Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

3 articles on this Page

BWRDD YR ADOLYGYDD. I

Llythyrau at y Gal.

News
Cite
Share

Llythyrau at y Gal. BYCHANU CRIST. Mr Golygydd,— Yn ol fel y dywedais wrthych yn fy llyth- yr blaenorol, nid oeddwn yn gwybod o gwbl pwy oedd awdwr yr erthygl ar Bychanu Crist." Felly, yr oedd J. K." i mi megis ffug-enw. Ac yn awr, nid wyf yn ystyried fod gennyf wybodaeth ddiam- heuol parthed pwy ydyw. Canys o ran yr hyn wn i am y lie, gall fod yn Abergele, dri neu bedwar yn dwyn yr un enw, ac hefyd yn alluog i ysgrifenu ertbycl i'r G. N. Chwi welwch felly, Syr, nad oes gennyf eto yr hyn y mae y Saeson yma yn ei alw yn positive knowledge ar y pen yna. Er hyny, gan fod y bra wd John Kelly wedi rhoddi yr allwedd yn fy Haw megis, i gael gwybodaeth felly, yr wyf yn ddigon bodd- loa iddo yntau gael fy enw priodol inau, a'm cyfeiriad yn llawn. Sylwais na welai yr anwyl frawd ei ffordd yn glir i ateb cymaint ag un o'm gofyniadau. Dewis- add yn hytrach i ofyn cynifer a deg o ofyn- iadau i mi. Wei, dywedaf inau, o'r goreu, y mae y brawd yn perchenogi rhyddid llawn mewn mater fel yna, ac am hynny ni thrara- gwyddaf wrtho am beidio fy ateb. Boed iddo yntau ganiatau yr un rhyddid i minau, a hynny yn ddidramgwydd. Canys yr wyf yn hollol Iredu mai mwy buddiol fyddai trafod y pwnc hwn ar hyd ffordd fyrach na honyna. Ac hefyd, y byddai yn well gan ddarllenwyr y G. N. gael hynny. Nid oedd gennyf ddim llai teilwng ychwaith, pan yn gofyn yr un neu ddau gwestiwn hynny, fel y gwnes, na cheisio myned at gnewyllun y mater yn lied ddiymdroi. Yn yr hyn a ddywedais am ddiwinydd- ion, etc., ni chyfyngais fy sylwadau a dos- barth neillduol, nac ychwaith at enwad neillduol. Trwy gymeryd golwg gyffred inol ar bethau yr arweiniwyd fi i wneud y sylwadau a wnaethum. Nid oes eisieu ond cymeryd golwg ystyfiol ar bethau yn ein gwlad ar hyn o bryd-yr ugeinfed ganrif- na welir ddarfod i mi ddweyd y gwir, a dim ond y gwir. Meddyliwch mewn difrif am y fath nifer luosog y sydd yn y wlad o wahafiol enwadau crefyddol, pa rai sydd yn cael eu britho mor amlwg gan athraw- on, a Doctoriaid diwinyddol, etc., a thyn- wch gasgliad teg eich hunain. Os ydynt wedi cyrhaeddyd addfedrwydd (maturity) mewn diwinyddiaeth, paham y mae yr holl wahaniaethau hyn yn aros ? Lied awgryma "J. K." fod fy nghylla meddyliol yn wan, neu yn rhy hen i dreul- io ymborth cliwinyddol, y dylai wneud. Wel, cydnabyddaf fod fy nghylla meddyl- bl dipyn yn hen, ond nid yn gymaint felly o ran rhifedi ei dyddiau. Tipyn yn hen ffasiwn ydyw. Nid oes modd i'w chael i dderbyn penwaig os bydd beef' o fewn cyrhaedd, a'i beef' hi ydyw Crist gwyb- odus y Testament Nev/ydd. Ac hyd yn hyn, y mae pob Doctor wedi methu yn hollol a'i pherswadio fod Crist, difiygiol ei wybodaeth tra yma ar y ddaear, yn fwy cymwys iddi. Ac er iddi gael ei sicrhau gan nifer go luosog o Ddoctoriaid anrhyd- eddus, ac o safwynt uchel a phwysig, mae un felly mewn gwirionedd oedd Crist y Testament Newydd pan yn rhodio oddi- amgylch gyda'i ddisgyblion ar y ddaear, ni chredai ac ni dderbyniai eu bwyd. Myn o hyd fod pwysau tystiolaethau Crist ei hun, yn ol yr Efengylau, yn troi y glorian i'r ochr arall. Ac yn mhellach fod