Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

Advertising

[ CYLCHDAITH CEFN MAWR.

MACHYNLLETH.II

I MYNYDD SEION, LERPWL. j

I NEWYDDION WESLEAIDD.

¡B YD CREFYDDOL.-

1 Rhyddfreiniad y Capeli.

CYLCHDAITH STOCKTON-ON-TEES.

News
Cite
Share

CYLCHDAITH STOCKTON-ON-TEES. Cynhaliwyd y cyfarfod hwn, Sadwrn, y, 4ydd cyfisoI,yn" nghapel Stockton, dan ly-f, wyddiaeth y Parch J. Lewis. Yr oedd hefyd yn bresenol, Cadeirydd y Dalaeth. y Parch R. Lloyd Jones, ynghyd a chynrych- iolaeth weddol o bob eglwys yn y Gylch- daith. Wedi dechreu y cyfarfod yn y drefn arferol, datganodd y Llywydd ei lawenydd o gael y Cadeirydd gyda ni un- waith eto, yn edrych mor dda. Atebwyd gan Mr Jones. Llawenhai yntau ein gweled ninnau yn dal i ymdrechu yn ngwyneb ein anhawsderau i gadw yr ach- osion Cymreig yn fyw, a hynny mor bell o Gymru. Awd trwy waith y cyfarfod yn rhwydd iawn. Darllenwyd y gwahanol Schedules gan y Llywydd. Cafwyd fod ychydig o leihad yn nifer aelodau y Gylchdaith er y flwyddyn o'r blaen, hyn i'w briodoli i symudiadau trwy farwolaeth, ac hefyd rhai wedi symud i ar- daloedd eraill. Yn nghyfrif y Genhadaeth Dramor, caf- wyd cynydd sylweddol. Casglwyd yn agos i [10, a hynny yn beaaf gan y plant ein cyfran fel Cylchdaith i Drysorfa y Canmlwvddiant yn cyrhaedd hefvd dros £ 4 10s. Gwahoddwyd ein gweinidog i aros gyda 'ni flwyddyn arall, a chydsyniodd yntau a'r cais. Rhoddwyd gair uchel i'w bregethau melus ac adeiladol. Penodwyd Mr Walter Edwards a Mr Arthur H.Hughes,Stockton, yn gynrychiol- wyr i'r Cyfarfod Talaethol. Cafwyd gair ymhellach gan y Cadeir- ydd. Gofidiai clywed nad oedd ond un Ysgol Sul yn y Cylchdaith (sef yn Coun- don). Addefai fod yna anhawsderau gyda'r plant a'r bobl ieuainc, eithr taer cymhellai y rhai mewn oed i gyfarfod er mwyn cadw Ysgol yn agored pe y dymun- ai rhai o'r ieuainc ddod yno. Cafwyd ym- drafodaeth pur helaeth ar hyn, a theimlid mai nid ofer yr a, ond y deiilia martiis o'r siarad. Hyderwn y gwelir ffrwyth i'r ym- drafodaeth yn y gwahanol eglwysi yn ystod misoedd yr haf yma. Terfynwyd cyfarfod da trwy weddi gan y Llywydd. Yn dilyn y cyfarfod eisteddasom wrth fwrdd yn llawn o bob danteithion, ac wedi gwneuthur o bawb cyfiawnder a hwynt, djolchwyd yn gynes i Mr Thomas Roberts, Stockton, am ei ddarpariaeth dda a'i hael- ioni, ac yn swn Nos da," ymwahanwyd, Y Sabboth, pregethwyd yn nghapel Stockton, aril 10.30 a (i. gan y Parch R. Lloyd Jones, ac am 2.30 y prydnawn gan Mr J ames Harris, Stockton. YSG.