Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

14 articles on this Page

GAIR AT MR. WILLIAM I RICHARDS.

News
Cite
Share

GAIR AT MR. WILLIAM I RICHARDS. Anwyl Frawd,-I)ia i'r byd Wesleaidd yw gweled pwy ydych o'r diwedd. ond am ddeall eich safle riid yw neb yn fawr nes i'r lan. Gwelir hyn, fodd bynag, mai i'r hen ysgol y perthynwch, ac mai ynddi yr ym- ogoneddwch, ac nad oes ynoch fawr o awydd i wir ddeail, heb son am dderbyn diwinyddiaethsafonoPeich hoes. Par hyn nad oes bron dditn yn gyffrcdin cydrhyng- om, gan eich bod gymaint ar eich pen eich hun—Mr W. Richards ynerbyn holl ddiw- inyddion cymedroT ei ddydd. Y mae dadlu i bwrpas o dan y fath amgylchiadau yn beth annelwig iawn, ond rhaid gwneyd y goreu o bethau fel y maent, er budd y gwirionedd. Heblaw hyny, fe ddanghos- wch y fath ragfarn fel y mae yn amheus genyf a ydych yn agored i unrhyw oleuni, yn enwedig, gan y gosodwch eich hun yn erbyn nid un na dau, ond yn ymarferol holl ddiwinyddion o bwys yn y deyrnas. Nicharwnfod yn angharedig gyda chwi, ond gwyr pob dyn cyfarwydd pa farn i ffurfio am danoch. Er yn hen ffasiwn eich syniadau, chwedl chwi, dylech betruso Jlawer rhag bod yn rhy honiadol. JParhewch i fyntamio'n facia ac i hgp"n ddisail ar eich. Cyfcr arti em diwinyddion mawr. Da chwi, rhowch hyn i fyny, er eich mwyn eich hun, arwydd sal yw, a bwrn ar bawb deallgar, mi goeli^f. Perchir gwir ddysg gan fawredd a diwilliant bob amser ac nid oes ond corach a wna yn am- gen, Gg9: barn cariad, arweinir fi i gredu nad ydych wedi meistroli eu gweithiau i bwrpas, onide fe welsech fod ganddynt, yn mhethau mawr Duw a chrefydd, Grist- wybodused a'r eiddoch chwithau, bob mymryn. Credant, loewed a chwithau, mai Crist yw athro crefyddol anffaeledig y byd, er yn addef fod cyfyngu yn ei wy- bodaeth ddynol. A chydallaw, sut y gallai Crist fod yn wir ddyn heb wybodaeth ddynol, ac un o nodau hono yw cyfyngiad —gwybodaeth yn tyfu trwy ddatblygiad ac o dan gyfyngiadau dynol ydyw. Gall- wch fod yn dawel eich meddwl, frawd, y tystia diwinyddion diweddar fod ganddynt Grist-wybodused a'r eiddoch chwithau, ie, ac un mwy na chwi, sef Crist gyda phiofiad dynol gwir a buddugoliaeth&u moesol Ilawn-Crist wedi'L demtio ym mhopeth yr un ffunud a ninau, etc h,1) bechod." Nid y,r Crist hwn genych chwi oi oedd yn lioll-wybodol yn nyddiau Ei gnawd- Ni ellir temtio holl- wybodaeth, mewn llavrer engraifft, am fod hyny'n tori min yr hudol- iaeth bechadurus. Yn ol Dr Peake" There are some temptations, and those amongst the most difficult to resist, which would be impossible to omniscience. They derive all taeir power from the imperfection of know- ledge in those to whom they are addressed. Knowledge is a counter-spell which breaks at once the fascination they would cast over them." Gan hyny, pa ystyr sydd i brofiad dynol, temtasiynau, a buddugol- iaethau moesol Crist, os oedd yn holl- wybodol yn nyddiau ei gnawd ? Y mae Dr Peake, a diwinyddion galluocaf yr oes, yn methu gweled hyny, ond hwyrach y gallwch chwi roi goleuni Ilachar