Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
Llith o Awstralia.
Llith o Awstralia. -1 (Gan L. J. E.) t ■ IV. Mewn dosbarth arall, tir aurgynyrch- iol (auriferous land), y mae 689,967 o erwau yn wasgaredig dros ugain o swyddau mewn gwahanol rannau o'r Da lael- ti Os profir rhannau heb aur ynddynt, neu y gellir eu dieithro (alien- ate), heb niweidio y buddianau mwnawl, gellir eu had-ddosbarthu fel tir porfaol neu amaethyddol, a'u defoydiiQ fol y cyfryw. Mae y rlian fwyaf o'r tiroedd hyn yn gyfaddas i hcrfeydd neu berllan- au, a gosodir rbanau helaeth ar brydlesau am brisiau rhesymol iawn. TIE PORFAOL. Y mae o'r cyfryw heb ei osod 3.15-3. 800 o erwau, ac hyd yma lawer ohonno dipyn yn anghysbell yn ucbel-diroedd Wormongatta, Croajingalong, Tambo, Tanjil, Beuambra, Dogong, Delatite, Lowan a Borung. Fel y datblygir y wlad troir y cyfryw i wasanaeth cym- deithas. SEFYDLIADAU PENTKEFOL. Delir dros bum mil ar hugain o erwau gan dros fil o ymsefydlwyr, yn rhoddi cyfartaledd o 24 erw i bob un, ac o werth unigol o rhyw ddau cant a haner o bunnau ( £ 250). Darbodaeth yw hon yn ol ideal Mr Chamberlain o Gartref y Gweithiwr." Er y flwyddyn 1903 rhoddwyd dros driugain mil o b,j, n na u (-f' 6 0, 0 0 Y bunnau ( £ 60,000} yr; fenthyg i'r ymsef- ydlwyr hyn gau y Hywo?raech, ac erbyn M?h? 1913 yr oedd d-?' ? 0 datf wedi ei ad-dalu i'r Llywddraeth. I Disgwylir i'r ymsefydlwr adeiladu ty gwerth o leiaf L.50 yn ystod y flwyddyn gyntaf, a gwelliantau gwerth £25 erbyn diwedd yr ail flwyddyn. I"J "'T T' 1 \C: I SEFYDLIADAU CYFAGOS, t Tel yr Elwgryilla y peiiawd, yi' amcan I mewn golwg ydyw poblogi parthau hel- aeth o'r wlad a ddelir yn awr gan ychydig deuluoedd neu bergpnau. Gweinyddir y Closer Settlement Act gan fwrdd o dri o dan arolygiad y Tir- weinidog (Minister of Lands). Gail y Bwrdd uchod brynu gwerth pum' can' mil ( £ 500,000) o dir cyfaddas yn flyn yddol i'w ddos-ranu yn ffermydd i ymsefydlwyr. Yn gyffredin prynant ystadau mewn ardaloedd cyfleus i ddwfr, rheilffyrdd, marchnadoedd, a chyfleus- derau ereill. Nis gall unrhyw berson gymeryd i fyny ond un fferm, h.y., o'r cyflawn werth o C2,500. Rhaid i'r cyfryw apelio at y Bwrdd, ac ymddang os o'u blaen yn bersonol, talu pum' swllt ofee cofrestru, a phunt tuag at y brydles, ynghyd a blaendal o 3 y cant o gyfan werth y fir-yr hyn a gyfrifir yn I rhandal am y fferm. Os llwydda yr ymgeisydd i brofi ei gymhwysder i xmgymeryd a'r anturiaeth caiff ganiatad i gymeryd meddiant yn uniongyrchol (ca.iff y brydles mor fuan ag y bo yn ymarferol), ac ni ofynir tal ychwanegol am chwe' mis. Os yn aflwyddianus dychwelir ei flaenaal namyn y cofres triad o bum swllt. Nis gall prydlesydd fferm drosglwyddo gwerthu, arwystlo nac ail-osod yrollna chyfran o'r fferm yn ystod y chwe blyn- edd cyntaf o'r brydles, er mewn am- gylchiadau neiliduol gall roi ei fferm i fyny'' neu werthu ei elw yn y gwell- iantau a effeithiodd. Gall sicrhau y "Crown Grant "-ei hawlfraint-yn mhen deuddeg mlynedd ar ol derbyn ei brydles os wedi cydymffurfio a'i theler- au a thalu i fyny weddill y pwrcas. Rhoddir prydles i ymgeiswyr llwydd- ianus o dan yr Actau hyn hyd 314 o flynyddoedd, fel y trefnir cydrhwng y Bwrdd a'r Prydlesydd. Telir arian y, pwrcas mewn 63 neu lai o ran-daliadau haner blynyddol. Y Blaendal yn cael ei gyfrif fel rhan-daliad wrth gwrs, ac y mae y gweddill yn cario Hog yn ol 4?t y cant. Os digwydd dyn oherwydd amgylch- iadau anffafriol fod yn analluog i gyfar- fod y rhan-daliad au chwe'misol, trefnir i'w gohirio, ac nid yn unig hynny, ond i roddi iddo gymcrth arianol (loan) hyd 