Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

Cyfarfod Taleitbiol yr Ail…

Y Ddadl: " Bychanu Crist."

News
Cite
Share

Y Ddadl: Bychanu Crist." Mr Golygyda,- Y mae y brawd John Kelly yn dech- reu ei lythyr y tro hwn trwy ddweyd mai da i'r byd Wesleaidd ydyw gweled pwy ydwyf o'r diwedd. Pa ddiwedd a olyga ef tybed ? Pa ddiwedd bynag a olyga efe. Nid oes ynwyf ofn ogwbl y bydd i mi dder- byn mwy o anfantais nag o fantais trwy gydsynio a dymuniad y Golygydd, am gael dodi fy enw priodol wrth fy ysgrif. Hyd yr wyf yn cafio-a chredaf fod fy nghof yn lied glir ar y pen hwn-ni ofynais erioed i un o'r awdurdodau Wesleaidd yn Nghymru am gael caniat- ad i bregethu yn rhai o'u capelau. Ond cymhellwyd fi i wneud hynny gan fwy nag un a dau o weinidogion parchus yn yr enwad. A tbeg ydyw dywedyd yma hefyd, fod y rhai hynny yn fy adnabod yn llawer gwell na J. K. Pregethais amryw weithiau o fewn cylch arolygiaeth un o honynt, ond ni chlywais son iddo ddywedyd .erioed wrth neb ddarfod iddo ef gael achos i edifarhau am ofyn i mi wneud bynny. Amlygodd syniadau hollol i'r gwrthwyn- eb, canys gofidiai ef ac eraill yn y lie na fuasai amgylchiadau yn caniatau i mi aros yn hwy yn eu plith. Un tro, pan oedd nifer go dda o frodyr swyddogol enwad neillduol yn Nghymru wedi ymgynull yn nghyd i drafod materion pwysig perthynol. i'r enwad, digwyddodd fod yno un yn eu plitb yn rhoddi mesur mawr o bwysau ar ei ymadroddion, a hynny o gysyllt- iadau dipyn yn amheus. Meddai fel hyn ac fel hyn, yr ydym ni acw yn barnu ar y mater hwn. Yna gofynodd un o'r brodyr iddo, A ydym ni i ddeall yn derfynol fod honyna yn farn yr eg- Iwys acw ar y mater hwn, ynte mai eich barn chwi yn bersonol ydyw ? Erbyn hynny nfd oedd gan y brawd cyntaf ddim gwell i'w wneud-heb ber- yglu dwyn sarhad ar ei enw da—na cbydnabod mai ei farn ef ei hun ydoedd, ac nid barn yr eglwys. Hawdd fydd i ddarllenwyr y Gwyliedydd Newydd weled y wers a'r gwirionedd a amlygir yn yr hanesyn yna. Modd bynag, diau gennyf y bydd i mi bregethu i Wesleaid yn Nghymru eto cyn pen hir, ac efallai yn Abergele; canys nid oes gennyf amgen na dymun- iadau da tuag atynt oil yno. Ac yn mhellach, yr wyf yn caru yr Hen Wlad yn bur, a'm cenedl hyd ddyfnder isa'm calon. Dywed J. K. fy mod wedi cwyno am nad atebodd ef fy ngofyniad- au, ac felly y mae efe yn camu dros der- fynau cywirdeb, oblegyd ni ddarfu i mi I gwyno o gwbl am hynny. Oydnabyddais ei ryddid. ef yn y mater, ac am hynny na thramgwyddwn I NNrti-io am beidio'fy ateb. Er hynny, os I nad oedd y cwestiwn. olaf mewn ffurf I foddhaol ganddo, methaf yn fy myw a gweled fod a fyno John Jones yn myned i'r coleg ddim byd a'r cwestiynau eraiil. Gofynais iddo os oedd ef yn credu fod dau ysbryd yn y person rhyfeddel yr Arglwydd Iesu, h.y., ysbryd Dwyfol, ac ysbryd dynol ? Ac hefyd, os oedd ef yn credu mai un