Skip to main content
Hide Articles List

11 articles on this Page

SALEM, LLANDDULAS. 1,

ABERDAR. II

ELIM, PORTDINORWIC. I

LLANEGRYN.I

CEFN MAWR. I

YNYSYBWL.,I

I -IBETHESDA.,

.CAEMNARFON.I

I IMEIFOD. I

I YSGREPAN Y LLENOR. I

News
Cite
Share

I YSGREPAN Y LLENOR. I Esponiad Newydd gan Esponiwr Newydd. Gan T. J. PRITCHARD. I Y dydd o'r blaen daeth i'm Haw ranau dechreuol o Esboniad ar yr Epistol at y Rhufeiniaid, gan W. 0. Evans. Cyfrol 1. penodau 1-7. Bangor, cyhoeddedig yn y Llyfrfa, gan P. Jones Roberts. 1914. Wrth gwrs, prin y mae angen hysbysu mai yr awdwr yw y Parch- edig William Owen Evans, gwein- idog Wesleaidd, Lerpwl. Brysiais i ddarllen y rhanau hyn o'r ffurf-gopiau cyntaf gydag awch. Gwyddwn am yr awdwr yn flaenorol yn ngoleuni ei lythyrau canmoliaeth" yn yr holl eglwysi fel pregethwr amlwg, meddyliwr gwrteitiuedig, yggrifenydi hylithr, a'boneddwr Cristionogol o safle ac o gymeriad uchel. Heblaw hyny yr oeddwn yn bur gynefin ag ef fel lienor gwych, ac awdwrx cyfrol goffa ddarllenadwy o Dr Thomas Coke. Yr awrhon, wele y gwr parchedig ar gais y Gymanfa Wes- leaidd yn anturio i reng anrhyd- eddus yr esponwyr. Ac os iawn- dda yw barnu oddiwrth ranau yn unig o'r Gyfrol I., profa ei hun yn deilwng o'r urdd, as to the man- ner born." Haedda Ie urddasol yn mhlith y esponiadol. Nid gorches soafn fyddai i un- rhyw un ymg leryd a chyhoeddi Esponiad New dd ar draethawd dihefelydd y penaf o Dduwinydd- ion Cred yn enwedig, pan y cofir ei arddull ddyrus, ei gynwys dwfo, ei feddyliau ariichel, a'i ymresym iadau cymhlethedig. Hwyhr ei gamrau yn hy fedr as a didran- gwydd ar hyd y lhvybr anhygyrch hwn, a brofai fod y sawl a lwydda wedi croesi yn cdiogel POi s Aš> inorum" bron bob problem ddiwin- yddol sylfaenol a berthyn i'r ffydd Gristionogol. Ymhellach, onid oes ar gael leng o bob math o Es- poniadau cyhoeddedig ar yr Epistol hwn, ac yn eu plith nifer mawr o'r dosparth uchaf, gan wyr etholedig yr eglwys, ac ereill, o ddyddiau Pelagius i lawr i'r dyddiad presen- 01. Cawn hefyd yn eu plith amryw Gymry galluog diweddar. Golyga hyn y rhaid i wr feddu ar feddwl gwahanfodol a chryf er gallu c hono droedio llinell gydredol a'r, ac eto, wahaniaethol i'r lluaws a nodwyd. Cyd- rededd y cynyrch a brofai gysondeb ei ddehongliad ag eiddo etholedigivm tcponiad- i aeth ar y maes eisoes, ac ag y,pryd, syniadaeth, a theit m^'lviiol yr ( Apostoi. Y gw. ha ae.?? ar y ji Haw arall,abrcia ?ia'ter y de- 11 honglydd, a chyfoeth dihysbydd yr Epistol. Ni phetrusaf ddweyd ddarfod i Mr Evans Iwyddo yn ar- dderchog. Y mae efe wedi ei gyn- ysgaeddu a medr esponiadol a hawlia sylw, ac os meiddiaf farnu oddiwrth yr adran sydd mewn Haw, nid ofnaf broffwydo y prawf ei esponiad hwn yn wir gaffaeliad i'r efrydydd, ac yn un o'r cynyrch- ion mwyaf cynorthwyol yn yr iaith er deall yr Epistol at y Rhufein- iaid. Eiddunaf i'r awdwr parch- edig iechyd a nerth i orffen ei waith rhagorol. Cyrhaedda