60 y cant o werth y gwelliantau ar y fferm y cyfry w daliadau gohiriedig neu echwynion, yngbyd a Hog yn ol 5 y cant i gael eu talu i fyny o fewn pym theg mlynedd. Sylwyd o'r blaen y gall yr ymgeisydd llwyddianus gymeryd i fyny fferm 0 werth £ 2,500. Caiff 31i blwyddyn i dalu am dani, y taliadau yn chwemisol yn cynwys cyfartaledd o log ar y gwedd- ill dyledus yn ol 4i y cant. Phaid i'r prydlesydd ar yr un pryd gario allan welliaatau, sef clirio ar amaethu'r tir, adeiladu tai, caeau (fences, &c.), o werth o leiaf un fiwydd-dal yn ystod y flwydd- yn gyntaf o'r brydles, ac wedi hynny yn 01 10 y cant yn ystod y tair blynedd dilynol, a deg (10) arall erbyn diwedd y chweehed flwyddyn. Rhaid felly gario allan welliantau gwerth ugs.in, 20) y cant o gyilawn werth y tir ac os bydd- ant yn fwy o werth na'u gofynion yn ystod y naiii neu'r l,la'il- o r cyfnodau uchod, ceir ereclid (credit) am hynny ar derfyn y ehweched flwyddyn. CAKTEEF GWEITHWYR AMAETHYDD- OL. Trefnir rhandiroedd i'r perwyl hwn yn nghymydogaeth y Sefydliadau cyf- agos," er mwyn darparu gweithwyr i'r ffermwyr ar y naill law a chartref i'r gweithwyr ar y llaw arall, yn nghyd a cbyfran o dir y gall ei ddefnyddio yn ei oriau hamddenol er mantais iddo ef a'i deulu. Gall pob un gael llecyn o 20 neu 25 erw neu chwaneg-yn ol gwerth I y tir. Cyflawn werth tri chant a haner ( £ 350) o bunau. Disgwylir i'r gweith- iwr adeiladu ty gwerth o leiaf C30 yn ystod v flwyddyn gyntaf aq amgau ei I gyfran yn cldiogei cyn diwedd yr ail flwyddyn. Gall prydlesydd sydd wedi cydymffurfio ag amodau ei brydles, gyda chaniatad y Bwrdd, drosglwyddo ail- osod neu ynte wystlo ei brydles. CYMORTH ARIANOL I YMSEFYDLWYR. Yn ol deddfau y tir galluogir y Bwrdd Tirol i estyn cvmorth arianol i'r ymsef- ydlwyr hyd drigain (60) y cant o werth eu gwelliantau neu hyd gyfanswm o bum cant o bunau y cyfryw echwyn (loan) yn nghyd a llogeyn ol 5 y cant y flwyddyn i gael ei had-dalu o fewn pym- theg mlynedd. Cymer 11awer o sefyd- lwyr gyda chyfalaf bychan fantais ar y ddarbodaeth hon er mwyn adeiladu eu tai a thrin y tir. al a nnn y vIr, Ar delerau cyffelyb darbodir Wire Netting am haner pris i ffermwyr i gadw allan gwningod, &c., o'u cnydau a'u per- llanan. Gellir "talu i lawr" am y Netting neu ynte mewn cfran daliadau yn ymestyn dros ddeng mlynedd yn nghyd a Hog o bedwar y cant y fhvyda yn. Mas y Bwrdd wedi prynu 563,554 o erwau "? £!O 1:>4 44 O erwau "111 t)', {, ac weal e1 <id 'd .fi c1c1osranu yn y m-: a a. C1 egrr wyc1, ac nid oes ond rhyw driga. mil 0 erwau o'r oil heb eu cymeryd i fyny. Yr WYf yh gyfarwydd ag amryw o'r Se fyd,,l-"a-,iau hyn, megis Wynna. 23?000 o erwau, ar afon y Goulbourne yn tL a,, freV Kyabram Bruuawm yn agos [ Etches' ter, 13,527 C erWau; Cornelia Creek. 37,036 o erwau; Tongala, 15,228 o erwau. Ac ar y cyfan y maent wedi bod yn dra llwyddianus, er y rhaid addef fod enghreifftiau o fethiant yma a thraw. Mae gan y Bwrdd gant ac wyth (108) o ystadau yn cynwys dros haner can- mil o erwau (563,554); ond o'r hyn nid- oedd tair ystad ar ddeg (13) yn cynwys 31,439 o erwau yn barod i'w gosod hyd y 30ain o Fehefin aiweddaf. Yroedd y llynedd 438,321 o erwau wedi eu hym- sefydlu, ac yn cario poblogaeth o un fil ar bymtheg (16,000). Y mae ar law felly ryw drigain mil (60,000) o erwau yn aros cwsmeriaid, tra y mae y Bwrdd yn gwylio pob cyfleusdra i sicrhau ys- tadau eraill i'r un pwrpas. Y prif bwrpas mewn golwg wrth gwrs ydyw sefydlu pobl briodol ar y tir, a'u cyn- orthwyo yn mhob modd cyfreithlon i wneud eu hymgymeriadau yn llwydd- ianus
Llythyrau at y Gol.
