Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
-".I AdroddiadPwyllgary Tir.…
I AdroddiadPwyllgary Tir. J. J". 1 XVIII. I Mae dau adroddiad o'r Royal Com- mission on Land in Wales and Mon- I mouthshire 1896, sef Majority Report and Minority Report. Dywed yr olaf I ar bwnc Land Court. 1. Y byddai Land Court yn arwain i I fath o berchenogaeth ddwbl, ac yn rhoddi i'r tenant yr un liawl a'r perch- enog. 2. Os yw Land Court yn bosibl yn yr Iwerddon a Scotland, ei fod yn hollol amhosibl yn Lloegr a Cbymru. 3. Y byddai Land Court yn rhoddi parhad ystrydebol i'r hyn y cwynir er's blynyddoedd o'i herwydd, sef ffermydd mawrion yn llyngcu i iyny y man dy ddynod. 4. Y byddai llys cyfreithiol o'r fath yn gostus ac yn gwmpasog. 5, Y byddai codiad cyffredinol yn y rhenti yn sicr o ddilyn, am fod y rhenti yn llawer rhy isel fel y maent ar hyn o bryd. Mae y pwyllgor yn gwahaniaethu mewn barn ar y pum pwnc, ac yn gwneyd datganiad ar bob un o honynt. Nid angenrheidiol gwneyd mwy na rboddi dyfarniad y pwyllgor ar ol rhoddi ystyriaeth fanwl i'r ddau adroddiad. Mae yr olaf yn cymeryd 4 y cant o log am y pris delir am dir mewn ar- werthipdau yn basis, tra mae y pwyllgor yn cymeryd ei safle ar werth y tir i'r ffarm wr sydd yn ei drin ac yn byw ar y tir. Mae y pwyllgor yn cymeryd i ys- tyriaeth fod y rhenti wedi codi 100 per cent rhwng y flwyddyn 1770 a'r llwy ddyn 1870, ac nad yw wedi gostwng ond prin 20 y cant hyd yn bresenol. Y ddau brif reswm am y codiad ydynt I. codiad yn y rhent oblegid cystadleu- aeth am dir i' w lafurio. Gwell gan y tenant dalu mwy o rent nag sydd yn gyfiawn nac ymadael yn fynych. Mae arall yn barod i dalu mwy er mwyn cael ffarm. Gwelir fod y pwyllgor yn gwneyd gwahaniaeth rhwng rhent y gellir ei thalu ac ar yr un pryd wneyd bywiol- iaeth o'r tir—a'r rhent fedr y tirfedd- ianydd ei wasgu allan o'r tenant trwy esad y naill denant i gystadlu yn erbyn y Ilall. A ganiyn yw dyfarniad y pwyllgor o'r safbwynt a gymerent hwy i edrych ar y pwngc. 1. Mae llys tirol yn Scotland trwy roddi sicrwydd daliadaeth i'r Crofters wedi-profi o fantais anrhaethol iddynt. Yn 1911 mae yr un rhagorfraint wedi ei hestyn i holl Scotland i'r man dydd- ynwyr o £ 50 rent i lawr, ac yn cael ei wertbfawrogi yn gyffredinol. 2. Byddai sefydlu llys cyffelyb yn Lloegr a Chymru yn tueddu yn iwy at wneyd y tir yn berchenogaeth y wlad- wriaeth nac o rwystr i hyny. 3. Mae y Senedd eisioes wedi ei gor- fodi i ymyryd yn yr hyn elwir yn rhyddid i fargeinio rhwng y tenant a'r meistr tir, oherwydd ystyriaethau yn codi o anghenion amaethyddiaeth, yr hyn a wnai Land Court fyddai cario ymlaen yr ymyriadau sydd eisioes gam ymbellach, ac i'r cyfeiriad priodol i'r anghenion presenol. 4. Mae perchenogaeth tir o natur 'monopoly,' ac yn rboddi gallu cyfreith- iol yn nwylaw y tirfeddianydd dros y tenant sydd yn anfanteisiol i'r tenant ac i fijddiant cenedlaethol. Nid yw y ffaith fod ewyllys da ambell i feistr tir yn tyneru rhyw gymaint ar hyny yn profi dim yn wahanol. 