i ni ar y pwnc. Gyda hyder dihysbydd ynoch eich hun dylech fedru gwneyd yr hyn nad all y rhai hyn, gyda'u holl addysg, disgyblaetb, a'r blynyddoedd a roddasant i'r pwnc. Ccfiwch, hefyd, mai nid mympwy un reu ddau o ddiwinyddion eithafol yw hyn, ond barn oleu bob diwinydd ceidwadol o bwys, a'r "ddadl ar y pwnc wedi ei chau," ys dywed Dr Mackintosh. Pelican yn yr anial ydych yn y peth hwn, a buasai'n dda gan bawb, mi goeliaf, eich gweled yn fwy gwylaidd pan yn siarad am y dynion hyn. Prun bynag, y mae dyn yn blino arnoch yn darllen eicu mympwyon honiadol a disail i fewn i ddiwinyddiaeth dynion dysgedig sy'n barnu'n wahanol i chwi, yn unfryd. Yn y fan yma heriaf chwi i ddangos i mi fod Crist yn rhywle'n ystod ei fywyd ar ddaear yn honi holl-wybodaeth. Difynwch yr adnod os gallwch. Danghosais, eisoes, iddo ddatgan Ei anwybodaeth am amser Ei ail-ddyfodiad-danghoswch chwitjaau i minau yn mha le y detgyn Ei hell-wybod- aeth. Rhoddaf, fel hyn, short cut i chwi at wreiddyn y maier, a chyfle i brofi eich pwnc ar un ergyd. Gyda llaw, oni wna ychydig benwaig les i chwi weithiau ? Paham y diystyrwch hwynt? Cynwysant gryn fesur o 'phos- phorus '—nwydd da, fe ddywedir, at gryf- nau seiliau anianyddol y meddwl, ac y mae perthynas agosach cydrhwng penwaig a gweledigaethau diwinyddol clir nag a feddyliwch, yn ami. Treiwch ambell un, yn awr ac yn y man, fel newid, a rhag mynd yn hollol' out of-touch a meddwl eich hoes. Cwynwch nad wyf wedi ateb eich gof- yniadau, ond, mewn difrif, a ydych yn dis- gwyl hyny yn awr ? A farnwch eich gof- yniadau yn deg yn wyneb yr honiadau di- brawf sydd ynddynt ? Gan na dderbyniaf yr honiadau di-sail sydd ynddynt, pa ystyr sydd i'ch gofyniadau i mi ? Rhag ofn nad ydych yn deall fy meddwl, rhoddaf eglureb fach i chwi. Golygwch eich bod yn gofyn i mi-" Pa bryd yr ymedy John Jones a'i gartref am y coleg, er mwyn mynd yn weinidog?" a mod innau'n gwadu fod John Jones yn mynd i'r coleg o gwbl, pa ystyr fyddai i "pa bryd" eich gofyniad? Pa rym fyddai yn y cwestiwn o gwbl gan fy mod yn gwadu'r honiad disail sydd ynddo ? A dyma nodwedd eich gofyniadau i mi. ac yr ydych ddiniweitied a disgwyl i mi ateb gofyniad mor anheg ac anmher- thynasol. Caniatewch, yn hollol heb brawf, fod priodoli cyfyngu yng ngwybod- aeth ddynol lesu Grist yn ei ddi-dduwio," a gofynwch gwestiwn i mi yn seiliedig ar honiad ddisail o'r fath, ond gan fy mod yn gwadu eich honiad, atolwg Mr Richards, pa ystyr sydd i'ch cwestiwn i mi, o gwbl ? Gofynwch ef i rywun sy'n credu eich hon- ia 1, os gallwch gael un yn rhy w gongl o'r Cread neu ynte protwch, o'm hysgrif, a'r diwinyddion a nodais, fod sail eich gofyn iad yn gywir i gychwyn. Ni s/mudaf gam gyda chwi nes y gwnewch hyn. Tramwywch hyd a lied eich diwinyddiaeth hen faint fynnoch mae y gwr y sonir am dano yn Job, ond er mwyn anrhydedd a thegwch gwnewch hyn,. yn mlaenaf oil, ac ar wahan i hyn ni thycia'r llu side-issues a godwch ddim. Os nad allwch wneyd chwareu teg a phenwaig, dylech fod yn deg ar y pwynt hv. n a godasoch ac nid