Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
10 articles on this Page
[No title]
Ar ol llawer o lol a Tipyn ysgrifenwyd gan rai bobl o a ystyrrir yn gall, y mae synwyr y tamaid a ganlyn yn amaethun. Tamaid ydyw allan o'r Brython o golofn trwy'r Drych gan y golygydd mi goeliaf. Dyma fe :— Gwelsom, awgrym na theimlai llaw- er o'r Wesleaid Cymreig anhawster i droi'n Eglwyswyr yn wir, fe broffwydid y fath beth, ac fel un rheswm yn erbyn disgwyl i'r Wesleaid ymono mor barod ag y gellid disgwyl i'r Annibynwyr a'r Methodistiaid wneuthur. Mae'r awgrym y gallsai'r Wesleaid droi'n Eglwyswyr yn rhwyddach nag yr ymunant ag en- wadau Ymneilltuol ereill-a-hynny heb raid arnynt i golli eu gwahanfod enwadol, o leiaf ar hyn o bryd,—mae'r fath syniad yn syndod aruthr i ni, beth bvnnag. Fe dyb fod trefnyddiaeth Wesleaidd wedi ei gwneuthur o haearn bwrw anwybyddir dyfnder a grym argyhoeddiadau Ymneilltuol a Phrot- estanaidd y Wesleaid-Cymreig; bod y gweinidogion a'r eglwysi Wesleaid yn gaethion diymadferth i'w cyfundrefn enwadol, ac nad allent beri newid nac ystwytho dim ar y rheolau y sydd yr awr hon. Mae'r holl faes yn rhy eang i fanylu arno, ac nid oes achos. Beth bynnag, beiddiwn ddywedyd fod Wesle- aeth Gymreig eisoes wedi peri i'w threfn- yddiaeth gael ei hystwytho i gwrdd a gofynnion arbennig yr enwad yng Nghymru. Credwn hefyd fod arwem- wyr presennol yr enwad yng Nghymru yn ddynion o argyhoeddiadau mor ddyfnion, o ysbryd mor ehangfryd, o welediad mor graff i arwyddion yr amserau, ac mor wrol i ddadlu eu hachos o flaen awdurdodau eu henwad, fel y gorchfygent anawsterau mawrion i sicrhau cytgord rhyngthynt a'r Ymneill- tuwyr Cymreig ereill, i'r amcanion uchaf. Ac mae'r corff Wesleaid a Seis- nig hefyd yn dod yn fwyfwy Ryddfnd ig. Cychwynnodd y diweddar Barch Hugh price Hughes ddiwygiad ynddo, ac mae'n myn'd ar gvnydd fyth. Gwir mai o Loegr y daeth Wesleaeth i Gymru ond daeth yma mewn cenhadaeth, a "chenhadon y gelwid ei gweinidogion cyntaf. Tybed y bydd i'r Wesleaid fod mor anffyddlon i ysbryd eu cychwyniad fel ag i beidio a gwneud ymdrech ac aberth i ymuno a'r enwadau Anghyd- ffurfiol ereill, pan mae'r enwadau hynny wedi dod gymaint i gytgord a'i syniad- au diwinyddol ? Nid yw enw'r diwedd- ar Barch John Hugh Evans (Cynfaen) yn cael agos gymaint o le ag a ddylai yn y son am ymdrechion dros rydcid gwladol a chrefyddol. A meddyliwch am y Parchn Dr. Hugh Jones, Thomas Hughes, Gwynfryn Jones—a'u brodyr yn gyffredinol o ran hynny,—yn troi'n Eglwyswyr 111 H— — — —
[No title]
Dyma'r ail gyfrol ar Cymysgaeth bwnc y tir allan Rhyfel. Gwerth swllt. Traethu y mae ar dir mewn trefydd, ac y mae yn or- lawn o ffeithiau. Mae yma ddigon o powder and shot i gario'r frwydr ymlaen nes dwyn barn i fuddugol- iaeth. Yr hen ffordd mewn mater fel hwn ydoedd apivyntio Dir= prwyaeth Frenhinol. cyhoeddi Report, ac yna claddu y cyfan. Eiyna fu tynged yr ymchwiliad Cymreig hwnnw flynyddau yn ol. Mae'r Canghellydd wedi cymeryd y mater i'w ddwylaw ei hun, a dyna doraeth o ffeithiau yn barod at wasanaeth. Nid wyf ond prin droi dail y gyfrol drwchus hon, ond gwelaf ei bod yn arwyddo del- fryd marwolaeth uwchben y system bresennol. Cododd Mr. Lloyd George gwr y lien ar y mater hwn yn ei areithiau. Mae case Gorringe yn un enghraifft o'r dull creulawn y mae masnach y wlad hon yn cael ei gwaedu i gadw landoriaeth yn fyw. Wedi i'r storom bresennol fyned heibio, daw y Tir eto yn brif bwnc y dydd, nid oes diosg arfau i fod yn y rhyfel hwn.