oedd yn y bersonolaeth, sef yr hwn na. thybiodd yn drais i edrych arno ei hun yn ogyfuwch a Duw, pa fodd y gallai ef yn rhesymol briodoli an wy bod-aeth iddo ? Yn awr, Mr Golygydd, oni fyddai yn beth rhy wrthun i mi dybio nad ydyw Mr John Kelly yn cario gydag ef all- wedd cell ei gredo ei hun ? Gofyna J. K. i mi hefyd paham yr ydwyf yn diystyru penwaig ? Ond fe welir yn ddigon amlwg oddiwrth fy ysgrif na ddarfu i mi ddiystyru penwaig, ac o ganlyniad nad oes a fynwyf ddim byd a'i gwestiwn. Dangos yr ydwyf ynddi fod fy nghylla meddyliol yn ddigon hen ffasiwn i ddewis ei bwydydd yn ol graddau eu teilyngdod. Yr wyf yn cymeryd penogyn yn awr ac yn y man fy hunan. Ond y mae y ffaith fod yn rhaid cymeryd cymaint o ofal a thraff- erth i ddidoli yr esgyrn peryglus sydd ynddynt, oddiwrth yr hyn sydd gym- wys i'w fwyta, yn peri ei bod yn ormod o dreth ar fy amser-heb nodi un rhes- wm arall-i mi wneud defnydd mynych o honynt. Gwel fy nghylla rywbeth tebyg i esgyrn penwaig yn y ddysgeid- iaeth a gynygir i ni yn y dyddiau hyn parthed Crist anwybodus. Sonia dysgawdwyr y ddysgeidiaeth yna gryn lawer am ryw gyfyngu yn ngwybodaeth yr Arglwydd Iesu. Gan hynny, os ydyw J. K. wedi meistroli eu gweithiau diwinyddol, a chael eu bod yn cyfarfod a gofynion rheswm a chydwy- bod, teg fyddai i ddarllenwyr y G.N. gael ganddo ef egluro iddynt yn mha le a pha fodd y mae y cyfyngu yma wedi cael ei effeithio. Fe nghred onest i ydyw hyn,-sef na ddarfu i J. K. erioed feistroli eu gweithiau. Ymddengys i mi fod gweithiau y diwinyddion yna wedi ei feistroli ef; pe amgen, na fuasai byth yn cymeryd ei berswadio fod y ffaith ddarfod i'r Iesu ofyn cwestiynau fel y gwnaeth yn dangos ei fod yn anwybodus. Gadawaf ar hynyna yn y ffordd yna yn pwr, rhag i J. K. fyned ar 'strilze,' ac felly, na fyddai i mi gael ychwaneg ganddo. Modd bynag, y mae un peth yn sicr genyf fi, sef pe byddai iddo ef streicio' yma, y cai ddigon o waith am weddill ei oes i osod sylfaeni safadwy i Fort Bethany a Fort Cedron." Eto, ymddengys i mi fod J.K. yn dodi ei wynebmewn ffurf lied sanctimon- eous' pan yn ysgrifennu yr hyn a ganlyn Welweh chwi, frawd, y mae un peth gwaeth na bod yn undodwr- gwneud y Crist gonest a chywir yn ffug a sham,' a gwareded Duw y nef- oedd chwi rhag hynny." Gwna J. K. y sylwadau yma am nad wyf yn derbyn y wedd arwynebol sydd ar yr adnod a welir yn Marc xiii, 32. Gwelir yn fy ysgrif flaenorol fod gennyf resymau teg dros hynny, ac nad awgrymais mewn unrhyw fodd fod yr Iesu yn ffug a sham.' Yn awr deued darllenwyr y G.N. gyda mi i Efengyl loan x, 17, 18. Onid ydyw y ddwy adnod hyn yn eglur derfynol ar y mater, fod Crist yn ym- wybodol o'r ffaith ei fod ef i brofi marwolaeth er agor ffordd Iachawdwr- iaeth. Yr oedd y cyd-ddealltwriaeth mor berffaith drwyadl cydrhwng y Tad a'r Mab ar y pwnc tra phwysig hwn fel yr