Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

Cenhadaethaa Efengylaidd,…

-QweBa Criccieth.I

l LHtWedd 0 Awstralia. I

News
Cite
Share

LHtWedd 0 Awstralia. (Gan L. J. R.). ————— V Cyn prysuro o honof i ddisgrifio ein cyfundrefnau dyfrhaol fel elfen arall yn -effeithio yn ffafriol ar yr hinsawdd, yn ogystal ag fer mantais gyfJredinol i'r Sefydlwr (Settler) a'r holl boblogaeth, goddefer i mi nodi faint o dir cyfaddas- ol a defnyddiol a feddwn. Mae yn Victoria tua un ar bymtheg ar hugain a chwarter o filiynau \56,245,760) o erwau o dir. Ar ddiwedd Rhagfyr 1912 yr oedd dros ddeg-miliwn-ar hugain a haner (30,627,461) o'r cyfanswm yna yn eiddo cyfriniol, a thua chwe' miliwn a haner (6,500,000) yn y cwrs o dros- glwyddiad. Mae felly dros bum' mil iwn ar hugain a haner (25,618,299) o erwau yn aros yn eiddo Coronol neu! Genedlaethol. Y mae dros ddeuddeg mil a chwarter (12,354,924) yn cael eu cadw yn reserves coedwigoedd, ffyrdd cyhoeddus, colegau amaethyddol, &c., heblaw y tir sydd eto heb ei werthu mewn dinasoedd a threfi heblaw agos i bedair miliwn o erwau a ddelir dan brydlesoedd. Yn gadael yn wedd- ill dros dair miliwn ar ddeg a chwarter (13,253,376) o erwau. Wele y manylion am y tir a ddelir dan drwyddedau a phrydlesau ar ddi- wedd 1912:— Nifer y trwyddedau a phrydlesau 16,488. Arwynebedd mewn erwau 14,443,191 Ardretb flynyddol £ 48,073- Nid ydyw y trwyddedau a'r pryd- lesau hyn ar yr un telerau 0 ran parhad a breintiau eu daliad (tenure). Er eng- raifft, rhoddir prydlesau porfaol am unrhyvr gyfnod hyd Rhagfyr 29ain, 1920, tra yr adnewyddir y trwyddedau yn flynyddol, ac ni roddir hwy ond dros rannau o'r wlad a gedwir i bwrpas neillduol. Mae gan brydlesydd porfaol y fraint o ddethol (h.y. o brynu o dan drefn rhandaliadau yn cyrhaedd ugain neu ddeugain mlynedd) allan o'i brydles ddau cant (200) o erwau o ilir o'r radd gyntaf, tri chant ac ugain (320) o'r ail radd neu chwe chant a deugain (640 o'r drydedd radd yn ol eu dosbarthiad. Yn y Mali (Mallee) gall y prydlesydd dde- thol 640 erw o'r radd gyntaf, 1,000 o'r ail neu 1,280, o erwau o'r drydedd radd. Yr ardreth a delir ar y brydles ydyw yn ol 1/ 9c, neu 6c yr erw y fl wyddyn yn ol y graddoliad uchod, ac yn daledig bob haner blwyddyn. Costia i'w brynu drachefn £ 1, 15/- neu 10/- yr erw. Fel y nodwyd eisoes, mae yn Victoria dros dair mil ar ddeg a chwarter o erwau eto ar law, ac yn agored i gael ei osod arbrydles, trwydded, neu ynte i'w werthu i bwy bynag a'i pryna. I'r per- wyl yna mae y wlad wedi ei rhanu yn ddau ar bymtheg o ardaloedd, yn mhob un o'r cyfryw y mae tir-swyddfa o dan ofal swyddog priodol. Saif y swydd- feydd hyn mewn mannau cyfleus, sef, Melbourne, Ararat, Alexandra, Bairns dale, Ballarat, Beechworth, Benalla, Bendigo, G colorg, Hamilton, Horsham, Omes, Sale, Seymour, St. Arnand, Stawell a Warracknabeal, ac y mae y Swyddogion yn mhob un o'r lleoedd uchod yn alluog ar unwaith i gyfeirio y detholwr (selector) i'r lie arbenig yr ymofyna am dano. Yn ol cyfraith y tir gall unrhyw berson I o ddeunaw mlwydd oed ac ucbod ddethol tir ar y telerau a nodwyd o'r tlaen. Dosrenir y tir amaetbyddol a phor- Dosreni? y tir -?.,m,, faol i dri dosbarth. Yn y dosbarth cyntaf nid oes yn aros ond 11,910 o erwau, a gorvveddant gan mwyaf yn I Bulu Bulu ryw drigain milldir i'r Dwy I rain o Melbourne. Maent yn goediog i iawn. Y iban fwyaf yn bridd tywjil da o darddiad llosgfalaidd (volcanic), a phridd llwyc1 tiriogaeth glo. Hyd y gwelais i, y pridd llwyd yma ydyw y goreu yn yr holl 0 Gippsland, tra mai y pridd yn dywyll ydyw y brasaf mewn rhannau eraill o'r wlad. t. Yn yr ail ddosbarth y mae 143,611 o erwau, ac yn lied wasgaredig drwy gyd- 101 y wlad, ac a gynhwysant resi (ranges) o fynyddoedd o ffurfiad siluriau, granite a