Llythyrau at y Gol. I Y CASGLIADAU CYFUNDEBOL AC AELODAU EGLWYSIG. Mr Gol., Bu irafodaeth ar y Casgliadau hyn yn Nghyfarfod Chwarterol Cylchdaith Towyn, a barnwyd mae doeth fyddai iddynt gael eu talu yn rhan-daliadau Chwarterol o hyn allan, a'u cyfrif yn y cyfanswm sydd yn ddyledus o bob eglwys i'r Cyfarfod Chwarter. Am hyn, ere- dwn nad yw pob eglwys yn fodd Ion rhoddi cyfrif llawn a hyny o blegid y casgliadau hyn; ac yn ychwanegol at hyny fod cryn wrth- wynebiad i dderbyn pobl ieuainc yn gyflawn aelodau pan y dylid gwneyd, oblegid fod hyny yn gol= ygu talu y casgliadau hyn drostynt. I gyfarfod a'r amgylchiadau, tybed nad allai'r Cyfarfod Tal- aethol wrth Assessio'r Cylchdeith; iau ganiatau margin o ugain yn mhob cant ? Pe gwneid hyn, nid wyf yn credu y dioddefa'r Drysorfa o gwbl gan y cynydd tyddai yn ihif yr aelodau. Byddai hyn yn sicr o fod yn anrhaethol fwy teg a Wesleyaid nag fel y mae ar hyn o bryd a diau hefyd y byddai trefn- iant o'r fath yn sicr -o fod yn fan teisiol i lwyddiant yr achos. I R. JONES WILLIAMS
1-Deiseb Dwyn i
1- Deiseb Dwyn i Pasiwyd penderfyniad cryf yng Nghyfar- fod Misol Lleyn ac Eifionydd, a gynhal- lwyd yn Llanaelhaearn ddydd Llan di- weddaf yn rhybuddio aelodau'r eglwysi rhag arwyddo'r deisebau a gymheliid arn- ynt o ddrws i ddrws gan yr Eglwyswyr yn erbyn Dadwaddoliad. Y Parch. 0. Pritch- ard, Nefyn, a'r Parch. # J. Puleston Jones, M.A., Pwliheli. yn dywedyd pethau cryfion am y cyfrwng castiog i fynd tucefn i'r balot. Nid yw Mr. Alfred T. Davies, ysgrifenydd adran Gyirireig v Swyddfa Addysg, wedi bod yn dda ei ieehyd er's tro, ac aelh aui fordaith. Bvdd oddieartref am dair wyth- IIGS.
