Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

I BWRDD Y GOL.!

INODIADAU WYTHNOSOL. I

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

Llanwyd calon- Teyrngarwch au Ymneilltuwyr y Llywodraeth Cymru a phryder i Gymru. dwys yn ystod y tair wythnos di- weddaf gan ofn gweled siomi ei gobaith am basio Mesur Datgys- ylltiad. Cyfarfu aelodau Seneddol Cymru a gwnaethant apel am i'r Llywodraeth fyned rhagddi, a dod a'r Mesur ymlaen am ei Ail Ddar- lleniad y cyfie cyntaf posibl. Yr wythnos hon, cawsant ateb oddi- wrth y Brif Chwip y Llywodraeth yn dywedyd na raid i Gymru bryderu dim, y dygir y Mesur ymlaen yn ddiymdroi, ac y gofelir na siomir dyheadau Cymru. Er hyn i gyd, caed nodyn arwyddoc- aol iawn yn y Times y dydd o'r blaen, yn yr hwn y dywedyd nad oedd y Llywodraeth eto wedi yngan y gair olaf ar bwnc Dad- waddoliad. Awgrym oedd y para- graff fod yna ychwaneg o ildio i fod ar bwnc yr arian cyn y daw y mesur yn ddeddf. Tybed fod y fath beth yn bosibl ? Addefwn fod addewidion a llwon politicaidd yn ami yn bethau bregus a diddall iawn; ond tybed o ddifrif fod y Llywodraeth hon yn Llywodraeth Ryddfrydol mor eithafol o an- nheyrngarol i Qymru sydd trwy yr hirfaith flynyddoedd wedi bod yn cynal breichiau Rhyddfrydiaeth ? Ni allwn gredu yn y fath frad nes y bydd raid i ni wneud hynny. Llawen genym fod y Pwyllgor Canolog yn effro. Cynhaliwyd cwrdd o hono yn yr Amwythig ddydd Mawrth, deallwn. Ni chlywsom beth a basiwyd yno. Tybed nad ein dyledswydd os ceir son am ychwaneg o gyfadd- awd ydyw gwrthod y Mesur ben a chrwper, cyhoeddi rhyfel yn erbyn y Llywodraeth a chychwyn mud- iad gwrth-ddegymol. Mae'n wiry telir y degwm yn awr i'r Meistr tir ond ceir miloedd o amaethwyr a digon o grit a gwydnwch yn- ddynt i wrthwynebu prelad ac ys- gweiar. Son am ddeiseb yr Ym neilltuwyr duwiol (?) Beth yw y fath brotest ragrithiol yn yrnyl" y brotest a wneir yng Nghymru os oes yn meddwl y Llywodraeth y bwriad lIeiaf i'n bradychu. Ca ein cyfeillion eglwysig wybod cyn hir, os bradychir ni, beth yw gwerth yr enwau a gasglwyd gan ddynt ar ei deiseb trwy gynifer o ystrywrau anonest, ac ystrywgar.

[No title]

[No title]

I TAMEIDIAU GWLEIDYDDOLI

Beirdd Eifionydd