Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

BYDCREFYDDOL. f I

TAMEIDIAU GWLEIDYDDOL.

BWRDD YR ADOLYGYDD. I

Y WYDDGRUG.

NODION O'R ABERMAW. I

COLWYN BAY.

News
Cite
Share

COLWYN BAY. Bore Sul diweddaf, Mawrth 15 fed, tar- awyd trigolion y dref ag arswyd a dych- ryn, trwy glywed fod Mrs R. T. Jones, Gof, Bryn HoweII, wedi ei chymeryd ymaith yn sydyn oddcutu haner dydd. Oddeutu wyth o'r gloch y"bore, ganwyd iddi fachgen bach anwyl, a thybiai'r rneddyg fed y gwaethaf drosodd. Ond yn iuan canfyddwyd fod ei nerth yn paiiu. ac er pob ymdrech gan feddygon a chyfeiil- ion, methwyd a'i chadw yma yn hwy na haner dydd. Yr oedd ei chalon wedi ei amharu, a IIithrodd yn dawel i arall fyd, gan adael priod a thri o blant anwyl i alaru ar ei hol. Danghoswyd cydym- deimlad dwfn iawn a Mr Jones yn ei drall- od, a phasiwyd pleidlais o gydymdeimiad ag ef yn Horeb nos Sul. Siaradwyd yn dyner gan Mr Jonathan Roberts a'r Parch W. P. Roberts. Cymerodd yr angladd Ie dydd lau, Mawrth 19eg, yng Nghladdfa Bronynant. Yn y ly cyn cychwyn bedyddiwyd y p!en tyn bach gan y Parch Rhys Jones. Gelwir ei Howell Price. Nid yn fuan yr anghofia neb oedd yn bresenol y bedydd hwn, a gymerodd Ie yn yrnyl arch ei fam. Gwas- anaethwyd yn yr angladd yn y ty a'r gladdta gan y Parchn Rhys Jones a W. P. Roberts. Daeth tyrfa fawr i wein- yddu'r gymwynas olaf i'n chwaer, ac nid oedd rudd nad oedd yn wlyb gan ddagrau pan y rhoddid ei chorff i orwedd yn y gweryd oer. 0 gyfeiriad y Garth, LIangolien, y deuai Mrs Jones, a bu Mr a Mrs Jones yn byw am gyfnod yn Manchester cyn dod i Golwyn Bay. Gwraig dawel ac enciliedig ydoedd, ondogymeriad pur a buchedd ddiargy- hoedd. Nodded Duw a fyddo dros ein brawd a'r tri phlentyn, a thros y gweddili o'r teulu yn y Garth. GOH.

I -COLWYN.

FERNDALE.

[No title]