Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

BYD CREFYDDOL.I

News
Cite
Share

BYD CREFYDDOL. I Y Ddiod. I Cynaliwyd cyfres o gyfarfodydd dirwestol arbenig yn Nghastell- nedd yn ddiweddar mewn cysyll- tiad ag Undeb Gobeithluoedd De- heudir Cymru. Traddodwyd an- erchiadau rhagorol vno gan Dr. W. A. Chappie, A.S., a J. Hugh Edwards, A.S. Ymdriniai Dr. Chappie ar niwed yr alcohol ar y corph dynol. Tystiai fod alcohol yn achosi Ilawer o afiechydon. Da oedd ganddo ddweyd fod prif ysbytdai ein gwlad bron a gwneud ymaith a'i ddefnyddio yn llwyr. Bu Ysbytty Leeds un amser yn rhoi ar gyfartaledd gwerth 6s 6c. y pen i'r cleifien, ond yn awr nid ydynt yn caniatau mwy na gwerth 2g. y pen. Bu Ysbytty Guy, Llundain, yn gwario f 1,567 yn flynyddol ar alcohol, ond yn awr nid ydynt yn gwario mwy na £ 150. Dywedai Mr Edwards fod y Llywodraeth tra yn gwario dros 50 miliwn o bunau ar y Llynges i amddiffyn ein gwlad rhag ryw elyn allanol, yn goddef i elyn mewnol a mwy dinystriol i ddifa ein nerth. Credai mai alcohol ydyw prif achosydd darfodedigaeth, ac mai ofer fyddai i'r Llywodraech godi sanatoriums, os gadawant lonydd i'r Fasnach Feddwol. Cadeirydd un o'r cyfarfodydd oedd Syr Sta- fford Howard, Llanelli. Mae o yn credu fel Ilawer eraill y dyllesid gwneyd dirwest yn bwnc gorfodol i'w ddysgu yn yr ysgolion dyddiol. YsgoHon Sul yr Wyddgrug. Syniad rhagorol sydd o'r tu ol i Undeb Ysgolion Sabbothol yr [Wyddgrug. Yr unig beth sy'n eisieu i'w wneud yn berffaith ydyw cael Ysgol Sul yr Eglwys i mewn. Una yr Ymneillduwyr i geisio gwneyd yr ysgol yn fwy effeithiol a phoblogaidd nag erioed. Dyma awgrym i'r rhai sydd yn amcanu at undeb rhwng yf ehwadaii. CofFa Morgan Rhys. Paratoir a chesglir i ddodi colofn goffa i fyny yn ardal Llanfynydd a Chapel Isaac i'r emynydd, Morgan Rhys. Da yw gwneyd ymdrech yn y cyfeiriad hwn. Nid yw'n debyg y cyst swm mawr iawn; ond pa faint bynnag a gyst, dylid gwneud y gwaith. Dyna'r unig ffordd i Gymru gydnabod y rhai roisant ei phethau anwylaf iddi, heblaw y Beibl. Beth fyddai'r meddwl Cvmreig heddyw heb yr emynau sydd yn rhedeg drwyddo ? Hwynthwy sydd wedi dod a'r nef agosaf at y Cymro o bopeth ag eithrio Gair Duw; ac y maent gydag ef o'r cryd i'r bedd. v Methodistiaid Manceinion. Daeth ystadegau C.M. Manches- ter allan yn brydlon ac yn gyflawn, a manwl fel arfer. Y Parch D. D. Williams sy'n ysgrifenu yr anerch- iad. Dywed fod cynydd o 64 yn rhif yr aelodau, fod yr Ysgol Sul yn ychwanegu peth cryfder, a chas- glwyd [1,174 19s. Ic. at y weinid- ogaeth, a f, 3,852 14s. 9c. at bob achos. Nid oes ond tair eglwys mewn dyled,—a dim ond [49 17s. 11--c. yw y tair gyda'u gilydd; tra y mae gan y 14 egl wys aral I weddill o c346 lls. 4c. Yr Annibynwyr a Kikuyu. Dyma benderfyniad Annibynwyr Gorllewin Morganwg:—" Ein bod fel Cynhadledd yn dymuno datgan ein cymeradwyaeth i amcan Cyn- hadledd Kikuyu er sicrhau cyd- weithrediad .rhwng y gwahanol gymdeithasau Cristionogol yn y meusydd cenhadol yn Affrica. Ein bod yn llawenhau yng ngwaith Esgobion Mombassa ac Uganda yn uno yn yr ymdrech i sicr- hau cydweithrediad, ac yn arbenig pan yn ymuno a'u cydgenhadon yn y Swper Sanctaidd. Ein bod yn anghymeradwyo gwaith Esgob Zanzibar yn gwrthod ymuno a'i frodyr yn y Gynhadledd, ac yn condemnio ei ysbryd gwrth-Grist- ioncgol yn dwyn cyhuddiad yn erbyn ei frodyr gerbron awdurdod- au yr Eglwys Esgobol yn Lloegr. Y Methodistiaid Calfinaidd a Dirwest. Cyfarfu Pwyllgor Gweithiol Cymdeithas Ddirwestol y Cyfun- deb yn Rhyl ar y 19 cyfisol. Yn mysg ainrywfaterion fu gerbron pasiwyd y penderfyniad canlynol Ein bod fel Pwyllgor Dirwestol y Gymanfa Gyffredinol yn datgaia mawr lawenydd fod y Mesur i hyr- wyddo Achos Sobrwydd yng Nghymru a Sir Fynwy wedi pasio ei ddarlleniad cyntaf yn Nhy'r Cyffredin gyda'f fath fwyafrif ar- dderchog, ein bod yn hollol argy- hoeddedig fod llais Cymru yn yr alwad am y Mesur hwn yn gryf a phenderfynol, a'n bod yn y modd mwyaf gwresog a hyderus yn pwyso ar y Llywodraeth i roddi i'r Mesur bob hwylusdod a chymorth dichonadwy er pasio y Mesur trwy ddau dy y Senedd yn ystod y tymor hwn. ;• Yn y Mesur hwn sydd dan ofal ein cydwladwr ffyddlon Syr J. Herbert Roberts, A.S., dyma gam ymarferol ar ffordd Ymreolaeth i Gymru-rhoi llywodraethiad Mas nach y Ddiod yn nwylaw y bob!. Prin y mae y Mesur ardderchog hwn wedi cael y sylw a deilynga eto. Gwnelai ein Haelodau Sen- eddol waith tra bendithiol wrth ei gefnogi, nid yn unig yn y Sened 1, ond hefyd mewn cyfarfodydd cy. hoeddus led-led y wlad. Or4 iddynt hwy arwain yn y gad cam deimlo fod calonau gwerin Cymru mor gadarn a'r mynyddoedd wrth eu cefn. Ardderchog o beth fydd- ai cael y Mesur bychan ond gwerthfawr hwn yn ddeddf cyn diwedd y tymor hwn.

GORPHWYSFA, TREGARTH.

TAMEIDIAU GWLEIDYDDOL.

I Y BEIBL. I