Skip to main content
Hide Articles List

3 articles on this Page

[No title]

I Y BEIBL. I

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

I Y BEIBL. I I *Adolysiad ar Lyfr Dr. Peake. I (Gan y Parch E. BERWTN ROBERTS.) Yr wyf dan orfod i fyned heibio rhai pethau yn y llyfr hwn heb sylwi arnynt am fod- y llyfr yn faith a'r amser yn brin. Ond nid colled yw hynny i gyd, gan i'r gwaith gael ei ysgrifennu mewn arddull boblogaidd. Yn herwydd hynny ceir ynddo grwydriadau ac ailadrodd- iadau, Ysgrifenwyd ef mewn tymer dda, ac o dan ddylanwad syniadau aruchel am y Beibl. Ym marn yr Awdur, er i feirniadaeth ein gorfodi i i newid ein safleoedd, gesyd ni ar graig. Symuda y pwyslais oddiar yr ailraddol a gesyd ef ar yr uwchraddol. Hyd yn nod pe yn alluog i'r gorch- wyl, nid wyf yn bwriadu i'r papur fod yn feirniadol, ond yn hytrach yn adol- ygiadol. I'r pwrpas hwnnw car son l am 1. Feirniadaeth Ysgrythyrol. 2. Yr hyn yw y Beibl. 3. Ei ysbrydoliaeth I a'i awdurdod. 4. Ei werth parhaol. 1. Beimiadaeth. Dylem oddef i'r Beibl gael ei chwilio yn ysbryd beirniadaeth deg fel y gwneir gyda'g unrbyw ddarn arall o lenydd- iaeth. Ynfydrwydd yw dweyd na ddylid myned at y Beibl yn feirniad- ol, am ei fod yn wahanol i bob llyfr arall. Mae'n rhy ddiweddar bellach i gymeryd y cwrs hwn. Dylai ein syniad am ei le angydmarol, ei ysbrydoliaeth a'i?awdurdod, gael ei benderfynu gan ymchwiliad teg a diduedd i'r Beibl ei hun, ac nid gan unrhyw dybiaeth a goleddwn ymlaen Haw. Dylai y feirn- iadaeth fod yn ol rheolau gwyddonol. Ni flina Dr. Peake ein hadgofio yc barhaus fod y Beibl yn dal ei dir. i ateb y pwrpas y bwriadwyd ef, er i feirniad- aeth newid cryn lawer arno. Mae myned at y Beibl fel cynt yn amhosibl yn awr yn wyneb darganfyddiadau di- weddar. Caed goleuni lawer yn gym- harol ddiweddar ar yr H. D. mewn ysgrifau a thablau, maen megis Moab a'r Aramaic papyri gaed yn yr Aifft. Yn eu goleuni rhaid cydnabod bellach fod Israel yn ddyledus am lawer o'i rhagoriaethau i wareiddiad o'i blaen. I Mae darganfod y Greek papyri, I ymchwiliad i lenyddiaeth gyfoesol, a llawysgrifau newydd wedi tailu gole tebyg ar y T. N. Gorfoclir ni gall y I pethau hyn, a chyffelyb iddynt, i fyned at y Beibl yn fwy gwyddonol nag yr arferid g wneud. Mae'n ymddangos i mi mai un o'r dar- ganfyddiadau mwyaf chwildroadol yw y tebygrwydd manwl geir yn arferion de- fodol yr Hebreaid, yn ol yr H. D., a'r rhai a gyfarfyddir ym mhlith llwythau paganaidd. Erbyn hyn gwelir mai tyf- iant oedd y ddefodaeth Iddewig o bag- aniaeth Semitaidd, a honno drachefn o baganiaeth cyn hynny. Rhaid inni felly newid ein syniad am le y gyfun- drefn Iddewig iel cysgod o Grist, os nad ydym yn fodlon i ddyweud fod yr un defodau yn gysgod o Grist yn mhel-lach yn ol na'r Hebreaid—yn addoliad y Semitiaid a chynt. Dynna'r unig ffordd y gellir dyweud Cod arferion defodol yr Hebreaid yn drefniant dwyfol. Ond camgymeriad fyddai dyweud fod y cys- ylltiad rhwng arferion defodol yr Iddew- on ag arferion paganaidd yn eu hysbeilio o'u hystyron. Fel y dywed Dr. Peake, profant fod dyhead y galon am bardwn a glanhad a chymundeb a'r dwyfol yn cyraedd ym hellach yn ol na genedigaeth y genedl Iddewig. Mae'n anheg barnu a chon- demnio y grefydd Iddewig o herwydd cysylltaid ei defodan amrwd a rhai paganaidd. Cymharer ei moesoldeb uchel â'i defodau, diystyr yn ami, a cheir gweled fod Duw yn datguddio ei hun yn hanes y