Skip to main content
Hide Articles List

5 articles on this Page

Advertising

[No title]

Y Mesur Dirwestol Cymreig.

News
Cite
Share

Y Mesur Dirwestol Cymreig. (W. LL. D.) I Yn gydamserol a chyflwyniad gerbron Ty y Cyfiredin Fesur i sicrhau Yiareolaeth i GymrÜ, dar- llenwyd a cliymeradwywyd y Mes ur Dirwestcl Cymreig.; Llongyfarchwn yn y modd mwy- af brwdfrydig Syr J. Herbert Roberts, ar y mwyafrif cr^f a'enill- odd y Mesur ar ei ddarlleniad cyn- taf. Rhed y Mesur, fel y gwyddis, ar brif linellau y Ddeddf Ysgotaidd, I pa rai ydynt—rhoddi reolaeth i'r etholwyr ganiatau adnewyddiad neu ddiddymiad y trwyddedau; gwelia Deddf cau tafarndai ar y Sul, ac hefyd gwella y Ddeddf ynglyn a'r Clybiau. Nid yw yn ein bryd yn awr i fanylu ar ddar pariaethau yMesur. Credwn fod hyn yn gofyn mwy o ofod nag un erthygl. Wrth wynebu y mater cyfyd am- ryw gwestiynau yn ein meddwl parthed yr alwad am y mesur, ac o berlhynas i'r moddau y dylid weithredu arnynt er sicrhau ei ail a'i drydydd ddarlleniad. A oes galwad am Fesur i Gym- ru ? Credwn yn ddibetrus fod, ac ymhellach, fod yr alwad yn un uchel a phendant. Nis gellir dwyn dadl dros ganiatau hyn i'r Alban, nad y w yr un mor rymus os nad yn fwy felly, dros. ganiatau yr un rhagorfraint i'r Dywysogaeth. Mae'r fasnach gymaint yn ei rhwysg a'i llwycldiant yn y wlad hon-a gofidus yw gorfod cydnab- od fod galanastra y ddiod yr un mor echrydus yng Nghymru ag ydyw yng nglwad yr Ysgotiaid. Onid y ddiod sydd wrth wraidd bron pob ffurf ar greulonder a thlodi, ac yn gyfrifol am y gwas traff dybryd mewn adnoddau cen- edlaethol, ac hefyd am ddinystrio iechyd a bywydau y bobl ? Mae Cymru yn tywallt ei chyfran hel- aeth i wneud i fyny y swm blvn- yddol a werir am ddiodydd medd- wol yn y Deyrnas Gyfunol. Gwir ein bod hyd yn hyn wedi methu cael ystadegau priodol i Gymru ynglyn a'r materion hyn ond mae'r fleithiau difnfol am stad y genedl yn cael eu teimlo gan bwy bynnag sydd yn fyw i'r sefyllfa ac mewn llawn gydymdeimlad a'r achos dirwestol. Diameu fod y genedl yn fwy sobr nag y bu, ond a ydyw mor sobr ag y gall fod, neu a ddylai fod, sydd bwnc arall. At hyn, grymusir yr alwad am Fesur fel a gynygir, gan y modd anmherffaith ac aneffeithiol y rheolir y fasnach mewn diodydd meddwol drwy ein gwlad. Gwyr pawb a wyddant rhyw gymaint am y gyfundrefn drwyddedol fel y mae yn awr, yn y wlad hon, ei bod yn hollol anymarferol, a dweyd y lleiaf am dani, i gyfyngu yn eff eithiol ar yr arferiad o ddiotta Mae caniatau adnewyddiad trwyddedau yn rhy ami yn nwylaw rhai sydd mewn cydymdeimlad a'r fasnach, ac ar y llaw arall, mewn llawer enghraiff t, fe geir rhai sydd yn meddu awdurdod, i gyfyngu ar rhwysg y fasnach, yn amddifad o argyhoeddiadau cryfion i roddi eu gallu mewn gweithrediad. Rhydd Deddf lawn i Dafarn- wyr gyfle euraidd i ambell ddir westwr glastwraidd i gau ei lygaid ar foddau eraill o gau tafarndai, megis camymddygiad, neu drosedd yn erbyn y deddfau trwyddedol, a chydsynia a'r faingc ynadol i gau tafarn ar draul lawn o gannoedd o bunnau. Dirgel gredir gan y dos- barth yma eu bod yn gwasanaethu ,y wlad fel diwygwyr dirwestol. Naturiol yw eofyn, paham ynte na fuasai eu gwaitii yn fwy effeithiol ? Amlvvg yw fod angen am gyf- newidiad, rhaid roddi yr awdurdod mewn dwylaw g,well, a'r cyfryw fydd dwylaw y bobl. Cawn felly bleidlais y mwyafrif, yr hon sydd deg a chytla wn, ae yn gyson a rhyddid a delfrydau uwchaf y genedl i benderfynu y mater. Llei- heir nifer y tafarndai, ac mewn canlyniad fe leiheir y cyileusterau i