[No title]
■ Pa fodd i ostwng y Gostwng beichiau trethol trymion y sydd yn gwasgu mor Dreth. galed ar ysgwyddau aw- durdod lleol sydd.gwest- iwn pur anhawdd ei benderfynu. Yn wyneb y gwelliantau wneir ynglyn ag addysg, cymmhorth plwyf, heddgeidwadiaetb, ffyrdd, a llawer o bethau eraill, y mae yn rhaid cael arian i'w cario allan megys ag y dylent, ac o gynlyniad, y mae y trethi yn codi y naill flwyddyn ar ol y llall, a'r trethdal- wyr yn griddfan dan bwysau ei welliant. Yn ddiweddar bu pwyll- gor yn ystyried y berthynas rhwng tollau Ymherodol a thollau lleol, ac un o ffrwythau arbenig eu hym- chwiliad ydyw y dylai y Wlad- wriaeth gymmeryd ami ei hun i gario cyfran fwy o'r beichiau treth- ol lleol. 'Awgryma Pwyllgor y tir a gryn- hodd yr ^droddiad uchod fod y swm o Bum Miliwn o bunnau i gael ei dalu o gyllid y Wlad- wriaeth i ryddhau trethi lleol. Y mae hyn, ar un olwg, yn yr argymmhelliad sydd yn sicr o dder- byniad ffafriol pob trethdalwyr. Ond rhaid dadansoddi hyd yn oed argymmhelliad pwyllgor o safle a medr diammheuol megys hwn. Pe derbynid yr argymmhelliad hwn, byddai y Wladwriaeth dan orfod gosod toll newydd, neu yntelt chwanegu y rhai presennol i gyfar- fod a thalu y pum miliwn hwn i awdurdodau lleol, a'r cwestiwn pwysig ydyw, Pa fodd y galkii y Wladwriaeth godi y swm hwn ? Pe y chwanegid y tollau, ac nid oes ffordd arall, ni fyddai hyny ond symmud y baich oddi ar un ysgwydd y trethdalwyr a'i osod ar y llall. Rhaid chwilio am decach cynllun na hwnw, a hwnw fyddai trethu y tir.
