Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

-".I AdroddiadPwyllgary Tir.…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

I AdroddiadPwyllgary Tir. J. J". 1 XVIII. I Mae dau adroddiad o'r Royal Com- mission on Land in Wales and Mon- I mouthshire 1896, sef Majority Report and Minority Report. Dywed yr olaf I ar bwnc Land Court. 1. Y byddai Land Court yn arwain i I fath o berchenogaeth ddwbl, ac yn rhoddi i'r tenant yr un liawl a'r perch- enog. 2. Os yw Land Court yn bosibl yn yr Iwerddon a Scotland, ei fod yn hollol amhosibl yn Lloegr a Cbymru. 3. Y byddai Land Court yn rhoddi parhad ystrydebol i'r hyn y cwynir er's blynyddoedd o'i herwydd, sef ffermydd mawrion yn llyngcu i iyny y man dy ddynod. 4. Y byddai llys cyfreithiol o'r fath yn gostus ac yn gwmpasog. 5, Y byddai codiad cyffredinol yn y rhenti yn sicr o ddilyn, am fod y rhenti yn llawer rhy isel fel y maent ar hyn o bryd. Mae y pwyllgor yn gwahaniaethu mewn barn ar y pum pwnc, ac yn gwneyd datganiad ar bob un o honynt. Nid angenrheidiol gwneyd mwy na rboddi dyfarniad y pwyllgor ar ol rhoddi ystyriaeth fanwl i'r ddau adroddiad. Mae yr olaf yn cymeryd 4 y cant o log am y pris delir am dir mewn ar- werthipdau yn basis, tra mae y pwyllgor yn cymeryd ei safle ar werth y tir i'r ffarm wr sydd yn ei drin ac yn byw ar y tir. Mae y pwyllgor yn cymeryd i ys- tyriaeth fod y rhenti wedi codi 100 per cent rhwng y flwyddyn 1770 a'r llwy ddyn 1870, ac nad yw wedi gostwng ond prin 20 y cant hyd yn bresenol. Y ddau brif reswm am y codiad ydynt I. codiad yn y rhent oblegid cystadleu- aeth am dir i' w lafurio. Gwell gan y tenant dalu mwy o rent nag sydd yn gyfiawn nac ymadael yn fynych. Mae arall yn barod i dalu mwy er mwyn cael ffarm. Gwelir fod y pwyllgor yn gwneyd gwahaniaeth rhwng rhent y gellir ei thalu ac ar yr un pryd wneyd bywiol- iaeth o'r tir—a'r rhent fedr y tirfedd- ianydd ei wasgu allan o'r tenant trwy esad y naill denant i gystadlu yn erbyn y Ilall. A ganiyn yw dyfarniad y pwyllgor o'r safbwynt a gymerent hwy i edrych ar y pwngc. 1. Mae llys tirol yn Scotland trwy roddi sicrwydd daliadaeth i'r Crofters wedi-profi o fantais anrhaethol iddynt. Yn 1911 mae yr un rhagorfraint wedi ei hestyn i holl Scotland i'r man dydd- ynwyr o £ 50 rent i lawr, ac yn cael ei wertbfawrogi yn gyffredinol. 2. Byddai sefydlu llys cyffelyb yn Lloegr a Chymru yn tueddu yn iwy at wneyd y tir yn berchenogaeth y wlad- wriaeth nac o rwystr i hyny. 3. Mae y Senedd eisioes wedi ei gor- fodi i ymyryd yn yr hyn elwir yn rhyddid i fargeinio rhwng y tenant a'r meistr tir, oherwydd ystyriaethau yn codi o anghenion amaethyddiaeth, yr hyn a wnai Land Court fyddai cario ymlaen yr ymyriadau sydd eisioes gam ymbellach, ac i'r cyfeiriad priodol i'r anghenion presenol. 