Skip to main content
Hide Articles List

4 articles on this Page

BYD CREFYDDOL.I

GORPHWYSFA, TREGARTH.

TAMEIDIAU GWLEIDYDDOL.

News
Cite
Share

TAMEIDIAU GWLEIDYDDOL. Ystrywlr Toriaid.—Llithio'r Fydd- in. ApPEL AT Y WERIN. I Fel y canlyn yr ysgrifena Teyrn- garwr :— Foneddigion, "O'r diwedd, y mae Ystryw Tori aid y Bendefigaeth yn noeth o flaen llygaid y deyrnas Er's rhai blynyddoedd, bellach— a'r ddwy flynedd ddiweddaf yn ar- benig-y maent yn llechwraidd wedi bod yn gwenwyno a llithio'r Army—er mwyn herio Deddfwr- iaeth Prydain. Ond y mae Helynt Curragh (yn lwerddon) wedi bradychu'r ystryw (plot), a gwn- euthur y Cynllwynwyr yn wawd i'r byd gwareiddiedig! Tra yr oedd y Prifweinidog di- gymmhar, Mr Asquith, yn symmud yn mlaen yn ofalus a hynny yn ngoleuni'r Cyfansoddiad (Constitu- tion) Prydeinig-yr oedd Toriaid Ty'r Arglwyddi ynghyd a'u clym- blaid ynfyd yn Nhy'r Cyffredin, yn treio'u goreu i feddianu'r Army o'u plaid hwy. Ac ni fu'r fath Frad a hyn erioed yn hanes y deyrnas. N id yn fuan yr anghofia'r Wlad araeth annoeth gwr o safle'r Ar- glwydd Roberts beth amser yn ol yn Nhy'r Arglwyddi, i'r cyfeiriad hwn—' A most mischievous speech,' chwedl y Manchester Guardian' am dani foreu dranoeth. Yn awr, dyma gyfle Gwerin Gwlad i brotestio-a dwyn ynfyd- ion balchaidd Ty'r Arglwyddi ar eu gliniau, a phrofi unwaith ac am byth iddynt mai Trech Gwlad nag Arglwydd. Gymru, o bob dosbarth; yn Fas- nachwyr, Ffermwyr, Glowyr, Chwarelwyr, &c.a oddefwch i'r a nfadwaith hwn barhau ? Y mae'r allwedd i'r Fuddugoliaeth yn eich Haw. Cofiwch nad Ymreolaeth na Dadgysylltiad yn gymmaint yw'r cwestiwn yn awr; ond yn hytraeh Seiliau Cymdeithas a Deddfwriaeth Ddilwgr. Na thwyller chwi mwyach gan nac Arglwydd Tirol, na Brewer, na Thafarnwr, nac Esgob, na gweniaith undyn byw. Eiddo pwy yw'r Army—dyna'r pwngc Cofier, y mae pob sail i gredu ddarfod i'r Brenin (Sior V.) weith- redu'n berffaith amhleidiol. x Sicr- lhewch chwithau yr Orsedd—drwy. eich gwroldeb yn yr argyfwng presennol. Oni chofiwch Ryfel ynfyd De Affrig-Rhyfel y Miliwnwyr Tori- aidd-a gostiodd i'n gwlad, heb law miloedd lawer o fywydau gwerthfawr, gymmaint a 250,000, OOOp.! Ac onid y Blaid Doriaidd sydd with wraidd mwyafrif mawr 'I Rhyfeloedd Prydain ? 0 Brydain Gristionogol! pa gy- ¡ hyd y'th dwyllir gan y Ddelw Aur ? Cywirdeb Esgob. I Un rhyfedd yw Esgob Llanelwy. Ychydig 'lawn mae In'falio am gy- wirdeb ei osodiadau. Pan yn anerch cynulleidfa o foneddigesau yn Grosvenor Gardens yn Llundain y dydd o'r blaen, dywedodd mai yn 1870 y rhoddwyd bod i'r pen- derfyniad cyntaf yn erbyn Dadgys- ylltiad yn Nghymru. Felly'n wir. Edryched yr Esgob eto. Dim ildio i fod. I Bu Mr Percy Illingworth, y Prif Chwip Rhyddfrydig, yn anerch cyfarfod yn Blackburn. Rhoes bedwar sicrwydd neillduol i'r cyf- arfod :— (1) —Y bydd i'r cwestiwn sydd wedi ei godi gael ei settlo gan y blaid Rhyddfrydig ar ei linellau ei hun, yn ei ffordd ei hun, ac yn ei amser ei hun, ac na bydd i'r Llyw- odraeth gymmeryd ei hattal na'i gwyro trwy unrhyw fygythion o gwbl.' (2)-Fod ffrwythau y Ddeddf Seneddol i gael eu casglu. (3)-Fod y Brenin, trwy yr adeg mwyaf cynnhyrfus ac anhawdd, wedi gweithredu yn y modd mwyaf cyfansoddiadol. (4)—Pe byddai pob swyddog Prydeinig yn y fyddin yn ymddis- wyddo, ni bydd i'r Llywodraeth ildio yr un blewyn oddi wrth y dasg sydd ganddynt mewn Haw. Yr oedd y brwydfrydedd mwyaf yn bodoli yn y cyfarfod, a rhoed cymeradwyaeth faith a byddarol i Mr Percy Illingworth ar derfyn ei araeth. Llafur a Rhyddfrydiaeth. I Gwnaeth Llywydd Cymdeithas Ryddfrydol De Morganwg apel amserol iawn y dydd o'r blaen trwy apelio am gynhadledd o arweinwyr Plaid Llafur a'r Blaid Ryddfrydol er dod i gyd.ddeall= twriaeth. Gresyn mawr yw i'r sedd gael ei pheryglu trwy ymran- iadau. Gan yr ymdrechant i sicr= hau yr un buddianau, ni ddylid petruso aberthu llawer er cael y ddwy blaid gref yn un i gydweith- redu yn erbyn yr un gelyn, a sicrhau buddugoliaeth fawr eto. Y Methodistiaid a'r Eglwys. I Mae tua dau adwsm o Bwyllgor Gwrth-ddadwaddolwyr Esgobaeth Bangor yn perthyn i'r Methodist- iaid. Dylai y 'Llan' ddweyd pa nifer o honynt sydd yn Doriaid. Tybed nad oes ar y Parch John Owen, M.A., Criccieth, awydd oblegid hyn, uno y Corff" a'r Eglwys.

I Y BEIBL. I