[No title]
Bu farfy Syr Hubert Marwolaeth von Herkoner, yr ar- Syr Hubert lunydd adnabyddus Herkomer. y dydd o'r blaen. Tramorwr oedd, ond yr oedd wedi treulio ei oes yn y wlad hon. Daeth trwy dlodi mawr pan yn blentyn, ond prof odd ei fod yn feddianol ar ddoniau d'. ar allu i weithio'n galed. Vr I oedd yn gerddor da ymdafloc1 1 "i ymdrechion mawr fel arlunydd, a daeth isylw acamlygrwydd ddarluniau. Yn 1889 gwnaed ef yn Athraw Paentio yn y Royal Academy fel olynydd i Syr W. B. Richmond, a bu deirgwaith yn Slade Professor vn Rhydychain. Sefydlodd Ysgol Celf yn Bushev, a chyrhaeddodd amryw o'i ddis- gyblion radd uchel'fel arlunwyr.j Daeth i gysylltiad a Chymru trwy bricdas. Yr oedd ei wraig yn Wesleaid, ac yn chwaer i Mr. J. F. Griffiths, Free Trade Hall, Rhyl, yr hwn sydd yn uno leygwyr parch- usaf y Gogledd a Phregethwr Cyn= orthwyol. Cymerodd ddyddordeb mawr yn yr Eisteddfod Gen- edlaethol, a rhoes ei dalent ar waith ar wisgoedd Gwyr yr Or. sedd. Gwr amryddawn ydoedd. a gwnaeth lawer o waith mewn am- ryw gyfeiriadau. ———.— —————
[No title]
Mae y Missionary V Ddiod Press Bureau wedi a'r casglu cyfrifon Gym- Genhadaeth. deithasau Cenhadol y Deyrnas Gyfunol, ac yn cael fod 2.046,126p. wedi ei gyfranu y flwyddyn ddiweddaf at y cenhadaethau yn y wlad hon. Casglwyd ar y maes cenhadol 516,800p. yn ychwanegol, yr hyn sydd yn gwneyd y cyfanswm yn 2,395,134p. Edrycha y swm hwn yn fawr, ond erbyn ei ranu nid yw yn gwneyd ond ychydig iawn dros un-geiniog-ar-ddeg ar gyfer pob un o'r boblogaeth. Ar gyfer hyn gwerir 3p 5s lIe y pen ar ddiodydd meddwol, a 12s 9c y pen am fyglys. Dyma farn Prydain am werth cymharol Crist a Bachus. Eto y mae Prydain, meddir, yn Gristion agol. Mae credu y peth yn anodd yn wyneb rhai ffeithiau onid y w ?
CYLCHDAITH LL AN FAIR. "
CYLCHDAITH LL AN FAIR. Cvnhaliwvd yr uchod vn Llanfair; prydnawn dydd Ma wrth, y 7fed cyfisol, Yr oedd yn bresenol y Parch D. Roberts. Arolygwr y Gylchdaith y Parch J. i ?r Parcli j? Meirion Jones, Meifod a Mr T. H. Evans, Lay Agent. Hefyd, Mr James R. Davies, Goruchwyliwr. Methai Mr John Hughes, M.R.C.V.S. a bod yn bresenol a phenod- wyd Mr C. Heber Humphreys i gymeryd ei le yn ystod y cyfarfod. Dechreuwyd y cyfarfod gan Mr Thomas Jones, Llangollen, a dariienwyd y cofnod- ion gan yr Ysgrifennydd. Dewiswyd y Mri James R. Davies, E. Lloyd Edwards a C. Heber Humphreys i gynrychioli'r Gylchdaith yn y Cyfarfod laleithiol. Dariienwyd adroddiad Ysgolion Sab- bothol y Gylchdaith gan yr Arolvgwr—yn absenoldeb yr Ysgrifennydd, MrT. Morgan Evans. Cymeradwywyd fod rhai mater- ion yn caei eu dwyn i sylw pwvligor Undeb Ysgolion Sul y Gylchdaith. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad y cyfarfod a'r Misses 'Phillips a Mr Evan Phillips, Llanfair. ar farwolaeth eu chwaer Mrs Davies, Meifod, a Mrs Bebb, Maesygluafa, yn eu gwaeiedd, hefyd at Mrs Davies a'r teulu Cefn Cvfronnydd. ar farwolaeth ei merch Miss Dolly Davies. Gofidiai'r cyfarfod hefyd fod nifer o gyf- eillion ereill yn y Gylchdaith yn parhau yn wael. Rhoddwyd sylw i faterion Dirwestol, a dariienwyd Schedule Trust y Gylchdaith. Llawenhaem fod sefyllfa'r Trust mor fudd- haol. Dariienwyd cyfrif y Genhadaeth Dramor a danghosai'r derbyniadau cyffredin fod ychydig lei had. Mae hyn o bos-ibl i'w briodoli i .raddau helatth i'r ymdrech neillduol wnaed mewn cvfeiriad arall ynglyn a'r Genhadaeth Dramor yn ystod y flwyddyn. Dariienwyd .adroddiad ty yr Arolygwr gan yr Ysgrifenydd, Mr Heber Humphreys. Lla wenhaem gael cyfftflen mor ffafriol yn dangos fod y ty yn rhydd, a'r swm o £ 625 wedi ei dalu ag eithrio swm bychan sydd i'w dalu yn ol i Drysorfa fenthycioi y Dalaith. Diolchwyd i'r holl swyddogion ac i'r Arolygwr am eu liafur diflmo ynglyn a'r matei if wrl. a'r matei hwn. Derbyniwyd y cyfraniadau o'r gwahan- ol eglwysi. Mae sefyllfa arianol y Gylch- daith yn dra boddhaol. Trefnwyd cyn- Hun i ddileu y ddyled fechan sydd ar hyn o bryd. Da genym fod cynnydd o 23 yn cael ei gofnodi yn rhif yr aelodau ar y fl wyddyn. Cadarnhawyd y gwahoddiad i'r Parch William Price, Dclgellev, drod i'r Gylcli, daith yn Arolygwr ym Medi ngsaf. Gwahoddwvd y Parch J. Meirion Jones a MrT. H. Evans i aros yn y Gylchdaith am flwyddyn arall. Gofidiai Mr Meirion Jones nas gallai roddi ei addewid gan ei fod \vedi addaw mvned i wasanaethu Gylchdaith Coedpoeth ym Medi. Cyd- syniodd Mr T. H. Evans ag arcs am flwyddyn arall. Gadawyd y mater o ddewis olynvdd i Mr Jones, Meifod, i'r gcruchwylwyr mewn cydweithrediad a Chadeirydd y Dalaith. Derbyniwyd Mr Joseph B. Ellis, Salem, yn gyflawn bregethwr cynorthwyol. Pasiwyd i'r cyfarfod nesaf gael ei gynal yn Llanfair y dydd Mercher cyntaf o Or- ffenaf. Terfynwyd cyfarfod dymunol gan yr Arolvgwr. YSG.
MFRTHYR TYDFIL.
MFRTHYR TYDFIL. Cynhaliwvd cyfarfod chwarterol y gylchdaith uchod yn Treharris nos Iau, Ebrill 2i!, dan lywyddiaeth y Parch T. Rowlanr's Canwyd emyn a gvveddiodd y brawd T. Owen George, Merthyr Vale. Darlle iwyd cofnodion y cyfarfod chwar- terol blaenorol, a chadarnhawyd hwy. Cafwyd cyfrif yr aelodau, y rhif 2 yn fwy na blwyddyn i 'nawr. Pasiwyd ein bod yn gwario C50 i ddod- refnu ty y gweinidog. Ethohvyd y brodyr canlynol i fyned i'r Cyfarfod Taleithiol i Tonypandy Wil- liam Morris, Cefncoedycymer, a David Humphreys, Bedlinog. I Golvnwyd i'n parchus weinidog i aros ar y gylchdaith y flwyddyn nesaf eto. Addawodd aros. Pasiwyd fod pob eglwys yn Insiwri-o y person fj'dd yn gofalu am y capeS. Y cyfarfod chwarterol nesaf j'. gynal yn Merthyr Yale. Bu amryw o bethau eraill o dan vstvr- iaeth. Diweddwvd trwy weddi gan y Uywydcl. TRINANT.
