Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

BAZAAR SPELLOW LANE,I . LERPWL.

News
Cite
Share

BAZAAR SPELLOW LANE, I LERPWL. Fonoudigion,— Diolcbaf am ganiatad i alw sylw at yr uchod. Gwelii hysbysiad am dani mewn colofn arall. Apeliwn yn daer am gynhcrthwy cyfTredinol. Ni fu erioed achos mwy teilwng. Gorfodwyd ni gan amgy lcbiadau i symud o hen gapel Boundary Street. Yr oedd yn rhaid symud, neu foddloni edrych ar yr achos yn marw. Ni wariwya ceiniog yn ofer ar y capel newydd. Yn ol barn llawer dylesid gwario mwy, ond ofnai yr Ym- ddiriedolwyr yr anturiaeth, a chadwas- ant y draul mor isel ag oedd modd. Ond er y cwbl cyrhaeddodd popeth y swm o £ 2,500—swm mawr i eglwys fechan heb fod yn gyfoethog. Gweith- iodd y cyfeillion yn egniol, hyd at aberth mawr; ond erys £ 1,100 ar yr adeilad, a thybia hyn logau o dros C40 bob blwyddyn. Addawodd Pwyllgor Capeli'r Dalaith £ 500 o echwyn, a £ 300 o rad-rodd; ac amcan y Bazaar ydyw galluogi yr Ymddiriedolwyr i ddod i fyny ag amodau'r Pwyllgor, er mwyn sicrhau y symau addawedig, a thrwy hyrmy arbed talu llogau. Teimlwn yn hyf i wneud apel yn yr achos hwn at Gymru gyfan Darperir yn y ddinas hon ar gyfer yr oil o Gymru, ac yn arbennig yr oil o Ogledd Cymru. Daw pobl ieuainc yma yn barhaus o'r tair Talaith ac oni bai am y cartref crefyddol sydd yma ar eu cyfer, y nefoedd yn unig a wyr beth ddeuai o ugeiniau ohonynt. Ond i'n cyfeillioh yng Nghymru sylweddoli hyn, sicr wyf y deuant i'n cynorthwyo yn yr ymdrech bresennol. Diolchwn yn gyn- nes i'r sawl sydd eisoes wedi coilo am- danom, ac apeliwn yn garedig at y I gweddill or rhai y mae Duw wedi bod yn hael tuag atynt. Pe caem ychydig gan lawer, symudid pob pryder oddiar ein rnsddwl. Edrychwn ymlaen yn obeitbiol am lwyddiant ar ein hymdrech. 82, New by Street, JOHN FELIX. Liverpool.

DIOLCHGARWGH. I

MYNYDD BACH. I

EGLWYSBACH. I

BRIWSION 0 ABERPENNAR, MOUNTAIN…

I YNYSHIR.

I COEDPOETH. 1

I-ST. PAUL'S, ABERYSTWYTH.