tertiary. Tir porfa ydyw y rhan fwyaf o hono, gyda llecynau gwell yma a thraw ar ffiniau ffryd.iau, a cheunentydd, pa rai sydd gyfaddas i amaethiad a diwylliad. tra y- mae parthau eang yn gyfaddas iawn i win- llanoedd a pherllanau Mae arwyneb- edd gradd trydydd yn 2,073,830 o erwau, ac fel dosbarth ail yn wasgar- edig drwy bob cwr o'r,wlad. Cyfeiriais yn barod at un modd o ddethol a phwreasu fferm, sef o dir a ddelid yn barod ar brydles; ond gall ddethol ei ffarm yn uniongyrchol gyda golwg o'i phrynu ac yn y man dderbyn ei hav/lfraint (title). Yn ol Deddf y Tir caiÜ ugüin neu ddeugain mlynedd i cyfran daJiDdau chwe-misol am 200, 320 no (>f ) yn 011 gradd y tit; ar y fferm. Ges, am ugain mlynedd y trefna mae g,,i n,, -'o i dahl yn y gradd cyntaf swllt yr ox ,v iynyad- ol, naw ceiniog yn yr ail a chwecheiniog yn y trydydd. Os trefna am ddeugain mlynedd bydd ei daliadau yn ol haner y symau yna yn flynyddol- Yn ystod y chwe' blynedd eyntaf disgwylir iddo gynyrchu gwelliantau o'r ail flwyddyn yn ol 3/4 a 2/6 i fyny i £1 yn y gradd cyntaf a 15/- yn yr ail radd a 10/- yn y trydydd ar derfyn y chweched Bwyddyn. Erbyn hyn, os yn ddigon eefnog gall dalu i fyny yn gyflawn am ei fferm a derbyn y title i'w rydd-feddiant (freehold). Darbodir hefyd yn yr Act y gall dyn gymeryd tir i fyny ar brydles barhaol (perpetual lease). Yr ardreth i fod yn ol 4 y cant o werth gwreiddiol y tir, sef J61 yr erw yn y gradd cyntaf, pymtheg swllt yn yr ail a deg swllt yn y trydydd gradd. Gwlad y Mali (Mallee Country). A elwir felly o herwydd y mangoed a dyfant ar y tir. Mae yma tuag un mil- iwn ar ddeg (11,000,000) o erwau o'r cyfryw gwastadedd eangfawr yn Ngog- ledd Orllewin y Dalaeth. Mae y pridd yn llwydgocb, gwinengoch, neu yn larl tywodlyd (sandy loam). Yn ei stad naturiol gorchnddir e' gyda'r man-goed a elwir Mali (species o EucalipSi) yng- hyd a pharthau eang—weithiau tonnog ac a frithir a choed a elwir box, slie oak a ffawydd. Hyd o fewn rhyw bum mlynedd ar hugain yn ol ni wnaed ond ychydig ddeinydd o'r gwastattir eangfawr hwn. i Tlla'r adeg hono dechreuwyd ei gymer- yd i fyny yn benaf er codi gwenith, a. bu yr ymgymeriad yn llwyddianus iawn.- Erbyn hyn y mae rhai miliynau o erwau o dan drimaeth ae yn cynyrchu miliynau lawer o fwsieli o wenith rhagorol. Dyfeisiwyd dau offeryn amaethyddol defnyddiol iawn er elirio a thrin y tir hwn. Tynir rhol-bren fawr anferthol gan weddotdd eryfion drosto, a gwesgir ef i lawr. Gadewir ef am yspaid i sychu a chrino, yna llosgir ef ymaith yn llwyr. Y teclyn arall ydyw aradr gywrain a elwir stump-jump-plough." Yn ol yr enw gwelir y neidia. dros y boncyffion a erya yn y pridd am yspaid. Ond yn mben blwyddyn nau ddwy, hwythau a grinant a ehodir hwy wrth y miloedd a gwerthir tynelli lawer o honynt fel tanwydd i Melbourne a threfi eraill. Tanwydd rkagorol ydyw hefyd. Mae yn awr amryw reilffyrdd yn treiddio drwy y parkhan hyn, yn ogystal a'r cyfundrefnau dyfrhaol yn gwasgar eu ffrydiau yma thraw, ac y mae y gororau hyn yn cael eu poblogi yn gyflym. Mae y telerau yn gyffelyb i'r rhai a grybwyllwyd uchod yn ol an- sawdd a natur y tir; gyda hyn 0 wa- haniaeth, gellir cymeryd mwy o arwvn- ebedd nag mewn rhanau eraill o'r wlad megys 6,401,000 neu 1,280 yn ol y quality a'r class y bydd ynddo. Os cymerir i fyny o dan brydles barha- ol, ni fydd yr ardreth dros 11 y cant yn 01 y gwerth gwreiddiol (unimproved value), ac os diwyiiir chwarter y fferm mewn pedair blynedd a'r ha.ner erbyn diwedd y chweched flwyddyn, neu os effeithir gwelliantau o werth deg swllt, s&ith a cbwech neu bum swllt yr erw— yn ol y graddoliad nid ydyw yn anghen- rheidicl byw ar y tir. Heb ond ychyd- ig i gychwyn mae llawer un wedi gwneud ei ffortiwn vn y Mali yn ystod ychydig flynyddau.

Caine Newydd o ReilfFordd.