I -CYLCHDAITH COEDPOETH,
I CYLCHDAITH COEDPOETH, CYFARFOD CHWARTEROL. Cynhaliwyd yr uchod yn Rehoboth, Coedpoeth, dydd Mercher diweddaf, pryd yr oedd dros bed- war ugain o gynrychiolwyr yn bresenol. Llywyddwyd gan y Parch Phillip Price, Arolygwyr y Gylchdaith. V-. edi darllen y cofnodion, a derbyn cvfraniadau yr eglwysi, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad gyda amryw o aelodau oeddynt yn wael, hefyd eraill wedi cyfar- fod a profedigaethau. Penodwyd Mr vValter Williams, Wrex- ham, yn Ysgrifenydd Llenyddiaeth y Gen- hadaeth Dramor; Cafwyd adroddiad Ysgrifenydd Addysg (Mr William Williams), a da oedd deail j fod gweithgarweh yn parbau ynglyn a'r; Ysgol SuL Galwyd sylw at y Llyfrau sydd yn cael eu gwerthu am brisiau arbenig gan y Bookroom. Croesawyd Mri Geo Rowlands, a J. H. Evans i'r cyfarfod. Yr oedd adroddiad Mr Phillip Jones, Ysgrifenydd y Capelau, yn hynod dyddor- ol, palla gofod i roddi y manylion, ond gellir dyweyd fod yr eiddo cyfundebol yn y Gylchdaith yn £ "24,468. Yr oedd adroddiad Mr E. W. Davies, Ysgrifenydd y Genhad- aeth Dramor, yr un mor ddyddorol. Y swm a gasglwyd yn [117 17s. 8c., at hyny [00 5s. 6c. Casgliad y Canmlwydd- iant, yn gwneud y cyfanswm o £ "178 3s. 2c. Etholwyd Mri Llewelyn Williams, Nant, Thomas Jones, Coedpoeth, a Wm, Davies, Bwlchgwyn, yn Gynrychiohvyr i'r Cyfar- fod Talaethol. Yr oedd adroddiad y Goruchwylwyr yn foddhaol, yr un model Ysgrifenydd Trysorfa y Pregethwyr. Penderfynwyd anfon cais at y Cyfarfod I' Talaetholam benodiadgvveinidog ychwan- egol, ac os caniateir y cyfryw ei fod i fyw yn Tanyfron. Gwahoddwyd yr Arolygwr i aros dymor arall, ac yn y cysylltiad hwn, y mae trefn- iadau wedi eu gwneud mewn cyd ddeall a Chylchdaith Liverpool fod Mr Price i aros yma am bedair blynedd. Cadarnhawyd y gwahoddiad i'r Parchn Charles Jones, Meirion Davies. a J. Wil- liam Davies ar gyfer Awst nesaf, a phas- iwyd i rodd? gwahoddiad i'r Parch J. M''einon Jone? Msifod, i ddod i Tanyfron ?-? -<0; ne?a? Cvmeradwywyd adrodd fad?vyllgoriwne? ???einadau yn ad P" y? :,or 1 W neu ,? f ty Bwlchgwyy" n. Darluniau plar?L _u ?" casglu at y Genhadaeth Dramor i ym- ddangos yn y Cylchgrawn nesaf. Rhif yr aelodau 1,402, ar brawf 186. Cafwyd cyfarfod chwarterol eithriadol o dda drwy'r dydd, a darparodd chwiorydd caredig eglwys Rehoboth yn rhagorol ar ¡ gyfer v frawdoliaeth. Diolchwyd iddynt I mewn annerchiadau hwylus gan Mri W. C. Jones a J. W. Jones. lion. I
CYLCHDAITH CAERGYBI. I
CYLCHDAITH CAERGYBI. I Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylchdaith uchod dydd Mawrth, Ebrill 7fed, 1914, yn Bethel, Caergybi, dan ly- wyddiaeth y Parch W. Lloyd Davies, pryd yr oedd yn bresenol y Parchn R. Moreton Roberts a John E. Evans, Mri John Pritch- ard a John Beard, Goruchwylwyr, a chyn rychiolaeth dda o'r gwahanol eglwysi. Darllenwyd cyfran o'r Ysgrythyr gan y Parch Moreton Roberts, ac wedi canu emyn, arweiniwyd y cyfarfod mewn gweddi gan Nlr-L John Williams a John Pritchard. Gofynwyd i'r Parch John E. Evans gym- eryd cofnodion o weittlrediadau y cyfarfod, oherwydd absenoldeb anorfod Mr Llew Jones. Darllenwyd a chadarnhawyd y cofnod- ion. Derbyniwyd cyfrifori yr eglwysi. Llaw- enydd i'r cyfarfod oedd derbyn y cyfrifon yn llawn o bob eglwys, a deall fod cynydd yn rhif yr aelodau u 23 ar y flwyddyn. Cyfeiriwyd yn ddwys at golled y Gylch- daith ac eglwys Bethel yn symudiad drwy farwolaeth, y