Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

11 articles on this Page

SALEM, LLANDDULAS. 1,

News
Cite
Share

SALEM, LLANDDULAS. 1, CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL.—NOS Wen- er, Chwefror 27ain, cawsom anerchiad gdn eia parchus Arolygwr sef, y Parch John Kelly ar y cymeriad fythgofiadwy hwnw sef yr anfarwol Dr. Livingstone, ac y mae gan Mr Kelly ddawn arbenig at y gwaith. Daeth cynulliad da yn nghyd, oblegid yr oedd y cyfarfod yn agored i bawb a ddymunant. Yr oedd pawb yn teimlo fod yr anerchiad yn un bendigedig, Mr Kelly yn yr hwyl uwchaf yn bosibl, a'r gynulleidfa gyda'i calonau yn llymed tra yr oedd yr anerchwr yn adrodd rai o weithredoedd arwrol y cenhadwr enwog. Terfynwyd y cyfarfod gyda diolchiadau cynnes i Mr Kelly am ei anerchiad, a phawb yn myned allan gyda phenderfyn- ladau cryfion i wneud rhywbeth er mwyn y Crist ag yr oedd y Doctor wedi gwneud a dioddef cymaint er ei fwyn. Nos Wener, Mawrrh 6ed, cawsom ddar- lleniad o ddau bapur, sef un gan yr Ysgrif- enydd a'r llall gan Miss Nannah Williams. Testyn y papur cyntaf Un o gymeriad- au'r Pwlpud Cymreig, sef y Parch Thomas Aubrey," a'r olaf ar yr Ysgol Sabbothol," a dymunodd y Gymdeithas ar i Miss Wil- liams ddarllen ei phapur drachefn yn y Cyfarfod Ysgol sydd gerllaw. Nos Wener, Mawrth 13eg, cawsom bapur gan Miss Elizabeth Williams, Brynyvoel, ar rhai o Elfenau bywyd Cornelius," a chan nad oedd Miss Williams yn] bresenol, darllenwyd y papur gan Mrs John Davies, a theimlodd pawb fod y papur yn un add- ysgiadol ac yn llawn o wei si buddiol i ni fel Cymdeithas. Terfynwyd y cyfarfod gyda diolchiadau gwresog i Miss Williams am ei phapur, ac hefyo i Mrs Davies am ei ddarllen. Nos Wenerdilynol, sef Mawrth 20fed, cawsom de gan yr Hen Ferched, ac yr oedd y danteithion amrywiol a gawsom yn ddirifedi. Wedi hynny cawsom Gyf- arfod Amrywiaethol. Gan mae hwn oedd cyfarfod olaf y tymor cawsom amser difyr dros ben. Terfynwyd v cyfarfod gyda di- olchiadau cynhes i'r Hen Ferched, ac i bawb gymerodd rhan yn ystod y tymor, ac yn neilltuol felly i'r Llywydd am ei was- anaeth. Wel, daeth diwedd y tymor, a phawb yn teimlo en bod wedi cael amser bendigedig, yn feddyliol ac yn ysbrvdol, ac hefyd wedi su-no yn helaeth o B.A. a B.D., y Llywydd. Mae'r Gymdeithas yn awr yn hiraethu am y tymor nesaf.

ABERDAR. II

ELIM, PORTDINORWIC. I

LLANEGRYN.I

CEFN MAWR. I

YNYSYBWL.,I

I -IBETHESDA.,

.CAEMNARFON.I

I IMEIFOD. I

I YSGREPAN Y LLENOR. I

[No title]