Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

Cenhadaethau Egengylaidd.…

News
Cite
Share

Cenhadaethau Egengylaidd. I (Adgofion Cysurlawn.) I (Gan y PARCH HUGH HUGHES). t VII. I COR WEN. I Rhywbryd yn mis Chwefror y cyn- haliwyd y Genhadaeth hon, a pharha- odd am agos i bythefnos, oherwydd ei llwyddiant arbenig. Deffrowyd y dref drwyddi ar unwaith, yr hyn oedd ar- wydd sicr fod rhyw allu uwchlaw y dynol yn gweithio. Yr oedd y eyfarfod- ydd gwsddio ganol dydd yn boblogaidd, cynes ac effeithiol iawn; mynychid hwynt yn gyson gan lawer o ffyddlon iaid pob enwad yn y lie. Dilewyd pob yspryd sectyddol mewn ychydig, a pheth ardclerchog yn Eglwys Dduw ydyw hynny. Hoffwn ei weled yn gad- ael y byd Cristionogol, byth i ddych- welyd mwy. Aeth ein capel ni yn rhy fychan yn fuan, a symudwyd i gapel eang y Methodistiaid, yr hwn ddaeth yn orlawn ar unwaith. Dylifai pobl yno o Gwyddelwern, Carrog, Glyndyfrdwy, Cynwyd, Llandrillo, a manau eraill. Cododd y brwdfrydedd yn uchel iawn, 1 ac yn uwch o hyd at y diwedd, nes y teimlwn amheuaeth a oeddwn yn gwneuthur yn iawn yn rhoddi terfyn ar y Genhadaeth pan y gwnaed. Ymun- odd tua 35 a'r eglwysi, a daeth rbai o honynt yn daynion nerthol ac o wasan- aeth mawr i eglwys Dduw hyd yr awr hon. Gwn am ddau weinidog i'r Bed- yddwyr dderbyniasant gychwyniad syl weddol i'w bywyd ysprydol trwy y Gen- hadaeth hon. Tua chwe' mlynedd neu saith yn ol,' yr oedd genyf i draddodi araith ddirwestol dan nawdd yr Eglwysi Rhyddion mewn lie pwysig yn Neheu dir Cymru, Un araith bob nos draddod- id gan frodyr perthynol i'r gwahanol enwadau. Wedi i mi orffen, eododd un o weinidogion y lie i gynyg diolchgar- wch i'r siaradwr fel yr arferid gwneud. Gwelwyd ar unwaith fod ei yspryd yn llawn o rhyw gyffro sanctaidd, anhawdd i roddi cyfrif am dano ar aehlysur felly: eithr nid oedd y cynygiad o ddiolchgar- weh ond cyfleustra i rywbeth anrhaeth- ol fwy yn ei olwg ef. Cyfeiriodd at y Genhadaeth hon yn Corwen fel y gallu mawr yn Haw Duw, roddodd gyfeiriad newydd, ond tragwyddol i'w fywyd. Dywedodd fod yn dda ganddo gael cyf leustra iddatgan hyny er fy nghysur i, ac yn ngwydd y dyrfa. Yr oedd y ffaith hon yn newydd i mi hyd y noson hono, a maddeuer i mi os wyf o'm lie wrth ddatgan fod y wybodaeth hon yn fy sir- ioli, ae yn fy ngalonogi yn fawr. Mae y gweinidog arall yn llafurio yn mysg y Saeson. Yn yr adeg lied farwaidd hwn y mae ffeifchiau fel hyn yn peri i ddyn hyderu fod pethau cyffelyb yn cymeryd lie yn bresennol, er yn anhysbys i weis- ion Duw ar hyn o bryd. Wrth dram- wyo trwy y wlad, ac ymddiddan am bethau ysprydol gyda chyfeillion, yr wyf yn dod o hyd i ffeithiau cyffelyb parthed gweinidogaeth a gwasanaetb ambell i frawd lied ddinod, ag sydd yn sicrwydd