diweddar Mr William Morris. Pasiwyd i anfon cydymdeimlad y cyfarfod i Mrs Morris. Cyfiwynwyd adroddiad yrys-ol Sul gan; y Parch R. Moreton Roberts. Rhoddwyd peth sylw i fater yr Ysgol Sul, ond gohir- lwyd yr ymddiddan hyd cyfarfod Meliefin. Gwnaed yr un peth gydag adroddiad yr Ysgrifenydd Dirvy^stol, y Parch John E. Evans. Llawenychwyd fod cangen o'r cyngrair newydd wedi ei sefydlu ym mhob eglwys ac eithrio un drwy y Gylchdaith. Darllenwyd taflen y capeli gan Mr John Beard, a rhoddwyd sylw i anaryw bethau ynglyn a chapeli y Gylchdaith --Grant i Rhosneigr, a caniatad i werthu capel Niw- bwrch. Pasiwyd i Mr John Pritchard a J. R. Williams i wneud ymchwiliad i rai materion ynglyn a Irca pcluchod. Addawodd v ddau Oruchwyliwr fynd i'r Cyfarfod Taleithiol. Etholwyd y brodyr canlynol yn gynrych- iolwyr i'r uchod ;—Mr O. E. Hughes, Bod- ehva Mr R. Lake Jones, Caergybi, a Mr R. Morris Roberts, Caergybi, os y metha un o'r brodyr eraill. Daeth mater ty y gwr priod ychwanegol i sylw y cyfarfod. Ymddiriedwyd sicrhau ty, neu rhentu ty i'r pwyilgor psnodedig gan y cyfarfod chwarterol. Pasiwyd fod y ceisiadau am le fel Lay Agent i'r Gylchdaith i fod yn llaw yr Ar- olygwr erbyn y cyfarfod chwarterol nesaf, Gorffenaf 7fed, 1911. Rhoddodd y Gor- uchwyhvyr amcangyfrif o'r gost ychwan- egol, ac o'r Assessment newydd, ynglyn a dyfodiad y trydydd gwr priod a'r Lay Agent i'r Gylchdaith. Gofynwyd i'r Parch W. Lloyd Davies ac R. Moreton Roberts wasanaethu y Gylch- daith am flwyddyn arall. Cydsyniodd y ddau a dymuniad y cyfarfod. Rhoddwyd gwahoddiad unfrydol i'r I Parch R. Conwy Pritchard ddod i'r Gylch- daith i fyw yn Caergybi yn 1916. Dymunwvd ar i'r Goruch wyhvyr sicrhau olynydd i'r Parch Moreton Roberts, Aber- ffraw, ar gyfer 1U16. Rhoddodd Mr Edward Jones gyfrifon y Genhadaeth Dramor. Ystyriwya y cyfrif- on yn foddhaol iawn tra yn cofio yr am I Y}-] C' :c, '> d U gyichiadau. I Terfynwyd cyfarfod da drwy weddi gan yr Arolygwr. I Trwy garedigrwydd Mri Jonathan Math- ias ac Edward Jones, darparwyd gwledd ar gyfer y cynrychiolwyr. Gwasanaeth- wyd wrth y byrddau gan Mrs Beard, Mrs Mathias, a Mrs W. Lloyd Davies. Ar gyn- ygiad Mr John Beard ac eiliad Mr E. D. Williams, diolchwyd yn gynes i'r oil am eu caredigrwydd. Convention.—Yn yr hwyr am 0.30, cyn- haliwyd Convention. Daeth cynuiiiad da ynghyd, a siaradwvd gan y Parchn W. Llovd Davies, R. Moreton Roberts, John E. Evans, John Beard ac R. Lake Jones. Yr oedd ton uchel i'w deimlo yn y cyfarfod hwn, a datganwyd gan amryw fod augen mw-y o gyfarfodydd o'r fath ynglyn a'r cyfarfod chwarler, GOB,
I CYLCHDAITH CARNARFON. __!
CYLCHDAITH CARNARFON. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylchdaith uchod yng Nharnarfon Ebrill 4ydd, 1914. y Parch R. Mon Hughes yn y gadair. Yn bresenoi y Parchn R. W. Jones, W. J. Jones, R. Conwy Pritchard ac Ishmael Evans, Mri David Roberts, Y.H., a Robert Hughes; Goruchwylwyr y Gylch- daith, a chynrychiolaeth dda o bob lie. Dechreuwyd drwy weddi gan y Parch Ishmael Evans. Cadarnhawyd yn unfrydol y gwahodd- iadau i'r Parchn David Jones, Thomas Hughes ac R. J. Parry i ddod i'r Gylch- daith ym Medi nesaf. Dygwyd enw y Parch J. R. Roberts ger- bron y cyfarfod fel olynydd i'r Parch R. Conwy Pritchard fill MhenisE'rwaen. Pasiwyd yn unfrydol i roi gwahoddiad i'r Parch J. R. Roberts yn y goleu fod Mr Pritchard yn symud ym Medi nesaf. Penderfynwyd ffurfio pwyilgor i'r diben o wahodd gweinidogion i'r Gylchdaith, y pwyllgor i gael ei wneud i fyny fel y can- lyn :—Y Goruchwylwyr, pedwar o 1 sect- ion Carnarfon, a dau o bob section' a.