yn rhaid i minau ddywedyd hynny, trwy ganiatad y Golygydd, wrth ddarllenwyr y G. N., a gadael i'r canlyniad o wneud hynny, fod y peth y bo. Gyda golwg ar "remarks" "J. K." am danaf fel un honiadol,' ac hefyd un oedd wedi defnyddio gwatwareg rad am ddiwinyddion o safleoedd uchel a phwys- ig, dywedaf am danynt fel y dywedodd General W. Booth un tro am wrthrychau neillduol a gyflwynwyd i'w sylw, They are neither useful aor ornamental." Modd bynag, yr wyf yn honi hyn, sef fod gennyf i fwy na hwy. Y mae gennyf fi Grist gwybodus, tra nad oes ganddynt hwy.yn ol yr hyn y maent yn ei gydnabod, ond y Crist anwybodus i fesur tra yma ar y ddaear. Ond diau y dywedant hwythau nad ydyw y fath Grist yn bodoli i minau ond yn fy nghredo i yn unig Os felly, gallaf inau ddywedyd yn gyffelyb am yr eiddynt hwythau, sef mat gwrthrych yn eu credo hwy yn unig ydyw Crist anwybodus. Y casgliad cywir felly yw, fod gennyf fi fwy na hwy, canys yr ydwyf yn gallu credu mwy na hwy. Oherwydd nid ydynt hyd yn hyn, beth bynnag, wedi gallu profi, fod yr hwn yr oedd ei fynediad allan er dydd- iau tragwyddoldeb, erioe wedi bod yn anwybodus o berthynas i un gwrthrych yn y nefoedd ac ar y ddaear. Ac ymddengys yr hyn a ddaeth i'm meddwl yn ddisymwyth, eto yn ddigon naturiol, y dydd o'r blaen, yn wirionedd perffaith i mi, a dyma fe — Boddi'r Wyddfa'n llyn y felin, A rhoi'r mor yn llyn y llan, Fyddai'n haws na phrofi'r Iesui "'Nanwybodus mewn un rhan. Bellach, ni awn yn mlaen i edrych goreu y gallwn beth ydyw nerth tair o'r seiliau ar ba rai y mae y diwinyddion anrhydedd.. us a gyflwynwyd i'n sylw yn seilio eu syn- iadau. Seiliant eu syniadau ar dri dos- barth o ymadroddion yr Arglwydd lesu, set Ei ofyniddau, Ei ddywediadau. A'i erfyiziadau. I. Eiofy-niadau.-Dywedantwrthymyma fod y ffaith ei fod wedi gofyn cwestiwn fel y gwnaeth yn agos i fedd Lazarus, yn arwyddair ei fod yn anwybodus yn nghylch y ffaith yna. Cyfeirir ni hefyd at amgylch- iad arall. GweL Mathew xv., 34, pan y gofynodd yr lesu gwestiwn i'r Disgyblion, parthed pa saw] torth oedd ganddynt, pan oed^ Kfe vn rnyred i borthi'r miloedd, fel arw v (I araii o < irist yn ddiffygiol o ran ei wyboJaetn. Wel, yn sicr i chwi, y mae seiliau fel yna yn ymddangos mor wein- iaid i'n golwg ni, fel na fuasem byth yn dodi cnuf o wlan i bwyso' arnynt. Nid y troion yna oedd y rhai cyntaf, i Berson Dwyfol, i ofyn cwestiynau dyiiol i ddyn- ion. Gofynodd Duw gwestiynau felly i ddyn- ion filoedd o flynyddoedd cyn yr amser yna. Gofynodd i Adda, "Pa le yr wyt ti ? pan oedd ef yn ceisio ymguddio yn nghys- god prenau yr ardd. Gofynodd hefyd i Cain, Pa le mae Abel dy frawd ? Gof- ynodd yr Arglwydd lesu hefyd gwestiynau ag y mae yn amlwg i bawb ci fcJ yn hysbys o'u cynwysiad. Gofynodd i'r ludd- ewon, Pa un ai o'r nef ai o'r ddaear yr oedd bedydd loan ? Gofynodd i Phylip, 0 ba le y prynwn ni fara, fel y caffo y rhai hyn fwyta ? Ac y mae loan yma yn ein hysbysu paham neu i ba bwrpas y gef- ynodd Efe y cwestiwn yna i Phylip, loan vi., 6, A hyn a ddywedodd efe i'w brofi ef: canys efe a wyddai beth yr oedd efe ar fedr ei wneuthur." Deuwch gyda ni eto i Efengyl Lue xxiv., 17,18, a 19. Gwelwn yma ei fod yn parhau i ofyn cwestiynau eto, ar ol iddo adgyfodi