Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Advertising

At ein Dosbarthwyr an Derbynwyr.i

[No title]

[No title]

News
Cite
Share

Un o faterion eraill y Gormod o Cyngrhair oedd Y Gapeli. niwed a ddeillia o or- liosogi capelau." Ag- orwyd ef gan y Parch. W. O. Evans, Lerpwl. Pe cymerid ffeith- iau i ystyriaeth, ebai Mr Evans, nis gellir amheu'r gosodiad fod gor- mod o gapelau yng Ngogledd Cymru, oblegid yr oedd llawer mwy o eisteddleoedd wedi eu trefnu yn y capelau a'r ysgoldai nag oedd rhif y boblogaeth, heb gymeryd i ystyriaeth yr eglwysi sefydledig. Er enghraifft. yn sir- oedd Mon, Arfon, a Meirionydd, darperid eisteddleoedd yn y capel- au Ymneillduol nid yn unig i bob dyn, dynes, a phlentyn o'u mewn, ond gyda hynny 1 33,479 o bobl yn chwanegol. Yr oedghyn yn wir, hefyd, yn mherthynas j'r trefi-Ile i lawer o filoedd o bobl uwchlaw rhif y boblogaeth. Ar^un Haw yr oedd lliosogiad capelau yn destyn diolch, oblegid tystiept i grefydd- older Ymneuilduaetfl "gynnyrchiol y genedl. Yr oedd pob capel yn gof-golofn i haelioni a hunanym- wadiad y bobl. Er hynny, o edrych ar y mater oddiar safle uchel ac eang, rhaid addef fod gor-liosogi capelau yn achlysur colled a niwed mewn ami i gyfeiriad. Bernid fod gwerth yr holl eiddo Ymneillduol yn Ngogledd Cyna'u'-yn ddwy filiwn a chwarter o bunnau, a chy- frenid yn flynyddol tuag at gynnal 4." 0 0 0 p. Tystiai yr achosion tua 225,000p. Tystiai hyn i haelioni gwerin Cymru, ond er hynny, yr oedd llawer achos yn gruddfan dan feichiau anhawdd eu dwyn. Peth costus ryfeddol oedd cystadleuaeth enwadol. obJegid yr oedd yn esgor ar gostau diangen- rhaid. Suddid arian yn ormodol mewn ceryg a chalch ar draul tlodi'r weinidogaeth a lleihau eff eithiolrwydd yr eglwysi. Nid da ydoedd amlhau yr achosion gartref tra paganiaid wrth y miliynau yn amddifad o'r Efengyl. Onibae am gystadleuaeth enwadol diamheu y gellid cyfranu mwy, nid mewn arian yn unig, ond, hefyd, mewn dynion i'r gwaith cenhadol. Tuedd y Cymry ydoedd croni ffrydiau eu sel mewn llynoedd bach yng Nghymru, yn lie gadael iddynt redeg allan yn afonydd i ddyfrhau'r byd. Yr oedd gor liosogi capelau yn golygu gor-liosogi pregelhwyr, a thuedd hynny drachefn ydoedd gostwng safon y weinidogaeth. Pe gellid symud ymaith ragfarnau enwadol mewn llawer ardal, a pherswadio y cynulleidfaoedd i ymuno mewn un capel, fe wedd- newidid achoscrefyddyn bur fuan. Yn lie dau neu dri o achosion gweiniaid yn dyhoeni ar wahan, ceid un achos cryf a chryno, a rhoddai hynny ysbryd newydd i'r bobl, a chalon newydd i'r gweini- dog. Wrth derfynu awgrymai Mr Evans fod i bwyllgor arhosol gael ei sefydlu o ddyaion mwyaf dylan- wadol y Cyfundebau i'r amcan o attal cystadleuaeth enwadol mewn ardaloedd sydd yn dadblygu, yn gystal ag i ddarparu ar gyfer y lleoedd a egeuluswyd. -———— »» » —————

[No title]

[No title]

[No title]

Yr Annibynwyr a Dadgysylltiad.

IWyr Henry Rees.