-all yn y Gylchdaith. Etholwyd y rhai canlynoi i fynd i'r Cyf- arfod Talaethol Mr O. T. Evans a Mrs Owen Williams. Rhoddwyd cyfrif o sefyllfa gyliidol y Gvichdaitn gan y Parch Ishmael Evans, ac awgrymodd y gwelliantau canlynoi, y rhai a dderbyniwyd gan y cyfarfod 1, I ffurfio-pwyllgor i ystyried sefyllfa gylIldoI y Gylchdaith, y pwyllgor i gael ei gyfan- soddi o un o bob eglwys yn y Gylchdaith. 2, Nad yw y cyfarfod chwarterol" rhagllaw i fod yn gyfrifol am gasgliad y Genhad- aeth Gartrefol. 3, Nad ywT adgyfienwad i dai y gweinicloginn i fod droS £ l, cyn çl çfnogaeth y cyfarfod chwarterol, -Darllenwyd Schedule yr Ysgol SuI gan Mr Richard Hughes, PortdinorwiQi (jO- hiriwyd yr ym jrafodaeth hyd gyfar- fod Meheun. Rhoddwyd cyfrif o aelodau y Gylchdaith a chafwyd fod 28 o gynydd ar y chwarter o'r blaen, 4 yn llai ar Mawrth diweddaf. Darllenwyd Schedule y Trust gan y parch Ishmael Evans, a phasiwyd i ystyr- iaeth y cyfarfod nesaf. pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a theuluoedd y rhai ymadawedig canlynol —Mrs Edward Hughes, penygroes; Mr Robert T. Hughes, Carnarfon, a Mr Owen Thomas, Seion. Llawenydd mawr gan y cyfarfod oedd gweled Mrs Owen Williams (gweddw y diweddar barchedig Owen Williams) yn bresennol, yn eyflvvyno cheque a £100 i'r Goruchwylwyr, sef C50 i'r bwrdd chwar- terol, a'r £ 50 arall at wasanaeth yr eglwysi ar yr amod eu bod hwythau yn codi swm cyfatebol. Diolchwyd i Mrs Williams am ei haelfrydedd gan Mri John price, John Griffith Jones a Robert Hughes. Rhoddwyd y te gau Mrs Hugh Jones, yn cael ei chynorthwyo gan Mrs Owen Wil- liams, Mrs Ishmael Evans, Mrs Mon Hughes, a Mrs Roberts, Ty Capel. I R. C. P.
I CYLCHDAITH ABERYSTWYTH.j
I CYLCHDAITH ABERYSTWYTH. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol y Gylchdaith uchod Mawrth 25ain yn Aber ystwyth, o dan lywyddiaeth y Parch Rd. Morgan. Yr oedd hefyd yn bresenol y Parchn Robert H. Pritchard, Tre'rddol, W. Christmas Humphreys, Borth, a Mr James Lewis Jones, Goruchwyliwr, yn nghyd a chynrychiolaeth gref o'r gwahanol eghvysi. Wedi dechreu yn y drefn arferol trwy i'r Llywydd ddarllen, a Mr W. Christmas Humphreys weddio, cadarnhawyd cofnod- ion y cyfarfod diweddaf yn y Borth. Caf wyd adroddiad o Gyfarfod Blynyddol Trustees y Gylchdaith, a theimla y cyfar- fod yn galonog o berthynas i sefyllfa yr ashes. Darllenwyd report y Gylchdaith yn nglyn a'r Genhadaeth Dramor gan Mr John P. Owen, Aberystwyth. Y Gymanfa Ganu.—Gan mai yn Aber- ystwyth y cynlielir y Gymanfa eleni, pas- iwyd fod cynrychiolwyr o eglwys St Paul's i ddewis organydd. Ethol Cynrychiolwyr i'r District.—Dew- isiwyd Mr Evan Pugh, Tre'rddol i gyn- rychioli y Gylchdaith yn Ton Pentre, a Mr John Morris Evans, Borth, os metha un o'r Goruchwylwyr fyned. Darllenwyd Ilythyr oddiwrth Bwyllgory Pregethwyr Cynorthwyol yn gofyn ein ewyllys da. Eglurodd y Llywydd y gwaith da wneir gan y Pwyilgor, mewn d\vyn llyfrau cyfaddas oddifewn cyrhaedd y pregethwyr am bris isel. Pasiwyd fod casgliad yn cael ei wneud ymhob eglwys bore Sabbath, ac etholwyd Mr David John Humphreys, Borth, yn drysorydcl y mudiad ¡I Ymgeisydd am y Weinidogaeth.—Cym- ) eradwywyd Mr W. Christmas Humphreys ) i sylw y Cyfarfod Talaethol. Estyn Gwahoddiad i'r Gweinidogion.