Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

[ CYLCHDAITH CEFN MAWR.

MACHYNLLETH.II

I MYNYDD SEION, LERPWL. j

I NEWYDDION WESLEAIDD.

News
Cite
Share

I NEWYDDION WESLEAIDD. I PEMBRE. Gyda jgohd dwys yr ydym yn cyfnodi marwolaetn Mrs. Evans, Panty golien yr hyn gymerodd le boreu dydd Gwener, Mawrth 20, sef priod Mr. John Evans, un o oruchwylwyr Cylchdaith Llanelly. Nid oedd y chwaer wedi bod dda ei hiechyd ers amser, bu yn achwyn trwy y gaua-f eto yr oedd yn codi bob dydd, cyfododd fel arfer dydd Iau blaenorol i'w mharw,la bwriadai godi y diwrnod y bu farw, nid oedd neb yn meddwl fod y diwedd mor agos. Yr oedd Mr. Evans a'r bechgyn wedi myned at eu goruchwylion fel arfer, ac yr oedd y mab ieuengaf yn paratoi i fyned, ond yn sydyn fe alwyd ein chwaer gartref, fel y mae y fellten yn dyfod o'r Dwyrain, Hunodd yn dawel heb struggle, a chroesoedd y glyn bron heb yn wybod, "ac ni chaed hi, canys Duw a'i cymmerodd hi ymaith." Dydd Mawrth dilynol hebryngwyd yr hyn oedd farwol o honi i fynwent Hermon, Macpelah I y teulu. Darllenwyd a g weddi wyd yn y ty gan ein Gweinidog y.Parch. Ll. A. Jones, ac yn y capel gan y Parch. Mr. Rees (A), a siaradwyd gan ei gweinidog pryd y syl- wodd ar rai o nodweddion amlycaf ei chymmeriad. Cymmeriad distaw a thawel oedd ein chwaer ond yr oedd yn force mawr nerthol yn mywyd y teulu. Fel y mae vn hysbys i'r holl weinidogion sydd wedi bod yn llafurio ar y tir y- mae teulu Fantycelyn wedi bod yn deulu nodedig gyda'r achos yn Hermon trwy y blynyddau, a gwnaeth Mrs Evans eirhan I fel priod a mam i'r teulu. Gwnaeth ein chwaer ei rhan bob amser gyda phob darlith, cyngherdd a phob ymdrech gydag amgylchiadau yr achos. Yr oedd ganddi I broflad o bethau crefydd yn ei hysbryd, a llawer gwaith y clywsom hi yn ystod y misoedd diweddaf yn dweyd ei bod yn myned adref. Meddai synwyr cyffredin cryf a defnvddiai hwnw i'r pwrpas goreu. Bu yn géLdlg iawn i Weision y Gair, a bu yn fiyddlon yn Ei holl dy. Yr oedd yn hotlolddirodresa naturiol yn mhob peth a wnai. Yr oedd rhyw naturioldeb hyd yn nod ynglyn a'i mharw, ac edrychai mor naturiol wedi i'r tenant adael y ty. Ni chafodd ei bendithio a hen ddyddiau, bu farw wedi troi ei thri ugain a phump, ond cafodd ohvg ar yr Iachawdwriaeth. Wedi gwasanaeth yn Hermon awd at lap. y bedd, ac wedi darllen y wasanaeth I angladdoi, ac i'r Parch Jones (M.C.) weldio, ymwahanwyd wedi canu emyn. Derbyniwy7d amryw o lythyrau oddiwrth wahanol weinidogion, a'r oil yn dwyn tystiolaeth uchel i'n hanvvyl chwaer. Bydded In brawd, Mr John Jones, yr hwn sydd yn un o'r lleygwyr amlycaf yn ein Talaeth yn ogystai ac yn Hermon, yn nghyda Miss Evans, yr unig ferch, a'r pump mab sydd mor nodedig yn Hermon, a'r cysylltiadau perthynasol eraill, gael nerth yn y dydd blin. Bendithied Duw y teulu a'r Eglwys yn yr adwy lydan sydd wedi ei gwneyd yn symudiad ein chwaer. Duw fo gyda chwi nes eto gwrdd I CYFAILL.

¡B YD CREFYDDOL.-

1 Rhyddfreiniad y Capeli.

CYLCHDAITH STOCKTON-ON-TEES.