Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

.;ASHTON-IN MAKERFIELD. I

News
Cite
Share

ASHTON-IN MAKERFIELD. I Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylchdaith uchod dydd Sadwrn, Ionawr -8, ,1916, dan lywyddiaeth yr Arolygwr, y Parch E. Wynne Owen. Dechreuwyd cyfarfod, y prydnawn gan yr Arolygwr trwy ddarllen rhan o'r Ys- grythyr, ac arweiniwyd mewn gweddi gan David Rowlands, Spring View. Pasiwyd y cofnodion fel thai cywir. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwch i Ysgrifennydd y Cyfarfod Chwarter, ac ail-etholwyd efe. Diolchwyd i Ysgrifennydd y Capeli, sef W. E. Roberts, am ei waith yn ystod y flwyadyn, ac ail-etholwyd ef. Cafwyd cyfrifon yr aelodau, a'r eglwysi, a chafwyd fod pethau yn weddol foddhaol a chymeryd popeth i ystyriaeth. Basiwyd i ofyn i'r gweinidog egluro y gwahanol Gasgliadau Cyfundebol. Credai y cyfarfod y byddai hynny yn fodd- had i lawer o'r aelodau. Pasiwyd i wneud apel at gylchdithiau Mynydd Seion ac Oakfield Road, Lerpwl, am gael ymuno a hwy gyda'r "Banerydd -y cylchgrawn cylchdeithiol, os byddai ein hamgylchiadau yn caniatau. Teimlai y cyfarfod mai mantais ini fyddai hynny. Pasiwyd pleidlais o ddiolchgarwoh i ddau oruchwilwyr y Gylchdaith, sef y brawd Edmund Evans, ar brawd Hugh Roberts, ac ail etholwyd y ddau am flwyddyn arall. Cafwyd ymddiddan faith ar fater Ty y Gweinidog sydd bron yn barod. A da oedd gan y cyfarfod ddeall fod pethau yn gweithio mor dda ac mor rhwydd. Daeth y Wai Bonus i'r gweinidog o dan ystyriaeth, ac wrth fod y rhan helaethaf o'r aelodau oedd yn bresennol yn cael War Bonus, teimlent mai dyledswydd yn wyneb hynny oedd ymddwyn yn anrhyd- eddus at y gweinidog, a phasiwyd yn unfrydol i dalu'r War Bonus. Cafwyd te rhwng y ddau gyfarfod, yn cael ei baratoi gan Mrs Wynne Owen a Miss Myfanwy Evans. 'Roedd yn rhad ac am ddim, yn cael ei roddi gan y Circuit Stewards. Rhoddent de fel hyn bob tro. Diolchwyd iddynt am eu haeioni, ac hefyd i'r ddwy chwaer am weinyddu ar- nom. Diolchwyd gan D. Rowlands, Spring View, a Robert H. Jones, Earlstown. Terfynwyd cyfarfod rhagorol trwy weddi gan yr Arolygwr. J. L. I

CYLCHDAITH LLANASA. I

BEAUMARIS. -I

I i .. L I PENRHIW CEIBK.…

RHIWLAS. 1

WEASTE, CYLCHDAITH^MANCHESTER.

TIRYDAIL. I

Advertising

CYLOHDAITH MYNYDD SEION, LERPWL