— Gofynwyd yn unfrydol a brwdfrydig i'r Parch Richard Morgan i.aros yn y Gylch- daith am y bedwaredd flwyddyn ;-y Parch Robert Hugh Pritchard am yr ail hefyd Mr W. Christmas Humphreys am y bed- waredd, os na cliaiff fynediad trwy borth cyfyng y weinidogaeth. Ethol Olynydd i'r Parch Robert Hugh I Pritchard.—Pasiwyd fod y Goruchwylwyr i ohebu er cael gfweinidog i Tre'rddol ar deifyn tymor Mr Pritchard. Cof-golofn i'r diweddar Humphrey Jones y Diwigiwr.—Cymeradwyodd y cyfarfod yr hyn mae Tre'rddol yn fwriadu ei wncud I' yn nglyn a chodi maen-coffa i'r gwr da uchod, gan m-gymell hyn i syhv y Cyfar- fodvdd Talaethol, a gofyn eu cydymdeim- lad yn nglyn a'r mudiad.- I Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr Thomas John Evans, Bontgoch, oherwydd I v ddamwain dost gafodd yn ddiweddar. Llawenydd i ni yw deall ei fod yn gwella yn dda. Aelodau Newyddion. Gwehvyd dau frawd am y waith gyntaf yn y cyfarfod, sef Mri Thomas Owen, Tre'rddol, a Morgan Hughes, Bontgoch—brodyr ac iddynt air da gan yr eglwysi. Da oedd genym ei gwel'd yn nghyd. I Darparwyd iluniaetii i'r cynrychiolwyr gan Mrs Richard Morgan a Mrs James Lewis Jones, yn cael eu cynorthwyo gan Misses Jones a Morgan. Diolchwyd yn gynes i'r chwiorydd am eu caredigrwydd gan Mr Evan Pugh, Tre'rddol, a Mr John Morris Evans, Borth. c.
' CYLCHDAITH DOLGELLAU AC…
CYLCHDAITH DOLGELLAU AC ABERMA W. Cynhaiiwyd cyfarfod chwarterol yr uchod yn Abermaw dydd Sadwrn, Ebrill 4ydd, o dan lywyddiaeth y Parch H. Meirion Davies. Yn bresenol 'roedd gwein- idogiot1 y Gylchdaith ynghyd a chynrych- iolaeth gref o'r holl eglwysi ac eithrio dvvy. 1. Wedi dechreu y cyfarfod trwy fawl a. gweddi, croesawyd aelodau newydd i'r cyfarfod. rhai welvvyd yno am y tro cyntaf,. sef y Mn R. Brown, R. J. Roberts, a W. A. Meredith. 2. Derbyniwyd cyfraniadau arianol yr eglwysi. 3. Gwnaed coflhad o'r aelodau a hun. asant yn ystod y chwarter, sef Mrs Capt, Roberts, Abermaw, mam y Parch Peter Jones Roberts Mrs Jones, Harlech, priod loan Glan Menai; Miss Ellis, Staffordshire House, Abermaw; a'r brawd William Williams, Dolgellau. Siaradwyd vchydig eiriau pwrpasol gan yr Arolygwyr ac eral ill, a phasiwyd fod cydymdeimlad y cyfarfod yn cael ei fynegu i'r gwahanol deuluoedd. Datganwyd cydymdeimlad dwys y cyfarfod a Mr John Price, Llech- wedd Du, a'r teulu yn olaf ond nid lieiaf a'r Parch William Price a'i briod yn eu profedigaeth chwerw o golli plentyrt bach deng mis oed. deng 'Dewiswyd David Roberts, Abermaw. a John Thomas Owen, Dyffryn, fel cyn- rychiolwyr ychwanegol i'r cyfarfod Tal- aethol sydd i'w gynal ym rvlangorEbrill 27ain. 4. Gwnaed sylwadau gan yr Arolvgwr ar rai o ystadegau blynyddol yr eglwvsi- L Schedules y capeli yn galonogol iawn. 2. Cyfrif aelodau yr Ysgol Sul yn dangos ileihad mawr yn rhif yr aelodan. 3. Ystad- egau Dirwest yn foddhaol. 5. Wedi i'r brawd Humphrey Nedd Owen, Dolgellau, gael ei arholi gan yr Arolygwr, pasiwyd i'w enw gael ei roddi ar y Dian fel cyflawn bregethwr cvnnorth- wyoL Llawenydd mawr i'r cyfarfod oedd deall fod ei frawd, Mr Griffith Rowland Owen, Oswestry, gynt o Dolgellau, yn ymgeisydd eleni am y weinidogaeth. Datganwyd dymuniadau goreu y cyfarfod iddo. G. Rhoddwyd gwahoddiad i'r Parch W. Langford Brooks, Harlech, aros yn y Gylchdaith am flwyddyn arall. 7. Notice of Motion gan Mr R. Griffith, Abermaw. 8, Fel alfer, darparwyd te. YSG.