4. Mae perchenogaeth tir o natur 'monopoly,' ac yn rboddi gallu cyfreith- iol yn nwylaw y tirfeddianydd dros y tenant sydd yn anfanteisiol i'r tenant ac i fijddiant cenedlaethol. Nid yw y ffaith fod ewyllys da ambell i feistr tir yn tyneru rhyw gymaint ar hyny yn profi dim yn wahanol. 5. Trwy y Land Ccurt gall yr am- aethwr gael sicrwydd daliadaeth (secu rity of tenure), yr anghen am yr hyn bwysleisir gyda chynydd parhaus oblegid yr arwerthiadau mynych ar diroedd sydd yn cymeryd lie. 6. Hawlia cyfiawnder fod i'r mater tir gymeryc1 ei ran o'r baich ychwanegol sydd yn dyfod ar yr amaethwyr oblegid y codiad raid gymeryd lie yn nghyflog y llafurwr amaethyddol. Nis gellir penderfynu y rhan raid ddisgyn ar y tirfeddianydd, ond trwy lys o'r natur yma fyddo yn meddu aw- durdod i benderfynu y rhent yn ngoleu pob ystyriaeth sydd yn dal perthynas gydag amaetbyddiaeth. 7. Mae y gallu cyfreithiol sydd yn eiddo y Meistr tir .i godi y rhent ar sail y gwelliantau a wnaed gan y tenant ei hunan lie yr arferir y gallu hwnw—bob amser yn niweidiol i amaethyddiaeth, ac nis gelllr ei atal ond trwy gorff cyfreith- iol gydag awdurdod i benodi y ihant- 8. Na ddylai y rhent gael ei phender- fynu trwy gystadleuaetn ddim yn hwy, eithr rhent resymol deg er budd- iant i'r wladwriaeth. 9. Gellir sicrhau hawl y tenant i wneyd y gwelliantau angenrheidiol, a dyogeler i'r tenant gynp.byddiaeth deg am y gwelliantau yn fwy trwy Land Court na thrwy unrhyw. gyirwngj arall. j 10. Byddai Land Court yn rhwydd- hau y ffordd i sicrhau tir gan gorffor- iaethau cyhoeddus, yn enwedig Small Holdings. Cymhellir gan hyny fod Llysoedd Tirol i Loegr a Chymru yn cael eu sef ydlu gydag awdurdod i roddi sicrwydd daliadaeth, ar yr amod i amaethwriaeth dda-a phenderfynu y rhent a chydna- byddiaeth am welliantau-a phender fynu y pris a sicrbeir trwy orfodaeth gan gorfforiaethau cyhoeddus i ddiben- ion cyhoeddus. Trethiad yn yr ardaloedd gwledig. Nis gellir cau allan y broblem drethol o bwno y tir am ei bod yn gymhlethedig gyda threthiad yn y trefi, a chyn y gellir delio yn effeithiol gyda'r pwnc yn ei agweddau rhaid cymeryd y trethiad yn y trefi i ystyriaeth yn ogystal a'r ardal- oedd gwledig. Cyfynga y pwyllgor ei sylw am y presenol i'r pethau a ganlyn 1. Trethiad ar welliantau amaeth- yddol (The Rating of Agricultural Im provements) 2. Trethiad tiroedd ddefnyddir i Sports a difyrion. 3. Cwynion yn codi o weinyddiad deddJau. 4. Gordrethiad y man dyddynwyr a'r Smallholders. I. Dyry Duke of Bedford yn ei lyfr Story of a Great Agricultural Estate," yr engraifft a ganlyn o'i brofiad personol ei hun. Yn agos i Woburn, gwnaethum ar- brawf trwy sefydlu ffarm ffrwythau (fruit farm). Trowyd cae o dir Ilafur yn y cynhauaf a'r gauaf 1894 yn ardd ffrwythau. Trwy arfer arian a llafur, planwyd y cae gyda stock werthfawr o goed ffrwythau, Er fy syndod ymhen ychydig fisoedd, daeth yr Overseer dros y plwyf ymlaen. (Addefaf nad oeddwn wedi rhagweled hyn). Dywedodd wrth- yf, Mae defnyddio cyfalaf wedi