Skip to main content
Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

At ein Dosbarthwyr an Derbynwyr.i

[No title]

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

Yn ei anerchiad yng Eglwys nghyfarfod cyhoeddus Sefydledig a y Cyngrhair uchod, Moesoldeb. gwnaeth y Prif Ath raw Thomas Rees, Bangor, sylwadau byw iawn yng- hylch perthynas Eglwys Sefydledig a moesau cyhoeddus Dywedai fod rhagolygon Ym. neillduaeth yn llawer mwy yn awr nag y buont yn y gorphenol: Wrth siarad a nifer o wragedd yn Llun- dain y dydd o'r blaen, dywedai esgob Llanelwy fod Ymneilldu- aeth, ac yn enwedig y syniad o ryddhad crefydd yn Nghymru, ddechreuodd yn 1811, yn awr yn marw o fodolaeth. Yr oedd hyny yn ddarlleniad mor anghywir o hanes a dim allai fod yn bosibl. Yr oedd hanes Cristionogaeth yn cael ei ranu i dri chyfnod pwysig. Y cyntaf ydoedd cyfnod y Testa- ment Newydd, pryd y sylfaenid crefydd ar ffydd yn Nghrist. Yr oedd crefydd y pryd hwnnw yn golygu undeb ysbrydol a Christ, ac nid undeb allanol alr Wladwriaeth. Yr ail gyfnod ydoedd pryd y daeth Philosophyddiaeth Groeg i gymer- yd lie Cristionogaeth daeth Crist- ionogaeth baganaidd i gymeryd lie addoliad Cristionogol a daeth gallu Ymherodraeth Rhufain i fod y gallu llywodraethol ar Gristion- ogaeth. Y trydydd cyfnod ydoedd adferiad Cristionogaeth, yn dech- reu gyda'r Diwygiad Protestan- aidd yn y wlad hon, gan dyfu ar hyd llinellau Ymneillduaetl-4 pa un yn raddol oedd wedi bod yn darganfod ei gwir egwyddorion, gan ymwithod undeb a'r 'Wladwr- iaeth; peidio dibynu ar alluoedd bydol, a gwrthod credoau a wthid gan Senedd ac yn awr yr oedd Ymneillduaeth yn edrych yn-mlaen I at sylweddoliad llawnach o brif egwyddorion Cristionogaeth foreu- ol. Yr oedd Eglwys Sefydledig yn sefyll ar ffordd dyrchafiad bywyd moesol y wlad. Yr oedd ar sylfaen orfodol, ac yr oedd ei dibyniaeth I ar Wladwriaeth yn parlysu ei dylanwad moesol. Fel mater o ffaith a hanes yr oedd yr Eglw: wedi bod ar ochr ygormeswyr." Yn y frwydr gyda'r fasnach feddwol yr oedd yr Eglwys wedi bod ar ochr y bragwyr. Yr oedd gwrth- wynebiad Mr Ormsby Gore, A.S., i ddarlleniad cyntaf mesur Syi Herbert Roberts yn profi yr hyn a ddywedai. Aeth y Prifathraw Rees yn mlaen i gyfeirio at y Protest Ymneillduol,' gan ddy- weyd fod Eglwyswyr yn temtio Ymneulldtiwyr oeddynt mewn safle ddibynol i fradychu eu heg- wyddorion. Yr oeddynt yn myned tu cefn i'r Ballot Act, ac yn ceisio ail chwareu trie 1868. Yr oedd Dadgysylltiad i glirio y dec o bob rhwystrau ag oedd Eglwys Sefyd- ledig yn eu gosod ar ffordd moesoli y wlad. Edrychent yn mlaen fel Ymneillduwyr am gael rhoddi mwy o yni er ymladd a phechod a gormes ac anghyfiawnder. Nid oedd Dadgysylltiad ond un cam bychan—angenrheidiol iawn—yn nghynnydd Ymneillduaeth yn ei mynediad i mewn i etifeddiaeth Cristionogaeth oedd yn gorwedd o'i blaen. »» »

[No title]

[No title]

Yr Annibynwyr a Dadgysylltiad.

IWyr Henry Rees.