Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Llith o Awstralia.

Llythyrau at y Gol.

1-Deiseb Dwyn i

I -CYLCHDAITH COEDPOETH,

CYLCHDAITH CAERGYBI. I

I CYLCHDAITH CARNARFON. __!

I CYLCHDAITH ABERYSTWYTH.j

' CYLCHDAITH DOLGELLAU AC…

RUTHIN.

News
Cite
Share

RUTHIN. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol yr ijchod yn Ruthin dydd Iau, Ebrill 9fed, o dan lywyddiaeth y Parch W. G. Williams. Yr oedd hefyd yn bresenol gynrychiolaeth o bob eglwys yn y'Gylchdaith. Daeth y cyfrifon arianol yn !iawn o bob !!e. Rhif yr aelodau yn 277, cynydd o 13 ar y flwyddyn. Gwnaed sylwadau coffaol am y diweddar Edward Hughes, Llanelidan, a phasiwyd i'r Arolygwr anfon Ilythyr o gydymdeimlad a'r teulu yn eu profedig- aeth. Darllenwyd taflen ddirwestol y Gylchdaith, ac ystyrivvyd y cvfryw yn foddhacl. Pasiwyd ar fod i bob eglwys ymuno a'r League of Abstainers. Darllen- wyd ystadegau yr Ysgol Sul, a gohiriwyd y drafodaeth. Darllenwyd report Trusts y Gylchdaith, ac ystyrivvyd y cyfryw yn foddhaol. Pasiwyd ar i'r Gweinidog a Mr E. Rogers Jones fyned iolwg ein capel yn Bryneghvys. Rhoddwyd Notice of Motion ar gyfer y cyfarfod nesaf, i drafod y priod- oldeb o argraffu report o holl gyfrifon eglwysi y Gylchdaith. Pasiwyd i ofyn am Grant ychwanegol. Caniatawyd cais cyf- eillion Hirwaen i adeiladu ty capel, Vestry newydd, a tu mewn newydd i'r capel. Pasiwyd nad oeddym yn cynal Cymanfa Ysgolion eleni. Gwnaed trefniadau ar gyfer un y flwyddyn nesaf, ac etholwyd y gwahanol Swyddogion. Rhoddwyd gwabodldiad unfrydol i'r Arolygwr aros yn y Gylchqaith am flwyddyn, a chydsyniodd yntau. Hefyd yn unfrydol i'w olynydd, y Parch D. M. Griffith, i ddod i'r Gylchdaith. Addawa y Goruchwylwyr fyned i'r Cyfar- fod Talaethol, a. therfynwyd gan Mr J. Lloyd. Diolchwyd i Mr a Mrs Davies, Muriog Stores, am ei darpariaeth rhagorol ar gyfer y cyfarfod. GOII.

LLANASA.