Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

BYDCREFYDDOL. f I

News
Cite
Share

BYDCREFYDDOL. f I Pregoihwyr Cynorthwyol y I Bedyddwyr. Pasiodd Cymanfa Bedyddwyr I Mynwy Ei bod fel Cymanfa yn anog Undeb Bedyddwyr Cymru i ethol Pwyllgor, cynwysedig o brif- athrawon ac athrawon ein colegau I yn Nghymru, ac ereill, i drefnu pynciau dwy Arholiad-un er I mwyn gosod pregethwyr cynorth- i wyol ar Brawf (Probationers), a'r ail er eu cydnabod ya bregethwyr cynorthwyol rheolaidd, ac fod y pynciau hynny i'w cymeradwyo i'r Cymanfaoedd er cael eu mabwys- iadu ganddynt, a thrwy hynny sicrhau unHurriaeth yn nghydnab- yddiaeth pregethwyr cynorthwyol yn Nghymru." Oliver Cromwelil ysn Fatas." I Mae y Parch E. W. Davies, Ton Pentre, mewn erthygl gref o'i eiddo yn Nghylchgrawn Bedyddwyr Iwerddon" yn dadleu dros undeb agosach cydrhwng Bedyddwyr yr Iwerddon a Chymru. Tystia mai Oliver Cromwell yn anuniongyr- chol a ffurnodd eglwysi Bedyddwyr Iwerddon. Y Cy!chgronau Enwado!, &c. I Dyma fel y llefara Golygydd y "Tyst":—"Brwydr fwy nas gwyr y difeddwl yw brwydr y cyhoedd- iadau a'r newyddiaduron enwadol. Trwy gryn bryder a phoen a thraul y cedwir hwy yn fyw-yn lied fyw' hyd yn oed. Nid oes yr un cyhoeddiad na phapur na dim wedi bod yn perthyn i'n henwad ni eto nad oedd yn gorfod ymladd i raddau am ei fywyd ni fu dim un erioed yn rhy lewyrchus, nac un erioed yn cael chwarter yr help a'r gefncgaeth ddylai gael. Y mae gennym ganoedd o weinidogion a phregethwyr, y mae gennym saith neu wyth mil o ddiaconiald, y mae gennym ddegau o mdedd o aelod- au. Pa faint o'r gweinidogion a'r pregethwyr a'r diaconiaid hyn sydd yn derbyn ac yn darllen ac yn cefnogi ac yn cynorthwyo cy- hoeddiadau a phapur newydd yr enwad heddyw. Gallem wneud dadleniadau go anghysurus i'r cyf- eiriad hwn-hynny yw, os oes modd anesmwytho rhai cyfeillion o gwbl. Er anfon cylchlythyrau a llythyrau preifat; er gwneud apel gudd a chyhoeddus, ac er eu gweld yn bersouol a'u gweled drwy eraill, thycia dim i enill cydweithrediad llawer. Ofnwn ar adegau mai'r peth goreu allwn ni fel enwad ei wneud ydyw sefyll draw oddiwrth bopeth gyda diystyrwch amheus a difaterwch ysgornllyd, gan anwy- byddti ein gilydd. Gwelir mai ar ochr feirniadol yr heol yr ydym heddyw. Ond y mae son am uno'r enwadau yn y dyddiau hyn Y gamp gyntaf a mwyaf ni i fel enwad yw uno'r eglwysi Annibynol eu hunain, a'u cael hwy i wneud rhywbeth o werth gyda'u gilydd." ky Bedyddwyr Mynwy a'r SuS2 I Y dydd o'r blaen pasiodd Bed- yddwyr Mynwy y penderfyniad a ganlyn :—En bod yn dymuno dat- gan eu braw oherwydd y cynnydd sydd ar y Sabbath yng Nghymru a Mynwy, a clian gredu fed cael gornwys ar y Sabbath a chysegred- igrwydd y dydd, yn anhebgorol er lles-cornoroi, moesol ac ysbrydol dynion, llawenha yn Ail Ddarllen- iad Mesur Syr Herbert Roberts, yr hwn a drefna i gynwys Sir Fynwy yn y Mesur i gau y Tafarndai yng Nghymru ar y Sul; llawenha hef- yd fod Mr Keir Hardie wedi dwyn i fewn ei welliant i Fesur y Siopau, i gau pob stop eillio ar y Sul. An- oga'r Llywodraeth i ddwyn i fewn fesur i ddiddymu yn hollol Fasnach ar y Sabbath." L:< Y Parch. A. W. Davies, Rhy!. I Bydd yn llawenydd gan iu cyf- eiliionL Mr Davies ddeall ei fod yn prysur wella o'r anechyd blin a'i goddiweddodd yn ddiweddar. Bu oddicartref am ysbaid, ac y mae bellach wedi dychwelyd i Rhyl. Er nad yw ei feddygon, y Docter- iaid Jones, yn caniatau iddo Iwyr ymroddi i'w ddyledswddau cy- hoeddus ar hyn o bryd, yr oedd yn dda genym ei weled yn bresennol yn Nghyfarfod y Cymrodorion nos Wener diweddaf, pan y cafwyd darhth odidog gan y Parch D. Gwynfryn Jones ar "Rai o'rcymer- iadau geir yn Nofelau Daniel Owen." Mr Davies ydyw un o is-lywyddion y Frodorfa, a datgan. wyd llawenydd mawr o'i weled yn em plith, ac wedi gwella mor dda. SBanymynydd. j Y mae y Parch 1 homas Davies, I Rheithior, Llanddeusant, Mon, I wedi ei bennodi gan Esgob Bangor I i fywoliaeth Penymynydd.

TAMEIDIAU GWLEIDYDDOL.

BWRDD YR ADOLYGYDD. I

Y WYDDGRUG.

NODION O'R ABERMAW. I

COLWYN BAY.

I -COLWYN.

FERNDALE.

[No title]