y gyf- rol gyntaf hyd ddiwedd yr wythfed benod. Cyhoeddir y rhelyw mewn ail gyfrol. Y maey Rhagarweiniad yn eith- riadol faith, rhed dros 30 tudalen, ond y mae yn llawn o hyfforddiant, ac nis gallwn feddwl am ddim cymhwysach, ac effeithiolach fel arweiniad i fewn i gynnwys y gwaith. Ymdrefyd yr awdwr yn y modd mwyaf diddorol, 1, Ag amser, lie, ac achlysur yr Epistol; 2, Y Crisionogion yn Rhufain 3, Ffynhonellau Diwinyddiaeth yr Epistol; 4, Dilysrwydd yr Epistol. Amlwg yw fod Mr Evans wedi ymgynghori a llenyddiaeth ddi- weddaraf y pwngc, ac i'r pwrpas goreu. Dylai athrawon ein Hys- goiion Sul, eu disgyblion, ac aelod- >- au ein Beibl-restrau ei fwyta bob gair, a phenderfynnu ei dreulio yn dda, a'i gyfathu yn llwyr. 0 hyny hwy fyddent yn gryfach ac yn iach- ach, ac o wir werth i'r eglwys. Ar tudalen 36-37, ceir braslun o gyn- wys yr Epistol, penod 1 —7. Ystyr- iaf ei fod yn ddosparthiad cryno, naturiol, a chryf. Ond barnaf mai diffyg yw na argraffesid yr holl gynhwysiad gyda'u gilydd, yn hyt- rach na chadw rhan ar gyfer Cyf- rol II. Manteisiol i'r efrydydd yw fod Mr Evans wedi gofalu gosod ger bron enwau nifer o'r prif esbonwyr ar yr Epistol, ac yn eu plith dri Cymro, un o ba rai yw y teilwng Barch T. Jones Humphreys. Nodwedd darawiadol yw yr arall-eiriad, neu y rhydd-gyfieith- iad o'r testyn, yn ol arddull Dr Beet ac eraill. Yn bersonol gwell f'ai gennyf pe y dilynasid y C. D., gan ei gywirro, lie hynny yn ofynnol, yn nghorff yr esponiadaeth. Serch hynny, diau y gall brofi o gryn gynhorthwy i'r efrydydd. Amlwg yw fod Mr Evans wedi rhoddi efrydiaeth fanwl a dyfal i'r Epistol. Ceir prawf. o hynny ar wyneb pob tudalen, a gesyd ger bron ffrwyth ei lafur yn y modd egluraf y gall iaith syrrtl ei gyfleu. Yn er drafodaeth o'r adrannau mwyaf dadleuol, ceir ol mesur a phwyso manwl, ac yn nglyn a hynny amlygiad eofn o annibyn- iaeth barn, ynghyd a rhesymau cryfion, ond boneddigaidd, dros wahaniaethu. Ac ni adewir i'r darllenydd tyned nepell o ffordd heb ei daro a newydd-deb dehong- liad a bair gyffro weithiau, ac am- heuthyn boddhaol bron bob amser. Ni oddefir na gofod nac amser i fanylu. Llongyfarchaf Mr Evans yn y modd mwyaf calonnog, ar ddygiad allan ei ddehongliad gwych o'r Epistol anodd. Adlew- yrchir wir gredit arno fel esponiwr manwl, medrus, a chlir, ac fel dysgawdwr Cristionogol sydd yn glod i'w eglwys a'i genedl. lawn yw nodi fod yr argraffwaith a'r dygiad allan drwyddo yn up to (1ate. Yr unig fai, os bai hefyd, yw na drefnasid ar gyfer llythyren frasach. Ofnaf y bydd yr un a fabwysiadwyd braidd yn fan i rai mewn oed. Eithr nid diffyg yn yr argraffydd yw hyn. Ni odylai na swydnog na blaen- or, nac athro na disgybl, na lien na lleyg, oedi dlwrnod yn hwy heb ddiogelu copi o'r esponiad cyn- hwysfavvr hwn. Nis gellir dyfalu am ddim mwy cynhorthwyol tuag at feistI ot: y maesllafui. Maepris y gyfrol hefyd 0, fewn cyrhaedd pawb, sef aeur "w ceiniog.

[No title]