oedd yr Iesu yn ddiamheuol sicr fod ei Dad yn ymhyfrydu mewn cariad uwch ei ben o'r herwydd. Ac yn ol yr Efengylau ereill gwelir yn amlwg fod y rhag-ddesgrifiadau manwl- a roddodd yr Arglwydd Iesu o'r driniaeth a gafodd, a'r math o farwolaeth a ddioddefodd, yn dwyn tystiolaeth gadarn i blaid yr un gwirionedd. Ond, er ein syndod, ar ol dyfdd uWchben yr adnodau hyn, a'r ffeithiau a gynhwysant, y mae J. K. wedi colli y sanctimoneous form of his face.' Ni dderbynia yn awr dystiolaeth yr Iesu ei hun am dano ei Hun. Ei esgusawd dros hynny ydyw, ei fod yn credu fod yr Iesu yn anwybodus. Ond dylai J. K. ddeall a chofio na f yddai yr Iesu byth yn siarad yn bendant fel yna am bethau oedd tuhwnt i derfynau ei wybodaeth. Y mae y peth yn hollol wrthwynebus i mi i feddwl y buasai yr Arglwydd Iesu yn rhoi y fath gerydd i Pedr am amheu tystiolaeth ei athraw mawr pe buasai yn ffaith ei fod ef ei hun yn fyr o sicrwydd ar y mater, y ceryddai Efe Pedr o'i herwydd. Tipyn yn ddifrifol ydyw gorfod credu, onide, Irod Mr J. Kelly wedi syrthio i'r un cyfeiliornad ag y syrthioda Pedr iddo, a thrwy hynny ei fod yn agored i gael cerydd cyffelyb gan yr lesu mawr ei Ilun. Ond hyd yma y mae J. K. yn ceisio cyfiawnhau ei hun, a hynny yn mbresenoldeb Crist, megis trwy ddyw- edyd fod y Doctoriaic1 Peake, Mackin- tosh, Forsyth, &c., yn dal ei freichiau ef i fyny. Ond llosgir ymaith bob esgus- awd gan boethder grymus geiriau Crist. Wele hwynt yn Mathe^ xii, -12 "Brell- hines y cleheu a gyfyd yn y farn gyda'r 1 '1 Ll 1 '¡. genhealaeth hon, ac a 1 condemnia hi am iddi hi ddyfod o eithafoedd y ddaear i glywed doethineb Solomon, ac wele fwy na Solomon yma. Syr, beth pe buasai llysoedd ein gwlad yn penderfynu achosion yn ol y modd y mae J. K. yn penderfynu yr achos hwn,—fod y barnwr yn pender- fynu materion yn ol y tystiolaethau gwanaf a phrinaf yn lie y tystiolaethau llawnaf a chryfaf. Oni fuasai y fath gwrs yn creu terfysg yn ein plith ar unwaitb ? Y mae yn syn gennyf na fuasai J. K. yn ddigon llygadog i ochelyd cymeryd ei shuntio fel yna i linell sydd yn arwain mor sydyn i'r dead end.' Son am danaf yn neidio fel ceilog rhedyn, yn wir,— buasai yn dda iddo yntau fod wedi neidio tipyn cyn hyn, yn hytrach na bod yn awr ar y dead end line' yn wrthrych syndod i geiliog rhedyn.' Gyda golwg ar syniadau J. K. mai i'r hen ysgol y pertbynaf ac yr ymogon- eddaf, y dywedaf wrth derfynu y tro hwn nad ydwyf wedi ymbriodi a'r un hen ysgol, nac ychwaith gydag un ysgol newydd. Er hynny yr wyf yn credu yn sicr mai bargen sal iawn fyddai i mi ollwng gafael yn y Drindod am Grist anwybodus. Ni fu Crist erioed yn ddyn meidrol o ran ei ysbryd (!!). Yn awr, Mr Golygydd, oni chaf gernodiau trymion am y dyw- ediad yna. Yr eiddoch yn gywir, Birmingham. W. RICHARDS. I Ebrill 13eg, 1914. I

IGAIR AT MR WM. RICHARDS.I

Gwerth yr Unigol.