Skip to main content
Hide Articles List

15 articles on this Page

YSTUMTUEN. I':!

SALEM, ACREFAIR.I

ASHTON-IN-MAKERFIELD. I

.CORRIS. -

SALEM, LLANDDULAS. I

I PRESWYLFA, LLANDUDNO JUNCTION.

CLYDACH VALE. I

PONTRHYDYGROES.I

LLANELWY.I

TRINITY ROAD, BOOTLF.

-LLANGYNOG I

LLANIDLOES. I

.Astudio MwngloddiaethI

ICenhadaethau Efengylaidd.

News
Cite
Share

Cenhadaethau Efengylaidd. (Adgofion Cysurlawn) (Gan y PARCH HUGH HUGHES).  X ABERYSTWYTH. j Nis gwn am unrhyw le mwy manteisiol a dymunol i gynal unrhyw gyfarfod crefyddol cy- hoeddus nag Aberystwyth. Pa enwad bynag fydd yn galw am y cyfryw gynulliadau, givelir pobl oreu a pharchusaf y dref yn dod allan nes gorlenwi y capelau. Pe ceid yr ysbryd hwn yn nghyfeiriad undeb yn mhlith Ymneillduwyr Cymru yn gyffredinol byddai gob- aith am rywbeth pellach. Nid I yw yr undeb a gynygiwyd yn ddiwcddar gan Weinidog Cym- reig, ond ffug hollol. Nid yw undeb cydrhwng dau enwad, yn agor y ffordd i undeb eangach, eithr yn hytrach yn allu effeithiol i bellhau y ddau enwad arall yn arhosol. Oes y mae awgrymiad o'r fath gan un o'r rhai mwyaf am- ddifad o ysbryd gwir undeb yn N-hyffiru, ac un y mae a fyno a bod dau gapel perthynol i'w enwad ei nuri- yn y lie y trigiana yn swnio yn gryf diffyg argyhoeddiad dwfn a gonest ar y mater. Ein hangen blaenaf ydyw ymwasgu at ein gilydd yn nghyfarfodydd yr Eg- lwysi Rhyddion, ac nid eu gadael mewn llawer man y pethau mwyaf llymrig a di=nerth a geir yn yr holl wlad. Ychydig iawn o ddynesad at ein gilydd wyf yn weled hedd- yw yn Nghymru. Eithr y mae Aberystwyth yn un o'r eithriadau ardderchog yn y peth hwn, ac yr oedd hynny yn un fantais arbenig I i'r Geuhadaeth yno, i gael gafael sylweddol a diymdroi ar y lie. QiTreuliais bum noson a Sul yn y dref. Yr wyf yn meddwl mai ar y Sul y dechreuwyd, a chaed ar. wyddion fod yn y bobl ddisgwyl- iadau uchel a gweddiau taer am lwyddiant ysprydol. Yr oedd y dyrfa nos Sul yn fawr iawn, yr hyn ni ddisgwylid hyd yn oed yn Aber- ystwyth. Ymunodd amryw a'r eglwys. Cododd hyny y gwres fesurydd yn dra uchel fel mewn lleoedd eraill, a daeth y tyrfaoedd o hyny allan yn anferth o fawr, a daeth y dref yn llawn o ymferwad crefyddol. Ni phasiodd yr un noson heb i gynifer ymuno a gwahanol eglwysi y dref, yr hyn a eangodd y diddordeb yn fawr. Os oedd cen- figen yn meddwl rhywrai, nid oedd arwyddion o hono yn eu siarad a'u hymddygiad. Pethau ffafriol ddat- genid am y gwaith da gan drigol- ion y lie. Os wyf yn cofio yn gywir tua 30 ddaeth i mewn yn ystod y Genhadaeth, ac y mae rhai o honynt yn addurn i grefydd, ac hyd yn oed i'r pwlpud hyd yr awr hon. Dyma y pryd y dychwelwyd un o'r pregethwyr cynorthwyol mwyaf cymeradwy yn Nghymru, a'r hwn hefyd sydd yn un o'r cym- eriedau crefyddol disgleiriaf yn yr eglwys Wesleyaidd. Dyma i pryd hefyd y derbyniodd dyn ieuangc disglaer ei alluoedd meddyliol, fendith newydd, y symbyliad neill- duol yn nghyfeiriad cychwyn preg- ethu yr efengyl. Yn mhen blyn- yddoedd ar ol hyn, clywais y dyn ieuangc hwn yn pregethu efengyl gras Duw gyda grym mawr, a dyna y pryd yr hysbysodd fi o'r ffaith hon er fy mawr gysur. Yr oedd ar y pryd yn weinidog llwyddianus, ac erbyn heddyw, tra yn parhau i draddodi y genadwri fawr yn fynych, y mae yn Aelod Seneddol o fri mawr dros ran o Gymru. Ni ryfeddwn pe gwelwn ef yn y Weinvddiaeth yn mhen blynyddoedd i ddod. A dyma y math o ddynion ddylai gael eis- tedd yn y Senedd. N i ellir dwyn y Wladwriaeth yn mlaen yn ol egwyddorion tragwyddol teyrnas Dduw, ond trwy egnion dynion y mae yr egwyddorion hyny yn allu rheoleiddiol eu bywyd. Yr oedd yn anmhosibl i'r dylan wadau grasol hyn, fethu gadael argraffiadau annileadwy ar lawer meddwl tu fewn i'r eglwys heblaw y sawl a nodwyd. Cadwed yr Ar- glwydd eglwysi Aberystwyth yn unol a