Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

Llith o Awstralia.

Llythyrau at y Gol.

1-Deiseb Dwyn i

I -CYLCHDAITH COEDPOETH,

CYLCHDAITH CAERGYBI. I

I CYLCHDAITH CARNARFON. __!

I CYLCHDAITH ABERYSTWYTH.j

News
Cite
Share

I CYLCHDAITH ABERYSTWYTH. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylchdaith uchod Mawrth 25ain yn Aber ystwyth, o dan lywyddiaeth y Parch Rd. Morgan. Yr oedd hefyd yn bresenol y Parchn Robert H. Pritchard, Tre'rddol, W. Christmas Humphreys, Borth, a Mr James Lewis Jones, Goruchwyliwr, yn nghyd a chynrychiolaeth gref o'r gwahanol eghvysi. Wedi dechreu yn y drefn arferol trwy i'r Llywydd ddarllen, a Mr W. Christmas Humphreys weddio, cadarnhawyd cofnod- ion y cyfarfod diweddaf yn y Borth. Caf wyd adroddiad o Gyfarfod Blynyddol Trustees y Gylchdaith, a theimla y cyfar- fod yn galonog o berthynas i sefyllfa yr ashes. Darllenwyd report y Gylchdaith yn nglyn a'r Genhadaeth Dramor gan Mr John P. Owen, Aberystwyth. Y Gymanfa Ganu.—Gan mai yn Aber- ystwyth y cynlielir y Gymanfa eleni, pas- iwyd fod cynrychiolwyr o eglwys St Paul's i ddewis organydd. Ethol Cynrychiolwyr i'r District.—Dew- isiwyd Mr Evan Pugh, Tre'rddol i gyn- rychioli y Gylchdaith yn Ton Pentre, a Mr John Morris Evans, Borth, os metha un o'r Goruchwylwyr fyned. Darllenwyd Ilythyr oddiwrth Bwyllgory Pregethwyr Cynorthwyol yn gofyn ein ewyllys da. Eglurodd y Llywydd y gwaith da wneir gan y Pwyilgor, mewn d\vyn llyfrau cyfaddas oddifewn cyrhaedd y pregethwyr am bris isel. Pasiwyd fod casgliad yn cael ei wneud ymhob eglwys bore Sabbath, ac etholwyd Mr David John Humphreys, Borth, yn drysorydcl y mudiad ¡I Ymgeisydd am y Weinidogaeth.—Cym- ) eradwywyd Mr W. Christmas Humphreys ) i sylw y Cyfarfod Talaethol. Estyn Gwahoddiad i'r Gweinidogion.— Gofynwyd yn unfrydol a brwdfrydig i'r Parch Richard Morgan i.aros yn y Gylch- daith am y bedwaredd flwyddyn ;-y Parch Robert Hugh Pritchard am yr ail hefyd Mr W. Christmas Humphreys am y bed- waredd, os na cliaiff fynediad trwy borth cyfyng y weinidogaeth. Ethol Olynydd i'r Parch Robert Hugh I Pritchard.—Pasiwyd fod y Goruchwylwyr i ohebu er cael gfweinidog i Tre'rddol ar deifyn tymor Mr Pritchard. Cof-golofn i'r diweddar Humphrey Jones y Diwigiwr.—Cymeradwyodd y cyfarfod yr hyn mae Tre'rddol yn fwriadu ei wncud I' yn nglyn a chodi maen-coffa i'r gwr da uchod, gan m-gymell hyn i syhv y Cyfar- fodvdd Talaethol, a gofyn eu cydymdeim- lad yn nglyn a'r mudiad.- I Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr Thomas John Evans, Bontgoch, oherwydd I v ddamwain dost gafodd yn ddiweddar. Llawenydd i ni yw deall ei fod yn gwella yn dda. Aelodau Newyddion. Gwehvyd dau frawd am y waith gyntaf yn y cyfarfod, sef Mri Thomas Owen, Tre'rddol, a Morgan Hughes, Bontgoch—brodyr ac iddynt air da gan yr eglwysi. Da oedd genym ei gwel'd yn nghyd. I Darparwyd iluniaetii i'r cynrychiolwyr gan Mrs Richard Morgan a Mrs James Lewis Jones, yn cael eu cynorthwyo gan Misses Jones a Morgan. Diolchwyd yn gynes i'r chwiorydd am eu caredigrwydd gan Mr Evan Pugh, Tre'rddol, a Mr John Morris Evans, Borth. c.

' CYLCHDAITH DOLGELLAU AC…

RUTHIN.

LLANASA.