fod eu hymdrechion tawel wedi bod yn fwy o fendith i eraill nag a ddychmyg asant hwy eu hunain erioed. Pe eodai rhai o honynt oddiwrth y meirw, gellid yn rhwydd roddi iddynt newyddion cysurlawn ynglyn a hwy eu hunain. Yr wyf finau o dro i dro yn y blynyddoedd hyn yn derbyn symbyliad newydd o'r cyfryw ffynhonellau i barhau yn ffydd- lon yn y weinidogaeth, PC i beidio ym- ollwng i'r ymdeimlad fod fy nefnyddiol- deb ar ben yn hollol. Flynyddoedd lawer yn ol, cyn cau y tafarndai ar y Sul yn Ngbymru, trefnii gan Eglwysi Rhyddion Conwy i gael odfaon am 5 o'r gloch prydnawn Suliau yn ystod mis- oedd yr haf ar y cei gerllaw y mor. Gofynid i minau wneud fy rhan pan fyddwn i bregethu yn Conwy am 6 o'r gloch. Cefais un dystiolaeth darawiad- ol iawn nad aeth y llafur hwn ddim yn ofer. Ychydig o amser yn ol, pan yn pregethu yn Ashton, daeth brawd ag oedd yn aelod selog gyda'r Methodistiaid attaf, ac a wnaeth gyfeiriad cysurlawn iawn i mi ag yntau at yr adeg hono. Pan oeddych ar ganol pregethu," meddai, yr osddwn yn cerdded cryn bellter oddiwrthych, ac yn gwneud fy ffordd am rhyw dafarn gerllaw, a cblywn chwi yn gwaeddi yn uchter eich llais, bechadur, i b Ie yr ei di.' Diagynodd y cwestiwn fel taranfollt ar fy yspryd, a meddyliais ar y pryd mai fi yn bersonol oedd c flaen eich llygaid. Sefais yn syn ar y ffordd, a throais yn ol gartref heb brofi yr un diferyn. Ni bum yr un dyn byth mwy, ac ni chefais lonydd nes i mi roddi fy hun i'r Iesu er iachawdwr- iaeth i'm henaid pechadurus." Y mae ffeithiau fel hyn yn gadarnhad i galon pregethwr yn ngwyneb llawer a anaws- terau. Yr oedd y Genhadaeth hon yn gyfryw na anghofir byth gan lawer oedd yn Dghanol y dylanwad. Y mae nifer o'r tiyddloniaid oeddynt amlwg yn y symudiad hwn, wedi eu symud oddiwrth eu llafur cariad at eu gwobr erbyn hyn Megis Richard V/illiams yr Union Mr Samuel Jones, Arweinydd y canu Mr Jonathan Davies, Commerce House; Mr Robert Roberts, y Pentref; Mr Lloyd, Draper, yr hwn er yn perthyn i i V enwad arall, oedd mor lawn o sel a brwdfrydedd a neb. Chwith yw medd- wl am Gorwen yn wag o'r brodyr rhag orol byn. COBDPOETH. I Yr oedd y Gechadaeth hon fel llawer eraill yn y cyfnod hwnnw, yn cae] ei chynhal trwy bennodiad y Cyfarfod Ta-leithiol yn ogystal a gwahoddiad cyf- eillion y lie. Pan ar y ffordd yno at nos Fawrth llenwid fy meddwl a phryd.. er ac ofn parthed y canlyniadau. Ond cyfarfyddais a brawd ffyddlon a gobeith- iol ei anianawd, ar y ffordd yno, a'm llonodd yn fawr, ac a gryfhaodd fy ffydd ar gyfer y gwaith mawr. Hysbysodd fi. fod yno gyfarfod neulltuol o fendithiol ) nos Lun. Aethum i'r capel, a hawdd oedd gwybod oddiwrth fawredd y dyrfa, ac agwpdd y bobl, eu bod yn disgwyl pethau mwy nag a allai unrhyw