Advertising
"Y Gwyiiedydd Newydd." SCALE OF CHARGES FOR "Small" Prepaid Advertisements IN GWYLIEDYDD NEWYDD," Situations Vacant or Wanted. Apart- ments to Let or Wanted, Miscellaneous Wants and Sales, Houses, Shops, Business, etc., to be Sold, Let, or Wanted, Partner- ships Wanted or Offered, &c. One Three Six 13 week. weeks, weeks, weeks s. d. s. d. s. d. s. d. 18 words 1 0 2 0 3 9 7 0 30 „ 1 6 3 0 5 9 11 0 40 „ 2 0 4 0 7 9 15 0 50 „ 2 6 5 0 9 9 18 0 63 „ 9 5 G 10 6 20 0 In future ail "srhall advts. sent for inser- tion must be prepaid. The inconven- ience' of booking small amounts, and the subsequent expense of collecting the same, renders it necessary that this rule should be strictly observed, otherwise insertion cannot be guaranteed. Prices for larger spaces on application. ALL ORDERS, ADVERTISEMENTS, P. ORDERS AND CHEQUES TO BE SENT TO- The Manager, "The New Watchman," Qelli, Flint Mountain, Flint, North Wales. AT EIN DOSBARTHWVR. Anfonir un copi am dri mis trwy y Llyth yrdyam flaen-dil o 1/8; dau gopi 3/3 (I dri i fyny i 6 copi, Ceiniog yr un; cinve' copi ac uwchlaw hyny, 10c. y dwsin. Pan anfonir i .Wledydd Tramor, bydd y prisiau uchod yn uwch, yn ol fel y byddo 3# tal am y cludiad. ANFONER FOB ARCHEBION F.RBYN BOREU SADWRN YMHOB WYTHNOS I'R— Rheolwr, Owyliedydd Newydd," Y Ge Ili, Coed-y-Flint, Flint, Qogledd Cymru. iellir"gwneud gostyngiad ar gyfrif copiau heb eu gwerthu, ac erfynir am i'r dosbarthwyr ohehu yn ddioedi a'r Rhe- olwr pan y bo'nt yn derbyn mwy o gopiau nag y gellir eu gwerthu. Disgwylir tal ar derfyn pob chwarter, ac oddigerth mewn amgylchiadau eithriad- 01 iawn, ni ellir rhagllaw anfon y papur am fwy na mis ar ol terfyn y chwarter i unrhyw ddosbarthwr a fo heb dalu ei gyfrif. TO OUR AGENTS. TERMS. One copy of "Gwyliedydd Newydd" for Ope Quarter with Postage Prepaid-1/8 Two Copies of Gwyliedydd Newydd" for One Quarter with Postage Prepaid— 3f&; Three, and up to 6 Copies, will be sent at the rate of One Penny per Copy Upwards of 6 Copies-10d. per Dozen. No allowance can be made for returns; and the Agent is earnestly requested to communicate with the Manager when he is in receipt of more copies than he con sell. When copies are sent to Foreign Countries, the above prices will vary according to postal charges. ISsfNo Parcels will be sent to any Agent whose Account is more than One Mqnth overdue. ALL ORDERS TO BE SENT FOR SATURDAY MORNING EACH WEEK TO- TJw Manager, Watchman Flint Mountain, :{ Flint, V North Wales. AT EIN GOHEBWYR. CYFEiRIER POB GOHEBIAETH— Y Golygydd, Gwyiiedydd Neiiydd," Y Gelli, Coed-y-Plint, Flint, Gogledd Cymru. Anfoner Newyddion erbyn boreu Iau neu byddant yn rhy hwyr. ■. Ysgrifener ar un wyneb i'r ddalen bob am- ser, a phob item ar ddalen wahanol. Rhodder l'i, Wa sg neu Press Neivs ar yr amEn. Os yn anfon gair cyfrinachol- rhoddwch stamp ceiniog. Os na wneir liyn rhaid ini dalu yn ddwbl. b y d d -h e n yn ogystal a I newycld-anfon ei enw a'i gyfeiriad bob tro.
[No title]
Pasiwvd Ail ddarllen- Gobaith yr iad Ymreolaeth nos lwerddon. Lun gyda mwyafrif o 80. Y peth dynai sylw yn y ddadl oedd y gwahaniaeth yo yr ysbryd yn y Ty i'r hyn ydoedd yn ddiweddar. Nid oedd Syr Edward Carson a Mr Bonar Law I yn chwythu bygythion. Caed Mr John Redmond oedd y siaradwr cyntaf, a siaradwyd dros y Lly- wodraeth gan Syr John Simon yr hwn a ddatganodd ei lawenydd o glywed Syr Edward Carson yn galw arnynt i enill Ulster., Yr oedd Syr Edward Carson wedi awgrymu fod cynygion diweddaf y Llywrodraeth wedi eu tynuyn ol; sicrhaodd y Dadleuydd Cyffredin- ol nad oedd hynny'n wir. Gad- awid cynygion y Prifweinidog yn agored i'r funud olaf. Mae'n amlwg nad yw awgrym Syr Ed- ward Grey am gynllun o federal- isim wrth fodd Mr Redmond na Syr Edward Carson, a hynny am resymau gwrthgyferbyniol. W. di dogn watwareg Mr Tim Healy ar ymraniad ac ail-ddarlleniad y Mesur gyda mwyafrif o 80. Y mae y mwyafrif yn llai o ychydig na'r tro blaenorol. Ond nid gwendid yn y blaid eithr afiechyd rhai o'r aelodau a gyfrifa am hyn. '»» »
YR YSGOL SUL a'r MAESI LLAFUR.