5. Trwy y Land Ccurt gall yr am- aethwr gael sicrwydd daliadaeth (secu rity of tenure), yr anghen am yr hyn bwysleisir gyda chynydd parhaus oblegid yr arwerthiadau mynych ar diroedd sydd yn cymeryd lie. 6. Hawlia cyfiawnder fod i'r mater tir gymeryc1 ei ran o'r baich ychwanegol sydd yn dyfod ar yr amaethwyr oblegid y codiad raid gymeryd lie yn nghyflog y llafurwr amaethyddol. Nis gellir penderfynu y rhan raid ddisgyn ar y tirfeddianydd, ond trwy lys o'r natur yma fyddo yn meddu aw- durdod i benderfynu y rhent yn ngoleu pob ystyriaeth sydd yn dal perthynas gydag amaetbyddiaeth. 7. Mae y gallu cyfreithiol sydd yn eiddo y Meistr tir .i godi y rhent ar sail y gwelliantau a wnaed gan y tenant ei hunan lie yr arferir y gallu hwnw—bob amser yn niweidiol i amaethyddiaeth, ac nis gelllr ei atal ond trwy gorff cyfreith- iol gydag awdurdod i benodi y ihant- 8. Na ddylai y rhent gael ei phender- fynu trwy gystadleuaetn ddim yn hwy, eithr rhent resymol deg er budd- iant i'r wladwriaeth. 9. Gellir sicrhau hawl y tenant i wneyd y gwelliantau angenrheidiol, a dyogeler i'r tenant gynp.byddiaeth deg am y gwelliantau yn fwy trwy Land Court na thrwy unrhyw. gyirwngj arall. j 10. Byddai Land Court yn rhwydd- hau y ffordd i sicrhau tir gan gorffor- iaethau cyhoeddus, yn enwedig Small Holdings. Cymhellir gan hyny fod Llysoedd Tirol i Loegr a Chymru yn cael eu sef ydlu gydag awdurdod i roddi sicrwydd daliadaeth, ar yr amod i amaethwriaeth dda-a phenderfynu y rhent a chydna- byddiaeth am welliantau-a phender fynu y pris a sicrbeir trwy orfodaeth gan gorfforiaethau cyhoeddus i ddiben- ion cyhoeddus. Trethiad yn yr ardaloedd gwledig. Nis gellir cau allan y broblem drethol o bwno y tir am ei bod yn gymhlethedig gyda threthiad yn y trefi, a chyn y gellir delio yn effeithiol gyda'r pwnc yn ei agweddau rhaid cymeryd y trethiad yn y trefi i ystyriaeth yn ogystal a'r ardal- oedd gwledig. Cyfynga y pwyllgor ei sylw am y presenol i'r pethau a ganlyn 1. Trethiad ar welliantau amaeth- yddol (The Rating of Agricultural Im provements) 2. Trethiad tiroedd ddefnyddir i Sports a difyrion. 3. Cwynion yn codi o weinyddiad deddJau. 4. Gordrethiad y man dyddynwyr a'r Smallholders. I. Dyry Duke of Bedford yn ei lyfr Story of a Great Agricultural Estate," yr engraifft a ganlyn o'i brofiad personol ei hun. Yn agos i Woburn, gwnaethum ar- brawf trwy sefydlu ffarm ffrwythau (fruit farm). Trowyd cae o dir Ilafur yn y cynhauaf a'r gauaf 1894 yn ardd ffrwythau. Trwy arfer arian a llafur, planwyd y cae gyda stock werthfawr o goed ffrwythau, Er fy syndod ymhen ychydig fisoedd, daeth yr Overseer dros y plwyf ymlaen. (Addefaf nad oeddwn wedi rhagweled hyn). Dywedodd wrth- yf, Mae defnyddio cyfalaf wedi