ymvfed, a daw y bobl yn burach ac yn fwy sobr. Grymusir yr alwad am Fesur i Gymru gan yr ystyriaethau hyn ynglyn a'r deddfau trwyddedol, ac hefyd gan yr angen a oeimlir am weila deddf cau y tafarndai ar y Sul, a gwell reoleiddiad ar y clyb- iau ymyfed sydd mewn rhai parth- au o Gymru yn ami eu rhif, ac yn andwyol yn eu dylanwad. Croes- awn y Mesur yn galonnog, ac na fydded y dydd ymhell pan y bydd yn gorfforedig ar ddeddflyfr Pryd- ain Fawr. Ond, un peth yw pwys- leisio yr angen a'r alwad am dano, peth arall yw ei sicrhau. Pell ydym o ddweyd fod Cymru yn farw neu yn hollol ddifraw ar y pwnc dirwestol, etc,- os yw yn disgwyl llwyddiant ynglyn a'r Mesur Cymreig, ni pbetruswn ddweyd.y bydd yn ofynol icldi fod yn liawer nnvy byw a brwdfrydig nag yn y presennol.* Un dirgelwch llwyddiant y Mesur Ysgotaidd ydoedd, y. gefrlogaeth gyffredinol gafodd yr arwc',nyv yr yii y mudiad gan bobl r Alban. Geliir dweyd eu bod, o id a sect, dosbarth a sefyilf.. ,rr yn eu cydymdeimlad CM- 1 drech o blaid y Mesur. aelodau Ysgotaidd yn y Ty redin deyrnged gan bob dirwestwr, am y rnodd gwrol ac egniol y gweithiasant gyda hyrwyddwyr y Mesur. Mewn gair, i bob amcan a phwrpas, yr oedd holl wlad yr Alban yn effro a brwdfrydig, ac yn gweithio yn ddiatal nes ilwyddo i sylweddoli eu delfryd. Rhaid i Gymru fod yn effro, rhaid iddi daflu ymaith y difrawder sydd wedi gwisgo drosti yn ddiweddar. Rhaid i'r Cyfarfod Dirwestol ddod un- waith eto yn gyfarfod poblogaidd, os yw Cymru am lwyddo. Rhaid enill y wlad rhag y gelyn a min y cledd, ryfel fydd hi, nid a gwaed a chnawd, ond a thywsogaethau ac awdurdodau Bachus a blys. Apel- iwn at yr aelodau Seneddol Cym- reig-gwyddöm am eu gallu acam eu nerth, drwy fod mewn undeb a'u gilydd, i wneud llawer dros Gymru yn yr achos hwn. Ni rhaid ofni na bydd aelodau Seneddol eraill o'r Ty Cyffredin, sydd yn selog dros ddirwest, yn barod i bleidleisio o blaid Cymru, ac ar alwad yn barod i ddadlu dros y Mesur. Deallwn fod Syr Herbert Roberts gyda phwyllgorau Cymanfaoedd y Gogledd a'r De, ac hefyd dirprwy- wyr yr Alliance, wedi cyfarfod eisioes i ystyried prif linellau y Mesur cyn ei gyfiwyno i'r Ty. Dylid cael Convention cryf yn fuan, mewn lie canolog, ynglyn a'r mater, a dylid gwahodd i'r cyfarfod bersonau fyddo yn cynrychioli yn lied lwyr yr holl adnoddau cen- hedlaethol Cymreig pleidiol i Ddirwest. Ac hefyd, gan fod y Mesur yn cael ei ddwyn ymlaen yn annibynol ar y Mesur i Loegr, ac yn gweithredu ar linellau Local Veto, cynllun ag y mae yr Alliance wedi ei ddal o flaen y deyrnas am lawer blwyddyn bellach, fe ddylid sicrhau hyd y mae yn bosibl y cynorthwy anmhrisiadwy y medr yr Alliance ei roddi yn yr ymgyrch o blaid y Mesur. Hyderwn y gall Syr Herbert, mewn cyd-ddeall a Mr Tertius Phillips, enill y nerth sydd yn yr Alliance yn ffafr yr ymgais hon o eiddo Cymru. Mae cannoedd o Gymry parchus yn aelodau anrhydeddus o'r All- iance, llawer ohonynt er's blynydd- au meithion. Rhaid wrth frwd- frydedd, ac i gynyrchu hwnnw rhaid wrth ymgyrch-a galwer i'r ymgyrch bob eglwys, achymdeith- as, a chymanfa drwy Gymru ben- baladr. Cyhoedder yn groch ar furiau'r ddinas, mai amcan y Mesur ydyw codi'r pyrth a losgwyd, cyfanu'r mur a ddrylliwyd, a charthu o'r ddinas y chwerwder sydd ynddi yn chwerwi einioes a rhagolygon ei dineswyr. Dyrchafer y faner, chwifier hi yn yr awel, a, gadawer i'r Iesu a a heibio ddarllen—" Er mwyn Crist, cartref, a chymydog I yru yr hen wlad yn ei blaen Cymru yn Sobr, Cymru yn Lan."

AT AROLYGWYR YR AIL DALAITH.

[No title]