Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

CYNHADLEDD GWEINIDOGION IEUAINCI…

ILLITH JOHN HENRY.

I - RHUTHYN. I

NODION 0 ABERPENNAR, MOUNTAIN…

NODION 0 LEYN. I

I CAERDYDD.

I DINAS MAWDDWY.

News
Cite
Share

I DINAS MAWDDWY. Y GYMDEITHAS.-Ma wrth Sydd, darllen- wyd papur cryf ar Feddwdod gan Mrs Roberts, Penycae, a diolchwyd yh gynes iddi am ei gwasanaeth. Treuli wyd y gweddill o'r cyfarfod i areithio difyfyr, pawb o'r aelodau yn cymeryd rhan. Mawrth lOfed, dirwynwyd y tymor i fyny gyda Coffee Supper rhagorol fel arier. Cafwyd danteithion blasus a chyflawnder o honynt, a diau i bawb wneud cyfiawn- der a hwynt. Diolchwyd yn wresog i'r chwiorydd am barotoi mor ardderchog ar y terfyn, ynghyda ychydig o adolygiad ar waith y tymor. Er na chawsom rhyw Gymdeithas lewyrchus iawn at ei gilydd eleni, eto cawsom rai cyfarfodydd neilltu- ol o dda, yn ddifyr ac adeiladol. Sicr yw, fod Cymdeithas y Dinas yn talu yn dda i'r rhai sydd yn ei mynychu, a gobeithio na welir hi byth wedi marw. Rhoddwyd croesaw cynes i Mr Humphreys, yr ysgol- feistr newydd, ac i Mr James Lewis (o Aberdyfi) i'n plith. CYFARFOD YSGOLION. Cynhaliwyd yr uchod ym Mryncoch, Sabboth, Mawrth laf, dan lywyddiaeth Mr Edward Williams. Holwyd y gwahanol ddosbarthiadau o'r plant gan y Parch W. J. Roberts. Mr Robert Davies, Tynycoed, a Mr Morris Davies, Plasau, a'r plant yn ateb yn fodd- haol iawn. Yn yr hwyr holwyd Dos. IV. gan Mr Morgan Owen, a chaed atebion parod a chyffredinol. DIRWEST. Cynhaliwyd cyfarfod dan nawdd Cymdeithas Ddirwestol y Merched, Mrs Jenkin Jones, Pentrebach, yn llywyddu. Darllenwyd papurau diddorol ar Bod yn ddiwyd gan Mrs John Morris, ar "Hannah Moore" gan Miss Corwena Owen, a phigion dirwestol.o'r Daily News gan Mrs Evans, Post Office. Cawsom araeth frwd gan Mrs Jones, Meirionfa, yn annog i fwy o weithgarwch. Caed adroddiadau a chan- euon swynol gan enethod bach y Snow- drop Band, a chyfeiliwyd gan Mrs Evans, Post Office. a Miss L. A. Davies. CYNGOR EGLWYSI RHYDDION DYFFRYN DYFIo-Cyfarfu yr uchod yn Cwmllunau, Mawrth 12fed, dan lywyddiaeth Mr Tegwyn Davies. Daeth cynulliad da ynghyd i gyfarfod yr hwyr, pryd y galwyd ar y Parch R. W. Jones, M.C., y Llywydd newydd i gymeryd y gadair yna darllenodd Mr Tegwyn Davies, bapur diddorol ar Hugh Jones, o Faesglasau," un o Ym- neillduwyr cyntaf y Dyffryn yma, ac un o Emynwyr goreu Cymru. Diolchwyd yn gynes iddo, a siaradwyd ymhellach ar y papur gan y Parchn G. Bedford Roberts, Tycerrig W. J. Roberts, Dinas R. W. Jones, R. Evans, Sarnmah, a Mri E. D, Jones, Meirionfa Edward Jones, Tycerrig; a Mr Watkins, Tycerrig. ,< GOll.

TREGARTH.

BETHESDA, BWLCHGWYN.