gwneyd cyfnewidiad mawr ar y llanerch hon, a'm dyledswydd yw rhoddi adroddiad o hyny, a threblu eich treth.' Yr oeddwn yn chwilio am biofiad ar dyfu ffrwythau ar raddfa eang. Yr wyf yn awr mewn sefyllfa i adrodd y canlyniad, a dyma ydyw-Os ewyllysiwch wario cyfalaf ar dyfu ffrwythau, bydd eich trethi wedi eu treblu cyn derbyn o honocl-i ddim o'r ffrwyth." II. 0 dan yr ail benawd gwelir trethiad Sporting Land yn ei wir oleuni. Rhoddwn yma ddwy engraifft o luaws. Yorkshire Y 114 Farmer. Mae yma un tirfeddianydd mawr wedi planu llawer o dir i fagu game. Arferid gosod y tir hwnw am 30s. yr acer, mae yn awr yn cael ei drethu yn ol 2s 6c yr acer. Montgomeryshire G 392 Small Farmer. Yn y rhan hon, mae planigfaoedd coed mawrion. Gorfn i ni all drethu y tir hwnw at Prairie Value, gan ei os- twng o £1 yr acer i 3s. yr acer, yr hyn sydd anghyfiawnder mawr tuag at am- aethwyr cymydogaethol. III. Gweinyddiad y Gyfraith, Mae dau ddrwg i'w symud o wein- yddiad deddfau trethol. (a) Ffafriaeth yr Assessment Committees Ileol. (b) Gwahaniaethau lleol yn esbonioygyf- raith ar drethiad lleol. Rhoddwn engreifftiau o'r ddwy hyn, un bob un. Dyma engraifft o ffafraeth. (E 252)—Bedair blynedd yn ol prynwyd palas a pharc am £ 13,000- Yr oedd yr adeiladau wedi eu hesgeuluso, a gwar- iwyd P,9,000 ar y palas a'r pare, cyfan- swm £ 22,000- Trethir yr oil 1 9200, Ilai nae un y cant. Trethir bythynod y pentref i 4 a 5 y cant—ond am y pare a'r ffarm sydd yn cynwys yr oil—nis gellir prynu tir adeiladu am unrhyw bris. Y Small Holder yn dyoddef cam. Mae y trethiad yn seiliedig ar y rhent, a rhent y Small Holder fel rheol yn ddwy waith yn fwy na rhent ffermydd mawrion, ac o ganlyniad mae y trethi ddwy waith yn fwy. Er engraifft, Lincolnshire (C. 26) Farmer. Yr wyf yn gobeithio y gwneir rhyw beth o berthynas i'r Man Dyddynwyr. Nid yn unig, mae y rhent yn seiliedig ar yswm dalwyd am y tir, ond mae y trethi yn ol y riient hwnw. Mae y tir a ddelir genyf fi yn £ 2 yr acer, a thir y ffarm am y gwrych a mi yn 17s yr acer. Mae fy Assessment i ar ddwy bunt a'm cymydog ar 17s yr acer. Fel y sylwyd, cyfyngir yn unig i drethiad yn yr ardaloedd gwledig Mae yn eglur i'r pwyllgor fod Basis of Taxation' drwodd draw yn galw am ystyriaeth fanwl a clifrifal ac ad-drefniad y gyfundrefn drwyddi oil, gan fel y mae baich y trethoedd yn gorphwys yn ,in,r,, !-iv- fJ. artal ar ysgwyddau y genedl, a'r [ gwanaf o dan y pen trymaf i'r baich. Wedi rhoddi cipdrem fel hyn ar y Land Court a'r gwaith dorir allan iado, mae y pwyllgor yn cymhell yn gryf ar fod i'r cyfryw lys gael ei sefydlu. Mae anghenion eraill ar gyfer pa rai y mae y Pwyllgor yn cymhell darpariadau. Cydweithrisdiad.