gwneyd cyfnewidiad mawr ar y llanerch hon, a'm dyledswydd yw rhoddi adroddiad o hyny, a threblu eich treth.' Yr oeddwn yn chwilio am biofiad ar dyfu ffrwythau ar raddfa eang. Yr wyf yn awr mewn sefyllfa i adrodd y canlyniad, a dyma ydyw-Os ewyllysiwch wario cyfalaf ar dyfu ffrwythau, bydd eich trethi wedi eu treblu cyn derbyn o honocl-i ddim o'r ffrwyth." II. 0 dan yr ail benawd gwelir trethiad Sporting Land yn ei wir oleuni. Rhoddwn yma ddwy engraifft o luaws. Yorkshire Y 114 Farmer. Mae yma un tirfeddianydd mawr wedi planu llawer o dir i fagu game. Arferid gosod y tir hwnw am 30s. yr acer, mae yn awr yn cael ei drethu yn ol 2s 6c yr acer. Montgomeryshire G 392 Small Farmer. Yn y rhan hon, mae planigfaoedd coed mawrion. Gorfn i ni all drethu y tir hwnw at Prairie Value, gan ei os- twng o £1 yr acer i 3s. yr acer, yr hyn sydd anghyfiawnder mawr tuag at am- aethwyr cymydogaethol. III. Gweinyddiad y Gyfraith, Mae dau ddrwg i'w symud o wein- yddiad deddfau trethol. (a) Ffafriaeth yr Assessment Committees Ileol. (b) Gwahaniaethau lleol yn esbonioygyf- raith ar drethiad lleol. Rhoddwn engreifftiau o'r ddwy hyn, un bob un. Dyma engraifft o ffafraeth. (E 252)—Bedair blynedd yn ol prynwyd palas a pharc am £ 13,000- Yr oedd yr adeiladau wedi eu hesgeuluso, a gwar- iwyd P,9,000 ar y palas a'r pare, cyfan- swm £ 22,000- Trethir yr oil 1 9200, Ilai nae un y cant. Trethir bythynod y pentref i 4 a 5 y cant—ond am y pare a'r ffarm sydd yn cynwys yr oil—nis gellir prynu tir adeiladu am unrhyw bris. Y Small Holder yn dyoddef cam. Mae y trethiad yn seiliedig ar y rhent, a rhent y Small Holder fel rheol yn ddwy waith yn fwy na rhent ffermydd mawrion, ac o ganlyniad mae y trethi ddwy waith yn fwy. Er engraifft, Lincolnshire (C. 26) Farmer. Yr wyf yn gobeithio y gwneir rhyw beth o berthynas i'r Man Dyddynwyr. Nid yn unig, mae y rhent yn seiliedig ar yswm dalwyd am y tir, ond mae y trethi yn ol y riient hwnw. Mae y tir a ddelir genyf fi yn £ 2 yr acer, a thir y ffarm am y gwrych a mi yn 17s yr acer. Mae fy Assessment i ar ddwy bunt a'm cymydog ar 17s yr acer. Fel y sylwyd, cyfyngir yn unig i drethiad yn yr ardaloedd gwledig Mae yn eglur i'r pwyllgor fod Basis of Taxation' drwodd draw yn galw am ystyriaeth fanwl a clifrifal ac ad-drefniad y gyfundrefn drwyddi oil, gan fel y mae baich y trethoedd yn gorphwys yn ,in,r,, !-iv- fJ. artal ar ysgwyddau y genedl, a'r [ gwanaf o dan y pen trymaf i'r baich. Wedi rhoddi cipdrem fel hyn ar y Land Court a'r gwaith dorir allan iado, mae y pwyllgor yn cymhell yn gryf ar fod i'r cyfryw lys gael ei sefydlu. Mae anghenion eraill ar gyfer pa rai y mae y Pwyllgor yn cymhell darpariadau. Cydweithrisdiad.