chynes fel hyn i'r dyfodol. Dyma lie y mae gwir undeb i gychwyn, ac nis gallwn Wybod i ba le drachefn yr arweinia'r Arglwydd I ei bobl. DOLGELLAU. neblaw bod Doigellau í radaau fel Aberystwyth, yn cael ei nhod. weddu gan ysbryd undeb cyffelyb i'r un a nodais eisoes, cafwyd mantais arall arbenig er sicrhau llwyddiant i'r Genhadaeth hon. Yr oedd Richard Owen y Diwyg I iwr, wedi bod yn llafurio yn y dref am wythnos neu ddwy yn fiaenorol. Yr oedd ef yr adeg yma yn anterth ei boblogrwydd a'i lwyddiant ys- prydol. Dylifai y bobl ato o bob cyfeiriad, fel nad oedd lie i haner y bobl yn fynych yn nghapeli mwyaf y wlad. Dilynid ei weinidogaeth yr adeg yma gan rhyw nerthoedd cyffrous a dyeithriol anghyffredin. Er na chodai ei olygon i edrych ar y bobl hyd o fewn y pump neu y deng munud olaf, byddai yn llwy- ddo i gael llawer o'i wrandawyr i ymwylltio dan y dylanwad, a cholli eu hunan feddiant yn llwyr ar y pryd. Byddai yn y gwasanaeth le ofnadwy mewn gwirionedd yn fynych. Ymddengys iddo gael rhai odfaqn felly yn Dolgellau. Parodd hyn oil i mi deimlo yn ofnus, pry- derus a 4 nervous iawn i wyneb j y sefyllfa. Cyn cyraedd yno, nis gallwn ymryddhau oddiwrth yr ymdeimlad mai elfen oer iawn fu. aswn ar ol y fath losgfeydd odd. aith, eithr wedi dechreu ar fy ngwaith yn enw'r Arglwydd, gwel- ais arwyddion diamheuol mai nid wedi denu y bobl atto ei hun yr oedd Richard Owen dduwiolfrydig eithr at y Meistr Mawr, yr Hwn a arhosodd yn ei ogoniant mawr yn mysg ei bobl wedi i wr Duw" ymadael. Ie, a dyma brawf tra eglur mai "gwr Duw" ydoedd. Nid oedd ynddo ef unrhyw uehel. gais personol is na gwasanaethu Duw mewn purdeb. Y mae uchel- gais hunanol am ymddangos, a chael pob mantais iddo ei hun, a chymered pawb arall eu siawns, yn angheilwng o Weinidog Crist. "vVedi i Mr Owen ymadael, yr oedd awyrgylch y dref yn llawn o'r per- arogl ysbrydol dymunolaf. Er cyrchu i'r cyfarfodydd yn gyson am wythnosau, nid oedd yr arwydd lleiaf fod y lluoedd yn blino. Gor- lanwent y capel, ac nid oedd pall ar eu diddordeb, eu brwdfrydedd a'u hawydd am ddychweliadau. Yr oedd nifer fawr wedi ymuno yn ystod yr wythnosau blaenorol, a daeth nifer dda drachefn. v At hyn oil cafodd llawrer o ael- odau eglwysig cysglyd ddeffroad grymus, ac eraill symbyliad i'w ffydd au hegni i wasanaeth cref- yddol. Pan yno yn pregethu yn ddiweddar, cefais ymgom a dynion lied ieuanc, yn ymlawenhau mewn siarad am y Genhadaeth hono. Hawdd oedd deall oddiwrthynt eu bod wedi derbyn bendith neill- duol iddynt eu hunain trwy y cyf- arfodydd, er eu bod yn aelodau eglwysig. Na thybier gan hyny fod Cenhadaeth o'r fath yn feth. iant os na welir llawer yn ymuno ar y pryd. Y mae llawer ysywaith yn ymuno cyn eu troi, a rhai heb eu troi o gwbl, ac o fysg y rhai hyn yn gyffredin y daw gwrthgil- wyr. Y mae eraill yn mynu troed- igaeth yr enaid cyn proffesu yn gyhoeddus, a dyma y rhai tebycaf o barhau hyd y diwedd. Arferai y diweddar Wm. Aubry, Llan- erchymedd, a dyweyd fod ambell fran yn ehedeg tros ddau neu dri o gaeau ar ol cael ei saethu, cyn syrthio a dod i'r afael, a bod am- bell i bechadur yn gyffelyb yn byw yn y byd am beth amser, ar ol cael ei lorio gan saethau yr efengyl. Y mae amser o'r dychweledigion hyn yn parhau' yn ffyddlon i'w Har- glwydd byth er hyny. Ond y mae eraill deimlant y diddordeb dyfnaf yn y symudiad ac a roddasant y cvmhorth mwyaf er cyrhaedd yr amcan uwchaf wedi eu symud, rhai i leoedd eraill vn y byd hwn, ac eraill i fyd gwell na hwn. Ond tra yn teimlo prudd-der wrth syllu ar eu gwagleoedd, yr oeddwn yn cael fy sirioli yn fawr wrth weled nifer mor liosog o bobl ieuangc byw ac aiddgar sydd yn gwneud i fyny y mwyafrif o'r eglwys yn y presenol. Llemved yr Arglwydd hwynt ag yspryd gwas- anaeth ar y llinellau mwyaf ysprydol. (I barhau).

[No title]