oddiwrth y meirw. Gwrandewch arno yn siarad gyda'r ddau ddisgybl ar eu ffordd i Emmaus, Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ryw ymadroddion yw y rhai hyn yr ydych yn eu bwrw at eich gilydd, dan rodio. ac yn wyneb-drist ? Ac un ohonynt a'i enw Cleopas, gan ateb a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn unig yn ymdeithydd yn Jerusalem, ac ni wybuost y petham a wnaethpwyd ynddi hi yn y dyddiau hyn ? Yna yr lesu a ofynodd gwtstiwn arall yn ei ffordd syml ei hun, Ac efe a ddywed- odd wrthynt, Pa bethau ? Gofynwn ym awr ym ddifrifol, Onii ydyw ya amlwg i bawb mai nid am fod yr lesu yn anwybod- us y gofynodd efe y cwestiymau yna. Yn awr. yn unol a phob tegwch, credwa yn sicr y dylid cydnabod fod y sail gynt- af wedi myned gyda'r gwynt. A pha ryfedd gan i wYllt mor gryf chwythu ami o'r Ysgrythyrau. Onid ydyw yn syn fod dynion yn ceisio ein dysgu fod yr Hwn oedd yn gallu canfod arian i dalu'r drath yn ngenau'r pysgodyn yn y mor, yn an- wybodus am man y gorweddai corph ei hoff gyfaill Lazarus. Yn awr ni awn yn mlaen at yr ail sail:— II. Ei ddywediadau.-Cyfeirir ni yn y lie hwn at y dywediadau canlynol o eiddo yr Arglwydd lesu, sef Eithr am y dydd hwnnw a'r awr ni wyr neb, na'r angylion sydd yn y nef, na'r Mab, ond y Tad." Priodol iawn ydyw i ni ddywedyd yma, fod yn rhaid i bwy bynag a fyno wneud tegwch ag ef ei hun, ac a gwir ystyr ddy- wediadau Crist, dirio o dan yr arwyneb- edd mewn trefn i wneud hynny. Sylwer i ba gyfeiriad y mae cymeryd golwg arwynebol ar y dywediadau yna yn ein harwain. Dangoswn hynny trwy ofyn ac ateb cwestiwn neu ddau fel hyn:- (1). Pwy ydyw y Tad ? Y Person cyntaf yn y Drindod. (2). A ydyw y tri Person yn y Drindod yn meddu yr un priodoleddau yn hollol ? Ydynt, y maent yn hollol gydradd o ran eu priodoleddau. (3). A ydyw un o'u priodoleddau yn cyn- wys fod yn rhaid fod y tri Person yn Holl- wybodol ? Ydyw, y mae. Wel, yn awr, a siarad i bwrpas priodol pa fodd y geilwch gysoni eich atebion a'ch syniad am wir ystyr yr adnod y cyfeiriwyd ati, sef nad oedd dim ond un o'r Personau Dwyfol yn meddu gwybodaeth am y dydd hwnnw a'r awr ? Os na allwch symtad o'r safle yna yn .lied fuan, yr wyf yn credu mai eich lie priodol chwi fyddai gyda'r Undod- wyr. III. Gwerth seiliau eu syniadau ar erfyn- iadau Cristary Tad yn ngardd Gethsem- ane. 'Difyna J. K." yr hyn a ganlyn o eiddo Dr Forsyth, gyda chymeradwyaeth:— The limitation of His knowledge is in- dubitable even about Himself. He was not perfectly sure that the, Cross was His Father's will till the very last. If it be possible let it pass." Drwg gennyf na ddarfu i J. K." sylwi a gweled na erfyn- iodd Crist erioed ar ei Dad, am ei aibed rhag myned i'r Groes. Oblegid, dengys mynegiadau pendant Crist ar y pen hwn, ei fod yn ddiamheuol sicr ar y mater yna. Sylwer ar ei ddatganiadau, Mathew xvi., 21, 22 a 23, "0 hynny allan y dechreuodd yr lesu ddangos i'w ddisgyblion fod yn rhaid iddo fyned i Jerusalem a dioddef llawer gan yr henaduriaid, a'r arch-offeir- iaid, a'r ysgrifenyddion, a'i ladd, a chofodi y trydydd dydd. A Phetr, wedi ei gymer- yd ef ato, a ddechreuodd ei geryddu ef, gan ddywedyd, Trugarha wythyt dy hun, nis bydd hyn i ti. Ac efe a drodd ac a