Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

GAIR AT MR. WILLIAM I RICHARDS.

DAMHEGION YR ARGLWYDD IESUI…

I BYCHANU CRIST. I

BWRDD Y GOL. -1

ABERTAWE.I

TREORCHY. I

News
Cite
Share

TREORCHY. I Y GYMDEITHAS DDIWYLLIADOL. Nos I Fercher, Mawrth 18fed, o dan lywyddiaeth ein gweinidog, y Parch Evan Isaac, dar- llenwyd dau bapur: un gan Miss A. J. Edwards ar Wragedd dinod y Beibl," a'r llall gan Miss L. A. Parry ar Ddynion adnabyddus yr Hen Destament." Cafwyd dau bapur gwir dda, ag ol llawer o latur arnynt. Siaradwyd ymhellach ar y papur au gan amryw o'r brodyr, ac hefyd gan y Llywydd. Diolchwyd yn gynes iddynt. Wedi canu emyn terfynwyd trwy weddi. Nos Fercher, 25ain, cafwyd popur eto gan Mr J. E. Jones ar Manau Hanesyddol Dyffryn Rhondda." Papur diddorol iawn yn desgrifio y Cwm pan nad oedd ond anialwch, a'i hanes yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn hyd nes y mae wedi dod y cwm mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Dyma ein cyfarfod olaf o'r tymor. a llawenydd genym ddweyd fod y tymor ar ei hyd wedi bod yn llwyddiant hollol, a phawb yn teimlo eu bod wedi cael amser bendigedig, yn feddyliol ac ysbrydol, ac yn hiraethus fod y cyfarfodydd wedi diweddu. Wedi diolch i'r brawd am ei bapur diolchwyd i bawb gymerodd ran yn ystod y tymor i'r Trysorydd, Mr Lewis Edwards, a'r Ysgrif- enyddes, Miss L. J. Jones (Llinos Orchwy), ac yn neillduol felly i'r Llywydd, i'r hwn y mae y Gymdeithas yn ddyledus am ei llwyddiant. Ategwyd y diolchgarwch yn dra deheuig gan yr Is-lywydd, Ap Mald- wyn. Wedi canu emyn terfynwyd trwy weddi gan y Llywydd. M. M. I

COEDLLAI. I

COLWYN BAY. --I

Advertising

NODION 0 LEYN.-I

DINBYCH. !

NODION 0 GAERDYDD.

BRONYNANT.

11Asquith.