Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

CYNHADLEDD GWEINIDOGION IEUAINCI…

ILLITH JOHN HENRY.

I - RHUTHYN. I

NODION 0 ABERPENNAR, MOUNTAIN…

NODION 0 LEYN. I

I CAERDYDD.

I DINAS MAWDDWY.

TREGARTH.

News
Cite
Share

TREGARTH. Cynhaliwyd Cyfarfod Chwarterol y gylchdaith uchod yn Shiloh prydnawn Sadwrn, Mawrth 22ain. Yn bresenol Parch E. Tegla Davies, yr Arolygwr Parch Richard Jones, B.A.. a Mr William G. Jones, Rhiwlas, ynghyd a chynrychiol- aeth gref o'r holl eglwysi. Darllenwyd y cofnodion a derbyniwyd hwynt. Hefyd gyfrif yr aelodau gan Mr David Ellis, y goruchwyliwr, yn dangos 621 o gyflawn aelodau. 'Roedd pedwar wedi marw yn ystod y chwarter, sef Mrs Grace Morris, Shiloh Mr Thomas J. Owen, Penniel Mr Henry Owen a Mrs Anne Jones, Tabernacl, a chafwyd gair da i'r oil. Darllenwyd y Schedules canlynol:-Yr Ysgol Sul, gan y Parch Richard Jones, B.A. Genhadaeth. Dramor gan Mr John T. Hughes Dir- westol gan Mr R. G. Pritchard, a derbyn- iwyd yr'oll fel rhai boddhaol. Dewisiwyd Mr Henry Thomas, Penllyn, i gynrychioli y gylchdaith yn y Cyfarfod Talaethol. R Holwyd Mr William George Jones, Rhiwlas, gan y Parch Richard Jones, B.A. Cafwyd gair o gymeradwyaeth iddo o'r holl eglwysi, ac ar gynygiad Mr William. G. Hughes. yn cael ei eilio gan Mr J(,hn T. Hughes, yn unfrydol cymeradwywyd ef fel ymgeisydd am y weinidogaeth. Hefyd cafwyd gair o gymeradwyaeth i Mri Thos. Williams, Salem, a D. H. Thomas, Siloam, ac yn unfrydol derbyn- iwyd hwynt fel pregethwyr cyndrthwyol ar brawf. Cadarnhawyd gwahoddiad y Parchn E. Tegla Davies, a J. Roger J onê yn unfryd- al i ddod i'r gylchdaith yn 1917. Cawsom gyfarfod da a' llwyddianus ar ei hyd. Terfynwyd gan y Parch E. Tegla Davies. B. O. B.

BETHESDA, BWLCHGWYN.