Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

BWRDD YR ADOLYGYDD. I

Llythyrau at y Gal.

LLITHOEDD AWSTRALIA. I

News
Cite
Share

LLITHOEDD AWSTRALIA. I (Gan y Pareh L. J. ROWLANDS, Kew, Victoria; Australia). 1. Anwyl Mr Gol.Pan ar ymweliad a Chymru ryw bedair i bum mlynedd yn ol, ar gais eich cyd olygydd y pryd hwnw addewais anfon cyfres o erthyg- lau ar Awstralia i golofnau y Gwyl- iedydd Newydd." Dechreuais ar y gwaith, ond Ow! llesteiriwyd fi i'w gwblhau o herwydd dyledswyddau cylchdeithiol, ac at hynny, afiechyd personol. Eleni fodd bynag 'rwyf wedi bod yn gorphwyso, ac wedi hybu cym- aint fel y mae yn bleser ail ymaflyd mewn gwaith. 0 ganlyniad, os da yn eich golwg, ceisiaf gyflawni fy addewid i'r Parch P. Jones Roberts agos i bum mlynedd yn cl. Yr wyf weithian wedi treulio deg- mlynedd-ar-hunain (30) yn Awstralia. Yn y cyfamser bum ar ddau ymweliad a Chymru—yn ystod 1886 a 19C9. Mewn ysgrif flaenorol anfonais i chwi rai o'r argraffiadau a wnaed ar fy medd wl yn ystod fy ymweliad diweddaf. At hynny ychwanegaf: Er i mi ganfod mwy o ddyddordeb yn Awstralia nag yn 1886, eto, ar y cyfan, hynod o brin y gydnabyddiaeth, yn mlitn fy nghyd- genedl am y wlad fawr hon. Diau fod, y pellder mawr sydd rhyngom-o ryw ddeuddeg mil (12,000) o filldiroedd yn cyfrif, am hyn i fesur pell, ac hyd y gwn i nid oes ond ycbydig o banes y wlad wedi ymddangos yn y wasg Gym reig. Ar hyn o bryd, nid yw yn fy mwriad i ysgrifenu pattbed darganfyddiad a dadblygiad Awstralia—er fod y stori yn eithaf dyddorol;—ond rhoddi yn eich colofnau ryw syniad am y wlad, ei he- angder, ei hinsawdd, ei hadnoddau, ei manteision a'i thrigolion yn amaeth- yddol yn wleidyddol, cymdeithasol a chrefyddol. Heb eich blino gyda ffigyrau hydred a lledred, gwel y sawl a fyna y cyfryw ond tremio ar fap y byd. Saif Mel- bourne, prif ddinas Victoria, fy nghartref presenol/ ryw ddeuddeg mil (12,000) o filldiroedd i'r De-Ddwyrain o Lundain. Cynhwysa cyfandir Awstralia agos i idair miliwn o filldiroedd pedrongl o arwynebedd, (2,974,581 sq. m.), mae Awstralia felly yn fwy o faint na Unol Dalaethau America. Pedair ran o bump (4/5) o faintioli Canada, agos i dair ran o bedair (3/4) o arwynebedd yr oil o Ewrop, a thros bumwaith-ar- hugain yn fwy na'r Deyrnas Gyfunol a'r Iwerddon. Anhawdd yn wir ydyw i Ynyswr Prydeinig syniawam eangder terfynau acadnoddau y wlad eang- fawr hon pa un a gadwodd rhaglun- iaeth mewn Reserve (chwedl Cynfaen gynt) hyd ymron d(Techreu y bedwar- edd-ganrif-ar-bymtheg. Y mae i ni for-linell (coasc line) o ddeuddeng- mil dau gant a ddg '(12,210)' o filldiroedd gyda chyfartaledd o ddau gant a phed- air a deugain (244) o filldiroedd pedrongl o clir am bob milldir o arfordir, tra nad oes gan Ewrop ond pymtheg-a-thri- ugain (75) milldir bedrongl am bob milldir o arfordir, ac yn ol ffigyrau diweddar nid oes i Loegr a Chymru ond un ran o dair o hyny; h.y. pump- ar-hugain (25) o filldiroedd pedrongi am bob milldir o arfordir. « bob 1-nilidir o ar?lordir. Yn y gyfres hon fodd bynag bwriad- wyf gyfyngu fy hunan i Dalaeth Victor- ia, ac o bosibl yn y man, os yn dder- byniol genych ceir ychwaneg am y Talaethau eraill-am y Commonwealth a New Zealand. Safle Daearyddol. Saif Victoria ar eithaf-bwynt de- ddwyreiniol Cyfandir A wstralia ac mewn arwyaebedd, nid ydyw ond rhyw un rhan o bedair-ar-ddeg-ar-hugain (1/34) or oH. Cynwysa 87,884 o fill- diroedd pedrongl, neu 56,245,760 o erwau o dir. Ei hyd ydyw 240 milldir, a'i led yn 250 o filldiroedd gyda 600 milldir o arfordir. Mae -Victoria felly fymryn yn llai na'r Deyrnas Gyfunol. Hinsawdd. 