—Mae eydweith- 1 t rediad ymhiith amaethwyr wedi gwneyd llawer ar y cyfandir ac yn yr Iwerddon; ond rose Lloegr a Chymru heb ymddeffro i hyn oud yn dechreu deffro. Mae y Bwrdd Amaethyddol yn dechreu symud mewn cydweithrediad gyda'r Agricul- tural Organisation Society aphethau eraill. Mae rhywbeth i'w ddysguoddiwrth gydweithrediad gyda diwydianau eraill. Cymhellir cydweithrediad yn y psth au canlynol:- (,a) I brynu angenrheidiau anhebgorol amaethyddiaeth, megis hadau, gwahanol fathau o wrtaith yn y farchnad rataf yn symiau mawr ac o'r ansawdd oreu. (b) Peirianau amaethyddol mawrion, megis peirianau dyrnu ac ager erydr a rhai pethau eraill ydynt yn rhy gostus i un neu ddau amaetb/Wr cyffredin i'w prynu, na digon o waith i'r cyfryw ar un ffarm. (c) Gallant trwy ymuno ffurfio eym- deithas i brynu tir neu rentu tir i fan- tais ac am bris llawer is nag y gall un ei wneyd. Gall cymdeithas wneyd llawer mewn llawer cyfeiriad nas gall yr unigol ei wneyd. (d) Gellir gwneyd llawer trwy gyd- weithrediad gyda thrin Ilaeth ac ymen yn a chaws, a bacwn, trwy sefydlu factories ar linellau cydweithredol (mae rhai eisoes). Mae angen am eu lluosogi. (e) Gellir hwyluso marchnad i fesur anhygoel i droi cynyrcb y tir yn arian, a'i gyfnewid am nwyddau trwy gyd- weithrediack Deillic1 mantais fawr mewn anfon ymaith y nwyddau i'r farchnad, yn enwedig ffrwythau, mewn pacio agraddoli ffrwythau i'w gwerthu, yn lie bod pob un yn cludo ei nwyddan ei hun—yn ffrwythau, vmenyn, caws, a llysiau, &c. Mewn gwahanol fan lestri gellid graddoli trwy roddi pawb ei wyau gyda'u gilydd, a'r un modd bethau eraill, ac un neu ddau i sefyll y farchnad gyda phob nwydd—byddai yn fantais i'r prynwyr yn ogystal a'r gwerthwyr, heb- law sicrhau costau cludiad llawer is. (f) y swiriaeth.Gellir yswirio ar linellau cydweithredol i fantais fawr. (g) Mae Credit yn anhebgorol i am- aethyddlaeth. trwy gydweithrediad y gellir sicrhau hyny i'r fantais oreu. Mae yn eglur mae y man dyddynwyr sydd mewn mwyaf o angen am gyd- weithrediad, oblegid gall yr amaethwr mawr wneud yn well heb gymorth cydweithrediad i brynu ac i werthu. Mae llawer o waith addysgu ar am- aethwyr y wlad i'w galluogi i sylwedd- oli y fantais o undeb a chydweithrediad. Mae amaethwyr yn dra cheidwadol yn eu harferion a'u syniadau am amaeth- yddiaeth, ac yn glynu yn dyn wrth hen arferion a phethau. At hyny mae cryn lawer o ddiffyg ymddiried fel ag i alia cydweithredu i fantais a chyda rhwyddineb. Ond fel y bydd y Small Holdings yn lluosogi ac addysg yn lledaenu, nid oes dadl na bydd anhawsderau o'r natur uchod yn diflanu. Mae un arwydd amlwg fod pethau yn symud i gyfeiriad undeb cydweithredol; mae yr amaethwyr yn dyfod i deimlo rwyÎwy fod y middle man yn eu hys- peilio, ac oddiyma y tyf cydweithrediad. Dywed Yorkshire Farmer Y- 80.. Mewn ymddiddan, mae ffermwyr yn dweyd fod Middlemen yn eu hysbeilio, ond,mae y, naill yn dweyd fod yr yn- fyttyn arall yn rhy ynfyd i ymuo Mae y syniad o gydweithrediad yn dechreu gwreiddio yn meddyliau llawer o ffermwyr.