YR YSGOL SUL a'r MAES LLAFUR. Mr Gol.—Diolchaf am ychydig ofod i alw sylw ein pobl at y Maes Liafur ne- wydd, a'r darpariadau sy'n barod ar gyfer yr Ysgol Sul am y flwyddyn sydd yn awr yn dechreu. Credwn na fu y ddarpariaeth erioed yn well nag ydyw eleni. Llongyfarchwn Oruchwyliwr y Llyfrfa ar ei brydlondeb yn dwyn allan y Llawlyfrau. Bellach ni bydd esgus gan unrhyw ysgol dros beidio dechreu ar y Maes LIafur newydd ar unwaitb. Am y Llawlyfrau nid oes ond canmol- iaeth i'w .roddi iddynt. Y mae Esbon- iad y Parch W. O. Evans ar y rhan gyntaf o'r Epistol at y Rhufeimaid ar gyfer Dosbarth iv., yn un o'r pethau goreu ar yr Epistol yn yr iaith—yn vsgolheigaida a thrylwyr, ac eto yn glii a dyddorol. Y mae y llythyren ychydig yn frasach nag ydoedd yn ei ragflaenor- iaid, yr hyn a'i gwna yn fwy derbyniol. 0 ran ei bargraff a'i di wyg y mae y gyfrol yn ddestlus a dymunol, ac, i' w chael am y pris rhesymol o ddeunaw ceiniog y copi, neu bymtheg swllt y dwsin. Dylai werthu wrth y canoedd- Paratowyd y Llawlyfr bycban ar y Damhegion, ar gyfer Dosbartn ii. a iii gan y Parch E. W. Jones, ac yn sier y mae yn llyfryn bycban penigamp. Nid gwaith hawad ydyw paratoi ar gyfer y dosbarthiadau hyn, ond y mae Mr Jones wedi llwyddo i beri i'r Dambegion siarad eu cynwys wrth ein plant a'n pobl ieuainc, mewn modd eglur ac effeithiol dros ben. Gwerthir y Llawlyfr bychan hwn am bedair ceiniog yr un, neu dri swllt a thair ceiniog y dwsin. Dylai hwn eto gael gwerthiant helaeth a chyffredinol Am lyfrau y Safonau ar gyfer y plant, y maent hwy eisoes wedi profi eu hunain yn llwyddiant mawr yn ein hys- golion. Tybiwn nad oes gall unrhyw enwad lyfrau mwy pwrpasol, os cystal, ar gyfer y plant ag sydd genym ni. Y maent yn gynhwysfawr heb fod yn fei chus, ac yn ddiddorol ac addysgiadol dros ben. Ni ddylai yr un ysgol fod heb gyflenwad priodol o'r gwerslyfrau hyn. Y mae y Maes Liafur, yr hwn sydd yn chwyddo mewn maint o flwy- ddyn i flwyddyn, i'w gael fel arfer am bum swllt y cant. Erfyniwn yn daer, er mwyn llwydd- iant yr Ysgol Sul, ar i Arolygwyr ac Athrawon yr boll ysgolion ofalu fod y llyfrau a enwyd yn cael eu dwyn i sylw ein pobl ar unwaith. Hysbyser am danynt bob cyfle a geir, a chasgler en- wau am danynt ar fyrder. Anfoner yr boll archebion i'r Parch P.' Jones Ro- berts- Bookroom, Bangor. Yr Eiddoch yn bur, T. CHARLES ROBERTS. Votty, Gwrecsam.