0 herwydd ei safle ddaearyddol mwynha Victoria hinsawdd mwy tym- herus a chyfaddasol i Ewropeaid nag unrhyw dalaeth arall ar gyfandir Awstralia. Yn Melbourne yma, a chymeryd cyfartaledd triugain mlynedd, fe gyfyd y gwresfesurydd i dros gant o raddau yn y cysgod ar bedwar diwrnod yn y flwyddyn, ac yn gyffredin am dair noson yn y flwyddyn fe ddisgyn islaw pwynt rhewi. Mewn gair ma.e yma filoedd o bobl yn Victoria na wel sant eira erioed. Mae yr hinsawdd felly mor braf a thvmherus, cyffelyb i California a deheudir Ewrop. Dyna uu o'n manteision mawr ar Canada a'r Unol Dalaethau America, ac hefyd y Deyrnas Gyfunol, Canys gellir gweith- io'r tir trwy y flwyddyn gron gyfan, ac nid oes anghen eadw anifeiliaid i mewn am Jisaedd y gaeaf ond ffynant yn yr awyr agored drwy gydol y flwyddyn yn mhob cwr ymron o'r wlad. Yn wir y mae yma amrywiaeth mawr mewn hinsawdd & thymheredd, yn ol natur a safle. Glannau y mor, yr ucheldiroedd, y mynyddoedd bau, a'r coedwigoedd mawriop,' y dyffrynoedd breision a'r gwastadeddau eang a theg. Ar y cyfan fel y dengys ystadegau dyma un o'r gwledydd, os nad y wlad iachaf yn y byd. Poblogaeth. Sefydlwyd Victoria yn dalaeth hun- anlywodraethol yn y flwyddyn 1851, ar yr un adeg ag y darganfyddwyd aur yn Climes, Ballarat, Bendigo, a manau eraill. Nid oedd y boblogaeth y pryd hwnw ond 77,000, ond yn mhen chwe' blynedd yr oedd yn 463,000. A dyma y cyfnod y dechreuwyd o ddifrif i wneud ffyrdd, adeiladu rheilffyrdd, sefydlu cronfaau dwfr a dadblygu Victoria mewn amaethyddiaeth a masnach. Ar hyn o bryd er fod poblogaeth. Victoria y drymaf ar gyfartaledd o'r holl dalaethau yn Awstralia, nid oes genym ond ychydig dros filiwn a chwar- ter (1,254,319), h.y., 14 o bersonau i i bob milldir ysgwar Tra mae yn y Deyrnas Gyfunol 372.49 i bob milltir bedrongl. Ond yn yr oil o Awstralia nid yw y boblogaeth ond 1.53 i bob milldir Dengys y ffigyrau hyn fod genym ddig- on o le fodd bynag. Rhenir y boblogaeth braidd yn ang- hyfartal rhwng y trefi a'r wlad, ,1\1ae yn Melbourne yn unig boblogaeth o 628,430, y nawfed ddinas yn yr Y mher- odraeth Brydeinig, er fod Castell Caernarfon yn hen furddyn pan y sef- ydlwyd hi. Yn nesaf' at Melbourne saif Ballarat gyda 42,004, Bendigo, 39,170, Geelong 31,235, Castlemaine 7,212, Warnambool, 7,100, Mary- borough 5,600, Hamilton 6,000, Mil- dura 4,700, Stawell 4,500, Cyfanrif, 774,741, yn gadael 579,578 yn wasgar- edig dros y wlad a'r mandrefi. Gwlad y dyn gwyn ydyw Victoriat hefyd, yn wir Awstralia ben bwy-gilydd. Nid oes ond rhyw 643 o gynfrodorion (aborigines) o'r Murray i'r mor, a rhyw 5,601 o Chinese, a 1,583 o genhedloedd eraill. Y cyfanrif o bobl dduon, neu dywyll yn Victoria ydyw 8,827. Gwein- yddir y Commonweath Imigration Restriction Act yn ofalus iawn, tra y croesawir Ewropeaid, Canadiaid ac Am- ericaniaid i ddod i mewn, fel nad oes heddyw, yn yr oil o Awstralia ond 72,000 o bobl dduon tieu felynion. Mewn gair mae 95-94 y cant o'r holl boblogaeth yn Brydeiawyr pur, genedig- ol yn Awstralia neu ynte yn y Deyrnas, Gyfunol, felly eglur yw nad oes yn weddill ond rhifedi cymharol fychan yn cynrychioli gwahanol genhedloedd y ddaear. Safwn o ganlyniad yn hynod ffafriol, yn hyn o beth, mewn cyferbyn- iad i Unol Dalaethau America, Canada, ac Affrica, heb son am Patagonia. Mewn gwirionedd, mae rhifedi yr estron- iid a'r^tramoriaid mor isel,, fel nad ydyw o nemawr os dim anfantais i ni. Ac os. llwyddir i boblogi y wlad ar y llinellau hyn, mae pob gobaith y deuwn yn un o'r cenhedloedd puraf o dan haul. Faint a roddai yr Unol Dalaethau, Canada, ac Affrica heddyw am sefyli mor ffafriol yn yr ystyr hon ? Cofus genyf pan yn hogyn glywed oddiwrth rai o'n cyd-genedl yn Patagonia pa rai oeddynt mewn ofn a dychryn parhaus am na wyddant y dydd na'r awr y disgyna miloedd a'r filoedd o deulu Ham amynt a'u hysgubo hwy a'u plant a'u holl dda i dir anghofl