NEWYDDION WESLEAIDD.
NEWYDDION WESLEAIDD. BAZAAR EBENEZER, BLAENAU FFESTINIOG. LLWYDDIANT MAWR.—Cynhaliwyd yr uchod Mawrth 19—21, yn Neuadd Gynull ein tref. Mawr fu y pryder ac helaeth y gweithio a throes yn llwyddiant tuhwn't i'n disgwyliadau gloewaf. Er mwyn cyf- eillion lliosog fu garedig wrthym rhoddwn ychydig o fanylion fydd o ddiddordeb. Llywyddwyd gan William Owen, Ysw., U.H., R. Bowton, Ysw., Cartref, d~ Towyii Jones, Ysw., M.Sc., Prif-athraw yr Ysgol Sirol. Agorwyd. y gweithrediadaugan y boneddigesau canlyilol:-imrs R. O. Jones, Brynofferen; Mrs. J. N. Edwards, Llys Gwaenydd, a Mrs Thomas, Hen Gapel. Cawsom anerchiadau buddiol a doeth gan y personau a enwyd a chyfranasant yn anrhydeddus neiilduol drwy rhoddion a phrynu. Gwasanaethwyd yn yr agoriad bob dydd ar y delyn gan Miss A. C. Lloyd (Telynores Tegid), enillydd y brif wobr ar y delyn yn Eisteddfodau Wrexham ac Abergafenni, a Miss Rosina Davies, Blaenau. Cafwyd hamdden rhagorol wrth agor bob dydd, a gosododd fri mawr ar y mudiad. 'Roedd yr Hall wedi ei harddu yn chwaethus, a bu Mr Roberts, London House, o gynhorthwy arbenig yngiyn a hyn. 'Roedd y stalls yn oriawn o adefnyddiau drudfaWr a buddiol. Cym .1 erwyd cyfrifolaeb y Manod Stalls gan Rev. Mrs Edward Davies gyda nifer o chwiorydd a sylweddoiodd y swm £7b' 4s gd. Moelwyn Sta!!s dan arweiniaa Miss G. Price Davies, Oswald. House, gyda help chwiorydd eraill, pryd y gwnaed oddiwrth y cyfryw [71 I2s. 8|d: iierwyn Stall dan arolygiaeth Mrs Eiias Davies High Street, a chwiorydd yn cynhorthwyo, gwnaed y swm o [47 Os. lOJd. Refres- ment Stall dan ofal Mrs Parry Lloyd, Lord Street, a Mrs Thomas Jones, Wynne's Road, gyda chwiorydd eraill ?17 C, s.0)? Hefyd gyda'r cyfryw 'roeddk gwerthfaoe,d?'l eraill megis Crockery, Hcusehold, Fruit & Sweet Stall, a gwnaed elw da drwydd- ynt. Yn ychwanegol hefyd 'roedd nifer liosog o Arddangosfeydd (Side-shows) a throisant elw sylweddol i'r drvsorfa. Drwy y ffynonellau a enwyd ynghyda rhoddion personol cyfeillion Ebenezer, a'r. hyn gasglwyd tuallan i'r eglwys gwnaed y swm o [340 Os. Od. Par y fath swm syndod i bawb yma yn enwedig ar gyfrif am- gylchiadau masnachol yr ardal, ond nid rhyfedd gwedi cofio y fath lafur ac aberth diflino fu yn Ebenezer am dros ddwy flyn- edd o amser. Ond nid yw'r cyfeillion wedi gorffen. Cynhelir Sale of Work gyda'r gweddillion sydd yn aros ymhen tair wythnos, ac y mae eto addewidion i'w talu a disgwylir ejbyn diwedd y pethau hyn y bydd gennym drysorfa