Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

LLANBEDR, MEIRIONYDD.I

CYDYMDEIMLAD. !

BIRKENHEAD. I

ABERDYFI. I

News
Cite
Share

ABERDYFI. Y DIWEDDAR MR W. OSBORNE HUGHES 0'1 AGERLONG FALABA."—Drwg gennym hysbysu fod Mr W. Osborne Hughes, Conwy, ymhlith y rhai a gollwyd trwy suddiad yr agerlong Falaba gan Sub- marine y gelyn ar draethau Penfro. Yr oedd yr ymadawedig yn fab i'r diweddar Henadur Hugh Hughes, Conwy, a Mrs Hughes, Aberdyfi, ac yn frawd i Mrs E. L. Rowlands, Aberdyfi. Gedy briod a thri o blant i alaru ar ei ol. Nid oedd ond 30 mlwydd oed. Gwasanaethai Mr Hughes fel Ysgrifenydd i'r Parser ar fwrdd y llong a suddwyd dan amgylchiadau mor greulon ac anynol. Cydymdeimiir yn fawr a'r teulu sydd mewn galar dwfn ar ei ol. Ar derfyn yr oedfa nos Sabboth diwedd af arwyddodd cynulleidfa ein Heglwys vn Aberdyfi ei chydymdeimlad dwysaf a'r teulu yn eu trallod. Er's rhai blynyddau bellach ymgartrefa Mrs Hughes, v fam, yn y lie hwn, ac yn ol ei harfer parha yn ffyddlon a gweithgar dros yr achos mawr. Mawi yw ei galar ar ol ei hunig fab. Diddaned yr Arglwydd y fam a'r chwior- ydd, y priod a'r plant bach, yn eu galar a'u colled. Ymddiriedent yn noethineb a chanad yr Hwn sy'n teyrnasu. "Ni ddirnad synwyr cnawdol dyn Ddirgelion troion Duw Efe ei Hun eglura'n llawn Ei holl fwriadau gwiw." P. I

DOLGELLAU. I

[No title]

Advertising