—Mae eydweith- 1 t rediad ymhiith amaethwyr wedi gwneyd llawer ar y cyfandir ac yn yr Iwerddon; ond rose Lloegr a Chymru heb ymddeffro i hyn oud yn dechreu deffro. Mae y Bwrdd Amaethyddol yn dechreu symud mewn cydweithrediad gyda'r Agricul- tural Organisation Society aphethau eraill. Mae rhywbeth i'w ddysguoddiwrth gydweithrediad gyda diwydianau eraill. Cymhellir cydweithrediad yn y psth au canlynol:- (,a) I brynu angenrheidiau anhebgorol amaethyddiaeth, megis hadau, gwahanol fathau o wrtaith yn y farchnad rataf yn symiau mawr ac o'r ansawdd oreu. (b) Peirianau amaethyddol mawrion, megis peirianau dyrnu ac ager erydr a rhai pethau eraill ydynt yn rhy gostus i un neu ddau amaetb/Wr cyffredin i'w prynu, na digon o waith i'r cyfryw ar un ffarm. (c) Gallant trwy ymuno ffurfio eym- deithas i brynu tir neu rentu tir i fan- tais ac am bris llawer is nag y gall un ei wneyd. Gall cymdeithas wneyd llawer mewn llawer cyfeiriad nas gall yr unigol ei wneyd. (d) Gellir gwneyd llawer trwy gyd- weithrediad gyda thrin Ilaeth ac ymen yn a chaws, a bacwn, trwy sefydlu factories ar linellau cydweithredol (mae rhai eisoes). Mae angen am eu lluosogi. (e) Gellir hwyluso marchnad i fesur anhygoel i droi cynyrcb y tir yn arian, a'i gyfnewid am nwyddau trwy gyd- weithrediack Deillic1 mantais fawr mewn anfon ymaith y nwyddau i'r farchnad, yn enwedig ffrwythau, mewn pacio agraddoli ffrwythau i'w gwerthu, yn lie bod pob un yn cludo ei nwyddan ei hun—yn ffrwythau, vmenyn, caws, a llysiau, &c. Mewn gwahanol fan lestri gellid graddoli trwy roddi pawb ei wyau gyda'u gilydd, a'r un modd bethau eraill, ac un neu ddau i sefyll y farchnad gyda phob nwydd—byddai yn fantais i'r prynwyr yn ogystal a'r gwerthwyr, heb- law sicrhau costau cludiad llawer is. (f) y swiriaeth.Gellir yswirio ar linellau cydweithredol i fantais fawr. (g) Mae Credit yn anhebgorol i am- aethyddlaeth. trwy gydweithrediad y gellir sicrhau hyny i'r fantais oreu. Mae yn eglur mae y man dyddynwyr sydd mewn mwyaf o angen am gyd- weithrediad, oblegid gall yr amaethwr mawr wneud yn well heb gymorth cydweithrediad i brynu ac i werthu. Mae llawer o waith addysgu ar am- aethwyr y wlad i'w galluogi i sylwedd- oli y fantais o undeb a chydweithrediad. Mae amaethwyr yn dra cheidwadol yn eu harferion a'u syniadau am amaeth- yddiaeth, ac yn glynu yn dyn wrth hen arferion a phethau. At hyny mae cryn lawer o ddiffyg ymddiried fel ag i alia cydweithredu i fantais a chyda rhwyddineb. Ond fel y bydd y Small Holdings yn lluosogi ac addysg yn lledaenu, nid oes dadl na bydd anhawsderau o'r natur uchod yn diflanu. Mae un arwydd amlwg fod pethau yn symud i gyfeiriad undeb cydweithredol; mae yr amaethwyr yn dyfod i deimlo rwyÎwy fod y middle man yn eu hys- peilio, ac oddiyma y tyf cydweithrediad. Dywed Yorkshire Farmer Y- 80.. Mewn ymddiddan, mae ffermwyr yn dweyd fod Middlemen yn eu hysbeilio, ond,mae y, naill yn dweyd fod yr yn- fyttyn arall yn rhy ynfyd i ymuo Mae y syniad o gydweithrediad yn dechreu gwreiddio yn meddyliau llawer o ffermwyr.

NEWYDDION WESLEAIDD.

Advertising

BETHEL, COED-Y-FFLINT.