ddywedodd wrth Petr, Dos yn fy ol i, Satan, rhwystr ydwyt ti i mi: am nad wyt yn synied y pethau sydd o Dduw, ond y pethau sydd o ddynion." Eto, Mathew xx., 17, 18, a'r 19, "Ac a'r lesu yn myned i fyny i Jerusalem, efe a gymmerth y deuddeg disgybl o'r neilldu ar y ffordd, ac a ddywedodd wrthynt, Wele, yr ydym ni yn myned i fynu i Jerusalem, a Mab y dyn a draddodir i'r arch-offeiriaid, a'r ysgrifenyddion, a hwy a'i condemniant ef i)farwolaeth." "Ac a'i traddodant ef i'r Cenhedloedd, i'w watwar, ac i'w fflangellau, ac i'w groes- hoelio, a'r trydydd dydd efe a adgyfyd." Yn ol Marc a LL.c hefyd, y mae dadgan- iadau Crist ar y mater hwn yn cael ei nodi allan yr un mor bendant a dios. Y mae loan yn gosod yr un gwirionedd. allan mewn gwedd arall, ond yr un mor sicr, loan x.17 a'r ]8, "Am hyn y mae y Tad yn fy ngharu i am fy mod i yn dodi ty einioes fel y cymerwyf hi drachefn." "Nid oes neb yn ei dwyn oddiarnaf fi, ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr o honof fy hun Y mae gennyf feddiant i'w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i'w chym- eryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbvniais i gan fy Nhad." Erbyn hyn, oni fydd i (Idarilenwyr y G. N. welecl) n ami wg nad oes yna seiliau o gwbl dros ddywedyd nad oedd gan Grist wybodaeth ¡ sicr fed yn rhaid iddo lyned i'r Groes, ac mai dyna oedd ewyllys y Tad. Am hynny, byddai yn briodol iawn i'r ddiwinyddion ail ystyrisd uwch ben dadganiadau yr Arglwydd lesu, er ?alliiogi eu hunain i ffurfio syniadau cywirach am dano. Wedi'r cwbl, efallai y dywed J. K." fod gwybodaeth Crist, tra yma yn y cnawd, yn anmherffaith, ac am hynny nas dylid derbyn ei ddadganiadau hvd yn oed am dano ei hun, fel rhai anffaeleclig. A rhag mai fellv y bydd iddo ef synio hyd yma, nyni a awn gam neu ddau yn mhellach, ar ran y gwirionedd. I D' 1 Deuwch gyda ni, gan hynny, i gwmni yr lesu, am jfchydig funudau ar ol Ei adgyf odiad. Wele Ef ar y ffordd yn myned gyda'r ddau ddisgybl tuag Emmaus. Gwrandewch ar ei ymadroddion wrth- ynt, 0 ynfydion a hwyrfrydig o galon i gredu yr holl bethau a ddywedodd y proffwydi. Onid oedd yn rhaid i Grist ddioddef y pethau hyn, a myned i mewn i'w ogonlant ? A chan ddechreu ar Moses a'r holl broffwydi, efe a esboniodd iddynt yn yr holl Ysgrythyrau, y pethau am dano ei hun." Gofynwn yn awr, A ydyw yn debyg, y buasai yr lesu yn llefaru fel yna wrth y ddau ddisgybl, pe buasai yn ffaith ef fod ef ei hun ychydig oriau yn flaenorol yn caled-lafurio yn nwylaw an- wybodaeth, megis, parthed yr angenrheid- rwydd am iddo fyned i'r Groes ? Na, nid ydyw yn debygol o gwbl y buas' ai Crist yn eu galw yn ynfydion, am nad oeddynt wedi gweled a deall yr hyn nas gallasai efe ei weled a'i ddeall hyd y diwedd, pe buasai hynny yn ffaith, fel y dywedir eu bod. Canys ni ddisgwyliai yr Iesui'r disgybl i fod yn berffeithiach na'i athraw. Gan hynny, gwelwn yn amlvrg fod Crist ar ol iddo farw ac adgyfodi o'r bedd, yn cadarnhau y dadganiadau a wnaeth i'w ddisgyblion yn nghwrs ei weinidogaeth, parthed y sicrwydd oedd ganddo y pryd hwnnw fod yn rhaid iddo fyned i'r Groes, a hynny yn ol ewyllys ei Dad. Yr eiddoch yn gywir, Birmingham, WILLIAM RICHARDS. Mawrth 23ain, 1914.

LLITHOEDD AWSTRALIA. I