bre- gethwr ei roddi iddynt yn ei nerth ei hunan. Cafwyd odfa effeithiol ac ych- ydig ddychweledigion y noson honno. Erbyn nos Fercher yr oedd yn amlwg fod y symudiad eisoes wedi cymeryd gafael grymus yn yr ardal boblogaidd honno, oblegid aeih y capel yn rhy fycban i'r tyrfaoedd a ymdyrent i wrando. Mae yn debyg nad oes addoldy yn Nghymru sydd wedi ei orlenwi yn llawer amlach na Rehoboth, Coedpoeth. BeUach y mae y dyehweledigion yn amlhau bob nos, fel y bu raid cael gwasanaeth gweinidogion, pregethwyr a blaenoriaid, i gynorthwyo mewn dod o hyd iddynt yn y tyndra, a chael gair gyda hwynt, a gwybod pwy oeddynt, ac a pha eglwys y dymunent ymuno. Daeth rhai annuwiol iawn i'r rhwyd yn ystod yr wytimoa honno. Clywaf y di- weddar Mr William Foulis (Lefi Jones a fina y Gwylilodycld "), Uangollen, yr hwn a drigai ary pryd yn Fron Offa, yn llefain o b.n pollaf y capel, Mr Hugbes, y rntwt Eitld Marshal y diafol wedi aroa yn y fan yma." Parodd hyn gyffro enarforol yn y dyrfa. a cheid rhyw nawydd da eyfelyb bob noahyd y terfyn. ArhoisiCis yno dros y Sul ac am rai noswwlbia* dilynol. Yr oedd yno le rhyfedd y Sal o ran lliosogrwydd y cynulliadan, as angerddolrwydd y dyl anwad. Dyma y pryd y 8a.edy nifer liosocaf o ddyehweledigion mewn un diwrnod. Oyn diwedd y Genhadaeth yr oedd ffyddloniaid y lie wedi eu codi i rhyw afiaeth annesgrifiol o lawenydd a diolchgarweh i Ddww am ei ymweliad grasol a hwy. Ac nid rhyfedd, oblegid yr oedd rhif y dyehweledigion erbyn hyn yn 150. Caed Cenhadaeth fendithiol yn Coed- poeth yn mhen blynyddoedd ar ol hyn, pryd yr ymunodd nifer dda a'r eglwysi. Yr wyf yn credu mai yma y daeth Mr Robert Williains, Penrhiwceibr, yn awr T,anyfron gynt, i'r rhwyd. Daeth ei fam yr un noson. Yr oedd hyn yn unig yn goron ar unrhyw Genhadaeth. Wrth adgofio yr ymweliadau hyn a Coedpoeth, yr wyf yn methu ymrydd- hau oddiwrth rhyw ymdeimlad o hir- aeth calon am arweinwyr a ffyddloniaid yr achos yn y cyfnod hwn, megis Griffith Evans dduwiol-ddoniol, Price garedig, Joseph Jones, Wm. Edwards, John Edwards, Canrhawdfardd, Hamer, Wta. Jones, Y Fron, a Wm Foulks. Y maent oil wedi esgyn fry. Nid oes yn aros o'r arweinwyr hyn ond Mr Evan Pairy yn Coedpoeth, a Mr Boaz Jones yn Ninbych, yr hwn a fwynhai y gwleddoedd gymaint a neb. Yr wyf heddyw yn mawrygu yr Arglwydd am Iddo yn ei ras ddal i afael yn y wlad boblogaidd hon trwy y blynyddoedd hyd yr awr hon. Ond y mae angen y gwyntoedd cryf, a'r cawodydd meithlon ar yr ardaloedd hyn eto. Ac ofer ydyw disgwyl y gellir cadw y to sydd yn codi rhag cael ei ysgubo gan lifeiriant pleser gwag yr oes bono, gyda dim Uai na nerthoedd ysprydol yr efengyl. Ym- weled Duw a'r ardaloedd poblogaidd hyn yn fuan eto. (I barhau).

[No title]

Advertising