Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

YSTUMTUEN. I':!

SALEM, ACREFAIR.I

ASHTON-IN-MAKERFIELD. I

.CORRIS. -

SALEM, LLANDDULAS. I

I PRESWYLFA, LLANDUDNO JUNCTION.

CLYDACH VALE. I

PONTRHYDYGROES.I

LLANELWY.I

News
Cite
Share

LLANELWY. I MARWOLAETH.—Drwg iawn ydyw genym gofnodi marwolaeth Mr John Thomas, o'r ddinas hon, yr hyn a gymerodd le ar y laf o Ebrill, yn yr oedran o 65. 'Byr iawn fu ei gystudd-oddeutu wythnos. Gwelodd Duw yn dda felly i un a fu mor ffyddlon a defnyddiol gyda'i achos yn y lie hwn gael y fraint o groesi y glyn yn y man culaf. y fraint, 'er ei fod yn yr oedran uchod nid oedd unrhyw arwyddion o flodau y pren almond i'w canfod. Ni feddyliodd neb fod ei fyr-ysgafn gystudd ef mor agus i gael ei sylweddoli mewn tragwyddol bwys o ogoniant iddo Ef, ond felly y bu. Chwith iawn fydd i aelodau yr eglwys fach yn y ddinas hon o'i golli, Nid oedd dim yn ormod ganddo wneud dros yr achos. Efe mewn gwirionedd oedd ein canghellydd. Mewn nodachfa neu gyngherdd neu Social byddai John Thomas nid yn unig wedi gwneud ei ran, ond wedi gwneud ei oreu bob amser. Bu yn athraw ffyddlawn, ac amryw weithiau yn Arolygwr yr Ysgol Sul. Efe oedd yn gofalu ac yn pioneef y symudiad gyda'r casgliad ar brydnawn Sul tuag at gae! gwr dieithr. Mewn gwir- ionedd coliasom yr aelod mwyaf defnydd- iol yn bosib!, ac y mae colli rhai fel hyn o eglwys fechan yn galled fawr. Ond dy!em gofio geiriau y diweddar Mr Price Hughes yn angiadd ei anwyl gyfaill, ac anwyr gan I bawb trwy Gymru, y diweddar Eglwys- bach—" God buries his workmen but carries on his work." Ydynt, y mae'r gweision goreu yn marw yn y gwaith, ond gobeithiwn y daw ereill yn eu lie. Dydd Sadwrn dilynol hebryngwyd ei weddillion i dir ei hir gartref yn mynwent gyhoeddus y Llan. Darllenwyd wrth y ty gan Arolygwr y Gylchdaith, y Parch D. Darley Davies, Dinbych, a gweddiwyd yn fyr ac i bwrpas gan y, Cynghorydd Mr Boaz Jones, U.H. Yn blaenori yr orym- caith yr oedd Esgob Llanelwy a'r Deon, wedi hynny gweinidogion a blaenoriaid pob enwad, yna aelodau o gangen Urdd y Coedwigwyr (Foresters), o'r hon yr oedd Mr Thomas yn un o'r aelodau hynaf; yna y teulu trallodus a'r dorf enfawr ddaeth i dalu y gymwynis olaf iddo. Yr oedd yr arch wedi ei gorchuddio a blodeudyrch prydferth. Yn nghapel y gladdfa ac wrth lan y bedd gwasanaethwyd gan y Parch i \V. J. Davies, periglor hynaf y ddinas. Dangoswyd cydymdeimlad dwfn a'r teulu ar yr amgylchiad gan bawb yn gyffredinol. Bydded nawdd y nef dros y teulu oil. Nos Sul gwnaed sylwadau prydferth am dano gan ein cyn-weinidog ieuanc y Parch D. R. Thomas, FPint, yr hwn oedd yn digwydd bod yma fel gwr dieithr am y Sul. Chwareuwyd y Dead March ar yr Organ gan Mrs M. E. Jones, Lyndhurst. Bellach nid oes genym ond dweud uwch- ben dy fedd- Cwsg bellaeh, frawd, dy dawel olaf hun, Ac na foed dim i aflonyddu'th fedd Dy Geidwad a'th gymerodd ato'i hun I fyw byth mwy mewn gwlad o hyfryd hedd. ELWYFAB.

TRINITY ROAD, BOOTLF.

-LLANGYNOG I

LLANIDLOES. I

.Astudio MwngloddiaethI

ICenhadaethau Efengylaidd.

[No title]