Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Cyfarfod Taleitbiol yr Ail…

News
Cite
Share

Cyfarfod Taleitb- iol yr Ail Dalaitb. Cynhelir yr uchod eleni ym Man= gor, Ebrill 26aindros y 30ain. Pregethir Sul, y 26ain, yn holl bulpudau y Gylchdaith gan wein- idogion dieithr, ac mewn amryw ohonynt hefyd nos Lun. Ym Man- gor, nos Fawrth, cynhelir cyfarfod cyhoeddus pwysig, ac ymdrinir ynddo ar un o bynciau mawr y dydd, sef "Undeb yr Eglwysi Rhyddion." Wrth drefnu'r cyfar- fod hwn, yr oedd nid yn unig Bangor a'r Gylchdaith mewn gol- wg, ond hefyd Bethesda, Tregarth, Porthaethwy, Porthdinorwig, &c. Hyfryd a boddhaol ar lawer cyfrif fyddai i hwn droi allan yn gyfar- fod cryf a phoblogaidd. Cyfarfod cyhoeddus a gynhelir hefyd nos Fercher, ac yn fwyaf neillduol ar gyfer bobl ieuainc, ond yn agored wrth gwrs i bob oed, ac y mae genym hyder y bydd i'r tadau a'r mamsusyddyn caru lies uwchaf yr ieuenctid wneud ymdrech i fod yn bresenol, pe na bai ond i am- lygu hynny. Disgwyliwn yn aidd- gar am gael gweled tyrfa fawr o bobl ieuainc yn y cyfarfod hwn, oblegid hwynt hwy sydd yn benaf mewn golwg. Gyda'r cyfleusterau teithio hwylus a feddwn yn awr, teimlwn y gallwn yn rhesymol wahodd iddo, nid yn unig bobl ieuainc Bangor o bob enwad, ond hefyd ieuenctid y lleoedd cylchyn ol yn ogystal. Atdynir y can- oedd gan bethau eraill bob wyth- nos, ai gormod ydyw disgwyl gweled digon o ddiddordeb a sel yn ein poblieuainc ni ein hunain i'w dwyn eleni 6 bob cwr i'r ardal oedd i gyfarfodydd un o Gyman- faoeClc1 mawr eu henwad. Dydd Iau. y diwrnod mawr fel y'i gelwir, neillduir yr olt'(-r boreu i'r Seiat a chyda'r mater sydd i gael ystyriaeth a'r brodyr a ddisgwylir i anerch, nid anturiaeth ynom ydyw credu y ceir ym Mangor y tro yma fel ar achlysuron cyffelyb o'r blaen, Seiat fawr mewn gwirion- edd! Yn y prynhawn a'r hwyr cynhelir odfeuon yn St. Paul's a Horeb. Am fwy o wybodaeth gweler yr hysbysiad yn y G. N., ac ymofyner a Llawlyfr y Cyfarfod Taleithiol, yn yr hwn y ceir y Plan yn llawn, a'r Emynau a ddef- nyddir yn ystod y cyfarfod, ynghyd a'r manylion am y trens, E-c. Mae'r Cyfarfod eleni y 13eg a gyn- haliwyd ym Mangor, ac y mae ei groesaw yn un calonog a chyffred inol. Ein dymuniad ydyw ar iddo fod yn un cysurus a bendith- iol iawn. Bu amryw o'r cyfarfod- ydd a gafwyd yn boblogaidd a nerthol yn eu dylanwad ysbrydol, ac mae'r atgof am danynt mewn llawer meddwl yn fywa chyseg redig hyd heddyw. District' hardd ac urddasol oedd yr un a gynhaliwyd yn y ddinas hon ddi- weddaf-dwy flynedd cyn rhaniad y Dalaitb, Ogleddol! Ond er nad yw hwn o lawer mor liosog yn ei gynrychiolwyr, fe all fod yn gyfar- tal yn ei wasanaeth i'r achos, a'r un mor ogoneddus y'ngolwg yr Arglwydd. A wna holl aelcdau Cylchdaith Bangor hyd y gallant, osod dydd lau, Ebrill 30ain, o'r neilldu i amcanion yr Wyl. Hefyd a gawn ni apelio at y Cylchdeith- iau cyfagos i ystyried fod y Cyfar- fod Taleithiol yn perthyn yn agos iddynt hwythau, a phenderfyuu cyfranu eu rhan yn deilwng tuag at sicrhau ei boblogrwydd. Gweddiwn a disgwyliwn am i'r Wyl eleni fod yn helaethach ei gwasanaeth, a chyfoethocach ei bendith i Seion nag y bu erioed. Duw a drugarhao wrthym, ac a'n bendithio, a thywynned ei wyneb arnom Molianned y bobl di, o Dduw; molianned yr holl bobl dvdi." Yr Eiddoch, DAVID JONES.

Y Ddadl: " Bychanu Crist."

IGAIR AT MR WM. RICHARDS.I

Gwerth yr Unigol.