Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

SALEM, LLANDDULAS. 1,

ABERDAR. II

ELIM, PORTDINORWIC. I

LLANEGRYN.I

CEFN MAWR. I

YNYSYBWL.,I

News
Cite
Share

YNYSYBWL. I GWYL DEWI.—Nos Lun. Mawrth 2il, cynhaliwyd Social Tea dan nawdd yr eg- lwys uchod. Dyma y trydydd Social yn ystod y gauaf yma. Mae hyn yn dargGs fOli yma fwy o awydd gweithio Y1 yr eglwys na s) ddweci bod er's amser. Mae yn dda genyf glywed ei borlwedi troi- allan yn llwyddiant, ac wedi swm go dda yn mhoced y trysorydd. Da iawn. digon o'i hangen arnom fel eglwys, one1 mae yn well heddyw na mae hi wedi bod er's rhai blynydcfeu. Wel, lrJoL, mae yn debyg mae y brodyr oedd i ofalu arh hwn, sef am gasgiu y danteithion a'r cwbl oedd angenrheidiol. Y brodyr fu yn casglu y tro yma oeddynt Mri Edwaid Jones a Lewis Edwards, Gwnaetllant eu gwaith yn dda iawn. Traynmwynhau y te cafwyd unawdau ac adroddic 1 gan blant y Band o Hope ac amryw aill o'r lIe Llywyddwyd gan y Parch ¿. Davy I "J I.O'nas, Abercynon, yr hwna wnaeth ei waith i foddlonrwydd pawb, ie, fe lanwodd y gadair hyd yr ymylon mewn mwynac un ystyr. Aed trwy y program fel y can- lyn:—Can gan Miss M. E. Lewis adrodd- iad gan Master Morddal Evans deuawd gan Miss 0. Williams a Mr G. O. Williams; can gan Mr J. Hughes adroddiad gan Miss Nancy Edwards can gan Miss Jennie Jones adroddiad gan Miss Maggie Ed- wards deuawd gan Miss O. Williams a Mr G. O. Williams; adroddiad gan Mr Morddal Evans adroddiad gan Mr Gordan can gan Miss M. E. Lewis; ad- roddiad gan y Parch W. Williams (A.); can gan Miss Katie Pugh adroddiad gan J. Hughes; deuawd gan Misses Katie Pugh a Maggie Edwards adroddiad gan Miss Katie Pugh deuawd gan Miss O. Williams a G. O. Williams; adroddiad gan Mr J. Hughes; wrth yr offeryn, Miss Maggie Griffiths. Cafwyd ychydig eiriau gan y Llywydd, a diolchodd i bawb am eu gwasanaeth gwerthfawr. Yr un modd di- olchwyd i Miss. Olwen Williams a Mr G. O. Williams, mab a merch Mr G. O. Wil- liams, Abercynon, am eu gwasanaeth yn rhad ac am ddim. Swyddogion y Social oeddyntMr Hugh Roberts, ysgrifenydd; a Mr Thomas Evans, yn drysorydd. Try eu gwasanaeth allan yn Ilwyddiant per- flEaith. RHODD I'R EGLWYS.—Nos Sul, Mawrth 15fed, cafwyd y fiaint o ddefnyddio y Cwpanau Unigol am y tro cyntaf, pryd y gwasanaethwyd gan y Parch D. Creigfryn Jones. Diolchwyd i Mr a Mrs W. Evans, a Mr a Mrs J. J. Price, am eu rhodd werth- fawr i'r eglwys. Siaradwyd gan Mr Lewis Jones a Mr Evan Jarman ar rhan yr eglwys, a chan Mr David Pugh ar ran Trustees yr eglwys, pethau ac y mae gwir angen am danynt yn nihob eglwys. Er bod rhai wedi bod yn awgrymu eu cael, mae yn rhaia dweyd ein bod wedi rhagflaenu pawb, ac yn sicr i chwi, Mr Gol., yr ydym yn falch iawn fel eglwys o honynt, a gallwn ddy- wedyd ein bod wedi rhagflaenu'r holl eg- lwysi ar y mater hwn eto. Mawr hyderaf y cawn weled holl eglwysi y Gylchdaith yn dilyn ein camrau ar y mater yma. Mae yn sicr o fod yn fantais hyd yn nod mewn iechyd. Yr Arglwydd a dalo i'r ddau deulu am eu rhodd werthfawr i'r eglwys. I DYFI.

I -IBETHESDA.,

.CAEMNARFON.I

I IMEIFOD. I

I YSGREPAN Y LLENOR. I

[No title]