o [400. Eisoes cyn dechreu adgyweirio ein capel 'r'ym yngafaeFy Loan a'r Grant o [250 addawyd gan y Cyfundeb, ac felly mae gennym arian mewn llavv at gael Pipe Organ i'r capel. Mae hyn wedi creu ysbrydiaeth rnawr yn yr eglwys, ac wedi enyn sel na welais ei gryfach er's amser. Cawsom gydymdeimlad ardderchog gan yrenwadau eraill, a theimlwn yn ddiolch- gar o galon am hyn. Prawf o'r cymhorth gawsom yw fod tocynau ac arian am y tri diwrnod yn tybio mynediad 1,600 o bersonau i'r Neu- add. Y diwrnod olaf—Sadwrn, y diwrnod mawr, bu dros 800 i mewn, ac nid yn fuan yr anghofir y noson hon- -yr Hall yn orlavvn o gefnogwyr. Ni welais well gweithio na mwy o abertbu erioed—gweithiwyd yn unol ac heddychol gan yr eglwys. 'Roedd pob gwr a merch ieuanc yn ddieithriad o'r eglwys yn gwneud rhywbeth a gwneud eu goreu. 'Rym yn ddyledus i'r chwiorydd fL, yn Ilafur-Lo yn ddi-ildio am ddwy fiyn edd gron. Gwnaeth y gwyr hefyd eu rhan yn gampus, ac rwyn siwr tra y buasai vn dda genyf enwi ugeiniau o gyfeillion an- wyl, na warafunir i, mi enwi Mr Robert Lewis Jones, Cromwell Street, Ysgrifenydd Cyffredinol y mudiad, Ni fu gwell Ysgrif- enydd erioed. Gweithiodd fel cawr, a gwnaeth hyny yn llawen a diymhongar, hefyd. Mr William Williams -(Wesleyan, Assurance Superintendant) yr Ysgrifenydd Cyllidol y symudiad, gweithiodd yn ddi- wyd a gwen ar ei wyrieb drwy'r dyddiau, ac ni fyddai weddus beidio enwi y Trysor- ydd,, Mr Elias Davies, weithipdd yn di- dramgwydd a chalonog, ac mor hoew a bachgen deunaw oed. Ni fu gwell swydd- b a(-,Ii g eiiC?,,unawoe d .? ogion erioec na hwy. Teilwng yw cyd- nabod hefyd gwasanaeth Mr Ben T.Jones, Gwylfa (M.C.). Gwnaeth yn ardderchog fel Arweinydd i gaclw trefn dros y gweithred- iadau cyhoeddus. 'Roedd ei arabedd a'i ysbryd mtiwrfrydig yn rhoi gloewder" ar bob peth. Llawer o ddiolch iddo. BLias-, ai yn hawdd helaethu ar yr ymdrech gof- iadwy hon. Ni fu erioed yn hanes Eben- ezer nac unrhyw eglwys arall y gwn am dani harddach aberth, a chredwn y bydd y dylanwad er daioni ar feddwl ac ysbryd ppb un ymdaflodd i'r gwaith. Dymunaf at yr hyn ddywedais eisoes ddiolch o ddyfn- der calon i gyfeillion yn y weinidogaeth a ffrindiau lleygol yr enwad am roddion tuag at yr ymdrech. Credaf y bydd yr achos da yma ar sylfeini gwell i wynebu y dyfadol nag y bu er's amal t-flwyddyn. Mwy na gwerth yr elw arianol wnaed vw yr ysbryd a'r gweithgarwch syddawedi ei ddeffro yn ein pobl. (Rev.) I EDWARD DAVIES. Bryn Myfyr, Blaenau Ffestiniog.