RUTHIN.
RUTHIN. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol yr ijchod yn Ruthin dydd Iau, Ebrill 9fed, o dan lywyddiaeth y Parch W. G. Williams. Yr oedd hefyd yn bresenol gynrychiolaeth o bob eglwys yn y'Gylchdaith. Daeth y cyfrifon arianol yn !iawn o bob !!e. Rhif yr aelodau yn 277, cynydd o 13 ar y flwyddyn. Gwnaed sylwadau coffaol am y diweddar Edward Hughes, Llanelidan, a phasiwyd i'r Arolygwr anfon Ilythyr o gydymdeimlad a'r teulu yn eu profedig- aeth. Darllenwyd taflen ddirwestol y Gylchdaith, ac ystyrivvyd y cvfryw yn foddhacl. Pasiwyd ar fod i bob eglwys ymuno a'r League of Abstainers. Darllen- wyd ystadegau yr Ysgol Sul, a gohiriwyd y drafodaeth. Darllenwyd report Trusts y Gylchdaith, ac ystyrivvyd y cyfryw yn foddhaol. Pasiwyd ar i'r Gweinidog a Mr E. Rogers Jones fyned iolwg ein capel yn Bryneghvys. Rhoddwyd Notice of Motion ar gyfer y cyfarfod nesaf, i drafod y priod- oldeb o argraffu report o holl gyfrifon eglwysi y Gylchdaith. Pasiwyd i ofyn am Grant ychwanegol. Caniatawyd cais cyf- eillion Hirwaen i adeiladu ty capel, Vestry newydd, a tu mewn newydd i'r capel. Pasiwyd nad oeddym yn cynal Cymanfa Ysgolion eleni. Gwnaed trefniadau ar gyfer un y flwyddyn nesaf, ac etholwyd y gwahanol Swyddogion. Rhoddwyd gwabodldiad unfrydol i'r Arolygwr aros yn y Gylchqaith am flwyddyn, a chydsyniodd yntau. Hefyd yn unfrydol i'w olynydd, y Parch D. M. Griffith, i ddod i'r Gylchdaith. Addawa y Goruchwylwyr fyned i'r Cyfar- fod Talaethol, a. therfynwyd gan Mr J. Lloyd. Diolchwyd i Mr a Mrs Davies, Muriog Stores, am ei darpariaeth rhagorol ar gyfer y cyfarfod. GOII.
LLANASA.
LLANASA. Cynhaliwyd cyfarfod chwarterol yn y Groes Ebrill 8fed, dan lywyddiaeth y parch J. Lloyd Jones. Yr oedd hefyd yn bresenoi, y parch D. M. Griffith a'r ddau Oruchwyl- wvr, a chynrychiolaeth dda. Dechreuwyd trwy fawl a gweddi effeith- iol gan gan y brawd ieuangc Thomas, Jones, Ffynnongroew. Darllenwyd y cofnodion a chadarnha- wycJ hwynt. Galwodd y Llywydd sylw at yr angen- rheidrwydd o fabwysiadu y Safonau y Maes Liafur. Ail etholwyd Ysg y Cyfarfod Chwarter. Darllemwyd ystadegau y Genhadaeth Dramor gan Mr Goodman Ellis. Gohir- iwyd ystadegau Dirwest a'r Ysgol Sul hyd. y cyfarfod nesaf. Darllenwyd Schedule y capelau gan Mr, John Heritage, yn absenoldeb yr Ysgrifen- ydd, a diolchwyd iddo. Rhoddwyd gwahoddiad i'r parch D. M. Griffith i aros ar y Gylchdaith am flwydd- yn arall, ac atebodd yn gadarnhaol. Hefyd cadarnhawyd gwahoddiad y parch W. P. Roberts i'r Gylchdaith. Arholwyd y brawd James Elder gan y Llywydd—arholiad maith a manwi, a chafwyd atebion boddhaol. Siaradodd amryw o frodyr am ei alluoedd fel pre- gethwr, a phenderfynwyd iddo fod ar y plan nesaf yn bregethwr cyflawn. pasiwyd i'r Ysgrifenydd, Arthur Wil- I liams, i gynrychioli y cyfarfod chwarter yn y Cyfarfod Taleithiol, a Wm. parry a \V. I A. Jones os metha y Goruchwylwyr Terfynvvyd trwy weddi gan y Llywydd, i A. W.