Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

I BWRDD Y GOL.!

INODIADAU WYTHNOSOL. I

News
Cite
Share

NODIADAU WYTHNOSOL. Ddiwedd yr wyth- Bil y Ddiod nos yr oedd yn y am 1913. Times' lythyr Mr George B. Wilson, ysgrifenydd yr United Kingdom Alliance.' yn rhoddi ffigyrau arn yr yfed fu yn y deyrnas yn ystod 1913. Gofidus canfod cynydd ar y flwyddyn cynt o dros bum' miliwn o bunau yn y swm wariwyd. Yr oedd y flwyddyn 1913 yn eithriadol yn ei llwyddiant masnachol, a diau fod y cyflogau dalwyd yn ystodyflwyddyn y swm uchaf dalwyd erioed. Dengys ffigyrau Mr Wilson fod cyfran dda o'r cyf- logau wedi myned i goffrau'r fasnach. Siomedigaeth gweled nad yw sobrwydd yn enill tir i'r graddau y tybid ei fod y blynydd- oedd diweddaf. Yr oedd y lleihad cyson am amryw flynyddoedd yn creu gobeithion am gyfnod gwell; ond profa'r ffigyrau am y flwyddyn ddiweddaf mai araf y daw diwyg- iad, a bod yn rhaid goddef siom a digalondid yn awr ac eilwaith. Mae un cysur i'w gael wrth gym- haru'r cyfrif a chyfrifon blynydd- oedd llewyrchus yn y gorffenol. Dwy flwyddyn felly oedd 1874 ac 1899. Pe buasai cyfartaledd yr ymyfed yn 1874 wedi ei gadw i fyny yn 1913, buasi,li'r swm waresid y llynedd yn £ 242,000,000, tra mai'r swm wariwyd oedd £ "166,681,000. Mae hyn o leiaf yn galondid. Pa bryd y deffry y wlad vnghylch drygioni diota.

[No title]

[No title]

[No title]

[No title]

I TAMEIDIAU GWLEIDYDDOLI

Beirdd Eifionydd