genedl o ris i ris. Mewn cyfnod ar ol cyfnod yn ei hanes cyfododd proffwydi i alw sylw y bobl at foesoldeb oddi wrth:ddefodau. Adwaenir beirniadaeth ysgrythyrol dan ddau enw—Is feirniadaeth ac Uwch feirniadaeth. Yn iaith a barn y werin yr un peth yw yr Is-feirniadaeth a'r golygiad ceidwadol, neu draddodiad- oll o'r Beibl, ond enw ar ran o feirniad- aeth ysgrythyrol ddiweddar yw. Mae Is-feirniadaeth yn gyfystyr a beirniad- aeth destunol (Textual Criticism). Gwaith y feirniadaeth hon yw adfer y testun i'w ystad wreiddiol hyd y gellir, dod o hyd, os gellir, i'r geiriau ysgrifen wyd gan awdur y lenyddiaeth ysgryth- yrol. Gwaith yr Uwch-feirniadaeth yw chwilio i gyfansoddiad neu natur y llyfr, ei awduriaeth, ei ddyddiad a'r amgylchiadau. Cofier fod yr Is yn feirniadol mewn ystyr gyffelyb i'r U weh. Gall casgiiadau yr Is fod mor chwyldroadol i'r ysgrythyr a'r Uwch, Cydweithia y ddwy feirniadaeth i'r un amcan gonest. Tybia gwaith yr Is- feirniadaeth mai nid fel y mae yr ys. grifenwyd y Beibl ym mhob engraifft, fod y testun wedi ei lygru drwy gael ei gopio o un lawysgrif i'r llall. Mae hynny yn ffaith. Felly chwedl Dr. Peake ni welodd Duw yn dda gadw y testun rhag cael ei lygru. Pe bwriedid i'r Beibl i fod yn anffaeledig ym mhob peth, buasai hynny o leiaf yn bwysig. Ond gwaith anrhydeddus Is feirniad- aeth yw chwilio am y testyn gwradiol. Mae ganddi dasg enbyd, oblegid nis gall olrhain y testun Hebreig ddim pellach na'r ail ganrif. a mil o flynydd- oedd yw oed yr ysgrif hynaf ddyddied- ig o'r H. D. Gyda thestun y T. N. yr jdym yn sefyll ar gadarnach tir. Un 'help fawr i ddod o hyd i'r testun cywir yn y T. N. yw amlder y gwahanol ddar- lleniadau. Yr ydym yn dra dyledus i'r Is-feirn laid am y gwaith diflino a wnant yn nghyfeiriad adfer y testun. Dylem groesawu yr Uwch-feirniadaeth fel yr Is. Nid busnes yr Uwch yw dynoethi gwendid, neu "llunio bai lIe ni bydd." Yr wyf yn credu y dylem ni egluro i'n pobl mai nid oddiar y cymhellion an- nheil,4 ng yna ygweithiayr Uwch-feirn- iaid, ac nad oes gan y Beibl, mwy na ¡ rbyw lenyddiaeth arall, hawl i ddianc I rhag beirniadaeth wyddonol. Clywch | yn hytrach fel yr edrydd Dr Peake, yr ymdeimlad o werth a phwysigrwydd anghydmarol y Beibl gymhella y beir- niaid i ymgymeryd ag ymchwiliad llaf- urus a manwl, ystyrid yn rhy lafurus i unrhyw lenyddiaeth arall." Fel yr ymchwilia yr Is-feirniadaeth i burdeb y testyn, felly hefyd yr edrych yr Uwch i gyfansoddiad y gwahanol lyfrau. Ceisia gael gafael ar yr awdur gwirioneddol; gwel ol fwy nag un law mewn cyfan- soddiad: newidia ei amseriad; ad-drefna y gwahanol lanau o'r un llyfr; ceisia edrych ar hanes, &c., o safbwynt yr awdur neu y golygydd. Am y beiddia dynion wneud hyn a'r Beibl, mynn rhai fod yr Uwch-feirniaid fel y cyfryw yn gwadu y goruwchnatur- iol, ac am hynny yn gwadu datguddiad mewn ystyr oruwchddynol. Ond os oes yn eu plith rai wna hynny ni ddylid eu condemnio fel y cyfryw. Un o ar- wyddion siriolaf y dydd yw gweled dyn o argyhoeddiadau ysbrydol Dr. Peake yn cymeryd ei le ym mlith y beirniaid hyn. Yr oedd Robertson Smith a'r diweddar (erbyn hyn) Ddr. Driver yn yr un dos- barth. Ymgydnabydder ag esboniad Dr. Driver ar Genesis, a cheir gweled mor ddiogel yw y Beibl yn nwylaw y fath feirniad. Os gwad beirniad mai Moses gyfansoddodd y pum liyfr o dan ei enw tybia rhai ei fod yn gwadu y goruwcbnaturiol, am y rheswm y tybid unwaith mai Duw ei Hun