rhedeg yn llwfriaidd oddiwrtho. Y mae codi pwynt pero'o! mewn gofyniad, rhedeg i bobman oddiwrtho, a chodi pwyntiau eraill i'w gymylu yn anheg, a dweydvy lleiaf. Y pwynt arall a godasoch ydyw fod un ysbryd yn mherson rhyfedd ein Gwaredwr yn cau allan y posibilrwydd o gyfyngu yn ei wybodaeth ddynol. Gan hyny, gofyn- ais inau pa fodd yr esboniwch anwybod- aeth Crist o amser Ei ail-ddyfodiad ? Atebwch chwithau trwy greu anhawster o gyfeiriad athrawiaeth y Drindod—codi ail bwynt i geisio cymylu'r cyntaf. Nid yw hyn yn ateb o gwbl, oblegid nid ydyw'r anhawster a giewch yn esbonio ymaith, nac yn dileu, datganiad Crist o'i anwy- bodaeth, erys hwnw ar eich ffordd er gwaethaf pob anhawster a welwch. Ni all mil o ddogmatic assertions' ddiddymu datganiad syml a phlaen lesu Grist Ei hun. Ni aliaf fi weled ond un ystyr i'r anhawster a grewch, sef, dangos fod perthynas y personau Dwyfol a'u gilydd yn y Drindod yn ein gorfodi i gasglu fod datganiad Crist am dano Ei hun yn ffug—yn mere pre- teure," chwedl y Sais. Yn ol yr anhawster a godwch ni allai Crist beidio gwybod am Ei ail-ddyfodiad, ac felly ffug neu put on" ydyw Ei ddatganiad plaen a syml. Gwyddai yn burion," medd yr anhawster a grewch, na wn," ebai lesu Grist Ei Hun. Welwch chwi, frawd, y mae un peth gwaeth na bod yn Undodwr.-gwneyd y Cristgonestachywiryn ffug a'sham,' a gwareded y nefoedd chwi rhag hyny. Na, y mae'r pwynt a godasoch vn aros J¡yb ei brofi. ac ni ellwch ei brofi tra bo datganiad Crist o'i anwybodaeth am amser Ei ail-ddyfodiad ar eich ffcrdd. Codwch faint fynoch o anhawsterau—a- y mae hawdded ag anadlu, gydag athrawiaeth J sy'n ddygyfor ohonynt ac nid oes slsiau Jlawer o gywreinrwydcl at y gwaith— coehaf, y gallaf godi d wy am bob un a godwch chwi-ond, da chwi, profwch y pwyntiadau a godasoch cyn rhedeg at rai eraill. Gwnewch hyn fel pwnc o deg- wch a chwi eich hun, heb son am wneyd tegwch a'r diwinyddion a fychanwch mor ddigywilydd. Nid af ar ol ddim arall, hyd nes y gwnewch yr hyn a ddylech gyda graen a gras, ac os nad allwch rhoddwch eich ffidil hen yn y to, a dysgwch beidio darllen eich honiadau disail i mewn i ysgrifau dynion sy'n credu yn wahanol, ac mor gydwybod- ol a chwithau. ¡ Y mae gwedd arall i ofyniadau, dywed- iadau, ac erfyniadau lesu Grist, ie, hyd yn oed i'r rhai a ddewiswch mor unochrog i'ch pwrpas, ac y mae'n rhaid i'r syniad cywir am Berson Crist gynnwys y ddwy ac nid un, mal y tybioch. Ni all dim a ddif- ynnwch chwaith ddileu yr ansicrwydd sydd yng ngweddi Crist yn yr ardd. Prun bynnag, profwch sail yr honiadau a nodais i gyehwyn yn lie neidio fel ceiliog-rhedyn i bob man i'w hysgoi. Hyn yn unig a ddisgwyliaf yn eich nesaf, ac ni sylwaf ar ddim arall—arbeda hyn pob ofer-drafferth i chwi. Syhvch, os gwelwch yn dda. Yr eiddoch, &c., Abergele, JOHN KELLY. I Mawrth Slain, 1914.

DAMHEGION YR ARGLWYDD IESUI…

I BYCHANU CRIST. I

BWRDD Y GOL. -1

ABERTAWE.I

TREORCHY. I

COEDLLAI. I

COLWYN BAY. --I

Advertising

NODION 0 LEYN.-I

DINBYCH. !

NODION 0 GAERDYDD.

BRONYNANT.

11Asquith.