Advertising
ArgrafEwyd "Hanes Wesleyacth Gymreig" yn y Swyddfa eang nchod, Danfonwch chwithau eich Gwaith Printio yno. ———— EVAN THOMAS, BANGOR. Y LLYFRFA, BANGOR. MaesLlafur 1914=15. YN AWR YN BAROD. Y RHUFEINIAID. Cyf. I. Is. 6c Gan y Parch. W. O. EVANS. f Ar gyfer Dosbarth IV. Dwsin am 15 swllt. Damheglon lesu Grist. Rhan I. 4c. Gan y Parch. R. W. Jones. Ar gyfer Dosbarth II. a III. Dwsin am 3s. 3c. LLYFRAU Y SAFONAU. Llyfr Cyntaf, i rai dan 8 oed, Safon 1. 1/- y dwsin. Ail Lyfr, 9 a 10 oed. „ 2 a 3. 2/- „ Trydydd Lyfr, „ 11 a 12 oed. 4 a 5. 2/- Gofyniadau Maes Llafur 1914=15. Pum' Swllt y Cant. Yr oil o'r Cludiad wedi ei dalu. Archeber yn ddioed. MI in in■ 111 MmII—II■■■ ii■mi in imrniniiiininniiiiaiiiiii un MI nnii
BETHEL, COED-Y-FFLINT.
BETHEL, COED-Y-FFLINT. MARWOLAETH.—Dydd Mercher, y 18fed cyfisol, wedi hir gystudd, a hwnnw yn un poenus iawn, bu farw Mr Thomas Jones, Ty Capel. Claddwyd ef yn mynwent y Fflint, ddydd Sadwrn, Mawrth 21ain. Yr oedd y gladdedigaeth o dan y drefn new- ydd. Gwasanaethwyd gan v Parch W. Morris Jones, B.A., Bagillt, a'r Parch D. R. Thomas, Fflint. Cafwyd gair gan y Parch D. Gwynfryn Jones, yn datgan gofid mawr nad allai, oblegid ymrwymiad nad ellid ei ciroi heibio, fod yn bresenol yn y claddu a'r wasanaeth, ac er nad oedd yn bresenol yn y claddedigaeth dywedai Mr Gwynfryn. Jones, yr hwn a'i gwelodd yn fynych yn ei. gystudd, ei fod yn medru pwyso yn ffydd iog ar y Ceidwad mawr. Cafodd gladded- igaetjii barchus iawn. Daeth tyrfa fawr ynghyd i dalu y gymwynas olaf i'w Iwch. Cynhaliwyd gwasanaeth yn y cape t cyn i'r gladdedigaeth gychwyn i lawr am y Fflint. Heblaw y gwemidogion a enwyd cymer- wyd rhan yn y wasanaeth honno gan Mr Samuel Price, a Mr Edward Jones, Arolyg- wr y Gylchdaith, y naill a'r liall yn flaen- oriaid yn eglwys Bethel, ac yn adnabod yr ymadawedig yn dda er's llawer o flynvdd- oedd. Dygwyd tystiolaeth uchel i ffydd- londeb yr vmadawedig ynglyn a gwahan- ol fuddiannau yr achos, ac yn arbenig felly yr Ysgol Sul. Yr oedd yn wr plaen iawn, ond yr oedd hefyd yn un o'r dynion mwyaf parod i wneud cymwynas, achi fyddai byth yn ol o helpu yr achos gyda'i rodd a'i wasanaeth. Ymhiith lliaws mawr o rai eraill anfon- wyd llythyrau o gydymdeimlad, y Parchn Tegrvd Davies, Llundain J, R.Roberts, Llundain T. Glyn Roberts, Caer. Dymuna y teulu galarus ddiolcb yn gynesi bawb am eu cydyrndeirnlad, ac am eu llythyrau tirion a charedig, ac am y lliaws Wreaths a anfonwyd. Bydd cryn. golled ar ol Mr Thomas Jones. CYFAILL. Argraiiwyd dros y Cyhoeddwyr can Lewis Davies, Swyddfa'r Gwylied- ydd Newydd," Blaenau Efestiiiio^,