chwaeth dda." Parch GEORGE DAVIES, B.A. CA.) "Byw a gloew iawn. Gwledd flasus o glawr i glawr." GWYNFRYN. Unwaith y dechreuir darllen y gyfrol anodd fydd ei rhoi heibio heb ei gorffen." Parch. JOHN FELIX. Darllenais ef; drosodd gyda theimladau byw a rhyfedd: mae yn dyner a byw." CAD VAN. "Ni ddarllenais dim tynerach mewn nofel na dim arall. Amhos- ibl ei ddarllen heb deimlo awyr- gylch ysbrydol o nefol yn cau am danom." PEDROG (Brython). "Y Cofiant yn bopeth ellid ei ddymuno." Parch. R. LLOYD JONES. Cyflead syber a chwaethus." Parch. THOMAS HUGHES (B) A number of vignette pen-por- traitures, each, dra wn with an artist hand." Parch. DARLEY DAVIES (Alethodist Recorder). "Maent (y pregethau) yn ddelw cywir iawn o'i jveinidogaeth." Parch. ISHMAEL EVANS. Telir Cludiad y Gyfrol. 3s. y Gyfrol. 13 o gyfrolau yn y dwsin. I'w cael gan yr Awdur- 35, Berkley Street, Liverpool.