adroddodd y pum llyfr i Moses ac yntau eu hysgrifennu. Gwrthwyneba rhai gasgliadau yr Uwch-feirniaid am eu bod yn dinistrio ysbrydoliaeth y Beibl. Ond y mae'n amlwg mai dinystrio rhyw olygiad am ysbrydoliaeth a wneir-fod ysbrydol- iaeth y Beibl yn eiriol, yr hwn bellach nis gellir ei oddef. Nid rhyfedd fod gan y bobl wrthwynebiad i feirniadaeth a hwythau yn credu fod y Beibl yn an- ffaeledig. Mae'n syn mor bell y gall dynion sy'n feirniaid craff mewn cyf- eiriadau fyned yn erbyn honiadau a chasgliadau Uwch-feirniadaeth. Dy- fynir awdurdod lesu Grist gan rai i ddangos fod casgliadau Uwch-feirniad- aeth yn gyfeiliornus. Apelir at eiriau lesu Grist fel gwarant dros awduraeth Dafydd i Salm benodol. Ni chania- teir fod lesu Grist yn siarad yn iaith ei oes; cymerir yn caniataol fod Ei wyb- odaeth ar y materion hyn yn fwy nag eiddo ei oes; anwybyddir y ffaith fod yr ymgnawdoliad yn tybio terfynoldeb. Mynn Dr. Wright y dylai y liianau hanesyddol o'r H D. gydnabyddir yn y T. N. gael eu derbyn gan Gristionogion fel gwirionedd. Mae hyn cystal a dyweud y rhaid fod llyfr Jona yn des- grifio banes gwirioneddol o herwydd i lesu Grist wneud defnydd o honno mewn eymhariaeth. Engraifft yw hyn o gymeryd ein rhwymo gan olygiadau diwinyddol i feirniadaeth ysgrythyrol. Yr wyf wedi rhoddi o bosiblfwy o le i son am feirniadaeth ysgrythyrol nag y dyl- aswn, ond gwnaethum hyn o herwydd y gwrthwynebiad annheg a godir yn erbyn beirniadaeth. II. Yr hyn yw y Beibl. Beth yw y Beibl ddylasem ei ofyn, nid beth ddylasai fod. Nid datguddiad yw y Beibl, ond cofnodiad o'r datgudd- iad roddodd Duw o honno ei Hun yn hanes y genedl Iddewig ac ym mhrofiad yr unigol. Felly, yn lie bod datguddiad yn chwyldroad i gyfrannu gwirioneddau, abstract, fel y dywedir, ewrsweithrediad mewn hanes yw; cofnodiad o honno yw y Beibl. Os na edrychir fel hyn arno, ni ddeallir ef byth, ym marn Dr. Peake. Ar y llinell yma, eb efe, y mae unoliaeth y Beibl. Nid unoliaeth yn yr ystyr o gysondeb dysgeidiaeth. Nid yw y math hwn i'w gael ynddo, ac ni ddy- lem ei ddisgwyl. It is the unity of a definite journey towards a definite goal in which the lower stages are gradually left behind." Hanes Duw yn datguddio ei hun drwy un genedl etholedig yw yr H. D., Hwyrach mai ar gyfrif yr atbrylith naturiol a feddai at grefydd y dewiswyd hi gan Dduw. Yn hanes y genedl o riniog paganiaeth i uchelfeydd crefydd a moesoldeb y gwelir y datguddiad. Nid yw yn sarhad i dybio fod y grefydd Iddewig wedi tarddu o gredoau a sef- ydliadau paganaidd ac anwar. Rhaid fod Duw yn gweithio yn' y genedl cyn y gallasai dyfu mor uchel o gyflwr mor isel. Maban oedd Israel pan gyrhaedd- asai ymerodraethau eraill gyflawn dwf. Oddiwrthynt hwy y dysgodd yr Heb- reaid gelf a galwedigaeth, egwyddorion cyfraith a chyfiawnder, moesoldeb, ac i ryw fesur grefydd hefyd. Copi oedd eu cyfundrefn o aberthau, eu defod o enwaedu, eu syniadau a'u rheolau am burdeb ac aflendid. Er cychwyn y grefydd o alwad Abraham, wedi'r wared- igaeth o'r Aifft y daeth i fodolaefch. Dyma yn un peth yw y Beibl-ad- roddiad am Dduw yn datguddio ei Hun i'r byd drwy hanes un genedl. Mewn cwymp a chyfodiad, dysgodd y genedl hon y fat'h syniad am Dduw na feddai un grefydd arall cyn dyfodiad Cristion- ogaeth. Syniai am danno fel Duw byw, personol, cyfiawn a sanctaidd. Yr un modd dysgodd yn ei hanes ei hun syn- iadau uchel am foesoldeb a chrefydd.

Advertising